Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae bygythiad terfysgaeth yn y DU yn un gwirioneddol, ond gydag ychydig o wybodaeth gallwch wella eich diogelwch a helpu i warchod eich hun rhag ymosodiad terfysgol. Isod fe welwch sut i gadw’n ddiogel pan fyddwch yn mynd o amgylch y lle a sut i riportio am unrhyw ymddygiad amheus a allai fod yn gysylltiedig â therfysgaeth.
Noder: Cynhyrchwyd y fideo hwn gan yr Heddlu Gwrthderfysgaeth ac mae yn Saesneg yn unig. Gweler y trawsgrifiad am gyfieithiad Cymraeg.
Diolch i’r drefn, mae ymosodiadau gydag arfau tanio neu arfau eraill yn brin iawn yn y DU, ond mae digwyddiadau trasig o bob rhan o’r byd yn ein hatgoffa o’r angen i fod yn barod bob amser.
Mae’r ffilm hon yn rhoi cyngor ynghylch beth i’w wneud pe bai achos annhebygol o ymosodiad ag arfau tanio yn digwydd, naill ai yn eich gweithle neu yn rhywle arall. Dylech weld hyn fel cyfle i gynllunio sut y byddech chi’n ymateb i fygythiad o’r fath ac aros yn ddiogel.
[Mark Rowley:]
“Mae Stay Safe yn ffilm sy’n seiliedig ar gyngor profedig ac mae eisoes wedi’i gweld gan dros 100,000 o bobl ledled y wlad mewn sesiynau hyfforddi a briffio gyda’r sector preifat.
“Ar hyn o bryd mae’r lefel bygythiad wedi’i gosod ar ‘difrifol’, sy’n golygu bod ymosodiad yn debygol iawn. Yn wir mae wedi bod ar y lefel honno ers dros flwyddyn ac oherwydd hynny rydym wedi dwysau ein hymdrechion trwy, er enghraifft, wneud arestiad y dydd.
“Mae pawb yn ymwybodol o’r heriau terfysgol ledled y byd ac mae rhai ymosodiadau ofnadwy wedi digwydd. Ein barn ni yw y dylid cyflwyno’r cyngor hwn i’r cyhoedd fel, os bydd unrhyw un yn cael ei ddal mewn ymosodiad gwyllt gydag arfau tanio neu arfau eraill, eu bod yn fwy gwybodus nawr, ac yn cael cyngor gwell ar sut i amddiffyn eu hunain. Nid yw’n gallu darparu ar gyfer pob posibilrwydd ac os yw rhywun yn gweithredu ar reddf ac efallai’n penderfynu ymladd oherwydd nad oes ganddynt ddewis, yna wrth gwrs ni fyddem byth yn eu beirniadu am wneud hynny”.
Os clywch ergydion gwn yr opsiwn gorau yw gadael, ond gwnewch hynny dim ond os na fydd hynny’n eich rhoi mewn mwy o berygl.
Yn gyntaf, meddyliwch am eich llwybr.
Gweithredwch yn gyflym ac yn dawel gan adael eich eiddo ar ôl.
Mynnwch fod eraill ddod gyda chi, ond peidiwch â gadael i’w petruster hwy eich arafu chi.
Ar ôl i chi nodi llwybr diogel, rhedwch.
Ystyriwch eich llwybr wrth i chi adael:
Wrth ddod o hyd i fan cuddio, ystyriwch eich allanfeydd a’ch llwybrau dianc. Osgowch ffyrdd nad oes ffordd allan ohonynt a mannau cyfyng.
Bydd gan y man cuddio gorau rwystr ffisegol sylweddol rhyngoch chi a’r ymosodwr.
Ffoniwch yr heddlu.
Deialwch 999 a dywedwch yn glir wrthynt ble rydych chi a’r ymosodwyr, disgrifiadau o’r ymosodwyr, eu dillad a’u harfau, gwybodaeth am unrhyw rai sydd wedi’u hanafu a mynediad i’r adeilad.
Cynhwyswch unrhyw beth arall rydych chi’n meddwl sy’n bwysig.
Pan fydd yr heddlu’n cyrraedd, byddant wedi’u harfogi.
Efallai y byddant wedi’u gwisgo’n wahanol, yn dibynnu ar eu swyddogaeth.
Dim ond unwaith y bydd yn ddiogel gwneud hynny y byddwch chi’n cael eich symud i ddiogelwch.
Mae ymosodiadau gydag arfau tanio ac arfau yn brin iawn; bydd cael cynllun yn eich helpu i aros yn ddiogel a gallai achub eich bywyd.
Lawrlwythwch drawsgrifiad fideo Rhedwch Cuddiwch Dywedwch ar waelod y dudalen hon.
Cymunedau sy’n trechu terfysgaeth. Rydym angen cymorth a chefnogaeth unigolion, busnesau a chymunedau ledled y DU i fod yn wyliadwrus a chadw’r mannau yr ydym yn byw, gweithio a chymdeithasu ynddynt yn ddiogel.
Os byddwch yn gweld neu’n clywed rhywbeth annisgwyl neu amheus, gwrandewch ar eich greddf a gweithredwch (ACT - Action Counters Terrorism) drwy riportio am weithgarwch terfysgol posibl yn gyfrinachol. Gallai unrhyw ddarn o wybodaeth fod yn bwysig, felly mae’n well bod yn saff ac riportio am unrhyw beth yr ydych yn ei weld. Gallwch helpu’r heddlu i atal terfysgaeth ac arbed bywydau.
Rhai enghreifftiau o leoliadau a allai fod yn dargedau posibl ar gyfer terfysgwyr yw mannau poblog, digwyddiadau, trafnidiaeth gyhoeddus a lleoliadau eiconig ar draws y wlad.
Rydych yn gyfarwydd â’ch gweithle a’r ardal o’i gwmpas, felly rydych mewn sefyllfa ddelfrydol i weld os oes rhywbeth o’i le. Yn y cyfnod hwn mae’n hollbwysig aros yn wyliadwrus, gwrando ar eich greddf ac riportio am weithgarwch terfysgol posibl wrth yr heddlu.
Cadwch lygad am unrhyw beth sy’n edrych yn wahanol i’r arfer, megis:
Os ydych wedi bod yn dyst i unrhyw un o’r sefyllfaoedd uchod, gwrandewch ar eich greddf ac riportiwch amdano, yn gyfrinachol, gan ddefnyddio ein hofferyn ar-lein i riportio am weithgarwch terfysgol posibl neu ffoniwch y llinell frys gwrthderfysgaeth ar 0800 789 321. Bydd ein swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn delio â’r mater wedi hynny.
Dewch o hyd i gyngor diogelwch ar gyfer eich busnes neu sefydliad.