Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dyma Derek a Daniel.
Mae'r tad a'r mab yn rhan amhrisiadwy o #TîmHDC, Derek fel PCSO yng Nghaerdydd a Daniel fel un o Wirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu, hefyd yng Nghaerdydd.
Cawsom sgwrs â nhw ar gyfer #SulYTadau i drafod eu cariad at blismona – ac at ei gilydd.
“Gwnaeth y ddau ohonom ymuno â Heddlu De Cymru gyda'n gilydd tua 18 mis yn ôl,” esboniodd Derek.
“Roeddwn i am fod yn swyddog yr heddlu erioed, ers pan oeddwn i'n fachgen ifanc yn tyfu i fyny yn Grenada, ond roedd yn teimlo fel breuddwyd wag am nad oeddwn i'n gallu darllen nac ysgrifennu.
“Ond drwy hap a damwain, curodd PCSO o'r enw Sian ar fy nrws un diwrnod, a dechreuais ofyn llawer o gwestiynau iddi, a gwnaeth hi fy mherswadio y gallwn wneud hyn. Dywedodd y byddai'n rhoi gwybod i mi pan oeddent yn recriwtio eto, a phythefnos yn ddiweddarach, cadwodd ei haddewid a churodd ar fy nrws eto a dweud wrthyf am wneud cais.
“Buodd yn llawer o gymorth i mi ac ni fyddwn wedi gallu gwneud hyn hebddi. Gwnaeth fy helpu i gael cymorth i ddysgu ac mae wedi bod yn ysbrydoliaeth barhaus i mi, ac i Daniel hefyd.”
“Mae hynny'n wir,” ychwanegodd Daniel, sy'n 16 oed. “Ni fyddwn wedi clywed am Wirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu heb Sian, ac yn union fel y gwnaeth hi annog fy nhad, rhoddodd anogaeth i mi ac rwy'n ddiolchgar iawn am hynny.
“Fel fy nhad, roeddwn yn gwybod erioed fy mod am fod yn rhan o'r heddlu; fy nhad yn sicr oedd fy ysbrydoliaeth. Roedd bob amser yn dweud wrthyf ei fod am ymuno ac ers pan oeddwn i'n ifanc, byddai'n dweud wrthyf y dylwn i ddilyn yr yrfa honno hefyd.
“Felly, dyna rwyf wedi'i wneud. Rwyf wedi gweithio tuag at y nod hwn drwy gydol fy mhlentyndod. Ymuno â Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu oedd y penderfyniad gorau wnes i, rwyf wedi dysgu cymaint ac mae wedi fy ngwneud hyd yn oed yn fwy awyddus i fod yn swyddog yr heddlu a gwasanaethu'r gymuned. Rwy'n astudio troseddeg, cymdeithaseg, y gyfraith a gwleidyddiaeth yng Ngholeg Dewi Sant, a phan fyddaf yn 17 oed, rwy'n bwriadu gwneud cais i fod yn Gwnstabl yr Heddlu. Mae gweld fy nhad yn cyflawni'r hyn y mae wedi'i wneud yn fy ngwneud i'n falch iawn ac mae wir wedi fy ysbrydoli.”
Er bod y ddau wedi'u lleoli yng Nghaerdydd, prin iawn y mae eu llwybrau yn croesi, ond mae'r tad a'r mab yn gobeithio y bydd hyn yn digwydd yn amlach yn ystod eu gyrfaoedd.
“Dim ond unwaith rydym wedi gweithio gyda'n gilydd mewn gwirionedd. Gwnaethom godi sbwriel yn y gymuned gyda'n gilydd,” dywedodd Daniel, sydd hefyd yn gadét yn y Fyddin ac yn saethu dros Gymru, ac mae'n cydbwyso ei amser yn gweithio mewn dwy swydd ran-amser, ac yn chwarae'r drymiau a'r piano hefyd.
“Roedd yn brofiad gwych; Rwyf wrth fy modd yn gweithio ochr yn ochr â fy nhad ac yn sicr byddwn yn hoffi gwneud hyn yn amlach. Rydym yn cyd-dynnu'n dda iawn ac yn gweithio'n dda fel tîm, ac er na fyddai pob rhiant a phlentyn yn mwynhau hyn, rydym ni wrth ein bodd.”
“Yn sicr,” cytunodd Derek. “Roedd yn ddiwrnod gwych. Roedd cael fy mab yn gweithio ochr yn ochr â mi yn brofiad llawn balchder. Ac er nad ydym yn gwneud hyn yn aml, bydd pobl ym mhob gorsaf rwy'n ymweld â hi yn adnabod Daniel a byddant yn dweud wrthyf ei fod yn fachgen gwych a'i fod yn gwneud gwaith ardderchog. Fel tad, nid oes unrhyw beth yn well i'w glywed.
“Rwy'n cymryd fy swydd o ddifrif; rwy'n teimlo cyfrifoldeb go iawn fel PCSO. Rwy'n frwd dros wasanaethu'r gymuned ac rwyf bob amser am wneud fy ngorau glas ar gyfer y cyhoedd. Rwy'n cael cardiau a llythyrau diolch yn aml sy'n werth chweil, oherwydd rwy'n teimlo fy mod i'n gwneud gwahaniaeth. Ond, yn ogystal â hynny, mae gwybod bod angen i mi fod yn fodel rôl ar gyfer fy meibion a rhoi esiampl dda iddynt yn rhywbeth rwy'n ei gymryd o ddifrif hefyd.
Ac mae'n amlwg bod y ddau yn teimlo'r un peth, wrth i Daniel ychwanegu: “Mae pawb sy'n adnabod fy nhad yn ei barchu'n fawr. Y pethau rwy'n eu hedmygu fwyaf amdano yw ei fod yn gyfeillgar iawn ac yn hawdd mynd ato, ac mae bob amser yn gadarnhaol. Fy nhad yw fy model rôl a phan fydd pobl yn dweud fy mod i'n debyg iddo, mae'n deimlad gwych.