Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nhw yw'r ymchwilwyr, yr ymladdwyr troseddau, y bobl sy'n datrys problemau; y rhai byddech chi'n mynd atyn nhw mewn argyfwng.
Ond y tu ôl i'r gwisgoedd, y ffonau a'r desgiau, maen nhw hefyd yn famau, yn dadau, yn wŷr, yn wragedd, yn feibion, yn ferched, yn frodyr a chwiorydd, ac yn ofalwyr.
Maen nhw'n anturwyr, yn wirfoddolwyr. Mae ganddyn nhw hobïau, gobeithion, pryderon, dyheadau, arwyr.
Maen nhw'n fwy na dim ond gwisg. Nhw yw #PoblHDC.
Mewn cyfres o bostiadau dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, byddwn yn rhoi cipolwg i chi ar y bobl ar ein rheng flaen a'r bobl y tu ôl i'r llenni sy'n rhan o #TîmHDC.
Rhys ydw i ac rwy'n Intern Seiberddiogelu yn Uned Cuddwybodaeth, Economaidd a Seiber yr heddlu. Ymunais ym mis Medi 2025 a byddaf yma hyd nes y byddaf yn dychwelyd i'r brifysgol yn yr hydref i orffen fy ngradd mewn Cyfrifiadureg. Fy rôl i yn yr Uned Seiber yw cefnogi'r tîm i godi ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch yn ein cymunedau, sy'n cynnwys mynd i ddigwyddiadau a grwpiau ffocws sy'n canolbwyntio ar gefnogi pobl agored i niwed. Yn ystod fy nghyfnod hyd yma, rwyf wedi rhoi cyflwyniadau ar seiberddiogelwch i ystod eang o grwpiau oedran, o fyfyrwyr coleg chweched dosbarth i grwpiau o ddinasyddion oedrannus. Pan gyrhaeddais i ddechrau, roeddwn i ychydig yn nerfus am y rôl oherwydd bod angen siarad yn gyhoeddus. Dydw i erioed wedi bod yn gwbl hyderus am siarad o flaen cynulleidfaoedd ond nawr, sawl mis yn ddiweddarach, ac ar ôl cael rhywfaint o brofiad, gallaf ddweud yn onest fy mod i wir yn ei fwynhau. Mae gwybod bod yr hyn rwy'n ei wneud er budd pobl yn y gymuned hefyd yn rhoi cysur a boddhad i mi. Rwy'n siarad â nhw am ddiogelwch ar-lein a sut y gallant wella'u diogelwch eu hunain a chael mwy o hyder i ddefnyddio'r rhyngrwyd mewn ffordd ddiogel. Rwy'n cael gwir ymdeimlad o foddhad a phwrpas o hyn, a phan fyddaf yn dychwelyd i'r brifysgol ym mis Medi, hoffwn seilio fy nhraethawd hir ar seiberddiogelwch a defnyddio'r hyn a ddysgais yn fy rôl yma. Dydw i ddim yn hollol siŵr beth ydw i am ei wneud wedi hynny, ond beth bynnag fydd hynny, rwy'n gwybod y bydd yn ymwneud â diogelwch ar-lein, boed hynny o ran diogelwch rhwydweithiau neu helpu busnesau a sefydliadau i gadw'r dynion drwg draw. Mae hyn wedi bod o wir ddiddordeb i mi ers amser hir iawn ac mae'n deillio o'm profiadau o chwarae gemau ar-lein. Rwyf wedi bod yn chwaraewr gemau brwd ers sawl blwyddyn erbyn hyn, yn fwy hamddenol na chystadleuol, ac i mi mae'n ffordd wych o ymlacio a chael hwyl gyda'n ffrindiau. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn cydnabod peryglon hynny ac rwy'n angerddol ynghylch codi ymwybyddiaeth o ddulliau rheoli diogelwch ar-lein a sut y gellir eu defnyddio i gefnogi ffyrdd y mae pobl ifanc yn defnyddio llwyfannau chwarae gemau ar-lein yn ddiogel. Rwyf wrth fy modd gyda rygbi hefyd, fel fy rhieni. Dechreuais chwarae i dîm fy mhentref yn Sir Gaerfyrddin pan oeddwn yn chwe mlwydd oed, cyn stopio am rai blynyddoedd. Cafodd fy ysgwydd ei dadleoli yn ystod gêm pan oeddwn i'n 12 oed, a oedd yn drobwynt i mam i ryw raddau. Dywedodd hi wrtha i na allwn chwarae eto hyd nes y gallwn i yrru i'r adran achosion brys fy hun! Er imi stopio chwarae rygbi am ychydig, roeddwn i'n dal i wylio. Rwyf wedi cefnogi'r Scarlets erioed ac rwy'n achub ar unrhyw gyfle i'w gwylio, neu unrhyw rygbi a dweud y gwir. Dechreuais i chwarae eto pan oeddwn yn 16 oed cyn cymryd saib wedyn pan es i i'r brifysgol yng Nghaerdydd. Dyna pryd yr awgrymodd fy nhad y dylwn i fynd ati i chwarae i un o'r timau lleol. Esboniodd y gallai fod yn ddefnyddiol i mi o safbwynt cymdeithasol yn ogystal â bod yn rhywbeth y gallwn i ei wneud i gadw'n heini. Yn ystod y cyfnod hwn, gwelais fy mod i'n caru chwarae eto a gwnaeth hyn fy nghymell i edrych i chwarae dros dîm Byddar Cymru. Mae gen i golled clyw synhwyraidd-niwrol dwyochrog difrifol, sy'n effeithio ar y nerfau yn fy nau glust. Sylwais i ar y golled clyw graddol gyntaf pan oeddwn i tua phum mlwydd oed a dechreuais wisgo cymhorthion clyw yn fuan wedi hynny. Roedd tyfu i fyny yn fyddar yn her i mi ar adegau, ac rwy'n cofio ambell i achlysur pan oeddwn i'n teimlo'n ansicr am orfod gwisgo fy nghymhorthion clyw. Fodd bynnag, rwy'n ffodus bod gen i rieni cefnogol a chariadus, a modelau rôl sydd wedi fy annog a'm hysbrydoli i oresgyn yr ansicrwydd hwnnw. Fy mam yw un o'r modelau rôl hynny, sydd hefyd yn fyddar ac yn gwisgo cymhorthion clyw. Helpodd i normaleiddio'r broses o'u gwisgo a oedd yn gysur mawr i mi a minnau mor ifanc. Mae hi hefyd yn gweithio gyda phlant byddar a phan oeddwn i'n iau roedd hi wastad yn rhywun y gallwn drafod fy heriau gyda hi. Trwy ei gwaith, roeddwn yn ffodus i gyfarfod ag un o'm modelau rôl arall, y cyn chwaraewr rygbi proffesiynol, Mat Gilbert. Mae Mat hefyd yn fyddar a chynrychiolodd y Scarlets, Caerfaddon, Caerwrangon a Thîm Byddar Lloegr yn ystod ei yrfa. Pan oeddwn i'n saith oed, ymddangosais wrth ei ochr mewn rhaglen ar gyfer Sky Sports a daflodd oleuni ar golli clyw ym myd rygbi a sut roedd modd ei oresgyn fel rhwystr. Yr hyn oedd yn destun rhyfeddod ac ysbrydoliaeth i mi oedd bod Mat yn gallu gwisgo'i gymhorthion clyw wrth chwarae'r gamp ar y lefel uchaf. Roedd hefyd yn chwarae i'r Scarlets ar y pryd – a oedd yn goron ar y cyfan! Erbyn heddiw gallaf ganmol sawl un, gan gynnwys fy rhieni a Mat wrth helpu i'm hysbrydoli i gyflawni fy nghap cyntaf dros dîm Byddar Cymru - cap a dderbyniais ym mis Mawrth 2025. Roeddwn i eisoes wedi chwarae gêm dros Gymru yn erbyn tîm Byddar Dyfnaint ac wedi hyfforddi gyda nhw ar ambell achlysur ond i gael cap llawn, mae'n rhaid i chi gael eich dewis i chwarae yn erbyn ochr genedlaethol arall. Roedd cael fy nghap cyntaf yn deimlad swreal ac ychydig yn niwlog a dweud y gwir. Rwy'n cofio edrych ar daflen aelodau'r tîm, gweld fy enw, a mynd i banig gan fy mod i wedi cael fy newis i chwarae yn yr ail res – rhywbeth nad oeddwn i wedi'i wneud ers blynyddoedd. O edrych yn ôl, mae'n bosibl fy mod i'n poeni mwy am hynny nag oeddwn i am gael fy ngalw! Roedd y gêm yn erbyn Tîm Byddar Lloegr, gêm y gwnaethom ei cholli, ond roedd y profiad yn un bythgofiadwy. Roedd fy rhieni ar ben eu digon yn fy ngweld i'n cynrychioli Cymru. Yn y misoedd yn arwain at fy nghap rhyngwladol cyntaf, gofynnwyd i mi gynrychioli tîm Byddar Cymru mewn diwrnod rygbi cymunedol yn Llanelli. Gwnaethom nifer o ymarferion sgiliau cyn gorffen y diwrnod gyda sesiwn holi ac ateb. Roedd rhyw 20 o blant byddar o bob oedran yno ar y diwrnod, ac yn ystod y sesiwn holi ac ateb, atebais rai cwestiynau am wisgo fy nghymhorthion clyw. Dyna pryd y sylweddolais ei bod hi'n bosibl i bobl ifanc fy edmygu ac roeddwn i'n teimlo cyfrifoldeb i roi sicrwydd iddynt (yn yr un ffordd ag yr oedd mam yn rhoi sicrwydd i mi) na ddylai cymhorthion clyw fod yn rhwystr iddynt. Roedd hynny'n dipyn o agoriad llygad i mi ac yn rhywbeth a'm helpodd i ddeall pwysigrwydd cadw persbectif. Wrth ateb y cwestiynau hynny, roeddwn i'n cofio'n ôl i'r adeg oeddwn i'n ifanc, a pha mor rhwystredig fyddwn i'n mynd yn yr ysgol neu gartref oherwydd fy nghyflwr. Rwy'n cofio'n glir imi deimlo rhwystredigaeth yn yr ysgol, yn enwedig pan fyddai'n rhaid i ni wylio rhywbeth ar sgrin, a hynny heb isdeitlau. Bryd hynny, byddwn i'n aml yn dioddef yn dawel ac yn dweud dim, ond wrth i mi dyfu'n hŷn, roeddwn i'n deall pwysigrwydd codi llais. Pan fydd hyn yn digwydd yn y brifysgol, dydw i ddim yn meddwl ddwywaith am godi fy llaw i ofyn am gael isdeitlau ar y sgrin. Dyma'r mathau o brofiadau roeddwn yn meddwl amdanynt wrth annog pobl ifanc i drafod sut maent yn teimlo, boed hynny gyda'u rhieni, athrawon, ffrindiau neu bwy bynnag maent yn ymddiried ynddo. Mae'n egwyddor rwy'n ei dilyn mewn bywyd, ac rwy'n gwybod y gallaf godi llais fan fydd angen imi wneud hynny. Hoffwn barhau i fod yn fodel rôl i bobl ifanc yn y dyfodol, ac i helpu gyda hyn, rwyf wedi bod yn gweithio tuag at gymhwyster swyddogol Iaith Arwyddion Prydain. Ar ôl dysgu iaith arwyddion ar lefel sgwrsio drwy'r ysgol gan fyfyrwyr byddar eraill, rwyf bellach yn gweithio tuag at fy nghymhwyster lefel un i atgyfnerthu fy ngwybodaeth. Mae'r deuddeg mis diwethaf wedi bod fel corwynt. Pe byddech wedi dweud beth amser yn ôl y byddwn yn cael fy mhrofiad proffesiynol cyntaf ym maes seiberddiogelwch, yn dod yn siaradwr cyhoeddus ac yn fodel rôl i bobl ifanc, yn penderfynu ar bwnc fy nhraethawd hir ac yn cael cap i Gymru, fyddwn i ddim wedi eich credu chi! - Rhys Williams, Intern Seiberddiogelu yn Uned Cuddwybodaeth, Economaidd a Seiber. |
Dechreuodd fy nhaith gyda Heddlu De Cymru ychydig cyn i mi ymuno. Roeddwn i wedi gweithio i awdurdod lleol yn flaenorol ac roedd fy rôl yn cynnwys gweithio gyda phobl o'r heddlu pan lansiwyd y rhif mewn argyfwng 101 yn 2006. Rwy'n cofio bod â diddordeb mawr yn rôl swyddog yr ystafell reoli felly yn 2007, penderfynais fynd amdani ac ymuno â'r heddlu. Dechreuais mewn ystafell reoli yn y Tyllgoed yng Nghaerdydd cyn symud i Bencadlys yr heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar ôl i'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus gael ei hadeiladu. Rwyf wedi herio fy hun llawer ers ymuno â'r heddlu ac wedi cael sawl dyrchafiad. Cefais fy nyrchafu i rôl dirprwy arweinydd tîm ac yna i rôl goruchwyliwr. Roeddwn i wedi manteisio ar sawl cyfle cyn hynny i gael profiad. Ond wrth i mi herio fy hun yn broffesiynol, roeddwn i'n wynebu her anoddach byth o ran fy iechyd. Am y rhan fwyaf o'm mywyd, roedd gen i berthynas cymhleth â bwyd ac o wybod yr hyn rwy'n ei wybod heddiw, gallaf ddweud yn hyderus mai ffordd o ymdopi oedd bwyta i mi. “Pe bai rhywbeth da yn digwydd, byddwn yn bwyta i ddathlu a phe bawn i'n ddigalon, byddwn yn bwyta i gysuro fy hun. Roedd y ffordd hon o fyw yn cael effaith fawr ar fy mywyd a thua phedair neu bum mlynedd yn ôl, wrth i mi deimlo bod fy iechyd yn dechrau dirywio, cefais ddiagnosis o ddiabetes math dau. Ar y pwynt hwn, doeddwn i ddim yn gallu cerdded oherwydd fy mhwysau ac roeddwn i'n mynd yn fyr o anadl wrth wneud tasgau syml. Pan es i at y meddyg, dywedodd wrtha i fy mod yn wynebu symptomau perimenopos, fel chwiwiau poeth, ond cefais wybod yn ddiweddarach mai lefel y siwgr yn fy ngwaed oedd y broblem. Erbyn mis Mawrth 2024, roedd fy iechyd wedi dirywio, ac roeddwn i'n dioddef lludded cronig gwael. Felly, trefnais apwyntiad arall gyda meddyg a brofodd lefel y siwgr yn fy ngwaed. I'r rhai hynny nad ydynt yn ymwybodol efallai, tua phump yw lefel arferol o siwgr yn y gwaed, ond roedd fy lefel i yn 30. Cefais fy atgyfeirio at arbenigwr ar ddiabetes a roddodd feddyginiaeth frys i mi er mwyn lleihau lefel y siwgr yn fy ngwaed a phecyn monitro glwcos er mwyn darllen lefel fy ngwaed rhwng tair a phedair gwaith y dydd. Er gwaethaf y driniaeth, doeddwn i ddim yn teimlo'n unrhyw gwell, felly es i'n ôl i weld meddyg arall a ddywedodd wrtha i, ar ôl cynnal mwy o brofion, fy mod i'n wael iawn. Mewn ymateb i'r newyddion, prynais lyfr ar sut i atal diabetes math dau ac adfer ohono ac roeddwn i'n ysu cymaint am wella fy iechyd nes i mi ddarllen y llyfr mewn diwrnod. Roedd y llyfr yn awgrymu cynllun deiet 12 wythnos a oedd yn canolbwyntio ar golli pwysau'n gyflym a gwella lefel y siwgr yn y gwaed, ond cyn i mi ddechrau ar y deiet, roeddwn i am ofyn barn y meddyg yn gyntaf. Gwnaeth yr hyn a ddywedodd wrtha i newid fy mywyd. Roedd fy iechyd wedi dirywio cymaint nes i mi gael fy narbwyllo i beidio â rhoi cynnig ar y deiet, a dywedodd y meddyg wrtha i yn blwmp ac yn blaen y byddwn wedi cael strôc o ganlyniad i'r deiet ac y byddwn, fwy na thebyg, wedi marw o'i sgil-effeithiau. Ar ôl cael fy nychryn gan y newyddion hyn a heb wybod beth arall y gallwn ei wneud, dechreuais roi trefn ar bethau a hyd yn oed trafod trefniadau fy angladd gyda fy chwaer. Gwnaethom hefyd drafod fy nhrefniadau byw a ph'un a fyddai'n well i mi symud i fyw gyda hi neu fy mam, a fyddai'n helpu i ofalu amdanaf. Penderfynais barhau i fyw ar fy mhen fy hun gan fy mod eisiau bod yn fy nghartref fy hun. Rwyf bob amser wedi bod yn annibynnol iawn, ac roeddwn i am gadw pethau felly. Fodd bynnag, er mwyn rhoi sicrwydd i fy mam a fy chwaer fy mod yn gofalu amdanaf fi fy hun, gwnes barhau i anfon fy narlleniadau gwaed atynt. Gan nad oedd yn bosibl i mi ddilyn y deiet 12 wythnos, penderfynais ymuno â chlwb colli pwysau a buan iawn y des yn ffrindiau gyda'r fenyw sy'n ei redeg. Gyda'n gilydd, gwnaethom weithio'n galed iawn i greu cynllun ar gyfer fy nhaith colli pwysau ac ar ôl gweld arbenigwr ar ddiabetes, a ddywedodd yn ddiweddarach nad oedd angen i mi gymryd fy meddyginiaeth frys mwyach, dechreuais golli swm sylweddol o bwysau. Ar ôl deufis gyda'r clwb, roeddwn i'n teimlo fy mod yn gwneud cynnydd da. Er fy mod yn mynychu'r clwb colli pwysau ac yn dechrau gofalu am fy neiet yn well, doeddwn i ddim yn gwneud ymarfer corff rheolaidd. Ond newidiodd hynny pan ddechreuais gerdded. Rwy'n gwybod nad yw hyn yn ymddangos fel llawer i rai efallai, ond ar y pryd, roedd yn newid mawr i mi. Dechreuais gerdded o amgylch y Cnap. I ddechrau, roeddwn i ond yn gallu cerdded hanner ffordd o amgylch y parc cyn i mi orfod mynd yn ôl i'r car. Ond gwellodd fy ffitrwydd dros amser, ac roeddwn i'n gallu cerdded unwaith neu ddwywaith o amgylch y Cnap, cyn gwthio fy hun i gerdded ymhellach, i Ynys y Barri, yn y pen draw. Wrth edrych yn ôl, dyna'r diwrnod y darganfyddais fy rhyddid. Yn fuan wedyn, pan oeddwn ar Ynys y Barri, gwelais ffrindiau a oedd yn mynd am goffi mewn caffi lleol – a dywedais wrthynt yn falch fy mod i wedi cerdded yno. Mae hyn nawr yn rhan o fy nhrefn ddyddiol: cerdded o'r Cnap i Ynys y Barri cyn mynd i'r union gaffi hwnnw. Yna digwyddodd trobwynt sylweddol a wnaeth fy arwain at lle rydw i heddiw. Daeth y trobwynt hwn yn ystod Gŵyl y Banc ym mis Awst 2024. Roeddwn i'n gweithio shifft yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus pan gawsom wybod am ddigwyddiad anodd a thrawmatig a effeithiodd arnaf gymaint nes i mi grio am y tro cyntaf ar shifft. Yn y gorffennol, pan fyddai rhywbeth yn effeithio arnaf, byddwn yn troi at fwyd fel ffordd o ymdopi, ond sylweddolais yn y fan a'r lle fy mod wedi bod yn hunan-niweidio a bod fy nhaith i wella fy iechyd yn un corfforol a meddyliol. Yn y gorffennol, byddwn wedi cysuro fy hun â bwyd, ond ar yr eiliad honno, roeddwn i'n gwybod na allwn wneud hynny. Penderfynais fynd i'r traeth i glirio fy mhen ar ôl gorffen fy shifft ac yn ystod y dyddiau canlynol, roeddwn i'n dal i'w chael hi'n anodd esbonio sut roeddwn i'n teimlo. Cyn cymryd fy nyddiau gorffwys, siaradais â chydweithwyr am y digwyddiad roeddwn i wedi delio ag ef a sylweddolais fod y digwyddiad wedi effeithio arnyn nhw hefyd. Yn ystod fy nyddiau gorffwys, a hyd yn oed ar ôl siarad â fy nghydweithwyr, roeddwn i'n teimlo'n fud yn emosiynol a doeddwn i ddim yn gallu esbonio sut roeddwn i'n teimlo o hyd. Roedd hynny tan i mi ddal i fyny gyda hen ffrind, a helpodd i ryw raddau. Ar ôl dychwelyd i'r gwaith, cefais sesiynau cwnsela a siaradais am bopeth. Esboniais sut roeddwn i'n teimlo, a'r hyn roeddwn i wedi bod drwyddo hyd at y pwynt hwnnw, a agorodd fy llygaid i'r ffordd roeddwn i wedi bod yn trin fy hun mewn gwirionedd. Roedd yn brofiad llethol, ond helpodd fi i ddeall fy hun yn well nag o'r blaen. Yn ystod y misoedd yn dilyn y sesiwn gwnsela honno, gwnes ddyfalbarhau a chollais mwy o bwysau. Roedd fy nghymhelliant yn syml: doeddwn i byth am ddychwelyd i'r man tywyll hwnnw, lle cefais wybod bod fy mywyd mewn perygl. Ar ôl ychydig ac wrth i fy stamina barhau i wella, sylweddolais fod fy nhaith colli pwysau wedi datblygu'n daith ffitrwydd hefyd. Roedd cerdded yn rheolaidd wedi rhoi bywyd newydd i mi, ac wrth feddwl yn ôl i'r cyflwr roeddwn i ynddo ychydig flynyddoedd yn ôl, rwy'n sylweddoli fy mod wedi dod yn bell. Ond dim ond y dechrau oedd cerdded. Yn gynharach eleni, dechreuais redeg, sy'n her cwbl wahanol – ond yn werth chweil iawn. Ar ôl mwynhau cyfrif fy nghamau, dechreuais yn araf, gan roi cynnig ar her Couch to 5k cyn rhoi fy mryd ar redeg ras 10k Ynys y Barri yn y pen draw. Roeddwn i'n gwybod nad oedd yn rhaid i mi redeg yr holl ffordd os nad oeddwn i am wneud hynny, ond roeddwn i'n benderfynol o orffen y ras. Pan ddywedais wrth fy ffrindiau a fy nheulu, daeth pawb at ei gilydd i brynu fest redeg a chwiban i mi ar gyfer y ras. Ar y diwrnod, ymunodd fy ffrind ers 43 mlynedd â fi a gwnaethom chwythu ein chwibanau bob dau i dri chilometr i gefnogi ein gilydd ac i roi gwybod lle roedden ni. Roedd gen i hefyd gylch allweddi yr oedd yr un ffrind wedi ei brynu i mi. Y geiriau arno yw: ‘I can and I will’. Mae'n ddatganiad cadarnhaol a wnaeth fy helpu i ddyfalbarhau drwy'r ras, ac mae'n rhywbeth rwy'n dal i feddwl amdano i gael cryfder. Yn agos at y llinell derfyn, roeddwn i'n teimlo'n anorchfygol ac yn emosiynol iawn. Myfyriais ar y daith roeddwn i wedi bod arni a'r holl bethau roeddwn i wedi eu hwynebu, wrth geisio byw yn yr eiliad honno hefyd. Roeddwn i'n teimlo fel person enwog wrth gyrraedd y llinell derfyn. Gwelais lawer o bobl roeddwn i'n eu hadnabod wrth groesi'r llinell ac roedden nhw yno i fy nghefnogi i. Hyd yn oed heddiw, rwy'n ei chael hi'n anodd mynegi'r teimlad hwnnw mewn geiriau. Mae eu cefnogaeth wedi rhoi'r hyder i mi ymrwymo i redeg rhagor o rasys yn y dyfodol ac i barhau i wella fy hun. Ers ras 10k Ynys y Barri, rwyf wedi parhau i ymarfer ac rwy'n anelu at fod y fersiwn gorau posibl o fi fy hun. Rwy'n parhau i ddefnyddio datganiadau cadarnhaol, fel fy nghylch allweddi, i'm helpu i gynnal fy nghymhelliant, yn enwedig pan fydda i'n teimlo pwysau bywyd. Rwyf hefyd yn gweithio gyda hyfforddwr personol ddwywaith yr wythnos, sydd wedi parhau i wella fy agwedd newydd at fywyd. Heddiw, ar ôl wynebu'r hyn rwyf wedi bod drwyddo, rwy'n teimlo fy mod yn byw ac yn ffynnu, yn hytrach na dim ond goresgyn fel roeddwn i o'r blaen. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwyf wedi trawsnewid fy mywyd yn llwyr ac wedi torri'r nenfwd gwydr roeddwn i wedi ei osod dros fy mhen. Rwy'n falch iawn o'r daith rwyf wedi bod arni ac yn ddiolchgar am y gefnogaeth rwyf wedi ei chael ar hyd y daith. - Katie Burnett, Goruchwyliwr, Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus. |
Dwi wedi bod eisiau gweithio i'r heddlu ers pan oeddwn i'n ifanc iawn. Dwi'n cofio mam yn prynu tegan pecyn Meccano yr heddlu i fi, a gwylio ffilmiau a rhaglenni teledu a chwarae gemau gyda'r heddlu ynddyn nhw wrth dyfu i fyny – gwnaeth hynny roi'r uchelgais i mi fod eisiau gweithio i'r heddlu. Mae fy rhieni yn dod o Bacistan. Yn eu gwlad nhw, dyw barn pobl am yr heddlu yn aml ddim mor bositif â'r farn fan hyn, ac mae'r arddull blismona ym Mhrydain yn wahanol iawn. Felly doedd mam ddim bob amser yn hapus wrth feddwl amdana i'n ymuno â'r heddlu. Ond nawr, mae fy mrawd wedi gwneud cais i fod yn gwnstabl gwirfoddol hefyd, ar ôl gweld cymaint dwi wedi mwynhau fy amser yma. Daeth fy nhad draw o Bacistan am y tro cyntaf yn y 1970au – roedd ganddo swydd intern mewn banc yn Belfast, ac wedyn symudodd i Fanceinion. Daeth i Gasnewydd wedyn, gan weithio yn y sector cyllid, ac ar ôl iddo briodi fy mam, dechreuodd ei fusnes cyfrifeg ei hun. Mae gen i deulu ym Mhacistan o hyd, ond mae gen i deulu hefyd ledled y byd – Awstralia, Canada, Singapore, yr UD. Cefais fy ngeni yng Nghasnewydd ond fe wnaethon ni symud i Bont-y-pŵl pan oeddwn i'n saith neu'n wyth oed cyn i fi symud nôl i Gasnewydd i'r ysgol gyfun. Mae fy ffydd Fwslimaidd yn rhan gref iawn o fy hunaniaeth, ond dwi ddim yn cofio gweld llawer o Fwslimiaid eraill o gwmpas pan oeddwn i'n tyfu i fyny. Dwi hefyd yn cofio, ar ôl ymosodiadau 9/11, fy nheulu yn wynebu profiadau reit negyddol, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Doeddwn i ddim wir yn deall ar y pryd – roeddwn i'n rhy ifanc. Dim ond pan oeddwn i tua 13 oed y gwnes i sylweddoli beth oedd yn cael ei ddweud yn erbyn fy nghrefydd. Ond roedd gwybod hynny yn beth da, yn hytrach na bod yn y tywyllwch. Erbyn hyn, dwi'n credu y byddwn i'n gwybod sut i drechu'r barnau negyddol cryf hynny. Mae'n bosibl y bydd gan rai unigolion stereoteipiau am fy ffydd, a hynny efallai o ganlyniad i rai o'r pethau sy'n cael eu dweud yn y cyfryngau. Ond dwi'n credu ei bod hi'n bwysig cadw meddwl agored a dysgu gan eraill. Cyn ymuno â'r heddlu, roeddwn i am fod yn swyddog yr heddlu neu'n PCSO. Ar hyn o bryd, dwi'n gweithio fel rhan o dîm diogelwch y safle – bob dydd, dwi'n gyfrifol am gadw llygad ar bwy sy'n dod i mewn i'r safle, ac yn helpu i drefnu pwy all gael mynediad i wahanol ardaloedd. Mae safle ein pencadlys yn cael ei ddefnyddio at ddibenion hyfforddiant gan fwyaf, ac mae llawer o bobl yn mynd a dod. Er mai dod yn swyddog yr heddlu neu PCSO oedd fy nod, dwi bob amser wedi trio bod yn amyneddgar. Dim ond am eich bod yn teimlo rhywbeth penodol ar adeg benodol, dyw hynny ddim o reidrwydd yn golygu y byddwch chi'n teimlo hynny weddill eich bywyd. Efallai fod gennych chi syniad yn eich meddwl nawr am beth yr hoffech chi ei wneud, ond mae'n bosibl y cewch chi gynnig cyfleoedd eraill yn y dyfodol. Mae'r posibiliadau wrth gwblhau gradd yn y Cyfryngau Digidol yn ddiddiwedd. Dwi'n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd dwi wedi'u cael. Mae fy adran yn fy nghefnogi 100%, gan gynnwys rhoi'r cyfle i mi weddïo ac ymprydio yn ystod Ramadan. Mae Cymdeithas Heddlu Mwslimaidd De Cymru hefyd wedi bod yn gefnogol iawn. Yn yr un modd, dwi eisiau i fy nghydweithwyr deimlo y gallan nhw ofyn unrhyw gwestiynau i mi am fy nghred – dwi wedi eu haddysgu am Ramadan, er enghraifft, a beth mae'n ei olygu. Un o'r pethau dwi'n hoffi eu gwneud pan fydda i ar gyfnod o wyliau yw gweithio fel actor ychwanegol ar y teledu. Mae gen i ffrindiau sydd wedi bod yn gwneud hynny ers amser, ac felly roeddwn i'n awyddus i roi cynnig arni hefyd. Dwi wedi ymddangos mewn penodau o Casualty yn fwy na dim – mae fy mrawd yn gwneud yr un peth ac mae e hefyd wedi ymddangos yn Doctor Who, Sherlock ac Young Sherlock, ac wedi cwrdd â Joseph Fiennes hefyd. Dwi hefyd wedi cwrdd â'r cyfarwyddwr ffilmiau o Gymru, Gareth Evans, ddwywaith wyneb yn wyneb mewn dau ddigwyddiad holi ac ateb am ffilmiau. Roedd yn bleser mawr cael cwrdd ag e gan fy mod yn hoff iawn o'i waith. Dwi hefyd yn hoffi dysgu ieithoedd. Dwi am ddysgu Arabeg gan ei bod yn bwysig iawn i'm cred – nid dim ond wrth ddarllen y Koran ond hefyd wrth ddeall yr ystyr ar lefel ddyfnach, er mwyn fy helpu i ddygymod â'r byd. Hoffwn i ddysgu siarad Wrdw hefyd oherwydd cefndir fy nheulu. A dwi wedi dechrau dysgu ychydig bach o Gymraeg fel rhan o'r swydd. Ond er mwyn llwyddo, fy mantra yw na ddylech chi byth gyfaddawdu eich cred grefyddol i neb na theimlo bod angen i chi ffitio i mewn. Byddwch yn gadarn yn eich cred a'ch hunaniaeth, ac fe gewch foddhad a chydnabyddiaeth eithriadol o wneud hynny. - Azaz Afzal, tîm diogelwch y safle |
Felly doeddwn i byth wir yn blentyn sâl. Yna, pan oeddwn yn 10 oed, roeddwn i wedi bod i gyflwyniad gymnasteg ac yn teimlo'n anhwylus iawn. Roeddwn i wedi bod ychydig yn gysglyd a chrynedig am rai dyddiau ond y noson honno, roeddwn i i fyny drwy'r nos gyda phoenau gwael iawn yn y frest a doeddwn i ddim yn teimlo'n dda o gwbl. Aeth mam â fi at y meddyg y diwrnod canlynol, cymerodd un olwg arnaf a galwodd am ambiwlans. Aethant â mi i Ysbyty Tywysoges Cymru a rhoi diagnosis o fethiant acíwt yr arennau i mi a dywedon nhw wrth fy rieni pe na fyddent wedi mynd i mewn â mi, fwy na thebyg fydden i wedi marw ymhen saith diwrnod am fod fy arennau wedi cau i lawr yn llwyr erbyn hynny. Fel mae'n digwydd, cefais fy ngeni â dysplasia yr arennau, sy'n golygu bod yr arennau yn rhy fach, ond nid oedd y sganiau mor ymwthiol bryd hynny, felly ni chafodd ei nodi. Er iddyn nhw weithio'n iawn am y 10 mlynedd hynny, daeth pethau i'r pwynt lle na allent gadw i fyny â glanhau'r gwaed. Nid oedd gwasanaethau arennau i blant yng Nghymru ar y pryd, felly cefais fy nghludo'n syth i Ysbyty Southmead ym Mryste, aethpwyd â fi i'r theatr a rhoddwyd cathetr yn fy stumog i gael dialysis CAPD. Roedd hynny ym mis Tachwedd '94 a threuliais y Nadolig cyfan hwnnw yn yr ysbyty a dod adref ym mis Ionawr. Cefais fy ngalwad gyntaf am drawsblaniad aren ym mis Mawrth 1994 – roedd fy nwy aren wedi marw'n llwyr a doedd yr un o'm harennau'n gweithredu erbyn hynny. Euthum i Fryste i gael y profion cyfateb meinwe ac roedd fy ngobeithion wedi'u codi ond yna ystyriwyd bod rhywun arall yn cyfateb yn well. Roedd hynny'n anodd oherwydd roeddwn i yn fy mlwyddyn olaf o'r ysgol gynradd ac mae pontio i'r ysgol uwchradd yn beth mor fawr ta beth ac roeddwn yn colli cymaint o'r ysgol. Ond yna, diwrnod ar ôl pen-blwydd mam yn 40 ym mis Mehefin – rwy'n cofio popeth mor glir – cefais yr alwad eto a chefais fy nhrawsblaniad cyntaf ar 18 Mehefin 1994. Roeddwn i yn yr ysbyty am dri mis yn gwella, ond roeddwn i i fod yn forwyn briodas i'm cyfnither yn ystod y cyfnod hwnnw. Roeddwn i yn y newyddion am nad oeddwn i'n ddigon iach i deithio yn y car, felly trefnodd Ysgol Hedfan Bryste i hofrennydd hedfan fi a nyrs o'r ysbyty i gwrdd â'm tad ym Maes Awyr Caerdydd er mwyn i mi allu bod yn forwyn briodas cyn mynd nôl i barhau â'r driniaeth. Roedd hynny mor arbennig, ac roeddwn i mor falch i gael bod yn rhan o'i diwrnod arbennig. Yna, deuthum allan o'r ysbyty ym mis Awst, mewn amser i ddechrau'r ysgol gyfun ym mis Medi. Roedd yn anodd ac yn llethol, ac roeddwn i wedi magu llwyth o bwysau oherwydd y steroidau ac roeddwn i'n teimlo fy mod i'n destun sylw. Cefais fy mwlio gan rai pobl ond rwy'n ffodus iawn bod y ffrindiau a oedd gen i yn yr ysgol gynradd yn dal i fod yn ffrindiau hyd heddiw, felly rydw i wastad wedi cael eu cefnogaeth nhw ac mae hynny wedi bod yn help aruthrol. Dychwelodd bywyd i ryw fath o normalrwydd erbyn dechrau '95, ond roeddwn i'n cymryd llawer o feddyginiaeth ac roedd ail drawsblaniad yn bosibilrwydd. Yn ystod fy arddegau hwyr, cefais amser ofnadwy o anodd a gwnes i wrthryfela'n llwyr a rhoi'r gorau i gymryd fy meddyginiaeth. Ar y pryd, rwy'n credu imi fod o'r farn fod popeth yn gweithio, roedd fy mhrofion gwaed yn dod yn ôl yn iawn, felly doedd dim angen i mi barhau i'w chymryd. Wrth gwrs, roeddwn i'n anghywir, a daeth hi i'r pwynt lle gwrthododd yr aren weithio'n llwyr. Felly, ar ôl rhyw 13 o flynyddoedd, roeddwn i'n ôl ar ddialysis eto. Doedd gen i ddim hawl mynd nôl ar y rhestr am drawsblaniad arall am nad oeddwn i wedi cydymffurfio, felly bu'n rhaid i mi brofi y gallwn i gydymffurfio a byddwn i'n cymryd popeth o ddifrif pe byddem yn cael trawsblaniad arall. Roeddwn i'n anhwylus dros ben, ac rwy'n cofio nad oedd y rheolwr oedd gen i ar bryd yn gefnogol o gwbl ac awgrymodd y dylwn i roi'r gorau i weithio. Gwnaeth hynny fy ngwylltio i. Rwy'n byw gyda salwch terfynol i bob pwrpas, gan na fydd yr arennau bydd yn trwsio eu hunain, ac ar y pryd y swydd newydd hon oedd yr unig beth da oedd gen i yn fy mywyd. Gwnaeth hyn fi yn fwy penderfynol, ac rwy'n cofio ar un adeg, roeddwn i'n cael dialysis am 6am am bedair awr ac yna'n mynd i weithio shifft 12 awr. Doedd dim byd yn mynd i cael y gorau arnaf. Cefais gefnogaeth yr undeb hefyd ac nid oedd y rheolwr yna'n gallu fy nghosbi am unrhyw beth yn ymwneud â'r arennau ac roeddwn yn gallu parhau i wneud y gwaith roeddwn i'n ei garu. Ni allai fy nhad roi aren i mi am iddo gael canser ac roedd yn ddiabetig ac roedd fy mam yn perthyn i grŵp gwaed gwahanol. Ond yna, gwnaethant ddechrau treialu trawsblaniadau nad oeddent yn cyfateb i ABO, sydd yn ei hanfod yn galluogi trawsblaniadau rhwng pobl gyda grwpiau gwaed gwahanol, os bydd gwrthgyrff yr unigolyn sy'n cael ei drawsblaniad yn cael eu dileu. Felly dyna beth wnes i. Rhyw fis cyn imi gael y trawsblaniad ym mis Medi 2010, bu'n rhaid i mi fynd i ynysu'n llwyr yn yr ysbyty a chael gwared o'm gwrthgyrff yn llwyr, cael dialysis yn gyson, a chyfnewid plasma. Mae'n anhygoel sut roedd y wyddoniaeth wedi newid – dim ond yr ail berson oeddwn i i gael aren trwy drawsblaniad nad oedd yn cydfynd ag ABO. Dim ond am ryw chwe mis roeddwn i wedi bod gyda fy mhartner erbyn i mi gael y trawsblaniad, a symudodd i mewn i ofalu amdanaf i a mam. Roeddwn i'n gwybod bryd hynny ei fod yn un i'w gadw ac rydym wedi bod gyda'n gilydd byth ers hynny. Ar ôl hynny, roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi wynebu pob her y gallai bywyd ei roi i mi, ac y gallwn ddechrau edrych ymlaen at y dyfodol. Ond nid felly y bu hi. Ar ôl i'm partner a minnau fod gyda'n gilydd am ryw ddwy flynedd, gwnaethom benderfynu ein bod ni am ddechrau teulu. Fel y rhan fwyaf o fenywod, cymerais i'n ganiataol y byddai pethau'n digwydd yn hawdd ond nid felly oedd hi. Talais am brawf preifat i weld a oedd gen i endometriosis a oedd yn fy atal rhag beichiogi, ond roedd y gynecolegydd i'w weld yn hyderus nad hynny oedd yn bod a dywedodd wrthyf am ddod nôl pe na fyddem yn feichiog o fewn blwyddyn. Ar ôl blwyddyn o drio, olrhain cylchoedd a phopeth yn mynd mor glinigol, aethom nôl at y meddygon a chael ein hatgyfeirio am IVF. Ar ôl y broses o bigiadau dyddiol, adfer a mewnblannu wyau, a chael diagnosis o syndrom hyperysgogi'r ofarïau, gwnes i feichiogi. Oherwydd y cyflwr, roeddwn i'n eithaf anhwylus ac yn teimlo'n ofnadwy ac roeddwn i'n edrych fel petawn i wedi bod yn feichiog ers wyth mis pan oeddwn yn rhyw wyth wythnos. ond wrth reswm roeddem ni wrth ein boddau ein bod yn disgwyl babi. Ar ôl 21.5 wythnos, dechreuais waedu ac euthum i'r ysbyty. Roedd y sgan Doppler yn dangos bod y babi'n symud ac roeddent o'r farn fod popeth yn iawn. Roedd popeth mor ddryslyd a doedd neb fel pe baent yn gwybod beth oedd yn digwydd a doedd neb yn dweud dim wrthym. Erbyn hynny, roeddwn i yn fy nyblau mewn poen a phan ddaeth y nyrs i wneud archwiliad, dywedodd fy mod i yn y cyfnod esgor. Rhoddwyd pethidine i mi ac roeddwn yn cadw i ofyn beth oedd yn mynd i ddigwydd ond doedd neb yn rhoi ateb i ni. Doedden ni ddim yn gwybod ar y pryd, am fod y babi o dan 24 wythnos, nid oedd ganddynt hawl gyfreithiol i ymyrryd yn feddygol pe bai'r babi'n cael ei eni'n fyw. Heb fod yn hir ar ôl hynny, sefais i fyny i fynd i'r toiled a thorrodd fy nŵr. Ganed Codi James Williams, ac roedd yn anadlu pan gafodd ei eni. Dyna pryd y gwnaethom sylweddoli beth oedd y terfyn 24 wythnos yn ei olygu ac roedd yn erchyll. Rwy'n cofio dweud ‘mae'n fyw’ a phan edrychon nhw, gallech ei weld yn cymryd anadliadau bychain ac rwy'n cofio gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth i'w helpu. Rwy'n gwybod y byddai'r bydwragedd hynny wedi gwneud popeth o fewn eu gallu drosto pe bai ganddynt yr hawl ond allen nhw ddim. Rwy'n ddiolchgar am y cyfnod byr y gwnaethom dreulio gyda'n gilydd fel teulu, hyd yn oed os na allem fynd â'n babi gartref. Roedd y gefnogaeth yno yn wych – mae ganddynt ystafell arbenigol o'r enw Bluebell Suite gyda chot oer, a chawsom amser gyda'n gilydd a bydd hynny wastad yn werthfawr. Yn nes ymlaen, llwyddodd fy mhartner i gael grant trwy Ford lle roedd yn gweithio ar y pryd, er mwyn gallu adnewyddu Bluebell Suite i gyd a gwnaeth hynny ein helpu i wneud hynny er cof am Codi. Wrth reswm, roedd y cyfnod a ddilynodd yn anodd iawn, roeddem yn galaru am y babi y gwnaethom ei golli a'r bywyd na fyddai'n ei gael. Roeddwn i'n ysu i drio am fabi arall, ond roedd fy mhartner am roi mwy o amser i bethau. Yn y diwedd, gwnaethom ddechrau IVF eto, ac roedd yn gylch diddiwedd o gasglu wyau, mewnblaniadau aflwyddiannus a chamesgor. Roedd popeth mor drawmatig ac yn anodd iawn ei dderbyn, yn enwedig wrth i weddill y byd symud ymlaen. Ar ôl achos arall o gamesgor yn 2018, penderfynais yn y diwedd na allwn gymryd mwy ac awgrymais ein bod ni'n ystyried mabwysiadu. Cytunodd fy mhartner os na fyddai'r cylch roeddem arno'n gweithio, y byddem yn mynd lawr y trywydd hwnnw. Yna, wrth i ni fynd trwy'r cylch olaf hwnnw, bu farw fy mam yn sydyn iawn. Daliodd C-Diff, ac yna sepsis, a arweiniodd at yr organau'n methu. Bu farw o fewn wythnos. Gwnaeth hynny fi'n fwy penderfynol o fynd trwy'r broses fabwysiadu, i gael y teulu roedden wedi breuddwydio amdano. Ond unwaith eto, nid yw'n hawdd – o'r holl heriau rydw i wedi'u hwynebu, mabwysiadu oedd yr un anoddaf. Gwnaethom ddechrau ar y broses yn 2019 ac ym mis Hydref 2020, gwelais y llun cyntaf o'r person fyddai'n dod yn fachgen bach i fi. Roeddwn i'n gwybod yn syth bin mai fe oedd yr un, fe oedd ein babi ni. Roedd ganddo'r llygaid mwyaf llesmeiriol. Ar ôl llu o gyfarfodydd a galwadau fideo a phrosesau hirfaith, gwnaethom gyfarfod ag ef yn y cnawd ar 8 Chwefror 2021, a dod ag ef adref ar 15 Chwefror ac yntau'n 13 mis oed. Rhoddwyd y gorchymyn mabwysiadu y mis Mehefin hwnnw. Mae bellach yn bump a hanner ac mae'n gwneud mor dda, mae'n ffynnu. Nid yw pethau wedi bod yn syml, a does gen i ddim amheuaeth y daw mwy o heriau, ond babi mam ydyw sydd wastad yn brysur ac yn ein cadw ar flaenau ein traed. Mae wedi cwblhau ein teulu. Pan ddechreuais drio am deulu'r holl flynyddoedd yn ôl, doeddwn i ddim yn disgwyl bod yn 42 ac yn fam i fachgen pum mlwydd oed, ond dyma lle rydym ni. Mae'n flinedig, ond diolch iddo ef ac o rodd aren gan fy mam, rwy'n teimlo'n iachach nag ydw i wedi'i wneud ers blynyddoedd. Pan gefais fy nhrawsblaniad, dywedon nhw y byddai ganddo oes o ryw 10 mlynedd a bydd wedi bod gen i 15 mlynedd ym mis Medi. Am bob blwyddyn ychwanegol rwy'n ei gael ohono, rwy'n teimlo'n ddiolchgar, ac rwy'n ei weld fel etifeddiaeth i mam nawr hefyd, felly rwyf hyd yn oed yn fwy penderfynol o ofalu amdano oherwydd dyna'r cyfan sydd gen i ar ôl ohoni, ar wahân i'm hatgofion. Rwy'n gwybod ei fod yn gawslyd, ond mae gen i datŵ sy'n dwued yn Lladin, ‘Tra bydd gen i anadl, bydd gen i obaith’. A dyna fy math i o arwyddair. Rwyf wedi neidio'n ôl cymaint o weithiau ac rydw i am gadw mwynhau bywyd. - Katie Aubrey, Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid yn #TîmHDC |
