Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yr wythnos hon, rydym yn talu teyrnged i'r gymuned Lluoedd Arfog a'r gwaith pwysig y maent yn ei wneud i hyrwyddo heddwch, darparu cymorth a diogelu pobl ledled y byd.
Mae'r deyrnged a'r gefnogaeth hon hefyd yn ymestyn i'r rheini o'n gwasanaeth ni ein hunain; y 213 o gyn bersonél y Lluoedd Arfog a'r 24 o Filwyr Wrth Gefn yr ydym yn falch o'u cyflogi heddiw i helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel.
Er mwyn dathlu'r wythnos hon a saliwtio'r arwyr o'n lluoedd, rydym yn rhannu rhai o brofiadau ein cydweithwyr sydd wedi gwasanaethu dros ein gwlad fel Milwyr Wrth Gefn neu fel rhan o Luoedd Arfog ein gwlad.
Ymunodd Lyndon â ni yn 2023 ac mae'n gwasanaethu fel Uwch Gynghorydd Iechyd Galwedigaethol. Rhwng 2006 a 2018, ac wrth gael profiad gyda gwasanaethau brys eraill, gwasanaethodd hefyd fel Cwnstabl Gwirfoddol yng Nghaerdydd.
Yn 2011, comisiynwyd Lyndon i Filwyr Wrth Gefn y Fyddin ac ymunodd â'r gwasanaeth rheolaidd gyda'r Fyddin fel Swyddog Nyrsio gyda Chorfflu Nyrsio Byddin Brenhinol y Frenhines Alexandra yn Affganistan yn 2013.
Tra roedd yno, cafodd ei ddewis i hyfforddi a mentora swyddogion Byddin Affganistan a helpu i ddatblygu cyfleuster meddygol i filwyr wedi'u hanafu.
Yn y clip byr hwn, mae Lyndon yn trafod ei brofiadau, y sgiliau y mae wedi'u meithrin a pham y bu iddo ailymuno â Heddlu De Cymru yn y blynyddoedd yn dilyn ei wasanaeth.
Ymunodd Cath â ni yn 2019 ar ôl gwasanaethu am ddeng mlynedd gyda Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr cyn hynny. Yn ystod ei hamser gyda ni, arbenigodd mewn Cam-drin Domestig a chymerodd rôl yn ein Hadran Safonau Proffesiynol.
Cyn ei gyrfa yng ngwasanaeth yr heddlu, ymunodd Cath â'r Fyddin yn 2000 yn 16 oed, gan ymrestru â Chatrawd y Magnelwyr Brenhinol. Yn ystod ei chyfnod yn y lluoedd, aeth i'r Almaen a Bosnia cyn cael ei hanfon i Irac yn 2003.
Yn y clip isod, mae Cath yn ein tywys drwy'r sgiliau y gwnaeth eu meithrin wrth wasanaethu a sut y gwnaeth ei phrofiad yn Irac ei hysbrydoli i ymuno â gwasanaeth yr heddlu yn 2009.
Yn 2022, llofnododd Heddlu De Cymru Gyfamod y Lluoedd Arfog gan addo cydnabod a deall yr angen i drin aelodau neu gyn-aelodau Lluoedd Arfog ein gwlad â thegwch a pharch.
Fel sefydliad, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r addewid hwn ac i gofio am y rhai a fu farw wrth wasanaethu gyda'r Lluoedd Arfog, gartref neu dramor.