Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Gwirfoddolwyr Ieuenctid Heddlu De Cymru yn rhan bwysig o deulu'r heddlu.
Mae Gwirfoddolwyr Ieuenctid Heddlu De Cymru yn rhan bwysig o deulu'r heddlu.
Mae cynllun Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu i bobl ifanc rhwng 14 a 18 oed ac mae'n rhan o grŵp ieuenctid heddlu mewn lifrai a gydnabyddir ledled y DU. Nid yw'n ymwneud â recriwtio swyddogion heddlu, ond yn hytrach mae'n anelu at ddatblygu ymdeimlad o ddinasyddiaeth dda mewn pobl ifanc.
Mae gan y cynllun bum amcan, sef:
Mae'n gyfle gwych a bydd yn edrych yn dda ar eich CV pan fyddwch yn dechrau gwneud ceisiadau am waith neu i golegau a phrifysgolion.
Rydym bellach yn derbyn datganiadau o ddiddordeb i ymuno â chanolfan leol. Gellir gwneud hyn ar-lein yma.
Rydym yn derbyn datganiadau o ddiddordeb gan bobl ifanc rhwng 13 a hanner a 17 oed sy'n byw yn ardal yr heddlu. Caiff eich datganiad o ddiddordeb ei gofrestru ar y rhestr aros ganolog a chynigir lle i chi mewn Canolfan Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu leol cyn gynted ag y byddwch yn gymwys ac y bydd lle ar gael. Noder bod y cynllun yn boblogaidd iawn ac, felly, mewn rhai ardaloedd y bydd yn rhaid i chi aros yn hirach i ymuno.
Ar hyn o bryd, mae gennym Ganolfannau Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu yng Nghaerdydd, Penybont ar Ogwr, y Barri, Penarth, Abertawe, Port Talbot, Castell-nedd, Cwm Cynon a Merthyr Tudful.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am gynllun Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu, anfonwch neges e-bost i [email protected]
Hoffem sicrhau mai ni yw'r gorau am ddeall ac ymateb i anghenion ein cymunedau. Er mwyn gwneud hyn, rydym am i'r ymgeiswyr gorau o ystod eang o gefndiroedd wneud cais i ddod yn rhan o'n teulu plismona.
Os hoffech siarad â rhywun am ymgyrchoedd recriwtio sydd i ddod, cyfleoedd a'r cymorth sydd ar gael i chi, cysylltwch â'n tîm Gweithredu Cadarnhaol yn [email protected].