Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Vaughan Williams o Dremorfa, Caerdydd, wedi cael ei garcharu am achos o herwgipio domestig.
Plediodd y dyn 51 oed yn euog i ddefnyddio grym yn anghyfreithlon i fynd â'r dioddefwr i'w fflat ym Mhentre-baen yn erbyn ei hewyllys.
Cafodd Williams ei ddedfrydu i saith mlynedd yn y carchar, ac mae wedi cael ei wneud yn destun Gorchymyn Atal am ddeng mlynedd er mwyn amddiffyn y dioddefwr.
Yn ystod y digwyddiad ym mis Tachwedd y llynedd, gwnaeth Williams orfodi'r dioddefwr i fynd i lawr y stryd ac i mewn i'w fflat. Gwnaeth ei chadw hi yno nes i berthnasau ymyrryd drwy guro ar y drws.
Cafodd yr heddlu eu galw ac arestiwyd Williams.
Cyfaddefodd i achos o herwgipio a chafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd ar 12 Mehefin.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Amanda Pearce, a arweiniodd yr ymchwiliad: "Hoffwn achub ar y cyfle i ganmol y dioddefwr am ei dewrder. Mae'r digwyddiad wedi cael effaith ddifrifol arni yn emosiynol, yn gorfforol ac yn gymdeithasol.
"Rydym yn gobeithio bod y ffaith y bydd Williams yn treulio cyfnod sylweddol yn y carchar a'i fod wedi cael Gorchymyn Atal yn rhoi rhywfaint o dawelwch meddwl iddi.
"Mae unigolyn peryglus bellach oddi ar ein strydoedd."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin domestig siarad yn agored a riportio digwyddiadau o'r math.
Os ydych chi'n cael eich cam-drin yn gorfforol, yn rhywiol, yn seicolegol neu'n ariannol, neu'n cael eich bygwth neu eich stelcio gan bartner presennol neu gynbartner, neu aelod agos o'r teulu, mae'n debygol eich bod yn dioddef cam-drin domestig. Nid chi sydd ar fai am yr hyn sy'n digwydd. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
Gallwch roi gwybod i ni am gam-drin domestig ar-lein, drwy ffonio 101, neu os bydd trosedd yn mynd rhagddi neu os bydd rhywun mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999. Gallwch roi gwybod i Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
I gael rhagor o wybodaeth am arwyddion cam-drin domestig, ewch i Beth yw cam-drin domestig? | Heddlu De Cymru. Dewch o hyd i ddolenni i gymorth lleol yn eich ardal yma Sefydliadau cymorth ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig | Heddlu De Cymru