Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn y DU mae pob aderyn gwyllt, eu nythod, a’u hwyau wedi’u diogelu gan y gyfraith. Mae yn erbyn y gyfraith i ladd, anafu neu gymryd adar gwyllt yn fwriadol, oni bai bod hyn yn cael ei wneud dan drwydded. Gall troseddau arwain at ddedfryd o hyd at chwe mis o garchar.
Er gwaethaf hyn, mae llawer o rywogaethau’n cael eu saethu, eu gwenwyno a’u trapio yn anghyfreithlon, a bydd nythod yn cael eu haflonyddu hefyd. Mae’r rhywogaethau hyn yn aml yn cynnwys adar ysglyfaethus megis:
Gallwch helpu i atal troseddau adar drwy gadw llygad am weithgarwch amheus, safleoedd abwyd gwenwynig, a ‘trapiau polyn’ anghyfreithlon, a ddefnyddir i ddal adar ysglyfaethus cyn i’r trapiwr ddychwelyd i’w lladd.
Os byddwch yn gweld unrhyw un o’r canlynol, gall fod o ganlyniad i drosedd adar:
Gall adar farw o achosion naturiol, yn enwedig ffliw adar yn y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd hyn, mae’n bwysig dros ben nad ydych yn cyffwrdd ag unrhyw adar marw, ond dylech eu riportio.
Darganfod mwy am hela anghyfreithlon
Os ydych yn dod ar draws ar draws aderyn marw neu wrthrych amheus, gallai hwn fod yn lleoliad trosedd bywyd gwyllt. Gall pob darn o wybodaeth fod yn hollbwysig wrth erlyn troseddwr.
Os ydych yn gweld rhywbeth anghyfreithlon neu amheus, gallwch eu riportio ar-lein.
Os yw’r drosedd neu drosedd a amheuir yn cael ei chyflawni ar y pryd, ffoniwch 999 ar unwaith. Peidiwch byth â mynd at y sawl a ddrwgdybir eich hun gan y gallant ymateb yn dreisgar.
Os nad yw trosedd neu’r drosedd a amheuir yn digwydd mwyach, defnyddiwch rif di-argyfwng cenedlaethol yr heddlu 101.
Pan fyddwch wedi’ch cysylltu â’r heddlu, gofynnwch i siarad â swyddog troseddau bywyd gwyllt a gwnewch yn siŵr eich bod yn cael ‘rhif riportio digwyddiad’.
Os ydych am riportio trosedd yn ddienw, gallwch ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.
Gallwch riportio achosion a amheuir o blaladdwyr a gwenwyno i’r Cynllun Ymchwilio i Ddigwyddiadau Bywyd Gwyllt (WIIS) ar 0800 321600.
Gelir defnyddio amrywiaeth o drapiau cawell a sbring, ynghyd â maglau, yn gyfreithlon i reoli rhai mamaliaid ac adar.
Cofiwch, os byddwch yn eu difrodi, efallai y byddwch yn cyflawni trosedd o ddifrod troseddol.