"Cefais fy ngeni yn India a thyfais i fyny yn Kenya, wedyn symudais i'r Deyrnas Unedig yn 1994 pan roeddwn yn 20 oed. "Roedd gan fy mam basbort Prydeinig, felly symudais yma gyda fy mam a fy nhad, ac roedd fy chwaer yn byw yma'n barod. I ddechrau roeddwn yn byw yn Lloegr, ond wedyn mi wnes i gyfarfod a phriodi fy ngŵr a gwnaethom symud i Gaerdydd, ac rwyf wedi bod yma byth ers hynny. "Pan symudais yma, roedd yn her oherwydd fy mod yn Hindŵ ac nid oeddem yn gallu dathlu ein diwylliant yn yr un ffordd â gartref, oherwydd yn amlwg mae'r diwylliant Prydeinig yn wahanol. "Felly, dysgais i fabwysiadu'r ddau ddiwylliant. "Rydym yn dathlu llawer o bethau fel Hindŵiaid, a Diwali – sef gŵyl y golau - yw'r digwyddiad mwyaf adnabyddus yn y wlad hon. Caiff hynny ei ddathlu ym mis Hydref ac yn y gwanwyn rydym yn dathlu Holi, sef gŵyl o liw. Ym mis Medi, rydym hefyd yn dathlu Navrati, gŵyl naw diwrnod. "Ond rydym hefyd yn nodi Shravan Maas, ein Mis Sanctaidd yn ystod Gorffennaf ac Awst. Yn ystod y mis hwn rydym yn addoli Lord Shiva, ac yn ymprydio am y mis. "Yn ystod y mis sanctaidd, rydym ond yn bwyta unwaith y dydd. Nid oes rhaid iddo fod ar amser penodol, ond dim ond unwaith y dydd y gallwch fwyta. Yn ystod y pryd bwyd hynny, byddwn yn eistedd ar y llawr, ac yn gosod ein bwyd yno i dorri'r ympryd. Byddwn wedyn yn bwyta cyn golchi ein dwylo a'n wynebau a sefyll i fyny. Mae sefyll i fyny yn nodi diwedd y pryd, felly os byddwch wedi cael un neu ddau lond ceg ond wedyn yn sefyll, dyna'r oll y gallwch fwyta, am ei fod yn nodi dechrau'r cyfnod ympryd eto. "Dydi torri ympryd ddim yn beth cymunedol, mae'n beth personol. Felly yn ystod y mis sanctaidd, os byddaf yn parhau i fod yn y gwaith, gallaf barhau i ymprydio. Os bydda i'n dewis cael fy mhryd yn ystod amser gwaith, bydda i'n eistedd ac yn sicrhau fod popeth yno, fy mwyd a fy nŵr. A phan fyddaf yn gorffen fy mwyd, byddaf yn golchi fy nwylo, yn yfed dŵr, golchi fy ngheg a dyna ni. Felly nid yw'n angenrheidiol i mi fod gartref gyda'r holl deulu. "Byddwn hefyd yn adrodd pum gweddi bob dydd, nid oes rhaid i ni gael lle penodol i weddïo. Felly, gallaf gau fy llygaid am bum munud wrth fy nesg a gweddïo. Mae'n syml iawn ac yn bersonol i mi ac felly fydda i ddim yn dweud wrth fy nghyd-weithwyr fy mod yn gweddïo. Ond os byddant yn gofyn, wedyn byddaf yn esbonio beth rwy'n ei wneud a beth mae'n ei olygu i mi. "Er fy mod yn gallu anrhydeddu fy nghrefydd yn bersonol, mae hefyd yn hyfryd i'w rannu â'r gymuned ehangach. "Rwyf wrth fy mod yn dathlu yn yr un modd ag y byddwn yn dathlu gartref. Nid yw'n union yr un fath am fod y cyfreithiau'n wahanol yma ac wrth gwrs mae'n cael ei ddathlu'n ehangach gartref, ond mae'n hyfryd i'w ddathlu fel cymuned a chael dod ag ychydig o gartref aton ni. "Ar gyfer Diwali, cawn ŵyl am bum diwrnod, felly byddwn yn dathlu o'r diwrnod cyntaf, yn mynd i'r deml lle byddwn yn perfformio'r puja, ac yn addoli'r dduwies Durga ac yn dathlu ei llwyddiant dros y diafol. Mae gennym Prasada, sy'n fwyd Indiaidd blasus, y byddwn hefyd yn ei gynnig i'r duwiau cyn ei fwynhau gyda'n gilydd. "Byddwn hefyd yn goleuo canhwyllau yn y cartref, o'r diwrnod cyntaf i'r pumed diwrnod, ac mae gennym y dyluniadau llawr Rangoli sydd mor hardd a lliwgar. "Yn ôl gartref, byddai tân gwyllt yn cael eu cynnau bob nos, ond oherwydd y cyfyngiadau yma, byddwn yn rhoi arian tuag at noson tân gymunedol, ac mae pawb yn dod ynghyd ar gyfer un digwyddiad mawr. "Rydym wedi gwneud digwyddiadau ar hyd Afon Taf yn y gorffennol, a'r flwyddyn ddiwethaf gwnaethom gynnal digwyddiad mawr yn hen faes parcio Toys R Us. Roedd yn hyfryd – llawer o dân gwyllt, ffyn gwreichio i'r plant, bwyd, dawnsio ar y llwyfan, a phawb yn yfed chai o'r stondin chai. "Ar y diwrnodau hynny, mae'n braf iawn cael bod yn rhan o'r gymuned Hindŵaidd ac i ddathlu ein diwylliant, ond mae'n fwy na hynny am fod croeso i bawb. Rydym yn croesawu ac yn gwahodd pawb i ddathlu gyda ni, ac mae'n awyrgylch gwych. "Mae'n arbennig gallu rhannu ein diwylliant ag eraill, ac mae llawer o bobl yn mwynhau dod a dysgu amdano hefyd. "Drannoeth ar ôl Diwali, byddwn yn dathlu ein Blwyddyn Newydd, felly byddwn yn gwisgo ein dillad traddodiadol ac yn mynd i'r deml, a bydd tua 50 neu 60 o fathau gwahanol o fwyd i ni ei gynnig i'r Arglwydd ac i ddathlu'r flwyddyn newydd. "Yn amlwg, nid yw yr un fath ag ydyw gartref – yn India mae'n wyliau cyhoeddus a chaiff pawb amser o'r gwaith a'r ysgol i ddathlu – ond mae'n dal yn arbennig iawn yma. Mae fel bod ychydig o India yma gyda ni. "Er mai Hindŵaeth yw fy nghred, rwyf wrth fy modd yn dysgu am ddiwylliannau eraill. Yn fy rôl fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, rwy'n lwcus iawn am ei fod yn ymwneud ag ymgysylltu â'r gymuned leol, ac mae'n golygu fy mod wedi gallu ymweld â'r synagog, yr eglwys, y mosg a'r gwrdwara Siciaeth leol i ddysgu am gredoau, crefyddau a diwylliannau pobl eraill. "Mae'n ymwneud â pharch, nid oes rhaid i ni gyd gredu yn yr un pethau, ond nid yw hynny'n golygu na allwn barchu ein gilydd a chredoau ein gilydd." Premilaben Halai, PCSO gyda #TîmHDC |
Treuliais i 14 mlynedd yn plismona yn Essex. Ymunais fel cadét yn 17 oed a gweithiais am ychydig llai na blwyddyn cyn ymuno â'r heddlu cyffredinol tua wythnos ar ôl fy mhen-blwydd yn 18 oed. Ymunais â'r heddlu fel nofis ifanc iawn, dibrofiad, a threuliais yr 14 o flynyddoedd nesaf yn dysgu cymaint ag y gallwn gan bawb o'm cwmpas. Roedd mor bwysig iawn i mi gymryd y darnau gorau gan eraill a'u haddasu i fy ffordd i o feddwl. Cefais fy nyrchafu i rôl rhingyll yn eithaf buan, yn 22 oed, ac wedyn i arolygydd yn 26 oed. Roeddwn i'n ddigon ffodus o gael mentor gwych a ddangosodd feysydd eraill o blismona i mi fel cudd-wybodaeth, hyfforddiant a phrosiectau ledled yr heddlu. Gwnaeth y cyfleoedd ehangach fy ngalluogi i werthfawr ehangder heriau mewn plismona. Roeddwn wir yn meddwl fy mod am dreulio gweddill fy ngyrfa yno. Ac wedyn mi wnes i gyfarfod fy ngwraig, a gwnaeth hynny i gyd newid. Mae hi o Gaerdydd ond roedd hi'n gweithio yn Essex ar y pryd – a'i bwriad hi erioed oedd symud nôl i Gymru. Felly, yn 2015 gwnaethom symud, a threuliais ddwy flynedd yn teithio rhwng Caerdydd a'r swydd gartref. Roedd hi'n anodd trosglwyddo rhwng heddluoedd ar lefel arolygydd neu lefel prif arolygydd, felly yn y pen draw gadewais yr heddlu yn 2017 ac ymunais â'r sector preifat yn gweithio yn ystâd y carchar yng Nghymru. Wrth edrych yn ôl, dyna oedd y penderfyniad cywir i mi a fy nheulu ar y pryd, a baswn yn bendant yn dweud wrth bobl i herio eu hunain a cheisio dysgu cymaint â phosibl yn eu bywyd. Mae pob diwrnod yn ddiwrnod ysgol a'r unig ffordd y gallwn ddatblygu yw drwy ddysgu am weddill ein bywydau. Roedd symud yn her am i mi dreulio fy mywyd yn Essex, ond roedd yn gwneud synnwyr. Mae Cymru yn lle hyfryd iawn ac roedden ni bob amser yn gwybod mai dyma lle roedden ni eisiau magu teulu, ac roedden ni wedi'i wneud am gyfnod mor hir – dwy flynedd o deithiau chwe awr i fyny ac i lawr yr M25 a cholli fy ngwallt yn y broses! Ond yn broffesiynol, roedd yn fwy o her. Roeddwn wedi mynd o'r sector cyhoeddus i'r sector preifat, felly roedd yn achos o ailgyfeirio fy ymennydd i amgylchedd gwaith cwbl wahanol, prosesau gwahanol, pobl wahanol. Cafodd fy merch ei geni tua chwech neu saith mis ar ôl i mi ddechrau yn fy rôl newydd, felly roedd yn gyfnod prysur iawn, a bu'n rhaid i mi roi amser i mi fy hun i dderbyn hynny ac addasu. Dysgais gymaint ac er bod amgylchedd y carchar yn heriol tu hwnt, ar y cyfan, mae'n cynnwys rhai o'r bobl mwyaf ymroddedig a chydnerth i mi ddod ar eu traws. Weithiau, mae'n rhaid cael ffydd a gobeithio'r gorau. Ailymunais â'r heddlu yn 2021, ac rwyf wedi bod yn ffodus o'r cyfleoedd rwyf wedi'u cael yn broffesiynol. Heb os, mae gen i'r swydd orau yn yr heddlu fel Prif Arolygydd Gweithrediadau Arbenigol ac mae gennym gyfle gwirioneddol i feithrin ein galluoedd arbenigol dros amser wrth symud tuag at y Bencampwriaethau Pêl droed yr Ewro yn 2028. Os bydd rhywun yn gofyn i mi ble mae fy nghartref nawr, rwy'n dal i gyfeirio at Essex fel fy nghartref am fod gen i deulu yno ac rwy'n mynd i'w gweld yn aml, ond Cymru, yn benodol Caerffili, yw fy ngwir gartref bellach. Rwyf wrth fy modd yn ne Cymru, a Chaerffili yn benodol. Mae'n lle naturiol, cartrefol iawn. Heb fod rhy debyg i rywun o Last of the Summer Wine, mae popeth sydd ei angen arnoch yma. Rydym 20 munud o'r traeth, 20 munud o dafarn, 20 munud o'r ddinas, ac mae'n teimlo'n gyfforddus iawn. Beth sydd ddim i'w garu? Mae'n lle hawdd i ymgartrefu ynddo. Mae hefyd yn helpu bod gen i gymaint o angerdd am rygbi, ac yn amlwg Cymru yw cartref rygbi. Gwnaethom brynu citiau Cymru a Lloegr i'n merch, sydd bellach yn chwech oed, ond gwyddom pa un sydd yn y cwpwrdd a pha un mae'n ei ddewis. Mae'n Gymraes i'r carn. Efallai, un diwrnod y gwnawn i symud i'r gorllewin, oherwydd mae gen i hefyd angerdd am anifeiliaid ac rwyf am gael geifr – ychydig yn rhyfedd, dwi'n gwybod – ond os gallaf gyrraedd pwynt yn fy mywyd lle mae gen i ychydig o dir a phedair gafr, cael gwylio Taith y Llewod yn fyw, a hynny i gyd a thywys cydweithwyr yn ddiogel drwy heriau plismona yn y dyfodol, wel, byddaf wedi cyflawni fy nodau mewn bywyd. - Prif Arolygydd Scott Threadgold |
"Roeddwn i'n hwyr yn dod i mewn i'r byd – roeddwn i fod i gyrraedd ar 8 Rhagfyr ond cefais fy ngeni ar 20 Rhagfyr, a dywedodd y meddyg wrth fy mam i wthio yn rhy fuan. Yn fras, cafodd fy ymennydd ei wasgu yn y broses. "O fewn y 24-48 o oriau cyntaf, gwnaethant sylweddoli bod rhywbeth o'i le, a gwnaethant ddweud wrth fy rhieni na fyddwn yn goroesi am fy mod wedi cael gwaedlif difrifol ar yr ymennydd, neu pe bawn yn goroesi, y byddwn mewn hosbis ac yn byw am ychydig flynyddoedd yn unig. "Ond dyma fi, yn llawn bywyd, er bod rhan o fy ymennydd ar goll a'r unig beth sy'n fy nghadw yn fyw yw rhywbeth sy'n cael ei ddisgrifio fel 'gorchudd' uwchlaw madruddyn fy nghefn. Heb hwnnw, ni fyddwn yma heddiw. "Yn amlwg dydw i ddim yn cofio'r dyddiau cynnar hynny, ond rwy'n gwybod ei fod yn gyfnod anodd i fy rhieni. Mae pawb yn ymdopi â phethau yn wahanol, roedd fy nhad yn disgwyl y gwaethaf ond roedd fy mam yn ceisio bod yn fwy gobeithiol. "Cefais fy nghymryd oddi wrthi a chefais ofal arbenigol. Dydw i ddim yn gwybod yr union fanylion, ond gwnes i oroesi. "Cefais fy ngeni yn Solihull ac ar y diwrnod y gadewais yr ysbyty, teithiais i Gaerwrangon, lle'r oedd fy rhieni wedi prynu tŷ newydd, ac rwyf bob amser yn eu cofio yn dweud ei bod hi'n bwrw eira yn drwm y noson i ni deithio yno, felly mae'n rhaid nad oeddwn yn yr ysbyty yn hir. "Cefais fy ngweld yn rheolaidd gan feddygon plant amrywiol a chefais archwiliadau amrywiol, ond rwy'n credu fy mod tua phedwar oed pan ges i fy rhyddhau yn swyddogol o ofal yr ysbyty. Roedd fy mam yn arfer dweud wrthyf fy mod yn synnu'r meddygon ymgynghorol drwy'r amser. "Pan oeddwn yn iau, doeddwn i ddim yn ymwybodol fy mod i'n wahanol – roeddwn i'n credu fod pawb yn cael yr un apwyntiadau â fi – ond sylwais yn fwy ar y gwahaniaethau pan es i i'r ysgol uwchradd. Dywedodd fy rhieni wrthyf na allwn i wneud chwaraeon cyswllt. Yn amlwg roedden nhw'n amddiffynnol iawn ac yn poeni am y risgiau, felly roeddwn i'n fwy ymwybodol wedi hynny. "Ond mi wnes i ddod i arfer â hynny ac addasu. Roeddwn i'n dal i chwarae pêl-droed, ond yn amlwg nid oeddwn yn gallu penio'r bêl, a ni allaf fyw heb fy sbectol o ganlyniad i'r gwaedlif ar yr ymennydd, ond fel arall roeddwn i'n cario mlaen. "Wedyn yn 1998 pan oeddwn i'n tua 12 oed, cefais niwmonia dwbl a arweiniodd at gyflwr prin o'r enw Syndrom Stevens-Johnson, adwaith difrifol ar y croen rydym yn gwybod nawr sy'n cael ei achosi gan feddyginiaeth benodol. Arweiniodd at bothelli ar fy oesoffagws, fy ngwddw, fy nhrwyn a fy nghroen, felly allwn i ddim llyncu, bwyta nac yfed unrhyw beth. Cefais fy anfon i'r ysbyty ac roedd yn ofnadwy, ond doedden nhw ddim yn gwybod beth oedd wedi ei achosi. "Wedyn, yn 2009 cefais yr adwaith eto, ond roedd yn waeth y tro hwn, a bron i mi golli fy ngolwg. Am y bythefnos yn yr ysbyty, y cwbl y gallwn ei weld oedd