Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nid materion i'r heddlu yw llawer o'r ymholiadau mwyaf cyffredin a gawn.
Helpwch ni i gadw ein sianeli cyfathrebu'n rhydd i'r rhai y mae angen ein help arnynt.
Mae manylion am sut i gysylltu â Heddlu De Cymru i'w gweld yma. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
Gallwch roi gwybod i'ch cyngor lleol am gerbyd sydd wedi'i adael.
Dylech roi gwybod i ni am gerbydau sydd wedi'u gadael yn rhywle sy'n achosi perygl neu rwystr.
Dylid rhoi gwybod am bryderon am greulondeb i anifeiliaid, neu am anifail mewn gofid, i'r RSPCA. Mae manylion llawn ar gael drwy wefan yr RSPCA.
Gyrru gwrthgymdeithasol yw unrhyw weithgaredd sy'n cynnwys cerbyd sy'n achosi braw neu drallod.
Gall hyn gynnwys rasio, cerddoriaeth uchel yn dod o'r cerbyd a nyddu olwyn. Gallwch ei riportio i ni ar-lein.
Efallai y bydd cardota am arian yn peri gofid ac yn codi ofn arnoch chi, yn enwedig os bydd y cardotwr yn daer. Gallwch roi gwybod i ni am hyn ar-lein.
Mae eich cyngor lleol yn gyfrifol am gynnal a chadw a chyflwr y rhan fwyaf o ffyrdd. Mae Asiant Cefnffyrdd De Cymru yn gyfrifol am reoli, cynnal a chadw a gwella'r rhwydwaith ffyrdd strategol yn Ne Cymru, gan gynnwys traffyrdd a chefnffyrdd. Traffig Cymru yw gwasanaeth gwybodaeth traffig Llywodraeth Cymru ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd Cymru.
Dylid cyfeirio problemau rheoli traffig at y cyngor lleol yn y lle cyntaf.
I roi gwybod am ddigwyddiad neu rwystr ar y ffyrdd, cysylltwch â'r heddlu.
Mae difrod troseddol yn drosedd sy'n golygu bod rhywun yn gwneud y canlynol heb esgus cyfreithlon:
Os nad oes bygythiad uniongyrchol, gallwch roi gwybod am achos o ddifrod troseddol i ni ar-lein.
Ffoniwch 999 os bydd yr achos o ddifrod troseddol yn mynd rhagddo.
Mae cyfrifoldeb ar eich cyngor lleol i gadw ardaloedd cyhoeddus, megis parciau, meysydd chwarae a phalmentydd, yn glir rhag baw cŵn.
Gallwch roi gwybod i'ch cyngor lleol am faw cŵn.
Bydd eich cyngor lleol yn trefnu i gasglu chwistrelli a theclynnau yn ymwneud â chyffuriau a adawyd yn gyhoeddus. Dod o hyd i’ch cyngor lleol.
Gallwch roi gwybod am ymddygiad meddw a stwrllyd i ni ar-lein. Dylid rhoi gwybod i'ch cyngor lleol am gwynion ynghylch sŵn.
Mae angen riportio tipio anghyfreithlon, sef dympio gwastraff i’ch cyngor lleol. Dod o hyd i’ch cyngor lleol.
Gallwch riportio unrhyw wybodaeth sydd gennych am dipio anghyfreithlon, dympio gwastraff yn anghyfreithlon, neu unrhyw beth arall yn ddienw wrth Crimestoppers ar 0800 555 111.
Gallwch roi gwybod am ddifrod a achoswyd gan graffiti i ni yma. Os ydych am roi gwybod am graffiti er mwyn iddo gael ei lanhau, cysylltwch â'ch cyngor lleol.
Mae gollwng sbwriel mewn unrhyw fan cyhoeddus yn drosedd.
Os bydd swyddog yr heddlu, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) neu warden y cyngor yn eich dal yn gollwng sbwriel, mae'n bosibl y byddwch yn cael dirwy yn y fan a'r lle.
Riportiwch unrhyw broblemau gyda sbwriel wrth eich cyngor lleol.
Sŵn niwsans yw unrhyw sŵn uchel neu gyson sy’n achosi pryder parhaus i chi neu’n effeithio ar ansawdd eich bywyd.
Eich cyngor lleol ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer riportio sŵn niwsans gan nad yw hwn fel arfer yn fater i’r heddlu.
Yn gyffredinol, eich cyngor lleol sy'n gyfrifol am orfodi materion parcio yn yr ardaloedd canlynol:
Rhowch wybod i'r heddlu am y problemau canlynol:
Dylid rhoi gwybod i'r darparwr tai cymdeithasol perthnasol am faterion yn ymwneud â thai cymdeithasol.
Gellir rhoi gwybod am bryderon am oryrru neu wneud cais am gamau gorfodi terfynau cyflymder drwy wefan GanBwyll, sy'n bartneriaeth a sefydlwyd er mwyn cadw pobl yn fwy diogel ar ffyrdd Cymru drwy leihau nifer y bobl a gaiff eu hanafu ac achub bywydau.
Mae Ymgyrch Snap GoSafe yn eich galluogi i gyflwyno fideo, megis fideo a gymerwyd ar gamera dashfwrdd, o achosion o yrru peryglus.
Os byddwch yn gweld cerbyd heb ei drethu ar ffordd, gallwch roi gwybod amdano drwy'r DVLA.
Gallwch gysylltu â'r heddlu i roi gwybod am gerbyd nad oes ganddo MOT. Fodd bynnag, dim ond os yw'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar ffordd y gallwch roi gwybod i'r heddlu am gerbyd heb MOT.
Bydd angen y manylion canlynol arnoch am y cerbyd:
Os yw'r cerbyd wedi'i adael, ni all yr heddlu ddelio ag ef. Bydd angen i chi roi gwybod i'ch cyngor lleol am gerbydau wedi'u gadael.
Cysylltu â sefydliadau eraill
Mae saith cyngor yn ardal Heddlu De Cymru:
Os nad ydych chi'n siŵr, gallwch ddod o hyd i'ch cyngor lleol ar wefan gov.uk.
Mae dau wasanaeth tân yn gwasanaethu ardal Heddlu De Cymru:
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth A Gorllewin Cymru