Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae hela yn cynnwys cwrso, dal neu ladd unrhyw aderyn neu anifail.
Nid pob math o hela sy’n anghyfreithlon, ond mae yna lawer o ddeddfau a chyfyngiadau cyfreithiol sy'n helpu i ddiogelu bywyd gwyllt. Gall hela anghyfreithlon gynnwys hela y tu allan i dymor agored, defnyddio maglau neu arfau sy'n achosi dioddefaint diangen, neu hela heb drwydded arbennig.
Nid hela yn unig sy’n drosedd anghyfreithlon. Rydych chi’n torri'r gyfraith hefyd os byddwch chi:
Gall fod yn anodd gwybod pryd mae hela yn anghyfreithlon. Mae gan wahanol anifeiliaid ac adar gyfreithiau gwahanol i'w hamddiffyn. Os ydych chi'n bwriadu mynd i hela, mae'n bwysig eich bod chi'n gwybod beth cewch chi a beth na chewch chi ei wneud.
Mae hela adar gwyllt yn cynnwys:
Mae'n anghyfreithlon hela aderyn gwyllt os:
Mae adar hela yn cynnwys ffesantod, petris a grugieir, fel maen nhw wedi’u diffinio gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Ymdrinnir â hela adar hela gan Ddeddf Hela 1831.
Mae gan adar hela eu tymor agored eu hunain.
Mae’n anghyfreithlon:
Mae ceirw yn rhywogaeth warchodedig, yn unol â Deddf Ceirw 1991.
Mae'n anghyfreithlon:
Nid yw ceirw Muntjac yn cael eu diogelu gan dymor agored, a hynny am fod ceirw Muntjac yn bridio drwy'r flwyddyn.
Mae'n anghyfreithlon hel ysgyfarnogod a chwningod os:
Cewch saethu ysgyfarnogod a chwningod ar eich tir eich hun gan amlaf, os oes gennych y drwydded cywir ar gyfer arfau tanio. Gweler 'Hela ag arfau tanio’ ar y dudalen Mathau o hela sy'n anghyfreithlon i gael rhagor o wybodaeth.
Oni bai bod gennych chi esemptiadau arbennig, mae'n anghyfreithlon hela, dal a lladd unrhyw un neu ragor o'r canlynol: