Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth i'w ddisgwyl fel dioddefwr neu dyst i drosedd |
2. Beth sy'n digwydd ar ôl ichi riportio trosedd? |
3. Cynllun Hawl Dioddefwyr i Adolygiad |
4. Rhoi datganiad tyst neu ddatganiad dioddefwr |
5. Mynd i'r llys |
6. Beth sy'n digwydd ar ôl y treial? |
7. Mudiadau cymorth i ddioddefwyr a thystion |
Ar ôl y treial, bydd yr Uned Gofal Tystion yn dweud canlyniad eich achos wrthoch chi. Os bydd y diffynnydd yn cael ei ddyfarnu:
Bydd y rheswm dros y ddedfryd yn cael ei esbonio i chi. Os bydd y diffynnydd yn apelio yn erbyn ei gollfarn neu ei ddedfryd, byddwch yn cael gwybod am yr apêl a'i chanlyniad.
Os ydych chi’n credu bod dedfryd yn rhy isel, gallwch ofyn iddi gael ei hadolygu gan Swyddfa’r Twrnai Cyffredinol. Mae angen ichi ofyn am adolygiad, mewn ysgrifen, o fewn 28 diwrnod ar ôl i’r llys benderfynu ar y ddedfryd.
I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau, ewch i wefan llywodraeth y Deyrnas Unedig neu GEG.
Bydd rhywun yn gofyn a hoffech chi ymuno â'r Cynllun Cyswllt â Dioddefwyr:
Cewch lythyr gan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol (NPS) yn gofyn a hoffech chi ymuno â'r Cynllun Cyswllt â Dioddefwyr. Os byddwch yn ymuno, fe gewch chi Swyddog Cyswllt Dioddefwyr a fydd yn rhoi gwybod ichi am unrhyw newidiadau yn nedfryd y troseddwr, er enghraifft os caiff ei symud i garchar agored, neu sut a phryd y caiff ei ryddhau.
Fyddwch chi ddim yn cael gwybod ble mae'r troseddwr yn cael ei ddal.
Gall y Cynllun Cyswllt â Dioddefwyr hefyd siarad ar eich rhan yng ngwrandawiad Bwrdd Parôl y troseddwr. Gallant roi eich adborth ar unrhyw 'amodau trwydded', sef y rheolau mae'n rhaid i'r troseddwr eu dilyn os a phryd y caiff ei ryddhau ar barôl, er enghraifft peidio â chysylltu â chi a'ch teulu.
Os penderfynwch chi beidio ag ymuno â'r VCS pan ofynnir i chi amdano ond eich bod yn newid eich meddwl wedyn, neu os nad oes neb wedi gofyn ichi ond eich bod yn meddwl yr hoffech chi ymuno, gallwch anfon neges ebost at y Cynllun Cyswllt â Dioddefwyr.
Fel dioddefwr efallai y gallwch gymryd rhan mewn 'cyfiawnder adferol'.
Mae cyfiawnder adferol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw fath o drosedd ac ar unrhyw gyfnod yn y broses cyfiawnder troseddol, gan gynnwys os yw'r troseddwr yn treulio dedfryd yn y carchar.
Gallwch gwyno os nad ydych chi’n fodlon ar wasanaeth neu os na allwch gael gwasanaeth y mae arnoch ei angen. Gallwch gwyno'n uniongyrchol i'r gwasanaeth (e.e. cwyno i’r heddlu neu GEG).
Os nad ydych chi’n fodlon ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud, gallwch wneud cwyn i Ombwdsmon y Senedd a’r Gwasanaeth Iechyd.
Os ydych chi wedi dioddef trosedd sydd wedi'ch gadael ag anaf, neu ag eiddo sydd wedi'i golli neu wedi’i ddifrodi, gallwch wneud cais am iawndal.
Nesaf: Mudiadau cymorth i ddioddefwyr a thystion