Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nid pob math o hela sydd yn erbyn y gyfraith. Mewn rhai achosion, efallai y bydd gennych chi ganiatâd neu awdurdodiad arbennig i hela. Mae yna enghreifftiau isod lle gallai hela fod yn gyfreithlon.
Fe gewch chi hela'n gyfreithlon â chŵn mewn amgylchiadau arbennig. Yn yr achosion hyn, rhaid ichi fod ar eich tir eich hun neu fod â chaniatâd y tirfeddiannwr.
Mewn rhai achosion, rhaid ichi gael awdurdod gan gwnstabl heddlu hefyd. Os nad ydych chi’n sicr, yna 'Cysylltwch â ni'.
Dyma'r gweithgareddau hela a all fod yn gyfreithlon wrth ddefnyddio cŵn:
Mae’n bwysig nodi bod cyfyngiadau eraill yn dal yn berthnasol gyda’r gweithgareddau uchod. Gweler yr isadrannau eraill ar gyfer hela mathau penodol o fywyd gwyllt. Gallwch hefyd ddarganfod mwy am hela eithriedig yn Neddf Hela 2004.
Gydag ychydig o eithriadau, mae defnyddio cŵn i hela mamaliaid gwyllt, fel llwynogod, llygod mawr a chwningod, yn anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys defnyddio cŵn i hela neu ymlid moch daear, mincod a dyfrgwn.
Gweler ‘Llwynogod/Cadnoaid ‘ ac ‘Ysgyfarnogod a chwningod’ ar Hela anghyfreithlon.
Cewch saethu ysgyfarnogod a chwningod yn gyfreithlon ar eich tir eich hun os oes gennych y drwydded gywir ar gyfer arfau tanio (gweler 'Defnyddio arfau tanio’ ymhellach i lawr y tudalen hwn).
Gall pobl eraill hefyd saethu ysgyfarnogod a chwningod yn gyfreithlon ar eich tir chi, ar yr amod bod ganddyn nhw’r drwydded gywir ar gyfer arfau tanio a chaniatâd ysgrifenedig gennych chi'ch hun. Mae'r bobl hyn yn cynnwys:
Caniateir saethu ysgyfarnogod a chwningod ar eich tir eich hun drwy'r flwyddyn, heblaw am:
Mae hi hefyd yn anghyfreithlon saethu ysgyfarnogod a chwningod ar y mathau canlynol o dir:
Mae tymor caeedig ar gyfer saethu ar y mathau hyn o dir. Mae rhagor o wybodaeth yn Neddf Hela ar y Tir 1880.
Mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, gallwch saethu ceirw, moch daear, llwynogod, a hyd yn oed cŵn. Gall hyn gynnwys:
I gael rhagor o wybodaeth am hela ceirw, gweler yr adran ar 'Ceirw' ar y dudalen Hela anghyfreithlon.
I gael rhagor o wybodaeth am foch daear, gweler Deddf Diogelu Moch Daear 1992.
I gael rhagor o wybodaeth am gŵn, gweler Deddf Anifeiliaid 1971.
Wrth gymryd rhan mewn unrhyw fath o saethu, rhaid bod gennych drwydded ar gyfer unrhyw arf tanio rydych chi'n ei ddefnyddio.
Fel arall, os ydych chi'n cymryd benthyg arf tanio sydd angen trwydded, rhaid i'r arf tanio hwnnw:
Mae'r cyfreithiau hyn yn gymwys hyd yn oed os ydych chi'n saethu at dargedau artiffisial.
Sut i wneud cais am dystysgrif arf tanio, tystysgrif dryll neu dystysgrif ffrwydron.
Mae trapiau a maglau’n cael eu defnyddio’n gyffredin wrth hela. Er mwyn i drap neu fagl fod yn gyfreithlon, rhaid iddo fod:
Rydych chi’n torri'r gyfraith os na fyddwch chi’n cadw at yr uchod. Mae yna gyfyngiadau ar drapio neu faglu rhai anifeiliaid sy'n gofyn am drwydded gan Natural England (yn Lloegr) neu Cyfoeth Naturiol Cymru (yng Nghymru)
Rhagor o wybodaeth:
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
Mae'n bwysig nodi bod deddfau Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn dod o dan lywodraeth leol ac yn gallu bod ychydig yn wahanol. Os ydych yn bwriadu hela yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, dylech wirio canllawiau a chyfyngiadau’r gwledydd hynny.