niwl gwyn ac roedd hynny'n frawychus iawn. Y tro hwnnw, gwnaethon nhw sylweddoli fy mod wedi cael adwaith alergaidd difrifol i benisilin. "Wedyn cefais MRSA, felly roedd yn gyfnod anodd iawn. "Cefais fy rhoi ar feddyginiaeth gwrthgonfylsiwn yn 2000, am fy mod wedi cael un pwl epileptig annisgwyl yn fy nghwsg. Ond ar ôl i mi fynd i'r ysbyty yn 2009, gwnaethon nhw benderfynu rhoi'r gorau i'r feddyginiaeth. Rhoi'r gorau iddi yn syth fel hynny. "Felly, ers hynny hyd at 2016, roeddwn yn cael ffitiau bob tua chwe wythnos, ac roeddwn yn treialu llawer o feddyginiaethau gwrthgonfylsiwn gwahanol, ond oedden nhw ddim yn gweithio. "Roedd y ffitiau hyn yn wahanol i'r un a gefais yn 2000. Byddwn yn gallu bod yn eistedd wrth fy nesg neu'n cerdded, yna byddwn yn teimlo'n dyn, dan straen, yn gor-feddwl emosiynau, ac wedyn yn sydyn byddwn wedi mynd. Mae'n ofnadwy, gallwch chi deimlo ei fod ar fin digwydd ond yn methu gwneud dim i'w atal. "I fi, mae epilepsi yn dechrau â meigryn a byddaf yn gweld goleuadau llachar o fy mlaen a synau drôn yn fy mhen. Ac os nad yw hynny'n diflannu mae'n arwain at ffit. "Rwy'n cymryd llawer o dabledi gwahanol bob dydd, ond o leiaf mae'n cael ei gadw dan reolaeth. Yr unig anfantais yw bod rhywbeth o hyd yng nghefn fy meddwl y gallai rhywbeth ddigwydd i mi unrhyw bryd. "Gallech chi ddweud fy mod i a fy nheulu wedi cael ein siâr o heriau meddygol. Cafodd fy merch gyntaf ei geni 10 wythnos yn gynnar, a phan gafodd fy ail ferch ei geni, roedd amheuaeth bod gan fy ngwraig glot ar yr ymennydd a chafodd seiatica gwael, felly cymerais amser i ffwrdd o'r gwaith i ofalu amdanynt. "Ond er hyn, rwy'n dal i deimlo'n lwcus. Rwyf fel cath â naw bywyd. Rwyf wedi dysgu i ymdopi â heriau dros y blynyddoedd. "Rwyf wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau'r meddygon ac er bod rhan o fy ymennydd ar goll, mae gen i ddawn am gofio pethau penodol fel union ddyddiadau, ac mae gen i feddwl cerddorol iawn a gallaf chwarae'r piano. Mae gen i feddwl technolegol hefyd. Rwy'n cofio fy nhad yn dangos i mi sut i raglennu Commodore 64 o hen lyfrau rhaglennu pan oeddwn i'n ifanc iawn, tua phump oed, felly er fy mod i'n gweithio yn yr adran gyllid, rwyf hefyd yn rhoi cymorth technegol i'r tîm yn aml. "Pan oeddwn i'n byw yng Nghaerwrangon, roeddwn i'n arfer gwirfoddoli mewn elusennau yn helpu pobl ag anableddau gyda thechnoleg a phethau fel prosesu geiriau, ysgrifennu CV ac ati. Byddwn i wrth fy modd yn cael gwneud hynny eto. “Pan fyddant yn dweud wrthych na fyddwch yn goroesi ond rydych wedi cyflawni cymaint o bethau 'na ddylech' fod wedi eu cyflawni, mae'n anodd peidio ag edrych ar bethau mewn ffordd gadarnhaol. "Mae gen i deulu hyfryd, swydd rwy'n ei mwynhau a thîm cefnogol iawn, a chefais ddyrchafiad yn ddiweddar hefyd. Felly, er na fyddwn yn dweud fy mod yn poeni am fy iechyd – wrth gwrs mae hynny bob amser yng nghefn fy meddwl – ond dydw i ddim yn gadael iddo fy nal yn ôl na fy atal rhag byw bywyd." Tom Horton, Cyllid Corfforaethol yn #TîmHDC |
Dechreuais ymarfer Taekwondo pan oeddwn yn bump oed. Roeddwn i'n arfer gwneud gymnasteg yng Nghanolfan Hamdden y Tyllgoed, ond yn hytrach na chanolbwyntio ar y gamp honno, roeddwn i'n gwylio'r bobl yn yr ystafell uwch fy mhen yn gwneud Taekwondo. Un diwrnod, aeth yr hyfforddwr at fy mam a dywedodd ‘dydy hi ddim yn gallu cydsymud o gwbl, does ganddi hi ddim cydbwysedd, dewch â hi i fyny atom ni a gwnaf i ei helpu i weithio ar hynny’. Doedd gymnasteg fyth yn gamp i mi ac roedd hynny'n amlwg. Felly, ymunais â'r dosbarth Taekwondo gyda fy mrawd ac roeddwn i'n ei fwynhau. Roeddwn i'n hyfforddi ddwywaith neu deirgwaith yr wythnos ac roedd fy rhieni yn fy nghludo i gystadlaethau ledled y Deyrnas Unedig. Roeddwn i'n eithaf da am wneud y gamp ac roedd yn naturiol i mi. Gwnaeth yr hyfforddiant fy helpu i wella fy hyblygrwydd a'r cydbwysedd a'r cydsymud. Enillais fy melt du yn 11 oed, ac roeddwn i naill ai'r person ieuengaf, neu un o'r ieuengaf, i gyflawni hynny'r adeg honno. Gwnes barhau i gael hyfforddiant nes oeddwn i tua 14 oed, ond yna rhoddais y gorau iddi am ei fod yn ormod o bwysau arnaf gyda'r arholiadau a phethau tebyg. Es i yn ôl i gael hyfforddiant pan oeddwn yn fy ugeiniau cynnar a mentro i ddechrau fy ysgol fy hun yn Ysbyty Athrofaol Cymru gyda Darren Johns, a oedd yn un o swyddogion yr heddlu ar y pryd. Roedd gennym ni 50 o fyfyrwyr a gwnaethom redeg yr ysgol am ychydig flynyddoedd. Gwnaethom agor y clwb yn 2004, ac ymunais â'r heddlu yr un flwyddyn, felly doedd yr amseru ddim yn berffaith. Erbyn 2006, doeddwn i ddim yn gallu hyfforddi mwyach oherwydd y shifftiau nos a phethau tebyg. Roeddwn i'n brin o amser. Felly, gwnaeth Darren barhau i gynnal y clwb a rhoddais y gorau iddi yn gyfan gwbl. Ond dydy hynny ddim i ddweud na wnaeth fy helpu yn fy swydd. Rwyf wedi ei ddefnyddio sawl gwaith – ar un achlysur, ymosodwyd arnaf yn eithaf difrifol pan oeddwn ar ddyletswydd ac rwy'n credu y byddwn i wedi cael fy lladd oni bai am fy sgiliau Taekwondo. Roeddwn i'n teimlo bod angen i mi frwydro am fy mywyd a diolch byth, cafodd ei garcharu am ymosod arnaf. Ond rwyf wedi meddwl lawer gwaith y gallai'r diweddglo fod yn wahanol iawn pe byddai hynny wedi digwydd i swyddog benywaidd a oedd ar ei phen ei hun. Yna, ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, gwelais fy hen hyfforddwr a dywedodd ‘byddwn i wrth fy modd yn dy gael yn ôl yn hyfforddi’. Meddyliais i mi fy hun, rwy'n eithaf egnïol o hyd ac rwy'n mynd i'r gampfa, efallai y dylwn i roi cynnig arni eto. Felly, es yn fy ôl ac roeddwn i wrth fy modd – roeddwn i'n fwy angerddol am y gamp y tro hwn yn oedolyn, er fy mod i wrth fy modd â hi pan roeddwn i'n blentyn hefyd. Does gen i ddim syniad beth ddigwyddodd, ond mae bellach yn ffordd o fyw ac rwy'n ymarfer drwy'r amser nawr. Es i nôl gyda fy melt du ac roeddwn i'n cofio popeth, diolch byth. Dechreuais gael hyfforddiant unwaith eto ym mis Ionawr 2022 a phedwar mis yn ddiweddarach, ym mis Ebrill, enillais deitl Pencampwr Profiadol Cymru. Mae categori'r Bobl Hŷn ar gyfer unigolyn rhwng 35 a 44 oed; Rwy'n 44 oed bellach, felly roeddwn i'n cystadlu fel un o aelodau hynaf y grŵp. Felly, y flwyddyn nesaf byddaf yn cystadlu yn y categori ar gyfer pobl rhwng 45 a 100 oed, sef categori ar gyfer Pobl Hŷn. Mae hynny'n gwneud i mi swnio'n hen iawn! Roedd fy hyfforddiant yn llwyddiannus iawn, ac roeddwn i wrth fy modd. Yna ym mis Awst, gwnes ddod o hyd i lwmp bach iawn maint pysen ar fy mrest. Roedd yn debyg i bysen oedd yn symud. Meddyliais ei fod yn well i mi gael rhywun i edrych arno er fy mod i'n eithaf siŵr nad oedd yn fater difrifol. Es i i weld y meddyg a dywedodd ‘dw i ddim yn credu bod angen poeni, ond rwy'n atgyfeirio pawb rhag ofn’. Felly cefais fy atgyfeirio i Landochau a chael apwyntiad mewn pythefnos. Unwaith eto, doedd y meddyg ddim i'w weld yn poeni llawer. Dywedodd ei fod yn debygol mai polyp oedd y lwmp, ond y byddai'n cymryd biopsi i fod yn siŵr. Bythefnos yn ddiweddarach, es yn ôl i gael y canlyniadau a hyd yn oed ar y pwynt hwn, doeddwn i ddim yn poeni rhyw lawer. Roedd y meddyg ymgynghorol yn sicr mai polyp oedd y lwmp ac yn amlwg roedd hynny'n rhoi sicrwydd i mi, felly roeddwn i'n meddwl y byddai popeth yn iawn. Ond wrth i mi eistedd i lawr, daeth nyrs gofal y frest i mewn i'r ystafell gyda'r meddyg ymgynghorol, a dim ond wedi hynny y dechreuais feddwl bod hynny'n eithaf rhyfedd. Dywedodd y meddyg ymgynghorol yn blwmp ac yn blaen: mae gennyt ti ganser y fron. Dywedodd nad oedd yn gallu credu'r peth, a doeddwn i'n methu credu'r peth chwaith. Cefais fy llorio gan y newyddion, ac yr unig beth roeddwn i'n gallu meddwl amdano oedd fy mhlentyn bach. Roeddwn i'n meddwl, rwy'n mynd i farw a bydd fy merch, a oedd yn dair oed ar y pryd, yn cael ei gadael heb fam. Roedd yn ganser y fron oestrogen-positif, sy'n golygu ei fod yn cael ei gludo o amgylch y corff gyda'r oestrogen. Felly pe na fyddwn i wedi mynd i weld y meddyg mae'n debygol y byddai wedi ymledu. Bythefnos yn ddiweddarach, es i i'r ysbyty i godi'r lwmp. Gwnaethant gynnal profion ar fy nodau lymff ac roedd y canser wedi ymledu i'r nodau lymff o dan fy nghesail. Doedd hynny ddim yn bryder mawr iawn gan mai yno y byddai'r canser wedi ymledu gyntaf. Felly roedd gennyf ganser Cam 2 ac nid canser Cam 1, a chefais dynnu'r lwmp oddi ar fy mron ac un arall oddi ar fy nodau lymff. Cefais gynnig mastectomi ond penderfynais nad oedd y driniaeth honno yn iawn i mi ar yr adeg honno. Cefais godi'r lwmp ym mis Hydref a thriniaeth radiotherapi ym mis Ionawr, a oedd yn ddwys iawn a chefais bothelli a chreithiau yn ei sgil. Bedair wythnos ar ôl fy nhriniaeth es yn ôl i ymarfer. Er nad oeddwn i wedi mynd yn ôl i'r gwaith, doeddwn i ddim yn gallu peidio ag ymarfer – roedd cadw'n ffit yn sicrhau fy mod yn fy iawn bwyll ac yn rhywbeth roeddwn i'n gallu canolbwyntio arno a doeddwn i ddim am golli fy ffitrwydd. Doeddwn i ddim yn gwneud ymarferion trwm i gychwyn, ond yn hytrach roeddwn i'n rhoi fy nghlustffonau ymlaen ac yn cerdded am filltiroedd. Defnyddiais yr amser hwnnw i ddarllen fy llyfrau Taekwondo hefyd. Dechreuais astudio theori Taekwondo am ei fod yn rhoi rhywbeth i mi ei wneud, rhywbeth arall i ganolbwyntio arno yn hytrach na'r hyn roeddwn i'n mynd drwyddo. Roedd fy ngŵr yn poeni amdanaf, ond roedd yn gwybod fy mod i angen rhywbeth i'w wneud. Dydw i ddim yn berson sy'n gallu eistedd gartref yn gwylio'r teledu, ac roedd fy ngŵr yn deall bod yn rhaid i mi symud, felly mae wedi bod yn gefnogol iawn. Ym mis Ebrill y flwyddyn honno, llwyddais yn fy arholiad graddio 'Second Dan' a chystadlu ym Mhencampwriaeth Cymru a'i hennill. Roeddwn i bob amser yn gwisgo fest i warchod fy mrest wrth gystadlu beth bynnag, am fy mod i'n paranoid am gael fy nharo ac y byddai hynny'n datblygu'n rhywbeth arall. Ond ar ôl cael diagnosis o ganser prynais fowld a oedd wedi'i greu yn arbennig sy'n mynd i lawr o fy mrest hyd at fy nghanol. Roedd y mowld hwn yn eithaf drud, ond doeddwn i ddim am gymryd unrhyw siawns. Doeddwn i ddim am gael anaf a dyna'r peth gorau wnes i erioed. Yna, dros y misoedd nesaf, gwnes gystadlu yng nghystadlaethau Agored Lloegr a Llundain a'u hennill. Cafodd cystadleuaeth Agored y DU, a oedd yn gystadleuaeth fawr i mi, ei chynnal ym mis Tachwedd eleni, ac enilliais honno hefyd. Felly, rwy'n Bencampwr y DU nad oes unrhyw un wedi fy nhrechu hefyd. Y flwyddyn nesaf, rwy'n bwriadu cystadlu ym Mhencampwriaeth Ewrop a'r Byd a chystadleuaeth ar gyfer Pobl Hŷn hefyd. Bydd Pencampwriaeth Ewrop yn cael ei chynnal yn Slofenia ac rydym yn aros am gyhoeddiad ar gyfer lleoliad Pencampwriaeth y Byd. Byddaf yn rhan o garfan Ffederasiwn Taekwondo Cenedlaethol Cymru ar gyfer cystadleuaeth yr Ewros, felly rydym yn ymarfer yn galed iawn at honno ar hyn o bryd ac yn edrych am nawdd ar gyfer ein tîm hefyd. Mae fy merch fach yn cael hyfforddiant bellach hefyd, ac mae hynny'n wych. Pan roeddwn i'n sâl, roedd hi'n rhy ifanc i wybod hynny ac ni wnaethom ni drafod y mater â hi. Ond roedd hi'n dod ar y teithiau cerdded hir gyda mi ac mae hi'n dod i fy ngwylio'n ymarfer weithiau hefyd. Mae hi wrth ei bodd yn fy ngwylio'n cystadlu ac yn sgrechian arnaf o'r ochrau ac mae ganddi hi bob un o fy medalau. Pan rwy'n ennill cystadleuaeth nawr, mae'n bwysicach na phan roeddwn i'n ennill yn y gorffennol oherwydd am gyfnod roeddwn i'n meddwl y gwaethaf. Mae capasiti fy ysgyfaint yn llai oherwydd y driniaeth radiotherapi, felly mae'n rhaid i mi ymarfer a gweithio'n galetach na phobl eraill am na allaf gymryd cymaint o anadl i mewn â nhw. Dydw i ddim yn siŵr y dydy'r salwch wedi fy ngwneud i'n fwy penderfynol ac ai dyna'r rheswm pam fy mod i wedi mynd ymlaen i gyflawni'r llwyddiannau hyn, neu p'un a yw am fy mod i wedi dod o hyd i'r angerdd hwnnw unwaith eto cyn i mi fod yn sâl ai peidio. Ond gwnes i frwydro yn erbyn y salwch oherwydd Taekwondo am i mi ganolbwyntio ar y gamp yn ystod y cyfnod hwnnw. Maen nhw'n dweud eich bod chi 30% yn llai tebygol o gael canser y fron eto os ydych chi'n cadw'n ffit, ac mae hynny bob amser wedi bod yng nghefn fy meddwl ers cael y diagnosis. Ond rwyf bob amser wedi bod yn gystadleuol iawn ac yn gwybod fy mod i eisiau bod yn bencampwr byd. Felly roeddwn i hefyd yn meddwl fod y cystadleuwyr eraill yn ymarfer ac yn gwella tra doeddwn i ddim yn ymarfer o gwbl. Hyd yn oed pan nad oeddwn i'n teimlo'n ddigon da i ymarfer, roeddwn i'n gwylio fideos ar YouTube o bobl yn ymladd ac yn eu dadansoddi am dechnegau newydd. Rwyf hefyd yn helpu i addysgu yng Nghlwb Taekwondo y Tyllgoed, felly roeddwn i'n gwneud hynny hefyd. Rwyf wrth fy modd yno yn gweld yr unigolion yn datblygu. Roeddwn i yno wrth i'r plant ddechrau yn y clwb yn bump oed cyn i mi gael seibiant, a bellach maen nhw wedi tyfu, mae ganddynt feltiau du ac yn gwneud yn dda iawn. Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i mi gael fy llawdriniaeth a chefais wybod fy mod i wedi gwella ar ôl cael triniaeth radiotherapi. Byddaf yn cymryd meddyginiaeth adfer hormonau am y 10 blynedd nesaf er mwyn ceisio lleihau'r siawns y bydd y canser yn dychwelyd, a byddaf yn cael fy sgan MRI nesaf ym mis Ebrill. Ond rwy'n teimlo'n gadarnhaol. Rwy'n canolbwyntio ar fy nheulu, Taekwondo, fy ffrindiau a'r hyn rwy'n eu caru. - PC Judith McNamara, Swyddog Cudd-wybodaeth gyda #TîmHDC. |
Dechreuais chwarae pêl-rwyd yn eithaf ifanc pan roeddwn i'n chwarae i fy ysgol fel Ymosodwr Gôl. Ymunais â fy nghlwb lleol cyntaf yn saith oed ac roeddwn i wrth fy modd yno. Wedi hynny, datblygais i fod yn rhan o garfan y sir a'r garfan ranbarthol ac yna cymerais ran yn fy nhreialon cyntaf i Gymru dan 17 oed. Yn ystod y cyfnod hwn, newidiais fy safle o fod yn Ymosodwr Gôl i fod yn Gôl-geidwad, ar ôl i fy hyfforddwr ddweud wrthyf mai chwaraewr amddiffynnol oeddwn i am flynyddoedd. Gwrandewais yn y pen draw a sylwi fy mod i'n amddiffynnwr naturiol. Roeddwn i hefyd yn rhan o dîm y Gynghrair, sef y Dreigiau Celtaidd, ac yn 2014 cefais fy newis i gynrychioli tîm Hŷn Cymru ac enillais fy nghap cyntaf yn erbyn Lloegr yn Lerpwl. Roedd yn brofiad dwys bod yn rhan o garfan Cymru, ond dysgais lawer amdanaf fy hunan. Byddai'r hyfforddiant yn cynnwys dwy sesiwn yn y gampfa yn y bore, sesiynau hyfforddi ar y cwrt chwarae ddwywaith yr wythnos am ddwy awr a gwersyll hyfforddi ar benwythnosau. Roedd yn rhaid i bob unigolyn gwblhau sesiynau ymarfer/adfer ei hun a dilyn cynllun maeth hefyd. Disgyblaeth yw'r gwerth mwyaf mae chwarae pêl-rwyd wedi dysgu i mi am na fyddwch yn dilyn y broses, ni fyddwch chi fyth yn gwella. Felly, dyma'r prif beth i mi am ei fod wedi fy rhoi ar ben ffordd am weddill fy mywyd yn gyffredinol. Mae gwybod na allwch chi gyrraedd unrhyw le heb weithio'n galed, a'r boddhad sy'n deillio o hynny wrth i chi lwyddo, wir yn werth chweil. Mae'r agwedd o weithio fel tîm yn bwysig iawn hefyd. Bydd pob chwaraewr yn atebol iddo'i hun ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn rhoi'r ymdrech ofynnol, ond byddwch yn atebol i'r tîm hefyd os byddwch yn chwarae mewn tîm. Mae'n eithaf agored a gonest. Ni allwch osgoi ei wneud mewn unrhyw ffordd - os na fyddwch yn ei wneud, mi fydd y tîm yn gwybod hynny yn ogystal â'r rheolwyr. Dydyn ni ddim yn bwll enfawr yng Nghymru, ond mae chwaraewyr newydd ar gael bob amser. Maent yn datblygu'n raddol ac ar eich sodlau i gipio'ch safle, felly mae hynny yn eich cadw'n frwdfrydig. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid cofio am y profiadau a gewch. Rwyf wedi teithio'r byd yn chwarae pêl-rwyd ac wedi profi pethau na fyddwn i wedi'i wneud fel arall. Gwnes i gystadlu yng Nghwpan y Byd yn Awstralia, ac roedd hynny'n anhygoel. Rwyf hefyd wedi teithio i rannau eraill o'r byd, fel Durban yn Ne Affrica, Launceston, Tasmania, Iwerddon a Gibraltar. Rwyf wedi gorfod camu'n ôl rywfaint o gynrychioli Cymru oherwydd fy ngwaith am ei fod yn anodd iawn dod o hyd i gydbwysedd rhwng gweithio shifftiau, hyfforddi a chymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi. Rwyf yn rhan o'r tîm pêl-rwyd rhanbarthol o hyd, ac yn chwarae i dîm y Valley Volcanoes. Gwnaethom gymryd rhan mewn twrnamaint dros gyfnod o dri mis yn ddiweddar - cynhaliwyd y cyntaf ym Mangor, roedd yr ail dwrnamaint yn Abertawe a'r trydydd yng Nghaerdydd - a ni oedd enillwyr cyntaf Cynghrair Genedlaethol Tantrwm yn 2023. Felly, rwy'n parhau i chwarae ond ddim mor aml ag yr oeddwn yn ei wneud yn y gorffennol nac mor aml ag yr hoffwn chwarae. Ond, rwy'n ffodus am fy mod i'n cael cyfuno fy nghariad tuag at bêl-rwyd gyda fy swydd, gan fy mod i hefyd yn chwarae i dîm Heddlu De Cymru yng nghynghrair Chwaraeon Heddlu'r DU. Gall hynny fod yn her ynddo'i hyn - chwaraewyr o bob rhan o ardal yr heddlu, patrymau shifft gwahanol, digwyddiadau'n mynd rhagddynt sy'n golygu bod yn rhaid i bobl weithio ar y funud olaf, ac ati - ond nid ydym ni'n chwarae bob wythnos felly mae pethau'n gweithio. Mae pob un ohonom ni mewn sefyllfa debyg ac yn deall bod yn rhaid i'r swydd ddod yn gyntaf. Ac rwy'n tybio ei fod yn ein helpu ni i gadw'n heini ar gyfer y swydd, felly mae'r ddau yn ategu ei gilydd. Mae'n hyfryd am nad ydym ni'n heddlu mawr iawn o'i gymharu â heddluoedd eraill. Mae unigolion o bob rhan o dde Cymru yn rhan o'r tîm. Felly mae'n bosibl na fyddwn i wedi cyfarfod rhai o'r merched ar y tîm sydd o wahanol ardaloedd, rolau, rhengoedd ac ati, oni bai am y gamp. Dydy strwythur y rhengoedd ddim yn berthnasol ar y cwrt chwarae. Ry'n ni'n dîm, mae pob un ohonom ni'n hafal. Rwyf hefyd yn hyfforddi Clwb Pêl-rwyd Creigiau, lle mae pum tîm oedolion a nifer o dimau grwpiau oedran. Mae'n brysur dros ben. Ond mae gweld rhai ohonynt nawr, roedden nhw yn fy ngwylio pan roeddwn i'n dechrau chwarae pêl-rwyd. Rwy'n cofio llofnodi llyfrau rhai ohonynt, ac mae'n hyfryd gweld sut maen nhw wedi datblygu yn y gamp. Mae'n braf meddwl eich bod chi wedi chwarae rhan i ysbrydoli rhywun o bosibl. Mae'n debyg bod mwy o ymwybyddiaeth am bêl-rwyd a'i bod yn cael ei hyrwyddo'n fwy nawr o gymharu â phan roeddwn i'n iau - mae'n grêt. Doedd y gamp ddim yn cael ei dangos ar y teulu bryd hynny – doedd tîm Cymru ddim yn cael ei ddangos beth bynnag – ond nawr mae'r Brif Gynghrair Pêl-rwyd yn cael ei hysbysebu ar sianeli Sky, ac roedd Cwpan y Byd Pêl-rwyd yn cael ei ddarlledu ar deledu byw. Mae'n gamp fwy a gwell erbyn hyn, yn sicr. Rydych chi'n gweld mwy o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol bellach, er enghraifft, lle maent yn ceisio hyrwyddo pêl-rwyd ac ennyn rhagor o bobl i gymryd rhan. Pan ddechreuais chwarae'n rhyngwladol i ddechrau, nid oedd yr hyn sydd gan y gamp heddiw ar gael i ni, felly roedden ni'n gwneud proffiliau chwaraewyr a sesiynau holi ac ateb, ond nid oedd llwyfan ar eu cyfer nhw felly ychydig iawn o bobl oedd yn eu gweld. Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi newid hynny ac mae cynulleidfa bellach ar gyfer y gamp. Nid yw'r gamp yn cael ei gweld fel pêl-droed a rygbi. Mae gan y campau hyn swm mawr o arian i'w cefnogi, ac mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni'n chwarae pêl-rwyd am ein bod wrth ein boddau â'r gamp, ac nid am unrhyw reswm arall. Ond, os yw eich bryd ar chwarae pêl-rwyd, byddech wrth eich bodd. Mae'n gymaint mwy na champ yn unig. Gall bod yn rhan o dîm gynyddu eich hunanhyder ac rwyf wedi gweld pobl yn datblygu oherwydd hyn. Mae anogaeth a phositifrwydd yn allweddol. Ond rwyf hefyd o'r farn na all unrhyw un gipio'r elfen honno rydych chi'n ei wneud yn dda oddi wrthych chi. Felly mae hynny yn gwneud i chi dyfu a datblygu. A phan fyddwch chi'n cael eich dewis i chwarae i dimau gwahanol, boed hynny i dimau yn eich clwb lleol neu i dîm uwch sy'n chwarae mewn cynghrair, bydd hynny'n cynyddu eich hyder yn fawr. Byddwch yn dechrau credu yn eich gallu ac yn y ffaith y gallwch chi fynd ymhell yn y gamp pan fyddwch yn sylwi na fyddai'r timau yn eich dewis chi os nad ydych chi'n ddigon da, ac mae hynny'n gwneud i chi fod eisiau ymroi o'ch amser i'r gamp. Mae llawer o sylw yn cael ei roi ar ferched mewn chwaraeon a'r ffordd i ennyn eu diddordeb ac i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys, ac mae hynny'n ddealladwy. Rwyf wedi bod yn yr un sefyllfa ac wedi dioddef o broblemau sy'n gysylltiedig â hunanhyder ers y dechrau. Mae'n bosibl nad oedd chwarae i Gymru o help bob amser oherwydd gall fod yn awyrgylch beirniadol os nad ydych chi'n ddigon heini neu'n ddigon cyflym ac os nad ydych chi'n ddigon tenau. Rydych chi o dan y chwyddwydr am ei fod ar lefel gystadleuol iawn. Ond rwy'n credu i mi gael fy annog i brofi pwynt ac i wella fy hun yn sgil y feirniadaeth a gefais. Felly, rwy'n deall yn iawn. Ond fy nghyngor i i unrhyw un sydd am ddechrau chwarae pêl-rwyd, neu unrhyw gamp arall, fyddai i ‘beidio byth â rhoi'r gorau iddi’. Peidiwch â gadael i unrhyw un ddweud wrthych chi nad ydych chi'n ddigon da. Rydych chi bob amser yn ddigon da. Defnyddiwch eich cymhelliant i'w profi a chofiwch chwarae er lles eich hapusrwydd eich hun hefyd. Byddwch bob amser yn perfformio i'r safon uchaf pan fyddwch yn mwynhau'r hyn rydych chi'n ei wneud. Mae pêl-rwyd wedi rhoi cymaint o uchafbwyntiau i mi, a chymaint o bethau i fod yn falch ohonynt. Yn ystod Cwpan Pêl-rwyd y Byd ar gyfer chwaraewyr hŷn a gynhaliwyd yn Awstralia, roeddem yn y seithfed safle allan o dimau'r byd a dyna oedd y lefel uchaf i ni ei gyrraedd ers rhai blynyddoedd. Felly dyna fyddai fy nghyflawniad mwyaf. Fy ail gyflawniad mwyaf fyddai'r llwyddiant diweddar gyda'r Valley Volcanoes. Roeddwn i wedi camu yn ôl o'r gamp am gyfnod ar ôl i mi dorri fy mhigwrn ac wrth ymuno â'r heddlu fel swyddog. Roeddwn i am ganolbwyntio ar adfer a fy swydd newydd. Felly, rwy'n credu mai dyna yw fy ail uchafbwynt; gan wybod fy mod i wedi dychwelyd i'r gamp a fy mod i wedi gweithio'n galed i gyrraedd yma. Rwy'n fwy gwydn ers i mi dorri fy mhigwrn. Fe wnaeth i mi feddwl, ‘na, rwyf am fynd yn ôl i chwarae pêl-rwyd ar ryw adeg, does dim ots beth fydd yn rhaid i mi ei wneud’. Ac yna, roedd mynd ymlaen i ennill y gystadleuaeth ranbarthol wedi hynny a theimlo dy fod yn meddu ar y sgiliau o hyd yn deimlad anhygoel. Roedd hynny'n wir am chwarae gyda rhai o'r chwaraewyr hynny a oedd yn rhan o dîm Cymru yn y gorffennol a oedd wedi cymryd seibiant ac wedi mynd i wneud eu pethau eu hunain cyn dychwelyd i'r gamp. Roedd yn deimlad anhygoel bod yn hapus yn y tîm unwaith eto a chael profi dynamig cadarnhaol y tîm – doedd dim ots pa gyfuniad chwarae roeddem ni'n ei ddefnyddio, roedd popeth yn gweithio. Roedd bod yn rhan o'r garfan yn teimlo fel yr hen ddyddiau. Lateisha Kidner, Cwnstabl yr Heddlu gyda Thîm Cymorth Tiriogaethol #TîmHDC |
