Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth yw camdriniaeth ar sail anrhydedd? |
2. Sut i riportio camdriniaeth ar sail anrhydedd |
3. Sefydliadau cymorth camdriniaeth ar sail anrhydedd |
A oes rhywun mewn perygl ar hyn o bryd? A oes trosedd yn cael ei chyflawni neu a oes un newydd ddigwydd? Os felly, ffoniwch 999 nawr a gofynnwch am yr heddlu. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu tecstiwch ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.
Rydyn ni’n deall y gallech fod yn ofnus neu'n teimlo'n annheyrngar, ond rydyn ni yma i wrando a'ch cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn.
Os ydych chi'n poeni am rywun arall ac yn meddwl y gallen nhw fod yn cael eu cam-drin, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.
Os hoffech chi riportio ar-lein, gallwch ddefnyddio’n gwasanaeth riportio troseddau ar-lein sy’n ddiogel ac yn gyfrinachol.
Os hoffech chi siarad â rhywun, mae’n rhif ffôn cenedlaethol pan nad oes argyfwng yn cael ei staffio 24/7. Ffoniwch ni ar 101 a riportiwch yr hyn a ddigwyddodd neu gofynnwch am gyngor.
Os hoffech chi siarad â rhywun yn bersonol, gallwn ddarparu amgylchedd diogel a chyffyrddus yn unrhyw un o'n gorsafoedd heddlu.
Gallwch riportio gwybodaeth yn ddienw drwy gysylltu â Crimestoppers naill ai drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0800 555 111.
Os oes arnoch chi angen help neu os ydych yn credu y gallai fod angen help ar rywun rydych chi'n eu hadnabod, gallwch gysylltu â'r elusen genedlaethol Karma Nirvana i gael cyngor a chymorth cyfrinachol. Mae ganddyn nhw linell gymorth hefyd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm: 0800 5999 247.