Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Anifeiliaid anwes, cŵn, babis ffwr, ffrindiau gorau. Beth bynnag rydych yn eu galw, mae cŵn yn aml yn rhan ganolog o'n cartrefi, a gallant fod yn ychwanegiad da at unrhyw deulu.
Ond waeth beth yw'r brîd, mae gan bob ci y potensial i niweidio ac mae'n gyfrifoldeb ar bob perchennog a bridiwr i gadw ei gi, ei hun ac eraill yn ddiogel.
Mae rhai bridiau hefyd wedi cael eu gwahardd dan gyfraith y DU, felly p'un a ydych yn fridiwr cŵn, yn berchennog ci neu'n ystyried prynu neu ailgartrefu ci, mae hon yn dudalen hanfodol i'w darllen.
Mae menter i hybu perchnogaeth cŵn diogel a chyfrifol wedi cael ei lansio ym Morgannwg Ganol.
Mae prosiect LEAD (Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Leol ar Gŵn), a arweinir gan Heddlu De Cymru ar y cyd â sawl asiantaeth partner gan gynnwys awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, wedi cael ei ddylunio i wella'r ymgysylltiad â pherchnogion cŵn o bob brîd.
Nod y broses ragweithiol yw lleihau'r risg sydd wedi codi mewn cymunedau drwy berchnogaeth cŵn anghyfrifol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, drwy ymgysylltu, addysg ac ymyrraeth gynnar.
Bydd LEAD yn galluogi partneriaid i rannu cudd-wybodaeth ac i roi amrywiaeth o fesurau ar waith megis llythyrau rhybudd, contractau ymddygiad derbyniol ac yn y pen draw, camau gorfodi os bydd hynny'n briodol.
Lansiwyd menter LEAD ar 4 Rhagfyr, a chaiff ei threialu ym mwrdeistrefi sirol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr, gyda'r nod o gyflwyno'r cynllun ledled De Cymru maes o law.
O 1 Chwefror 2024, daeth cŵn Bwli XL yn frîd wedi'i wahardd o dan y Ddeddf Cŵn Peryglus.
Mae hyn yn golygu mae nawr yn anghyfreithlon i:
Mae hefyd yn drosedd yng Nghymru a Lloegr i berchen ar gi Bwli XL oni fydd gennych Dystysgrif Esemptiad ar gyfer eich ci gan DEFRA (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig). Bydd angen i'r rhai sydd ag eithriad o'r fath gadw at reolau llym er mwyn cadw eu ci.
Dylai unrhyw un sy'n credu y gall fod yn berchen ar gi Bwli XL, ond sydd heb gwneud cais am Dystysgrif Esemptiad, cysylltu â ni ar frys.
Mae'r diweddariad hwn yn benodol i'r brîd Bwli XL, ond mae bridiau eraill eisoes wedi'u gwahardd o dan y ddeddfwriaeth hon. Os ydych yn berchennog ci, neu'n ddarpar berchennog, sicrhewch eich bod yn gwbl ymwybodol o'r bridiau sydd wedi'u gwahardd o dan gyfraith y DU ar hyn o bryd.