Priodais i yn 2008, a gwnaethom benderfynu aros am ddwy flynedd cyn magu teulu. Cafodd fy ngŵr ei eni yn India a chefais innau fy ngeni yma. Er ein bod wedi canlyn am ddwy flynedd cyn i ni briodi, nid oeddem yn byw gyda'n gilydd, ac felly gwnaethom dreulio'r cyfnod hwnnw gyda'n gilydd er mwyn dysgu mwy am ein gilydd. Ond roedd cael teulu yn rhan o'r cynllun ers y dechrau. Roeddem yn cymryd y byddai ceisio am fabi yn digwydd yn hawdd wedi i ni benderfynu ar yr amser iawn, ond nid fel yna y bu hi i ni. Cefais dri camesgoriad a beichiogrwydd ectopig a arweiniodd at golli fy nhiwb fallopio dde. Roedd pob un ohonynt yn drawmatig iawn a gallaf eu cofio yn glir. Doedd cyfnodau fy meichiogrwydd ddim yn parhau'n hirach na naw, 10 neu 11 wythnos. Rwy'n cofio fy ail feichiogrwydd; roeddwn yn teimlo bod rhywbeth o'i le ond fe wnes i barhau i obeithio a gweddïo - rwy'n Hindŵ ac mae fy nghrefydd yn bwysig iawn i mi - ond, nid oedd hynny'n ddigon. Ac rwy'n cofio dweud wrth y nyrs ‘pam fod hyn yn parhau i ddigwydd i mi,’ ac ymatebodd gan ddweud, ‘paid â phoeni, cer adref ac ymlacia a gallwch chi geisio unwaith eto pan fydd dy gylchred yn dechrau.’ Roedd ei hymateb yn anystyriol ac ysgafn. Nid wyf yn credu bod ystyr yn perthyn i'w geiriau am ei bod yn gweld sefyllfaoedd tebyg drwy'r amser. Ond i mi, dyna oedd fy myd, fy mreuddwyd a fy mabi. Ac roedd clywed ei geiriau yn anodd. Pan ddigwyddodd hyn am y trydydd tro, ceisiais fwy o adborth a mynd ati i golli pwysau, newid fy neiet, ac ati er mwyn gwneud yn siŵr fy mod mor iach â phosibl. A hyd yn oed ar ôl profi dau gamesgoriad yn y gorffennol, roeddwn yn parhau i deimlo y byddai fy amser yn cyrraedd yn fuan. Roeddwn yn profi'r un emosiynau bob mis, gan edrych ar y pethau amrywiol y gallwch eu gwneud i wella eich siawns, fel prynu pecynnau ofwliad a phethau tebyg. Rydych chi'n methu'r hwyl i gyd, yn canolbwyntio'n unig ar geisio beichiogi ac yn dechrau cynllunio eich bywyd o amgylch yr hyn y mae'r prawf beichiogrwydd yn ei ddangos. Mae ein gwaith yn y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus yn brysur iawn ac yn eich rhoi dan straen, ac mae'n rhaid i chi wrando ar y gofynion hynny ac ymdopi â nhw. Nid oes amser i feddwl amdanoch eich hun pan fo pobl yn eich ffonio ac yn dweud wrthych chi am eu hargyfyngau. Felly wedyn, dechreuais drefnu fy ngwyliau blynyddol o amgylch fy nyddiadau ofwliad - roedd pethau'n dechrau mynd yn wirion. Dim ond y dyddiadau hyn oedd yn bwysig, yn ogystal â'r gwaith cynllunio a gwnaethom golli'r ymdeimlad o gyffro o geisio creu bywyd newydd, undod rhwng fy ngŵr a minnau yng nghanol hynny i gyd. Erbyn fy mhedwerydd beichiogrwydd, roeddwn wedi cael profion a cheisio cyngor pellach a chlywed nad oedd unrhyw beth yn bod arnaf yn feddygol. Ond roeddwn yn parhau i ofyn pam, pam ei fod yn cymryd cymaint o amser. Aethom i India, a chefais brofion ffrwythlondeb yno hefyd er mwyn gweld a oedd fy ngŵr a minnau yn gymwys. Pe byddai canlyniadau'r profion yn negyddol, beth fyddech chi'n ei wneud? Ond, roeddem yn ysu i ddechrau teulu. A chawsom y profion hynny am fod aelodau'r teulu yn India ac aelodau'r teulu yma yn bryderus, felly rydych chi'n gwrando ar bawb ac yn ceisio popeth y gallwch chi feddwl amdanynt. Ond cefais wybod bod popeth yn iawn a fy mod yn gallu cael plant, ond nad oedd hynny wedi digwydd hyd yma. Roedd yn gyfnod dryslyd ac roeddwn yn parhau i ofyn pam? Pam nad oeddem wedi cael plant os nad oedd unrhyw reswm meddygol am hynny, pam nad oeddwn yn gallu cario plentyn? Roedd yn gyfnod anodd iawn. Roedd hyn ar fy meddwl yn barhaus, ac roeddwn i yn y gylchred o geisio beichiogi, beichiogi, cam-esgor ac yna ceisio unwaith eto. Roedd hi'n anodd. Roedd fy mywyd yn troelli o'i amgylch. Roedd pobl yn fy ngwaith yn dod â'u babanod newydd anedig i gyfarfod y tîm, ac roeddwn bob amser yn gyffrous i'w cyfarfod. Nid oeddwn yn negyddol nac yn genfigennus o gwbl, roeddwn bob amser yno gyda gwen ar fy wyneb a'r cyntaf i gael mwythau â'r babanod. Ond nid yw hynny'n profi nad oedd yn anodd. Roeddwn yn gofyn i mi fy hun, ‘beth am fy nghyfle innau.’ Roedd gennyf gefnogaeth anhygoel; roedd fy nghydweithwyr agosaf a'm goruchwylwyr yn ymwybodol o'r hyn roeddwn yn mynd drwyddo a byddent bob amser yn gofyn a oeddwn yn iawn. Ac roedd hynny'n help mawr. Roeddent fel teulu a byddai wedi bod yn gyfnod hyd yn oed yn fwy unig pe na fyddai unrhyw un yn gwybod am fy sefyllfa. Roedd dau o fy nghydweithwyr, un yn Gatholig a'r llall yn Gristion, yn gweddio drostaf yn rheolaidd ac eto, roedd hynny'n rhoi cysur mawr i mi. Yn ystod fy mhedwerydd beichiogrwydd, cyrhaeddom 11.5 wythnos a dechrau cyffroi. Ni wnaethom ddweud wrth neb gan nad oeddem am demtio ffawd. Cawsom sganiau cynnar, ac roedd popeth yn iawn. Ond, dechreuais waedu ychydig. Cawsom sgan arall a chael gwybod bod y babi ‘yn y lle anghywir’, sy'n cael ei adnabod fel beichiogrwydd ectopig. Ond ni chlywais y gair hwnnw, dim ond ‘y lle anghywir’ ac yn fy naïfrwydd, gwiriondeb, gwylltineb, neu beth bynnag yr hoffech ei alw, dywedais, ‘allwch chi ei wthio i'r man lle y mae angen iddo fod?’. Gan feddwl y gall y gwyddorau meddygol ganiatáu iddynt wneud hynny. Nid wyf wedi cael hyfforddiant yn y maes meddygol; roeddwn yn fenyw a oedd yn ysu i gael y babi hwnnw. Dywedodd bod dau opsiwn; llawdriniaeth neu bigiad a dychwelyd i'r ysbyty'r wythnos ganlynol er mwyn gwirio fod popeth yn iawn. Roeddent am derfynu'r beichiogrwydd. Nid oeddwn am gael unrhyw lawdriniaeth nac ymyriadau a fyddai'n atal fy siawns o feichiogi unwaith eto yn y dyfodol. Felly, dewisais yr opsiwn i gael y pigiad. Roeddwn wedi trefnu i fynd i'r ysbyty ar y dydd Gwener, ond cefais wayw yn fy mraich ar y nos Iau. Cymerais dabledi lladd poen a cheisio anghofio am y boen. Y diwrnod canlynol, cyrhaeddais yr ysbyty gyda fy mam am fod fy ngŵr yn y gwaith, a dywedwyd wrthyf fod fy nhiwb falopian dde wedi ffrwydro dros nos. Eisteddais, a meddwl, ‘Fy nuw, pam fi? Oes yna unrhyw beth arall yr hoffet ti daflu ataf?’ Aethant i nôl cadair olwyn i mi ac egluro bod y risg i fy mywyd yn cynyddu gyda phob awr oedd yn mynd heibio. Dywedwyd wrthyf fod yn rhaid i mi gael llawdriniaeth, ac roeddwn yn dadlau gyda'r meddyg ymgynghorol nad oeddwn i am gael llawdriniaeth oherwydd fy mod yn gwybod mai dyna fyddai diwedd fy siawns o gael teulu. Roeddwn yn erfyn arno i beidio â thynnu'r tiwb ac i wneud popeth o fewn ei allu i'w wella wrth iddynt fy ngwthio yn y gadair olwyn hyd yn oed. Rwy'n fenyw gryf, ac roeddwn yn ceisio parhau'n gryf ar yr adeg honno, ond roedd yn brofiad trawmatig. Yr un peth a wnaeth fy nghadw i fynd drwy bopeth oedd fy mod yn benderfynol fy mod am gael y babi hwn. Roeddwn bob amser yn ceisio dal fy ngafael ar y gobaith hwnnw. Ond roedd hi'n mynd yn anoddach i gadw'r gobaith hwnnw bob tro y taflwyd yr heriau hyn ataf. Dadebrais o'r llawdriniaeth ac roedd nyrs hyfryd yno, a'r peth cyntaf i mi ei ddweud oedd, ‘rydych chi wedi'i wneud?’, am fy mod yn gwybod. Roeddwn yn gwybod eu bod nhw wedi tynnu'r tiwb. Roeddwn yn ddigalon iawn, ac esboniodd y nyrs nad oedd ganddynt ddewis am ei fod wedi ffrwydro cymaint. A hyd yn oed wedi hynny, yr unig beth a lwyddais i'w ofyn oedd, ‘beth sy'n digwydd nawr? A fyddaf yn parhau i allu atgenhedlu?’ Ac ymatebodd gan ddweud, ‘byddi, siŵr iawn’. Dywedodd bod gennyf siawns o hyd a bod tynnu'r tiwb wedi effeithio ar y siawns gan mai dim ond un tiwb oedd gennyf bellach, ond nad oedd yn amhosibl. Er i mi gael llawdriniaeth fawr, nid oeddwn yn poeni am hynny, ond mae'n rhaid ei fod wedi bod yn brofiad hunllefus i fy ngŵr. Roedd ef hefyd wedi colli tri babi ac ar ben hynny, roedd yn poeni amdanaf. Oni bai amdano ef, nid wyf yn credu y byddem wedi dod drwyddi. Roedd wedi'i lorio ond roedd yn parhau i edrych ar fy ôl a fy nghefnogi. Cefais gyfnod a barhaodd am oddeutu deufis a hanner wedi hynny, lle roeddwn yn teimlo'n flin, yn ddigalon ac yn ddryslyd. Roeddwn wedi fy llorio. Cefais amser i ffwrdd o'r gwaith – cefais gefnogaeth gan fy nheulu gwaith drwy gydol y cyfnod hwn – ac yna sylweddoli fy mod angen cymorth a chefais sesiynau cwnsela. Roeddwn yn fenyw a oedd wedi'i llorio; nid oeddwn yn gallu ymdopi. Roeddwn yn mynd i'r deml a byddai pobl yn gofyn, ‘unrhyw newyddion?’, gyda'r bwriadau gorau a phryder gwirioneddol, ond hyd yn oed heddiw, ni allaf ddioddef clywed y geiriau hynny. Roeddem wedi trefnu i fynd i India ym mis Ionawr 2015, ac roedd gennyf gymaint i'w wneud; roeddwn yn gweithio dros gyfnod y Nadolig, sydd bob amser yn brysur iawn yn yr ystafell reoli, gyda'r shifftiau nos a gweithio chwe diwrnod ac i ffwrdd am bedwar diwrnod. Ac ar ben hynny, roeddwn yn cynllunio ac yn pacio, gan wneud yn siŵr fy mod wedi cofio am yr anrhegion ar gyfer y teulu yn India. Daeth fy nghylchred unwaith eto ac roeddwn yn teimlo'n isel iawn, ond roeddwn wedi trefnu i ddechrau'r broses IVF wedi i ni ddychwelyd o India felly canolbwyntiais ar fwynhau ein hamser yno a dychwelyd i ddechrau'r broses honno. Ond yn ystod fy shifft a ddechreuodd ar Noswyl Nadolig nes Ddydd Nadolig, roeddwn yn teimlo'n flinedig iawn. Rwyf fel arfer yn llawn egni, ond roeddwn wedi llwyr ymlâdd. Meddyliais, ‘efallai ei fod yn digwydd’, ond yng nghefn fy meddwl roeddwn yn gwybod fy mod yng nghanol fy nghylchred. Ond roeddwn yn teimlo bod rhywbeth o'i le. Roeddwn yn pendwmpian yn ystod fy amser egwyl ac yn gallu clywed fy nghydweithwyr yn sibrwd wrth iddynt bendroni a oeddwn yn feichiog ai peidio. Yn ystod y daith i India, gosodais fy llaw ar fy mol wrth i ni godi a glanio yn yr awyren am ryw reswm. Wedi i ni gyrraedd India, roeddwn yn gwybod nad oedd pethau'n iawn. Felly, penderfynais brynu pecyn beichiogrwydd ac ymddangosodd y ddwy linell. Ymateb cyntaf fy ngŵr oedd nad oedd y prawf yn gywir – nid oedd hi'n bosibl ei fod yn gywir. Nid oeddem am ddweud wrth y teulu, felly edrychom am glinigau lleol ar y we yng nghanol y nos. Gwnaethom drefnu apwyntiad yn y clinig lle y cafodd fy ngŵr ei eni sawl blwyddyn yn ôl, gyda'r un meddyg a oedd yn bresennol yn ystod ei enedigaeth. Cyrhaeddom y clinig a chefais sgan. Ni chafodd fy ngŵr ddod gyda mi gan nad oedd y clinig yn caniatáu hynny, felly bu'n rhaid i mi fynd i'r ystafell sganio ar fy mhen fy hun. Gwelodd y nyrs ddot bach yn ymddangos ar y sgrin. Er mawr syndod i mi, dywedodd ei bod yn gallu gweld babi ac esboniodd fy mod yn feichiog ers naw wythnos. Roeddwn yn credu fy mod am gwympo oddi ar y gadair. Ni allwn gredu. Roedd fy ngŵr yn aros amdanaf mewn ystafell aros a oedd yn llawn o gleifion Indiaidd a sgrechiais “Rwy'n feichiog ac rwyt ti'n mynd i fod yn dad” yn Saesneg. Bu bron i fy ngŵr gwympo oddi ar ei gadair hefyd. Yna, cefais gyngor i weld y meddyg ac wedi i mi ddweud fy hanes wrtho, dywedodd bod angen iddo roi pigiadau i mi sy'n debyg i'r rhai hynny a roddir ar ddechrau'r broses IVF. Dywedodd mai'r pigiadau fyddai'n rhoi'r siawns gorau posibl i'r babi, ac roeddwn yn gafael yn ei law ac yn erfyn arno i wneud popeth o fewn ei allu i wneud yn siwr y byddai'r babi hwn yn goroesi. Gwnaeth addo i mi y byddai'n gwneud popeth ac esboniodd y byddai'n rhaid i mi ddychwelyd i gael rhagor o'r pigiadau hyn tra roeddem yn India. Roedd olew yn y pigiadau hyn ac roeddent yn boenus iawn, ond nid oedd ots gen i am y boen, roeddwn am i fy mabi oroesi. Roeddem wedi trefnu mynd ar bererindod ac roeddwn yn poeni am ei fod yn bell, gyda llawer o deithio a theithiau cerdded hir ac awgrymodd y meddyg i mi beidio â mynd. Ond roedd yn rhaid i mi fynd; roeddwn am fynd i weld y Duwiau Hindŵaidd ac yn aml fy ffydd oedd wedi fy nghadw i fynd. Roeddwn am iddynt fendithio'r babi hwn a minnau. Hefyd, nid oedd yn bosibl i ni ddweud wrth y teulu, felly sut y gellid esbonio nad oeddwn yn mynd ar y bererindod. Felly i ffwrdd â ni. Roedd yn dri diwrnod hirfaith ac roeddwn yn bryderus iawn drwy gydol yr amser. Roeddwn yn gwybod bod teulu fy ngŵr yn methu deall pam fy mod mor ddiog, pam nad oeddwn i'n