Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych yn wyliwr Emmerdale, byddwch yn ymwybodol o linell stori Belle King. Os nad ydych yn ymwybodol ohoni, gadewch i ni esbonio.
Mae gwylwyr yn ddiweddar wedi bod yn gwylio Belle yn dioddef cam-drin domestig dan ddwylo ei gŵr ystrywgar a rheolaethol, Tom.
Mae Belle (a gaiff ei chwarae gan Eden Taylor-Draper) wedi bod yn dioddef y cam-drin hwn am fisoedd, a thrwy'r cyfnod hwn gwelwyd Tom (a gaiff ei chwarae gan James Chase) yn:
Mae'r rhain i gyd yn arwyddion a dangosyddion clir o gam-drin domestig ac ymddygiad rheolaethol - ac mae cynhyrchwyr y rhaglen wedi gweithio'n agos gyda'r elusen Refuge ar y llinell stori hon.
Os ydych chi'n dioddef cam-drin domestig, mae'n siwr y byddwch yn uniaethu â hyn ac wedi profi rhai o'r pethau hyn yn union fel Belle. Gallech gredu hyd yn oed mai cariad yw hyn - yn enwedig pan fydd, fel Tom, yn dweud pethau fel:
Er y gall ymddygiad fel hwn gael ei ramanteiddio, nid yw'n normal nac yn iach. Mae'n ystrywgar.
Os byddwch chi'n gweld eich hun yn gwylio ac yn uniaethu â phrofiadau Belle – neu rai ohonynt – byddem yn eich annog i siarad â rhywun.
Gwyddom pa mor anodd y gall fod, yn enwedig gan ei fod yn ymwneud â rhywun rydych yn ei garu, ynghlwm ag ef, neu sy'n codi ofn arnoch hyd yn oed - ond mae help ar gael a chlust i wrando arnoch chi.
Gallwch hefyd siarad â ni drwy ffonio 101, neu roi gwybod i ni drwy ein hadnodd defnyddiol ar-lein. Os ydych chi mewn perygl, ffoniwch 999.
Gallwch ddod o hyd i linellau cymorth a rhagor o wybodaeth am gam-drin domestig a'r cymorth sydd ar gael, yn ogystal â sut i wneud cais am wybodaeth o dan Gyfraith Clare, ar dudalen ein hymgyrch Gweld Fi.