Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi'i ganfod yn euog o lofruddio ei ffrind gorau.
Ar Noswyl Nadolig 2023, trywanodd Dylan Thomas ei ffrind gorau, William Bush, yn farw mewn tŷ roeddent yn ei rannu yn Llandaf, Caerdydd.
Y noson flaenorol, roedd Thomas wedi bod allan am bryd o fwyd gyda'i deulu ym Meisgyn, Llantrisant.
Pan ddychwelodd i gartref ei fam-gu yn y Rhws, Bro Morgannwg, dechreuodd sgwrs dros Snapchat â William tan oriau mân y bore.
Tra'n tecstio ei ffrind gorau, roedd hefyd yn chwilio'r rhyngrwyd am eiriau fel gwythiennau, rhydwelïau, anatomeg, a hunanladdiad â chymorth.
Ailddechreuodd y sgwrs dros neges destun tua 11am ar Noswyl Nadolig pan oedd Thomas yn cael ei yrru o'r Rhws i Landaf gan ei fam-gu, ar ôl iddo esgus bod angen iddo wneud yn siŵr bod ei gi yn iawn.
Daeth Thomas mewn i'r tŷ a thrywanodd William sawl gwaith. Yna ffoniodd am ambiwlans, a ffoniodd tyst mewn maes parcio gerllaw yr heddlu.
Cafodd Thomas ei arestio yn y fan a'r lle.
Plediodd yn euog i ddynladdiad ond gwadodd lofruddiaeth.
Yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Tachwedd 2024, cafodd Thomas ei ganfod yn euog o'i lofruddiaeth.
Datganiad gan deulu William Bush:
Fel teulu, rydym yn falch o glywed rheithfarn heddiw o lofruddiaeth. Yn gyntaf, hoffem ddiolch i'r Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Mr Bull KC a Mr Wright am eu gwaith a'u cymorth dros yr 11 mis diwethaf, ac rydym yn ddiolchgar bod yr holl waith caled hwn wedi arwain at y rheithfarn gywir heddiw.
Mae fy nheulu wedi cael ei llorio'n llwyr gan lofruddiaeth greulon a disynnwyr ein Will annwyl. Ni ellir cyfleu mewn geiriau yr effaith y mae hyn wedi ei chael ar ein teulu. Fodd bynnag, nid dim ond ni sydd wedi colli mab a brawd, ond mae cariad Will, ei ffrindiau a'i deulu estynedig hefyd wedi colli rhywun roeddent yn ei garu'n fawr iawn.
Roedd Will yn paratoi'n ddiniwed i ddychwelyd i Aberhonddu i dreulio'r Nadolig gyda ni pan ddigwyddodd yr ymosodiad, ac yn lle gweld Will wrth ein drws yn barod am swper ar Noswyl Nadolig, Heddlu Dyfed Powys oedd yno i dorri'r newyddion torcalonnus i ni. Ni allwn ddechrau deall yr ofn a'r dioddef a wynebodd Will ar Noswyl Nadolig y llynedd, a bydd yn rhaid i ni fyw gyda'r boen, y galar, y dicter a'r gofid am weddill ein hoes.
Mae Dylan Thomas yn gelwyddwr drwg ac ystrywgar. Drwy gydol y broses hon, nid ydym wedi gweld unrhyw dystiolaeth o edifeirwch ac nid yw wedi cymryd unrhyw gyfrifoldeb am ei weithredoedd y diwrnod hwnnw. Gobeithio na fydd byth yn cael ei ryddhau yn ôl i'r gymuned. Fel teulu, mae'r broses gyfreithiol gyfan wedi bod yn eithriadol o anodd i ni, ac mae wedi bod yn rhy annioddefol i fy rhieni fod yn bresennol yn unrhyw ran o'r treial. Mae'r broses hefyd wedi canolbwyntio'n sylweddol ar Dylan Thomas a'i gyflwr meddyliol, ac mae wedi bod yn anodd iawn eistedd a gwrando ar hyn gan wybod mai ef yw'r person a gynlluniodd ac a lofruddiodd ein Will annwyl, ac sydd wedi cymryd ei lais a'i ddyfodol disglair oddi wrtho.
Roedd Will yn berson ffyddlon, doniol, gofalgar ac ymddiriedus. Roedd yn goleuo pob ystafell gyda'i wên ddrygionus a'i synnwyr digrifwch. Roedd Will yn olffiwr talentog iawn a threuliodd llawer o'i amser rhydd ar y maes gyda'i frawd Alex. Roedd ganddo grŵp mawr o ffrindiau sydd wedi bod yn gefnogol tu hwnt i'n teulu drwy gydol y cyfnod anodd hwn. Hoffem ddiolch i'r holl unigolion hynny, ynghyd â'n teulu estynedig a'n ffrindiau sydd wedi dangos caredigrwydd ac empathi dros y 11 mis diwethaf.
Rydym yn gwybod bod Will yn edrych ymlaen at ei ddyfodol gyda'i gariad Ella, a'u bod yn bwriadu symud i mewn gyda'i gilydd. Mae hyn oll wedi cael ei gymryd oddi wrth Will, a oedd â'i fywyd cyfan o'i flaen, ond rydym yn awyddus iddo gael ei gofio fel y person gwych yr oedd, heb i'r cof amdano gael ei ddiffinio gan yr ymosodiad barbaraidd hwn.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rebecca Merchant, yr Uwch-swyddog Ymchwilio:
“Roedd William Bush yn fab, yn frawd, ac yn gariad annwyl iawn ac roedd dyfodol disglair o'i flaen, gan gynnwys symud i gartref gyda'i gariad a dechrau swydd newydd.
“Ar 24 Rhagfyr 2023, wrth iddo edrych ymlaen at dreulio'r Nadolig gyda'i deulu a'i gariad, cafodd ei ladd gan rywun yr oedd yn ei ystyried yn ffrind, a hynny heb iddo wneud dim i haeddu'r trais creulon a ddioddefodd.
“Mae ein meddyliau heddiw, fel drwy gydol yr ymchwiliad, gyda William, ei deulu a'i gariad, ac er ein bod yn croesawu'r rheithfarn heddiw, rydym yn cydnabod na ddaw dim â William yn ôl ac na fydd dim byth yn lleihau'r torcalon y mae'r rhai a oedd yn ei garu fwyaf yn ei deimlo.
“Hoffwn dalu teyrnged i broffesiynoldeb swyddogion yr heddlu a chydweithwyr y gwasanaeth brys a wnaeth eu gorau i'w helpu.
“Rwy'n ddiolchgar i gymuned Llandaf am ei chymorth yn ystod yr ymchwiliad yn ogystal â'r tyst arbenigol a roddodd dystiolaeth yn yr achos hwn.
“Ac yn olaf, hoffwn ddiolch i'r tîm o dditectifs a staff yr heddlu sydd wedi gweithio'n ddiflino ar yr ymchwiliad hwn ochr yn ochr â Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Cwnsler Erlyn. Mae ymdrechion pawb dan sylw wedi cyfrannu at ganlyniad heddiw.”