Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 24 oed o Landaf wedi cael dedfryd o garchar am oes am lofruddio ei ffrind gorau.
Ar Noswyl Nadolig 2023, trywanodd Dylan Thomas ei ffrind gorau, William Bush, yn farw mewn tŷ yr oeddent yn ei rannu yn Llandaf, Caerdydd.
Yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Tachwedd 2024, cafodd Thomas ei ganfod yn euog o'i lofruddio.
Cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes yn yr un Llys heddiw (dydd Gwener 24 Ionawr).
Dywedodd swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Joanne Harris:
“Roedd William Bush yn fab, yn frawd, ac yn gariad annwyl iawn ac roedd dyfodol disglair o'i flaen, gan gynnwys symud i mewn gyda'i gariad a dechrau swydd newydd.
“Ar 24 Rhagfyr 2023, wrth iddo edrych ymlaen at dreulio'r Nadolig gyda'i deulu a'i gariad, cafodd ei ladd gan rywun yr oedd yn ei ystyried yn ffrind, a hynny heb iddo wneud dim i haeddu'r trais creulon a ddioddefodd.
“Fel drwy gydol yr ymchwiliad, rydym yn parhau i feddwl am William, ei deulu a'i gariad yn ystod y dedfrydu heddiw.
“Er ein bod yn cydnabod na fydd dedfryd Dylan Thomas o oes yn y carchar gyda lleiafswm o 19 blynedd, yn dod â William yn ôl, rydym yn gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn galluogi'r teulu i alaru ac y bydd yn helpu mewn rhyw ffordd gyda'u torcalon.
“Yn olaf, hoffwn ddiolch i gymuned Llandaf unwaith eto am ei chefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad hwn ac i deulu William a'i gariad am ddarllen eu datganiadau effaith dioddefwyr yn ddewr.”