Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth yw camdriniaeth ar sail anrhydedd? |
2. Sut i riportio camdriniaeth ar sail anrhydedd |
3. Sefydliadau cymorth camdriniaeth ar sail anrhydedd |
Rydyn ni’n gwybod y gall fod yn anodd siarad am beth sy'n digwydd, ond gall dweud wrth rywun helpu.
Isod ceir rhestr o sefydliadau sy'n cynnig cyngor a chymorth os ydych chi’n cael eich bygwth neu eich cam-drin.
Gallan nhw helpu hefyd os ydych chi'n poeni bod rhywun arall yn cael eu cam-drin.
Karma Nirvana
Elusen arbenigol i ddioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth ar sail anrhydedd yn y Deyrnas Unedig. Mae ganddyn nhw Linell Gymorth yn y Deyrnas Unedig hefyd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm: 0800 5999 247
Prosiect Halo
Prosiect cenedlaethol sy'n cefnogi dioddefwyr trais ar sail anrhydedd, priodasau dan orfod ac FGM drwy roi cyngor a chymorth i ddioddefwyr.
Elusen Freedom
Yn dod ag ymwybyddiaeth, cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr priodas dan orfod, trais ar sail anrhydedd ac anffurfio organau rhywiol menywod (FGM).
Refuge
Elusen sy'n helpu dioddefwyr i ailadeiladu eu bywydau a goresgyn gwahanol fathau o drais a chamdriniaeth. Mae ganddyn nhw linell gymorth 24 awr hefyd: 0808 2000 247
Llinell gymorth Runaway
Cyngor a chefnogaeth i bobl sy'n ystyried rhedeg i ffwrdd neu os ydyn nhw wedi rhedeg i ffwrdd yn barod.
Missing people
Yn rhoi cymorth, gobaith a chefnogaeth i blant ac oedolion sydd ar goll ac anwyliaid sydd wedi’u gadael ar ôl.
Canolfan Genedlaethol Camdriniaeth Ddomestig
Yn darparu gwasanaeth am ddim sy'n caniatáu i unrhyw un sydd wedi dioddef camdriniaeth ddomestig, neu sydd dan fygythiad o gamdriniaeth domestig, wneud cais am waharddeb llys brys.
Cymorth i Ddioddefwyr
Elusen genedlaethol sy'n ymroi i helpu unrhyw un y mae trosedd wedi effeithio arnyn nhw i ymdopi â'u profiad ac ymadfer ar ei ôl. Os nad oes ganddyn nhw swyddfa yn eich ardal chi, gallan nhw’ch cyfeirio at gymorth lleol.
Maen nhw hefyd yn rhedeg My Support Space, sef lle diogel a chyfrinachol sydd ar gael am ddim ichi ddewis sut hoffech chi gael eich cynorthwyo. Cofrestrwch ar gyfer My Support Space - mae’n hawdd ac yn gyflym.