Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o droseddau rhywiol a threisgar.
Gwnaeth Simon Morgan, 40 oed o Gastell-nedd, dreisio'r dioddefwr ym mis Gorffennaf 2021. Yna, roedd yn gwrthod gadael cyfeiriad y dioddefwr am sawl awr nes i'r dioddefwr alw'r heddlu.
Mewn digwyddiad ar wahân, yn dilyn dadl, taflodd Morgan ei ddioddefwr ar y soffa ac ar y llawr. Wrth i'r dioddefwr geisio gadael, gwthiodd Morgan y dioddefwr i'r llawr ac yna stampio ar ben y dioddefwr sawl gwaith.
Plediodd Morgan yn ddieuog i gyhuddiadau o dreisio, ymddygiad rheoli gorfodaethol ac achosi niwed corfforol gwirioneddol, ond cafwyd ef yn euog ar ôl treial ym mis Medi 2024.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 14 blynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sharon Gill-Lewis:
“Cynhaliodd Simon Morgan ymgyrch o drais a dychryn yn erbyn ei ddioddefwr ac ar bob cam gwyddai fod ei ymddygiad yn debygol o gael effaith ddifrifol ar lesiant y dioddefwr.
“Ers gormod o amser, mae'r dioddefwr wedi byw mewn ofn o Simon Morgan. Rydym yn gobeithio y bydd y newyddion y bydd yn y carchar am nifer o flynyddoedd o leiaf yn galluogi'r dioddefwr i gael rhywfaint o gysur wrth geisio gwella o'r profiad dychrynllyd hwn.
“Hoffwn ddiolch i'r Ditectif Gwnstabl Emma Robbins am ei gwaith diflino yn yr ymchwiliad hwn, ac wrth sicrhau cyfiawnder hirddisgwyliedig i'r dioddefwr.”
Am wybodaeth am roi gwybod am droseddau rhywiol, gweler yma: Rhoi gwybod am droseddau rhywiol: Gwybodaeth a chanllaw ategol | Heddlu De Cymru