cario'r bagiau, yn cerdded yn araf ac yn flinedig drwy'r amser. Yn y pen draw, dywedais wrth fy mam-yng-nghyfraith – nid oedd fy mam fy hun yno, ac roedd angen y gefnogaeth arnaf – roedd hi wedi gwirioni, rhoddodd fwythau i mi ac edrych ar fy ôl drwy gydol y daith gyfan. Dechreuais waedu ychydig unwaith eto ac roeddwn yn ysu i fynd yn ôl i'r clinig er mwyn cael gwybod bod popeth yn iawn. Wedi i ni gyrraedd yn ôl o'r bererindod, dywedodd y meddyg wrthyf fod popeth yn iawn ac roeddwn mor falch o glywed hynny. Dywedodd y byddai'n rhaid i mi barhau i gael y pigiadau, ac nad oedd yn gallu rhoi caniatâd i mi hedfan yn ôl nes y buaswn wedi mynd heibio'r cam 12 wythnos a'i fod yn hyderus fod y babi yn ddigon cryf. Ffoniais fy ngwaith. Nid oeddwn yn gallu dweud pam am nad oeddwn am demtio ffawd, ond roedd fy rheolwr yn bryderus gan na wnes ddweud y cyfan ar y ffôn, felly roedd yn rhaid i mi ddweud wrtho. Roedd yn emosiynol wedi i mi ddweud wrtho, a gofynnais iddo gadw'r wybodaeth yn gyfrinach. Gwnaethom hefyd ddweud wrth ein teuluoedd, ac roedd pob un ohonynt yn eu dagrau. Gwnaeth y teulu yn India edrych ar fy ôl yn ystod yr wythnosau ychwanegol hynny. Roedd pob mis a aeth heibio yn gam cadarnhaol ac yn garreg filltir. Ond roedd hi'n naw mis hir, ac roeddem yn gobeithio ac yn gweddio y byddai popeth yn iawn. Ni wnaethom brynu unrhyw beth, dim ond aelodau o'r teulu agos a wyddai fy mod yn feichiog nes i mi gyrraedd chwe mis ac roedd yn gyfnod hir, nerfus a phryderus o aros. Ond yn y pendraw, cafodd ei geni. Ein merch. Ein merch fach brydferth, ein bwndel hapus. Nid oeddem yn gallu credu mai ni oedd ei rhieni a'i bod hi yma, yn ddiogel ac yn iach. Ar ôl popeth yr oeddem wedi bob drwyddo. Gwnaeth y Duwiau ei bendithio. Yn ystod ein pererindod, roeddem mewn teml a oedd yn brysur iawn a finnau oedd yr unig un o bawb a oedd yno i gael fy mendithio gyda garlant y Duwiau, a osodwyd o amgylch fy ngwddf gan yr offeiriad. Ein merch hardd a gwerthfawr iawn. Rwy'n cofio'r dyddiau pan roeddwn yn edrych arni yn ei basged Moses ac yn meddwl, ‘waw, fy mabi i yw hon’. Yn ystod fy amser yn yr ysbyty, cefais gyngor gan y nyrsys i fod yn ofalus a dywedwyd wrthyf fod gennyf chwe mis o ffenestr ffrwythlondeb. Ond o gofio am yr anawsterau a gefais, yr unig beth a glywais oedd 'chwe mis o ffenestr'. Roeddwn yn gwybod ar unwaith fy mod eisiau babi arall; roeddwn yn gwybod nad oedd lwc nac oedran ar ein hochr ni, felly roeddwn i wedi paratoi fy hun at frwydr arall. Dywedodd y meddyg bod yn rhaid i mi aros o leiaf bedwar mis cyn ceisio unwaith eto, ond cawsom ein syfrdanu pan feichiogais unwaith eto ar ôl chwe mis. Nid oedd fy ngŵr yn credu'r peth a gwnaeth i mi wneud prawf ar ôl prawf – ac nid y rhai rhad! Roedd fy mryd ar gael plentyn arall, ac yna, 13 mis ar ôl genedigaeth fy merch, cafodd ein mab ei eni. Bellach, mae ein plant yn saith a chwech oed, ac rwy'n parhau i binsio fy hun a dweud mai ni yw rhieni'r ddau hyd heddiw. Mae'n rhaid i mi stopio ac atgoffa fy hun bod y ddau yn perthyn i ni o bryd i'w gilydd. Mae fy stori ar gyfer y bobl hynny sydd mewn sefyllfaoedd tebyg. Rwy'n deall sut beth yw dyheu cymaint am rywbeth a - hyd yn oed wrth geisio eich gorau i ymddiried yn eich ffydd ac i beidio ag anobeithio - cwestiynu p'un a fyddai'n digwydd ai peidio. Rwy'n deall sut beth yw teimlo fel eich bod yn cael eich amgylchynu gan fenywod beichiog, yn gweld pramiau ym mhobman a pharhau i wenu, ond gan feddwl yn barhaus pryd fydd eich amser chi'n cyrraedd. Gall fod yn brofiad unig a thrawmatig iawn, a hoffwn ddweud wrthych am beidio â rhoi'r ffidl yn y to. Peidiwch â stopio credu y bydd eich amser chi'n cyrraedd. Ar ôl fy nghamesgoriadau a cholli tiwb falopian, os gall ddigwydd i mi, gall ddigwydd i chi hefyd. Peidiwch â rhoi'r ffidl yn y to. - Sunita Sood, #TîmHDC, ag Is Gadeirydd Cymdeithas Heddlu Du |
|
Rwy'n ymddiriedolwr gydag elusen, Woody's, sy'n cynnig cymorth i gyn-filwyr ac i'r rheini sydd wedi gwasanaethu yn y gwasanaethau brys. Mae'n bwysig iawn i mi – roeddwn i yn yr RAF ac felly rwy'n gyn-filwr, ac felly mae'r ochr honno o bethau yn agos iawn at fy nghalon, ond hefyd rwyf wedi bod yn yr heddlu am bron i 15 mlynedd. Felly rwy'n gweld y ddwy ochr. Fe wnes i daith o Irac yn 2004, ym maes rheoli traffig awyr. Es i i Basra a threulio pedwar mis yno. Roedd yn brofiad, ac mewn sawl ffordd mae'n siŵr mai'r rheini oedd pedwar mis gorau fy mywyd. Dwi'n gwybod fod hynny'n beth rhyfedd i'w ddweud, ac yn ffodus ni welais unrhyw beth gwael, yn wahanol i lawer o bobl sydd wedi gwneud teithiau gwasanaeth yn Affganistan neu Irac, oherwydd roeddwn i yn y tŵr rheoli traffig awyr. Felly roedd fy mhrofiad i yn eithaf gwahanol i brofiadau eraill mae'n siŵr – er enghraifft ni chefais i fy saethu. Ymosodwyd arnom gan fomiau mortar, felly roedd hynny, ond rydych yn ceisio peidio â meddwl amdano. Yn Irac roeddwn i'n teimlo fel pe bawn i'n gwneud fy swydd go iawn, yn hytrach na dim ond hyfforddi, hyfforddi, a hyfforddi. Roeddwn wedi fy lleoli yn RAF Odiham gynt, sef safle hofrennydd Chinook. Ond pan oeddwn yn Irac, roeddwn i'n gwneud fy swydd go iawn. Roedd cydweithwyr o bob cenedl yno. Roedd gennym bobl o'r Eidal, pobl o Ffrainc, a phob math o bobl yn dod i Basra ac yn gadael, ac felly roedd rhaid i chi ddehongli eu hacenion hefyd. Roeddwn i'n helpu i gael peilotiaid allan o drafferth pan ddaethant ar y tir – yna byddwn i'n eu gweld yn y dafarn yn ddiweddarach ac yn sgwrsio am yr hyn a ddigwyddodd. Roeddwn i wir yn ei fwynhau. Rwyf wedi bod wrth fy modd yn hedfan erioed. Yn ogystal â bod yn rheolwr traffig awyr, rwyf wedi cael fy nhrwydded peilot ers tua 20 mlynedd - cefais fy nhrwydded pan oeddwn i'n 18 oed - ac mae fy rôl ar hyn o bryd, gyda hofrennydd yr heddlu, yn swydd berffaith. Ganwyd fy nhad yng Nghwm Rhymni, i deulu o lowyr. Cwblhaodd ddwy flynedd o wasanaeth cenedlaethol yn y llu awyr, a hynny o 1950 hyd at 1952, rwy'n tybio. Mwynhaodd ef gymaint nes iddo wneud tair blynedd ychwanegol fel swyddog addysg. Arferai siarad am y llu awyr â mi, a dywedodd wrthyf y dylwn i ystyried ymuno fy hun. Po fwyaf yr edrychwn arno, y mwyaf yn penderfynais y byddwn wrth fy modd yn gwneud hyn. A dyna wnes i. Roeddwn i wrth fy modd yn y llu awyr. Roedd yn anhygoel. Felly o'i achos ef yr ymunais â'r lluoedd arfog. Ar ôl i mi adael y llu awyr, fe wnes i ailhyfforddi fel gwarchodwr pobl, a gwneud hynny am dair blynedd. Roedd hynny'n wych. Fe wnes i wir ei fwynhau a gwelais bethau anhygoel, cyfarfod pobl anhygoel a chael profiadau gwych. Ond y broblem oedd byddent yn gofyn i mi wneud swydd am chwe wythnos gyda dim ond diwrnod o rybudd. Roedd rhaid mynd heb feddwl ddwywaith a golygai hynny nad oedd yn bosibl gwneud cynlluniau ar gyfer bywyd y tu allan i'r gwaith. Felly bues yn meddwl, beth allwn i ei wneud sy'n cyfateb i fy sgiliau, ond sy'n caniatáu i mi fynd adref ar ddiwedd fy sifft? Yr ateb naturiol fyddai gweithio ym maes plismona, ond doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw beth am blismona – doeddwn i ddim hyd yn oed wedi siarad â swyddog yr heddlu erioed yn fy mywyd. Ond roedd Heddlu De Cymru yn recriwtio ac felly ymunais â nhw yn 2008. Roedd y newid i'r arfer yn sioc i mi! I ddechrau, roeddwn i'n gweithio ym maes ymateb yn y Barri, ond rwyf bellach wedi bod ar yr hofrennydd ers naw mlynedd. Mae fy nghefndir mewn rheoli traffig awyr yn bendant wedi bod o fudd i mi, ond mewn gwirionedd nid oes angen i chi feddu ar unrhyw brofiad blaenorol o awyrennau i gael swydd gyda'r hofrennydd. Chwilio am bobl sy'n agored i niwed yw'r rhan helaeth o'r hyn rydym yn ei wneud. Rydym hefyd yn olrhain ceir sydd wedi'u dwyn, cerbydau â chudd-wybodaeth arnynt a allai fod yn cario cyffuriau er enghraifft; cadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd ar y ffyrdd, bwrgleriaethau ar y gweill, neu bobl yn dianc ar ôl cyflawni trosedd - y math hynny o beth. Mae'r swydd hon yn anhygoel. Mae'n rhoi boddhad mawr, yn enwedig pan fyddwch chi'n gweld rhywun sy'n agored i niwed ac yn llwyddo i'w cael nhw'n ôl at y teulu. Rwy'n ymwneud ag ychydig o sefydliadau eraill hefyd. Rwy'n gwirfoddoli gyda'r criw bad achub ym Mhenarth – rwyf wedi bod ar fadau achub ers 1992, fel aelod o griw'r RNLI. Fe ddechreuais hynny drwy gyflawni Gwobr Dug Caeredin pan oeddwn i'n 14 oed ac fe wnes i fwynhau gwneud hynny gymaint nes i mi gario mlaen. Cefais egwyl tra roeddwn i yn y brifysgol a phan oeddwn i yn y lluoedd arfog, felly o 1999 ymlaen cefais tua 10 mlynedd o egwyl ohono. Mae'r rhan fwyaf o'n galwadau yn ystod yr haf, ond bob nos Fawrth cawn gyfarfod, tair i bedair awr yn yr orsaf, neu ymarfer. Fel arfer mae un ymarfer bob penwythnos hefyd. Dydw i ddim yn cymryd rhan ym mhopeth, ond dwi'n ceisio mynd i'r cyfarfodydd ar nos Fawrth os nad ydw i'n gweithio. Yna mae sefydliadau'r cyn-filwyr rwy'n rhan ohonynt. Rwy'n angerddol iawn am y gwaith rydym yn ei gwneud gyda Woody's ac yn ceisio cyfleu'r neges ei fod ar gyfer cydweithwyr yn y gwasanaethau brys, yn ogystal â chyn-aelodau o'r lluoedd arfog. Rydym yn gweld y gall pethau megis PTSD effeithio ar lawer o swyddogion rheng flaen yr heddlu, a'r gwasanaethau tân neu ambiwlans, oherwydd natur y galwadau y maent yn ymateb iddynt. Gan mai gweithio ym maes rheoli traffig awyr gyda'r llu awyr oeddwn i, ac felly ddim allan yn crwydro gyda'r milwyr ar y tir, rwyf wedi gweld pethau gwaeth yn yr heddlu nag a welais o'r blaen. Yn amlwg mae llawer o gyn-filwyr a all gael eu heffeithio'n fawr gan y trawma y gwnaethant ei brofi yn y lluoedd arfog, ond rwy'n credu y gallai fod yn brofiad tebyg yn y gwasanaethau brys. Yn Woody's, gall pobl droi fyny a dweud ‘Rwy'n cael trafferth gyda fy iechyd meddwl, oherwydd y pethau rwyf wedi eu gweld' neu beth bynnag, a chânt eu cyfeirio at gymorth penodol – p'un ai ar gyfer PTSD neu drawma arall. Neu gallai helpu cyn-filwyr i hawlio budd-daliadau nad ydynt o bosib yn ymwybodol bod ganddynt hawl iddynt. Teimlaf nad yw cyn-filwyr yn hoff o siarad am eu hemosiynau, er hynny aethpwyd i'r afael â hyn rywfaint yn ddiweddar. Rwyf hefyd yn credu bod angen i gydweithwyr mewn gwasanaethau brys ofyn am fwy o gymorth oherwydd maent yn gorweithio, a gall eu rhoi o dan fwy o straen. Weithiau gall fod yn rhywbeth mor syml ag eistedd a chael paned mewn amgylchedd diogel. Mae'r cabanau yn lleoedd tawel lle gallwch droi fyny, heb apwyntiad, ac eistedd a chael paned o de a sgwrsio gyda rhywun, ac weithiau mae bod mewn man ymlaciol a thawel heb unrhyw bwysau arnoch yn gymorth mawr ynddo'i hun. Caiff taith seiclo flynyddol ei threfnu i godi arian i Woody's. Taith o Gaerdydd i Baris oedd y llynedd ac fe wnes i honno. Pwy a ŵyr sut y llwyddais i gwblhau'r daith, oherwydd dydw i ddim yn seiclwr, ond fe wnes i lwyddo! Fis diwethaf aethom i Normandi, gan ymweld ag amrywiol safleoedd coffa, megis y traethau lle digwyddodd glaniadau D-day a'r Gofeb Normandi Brydeinig newydd. Mae cofio yn bwysig iawn. Rwy'n rhan o Grŵp 617, grŵp arall a sefydlwyd i gefnogi cyn-filwyr. Cafodd ei enwi ar ôl Sgwadron yr RAF a gynhaliodd gyrchoedd 'dambuster' yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae gan y Dambusters gysylltiad â Phenarth, gan i Guy Gibson, y swyddog oedd yn gyfrifol am Sgwadron Dambuster adeg y cyrch bomio, fyw ym Mhenarth am gyfnod, am iddo briodi merch o'r dref. Ysgrifennais erthygl am y cysylltiad rhwng Sgwadron Dambuster a Phenarth, a dangosais i hi i grŵp y cyn-filwyr yma i gael eu cymeradwyaeth, ac meddent 'Rydyn ni wrth ein bodd. Ac a ydych chi am ymuno â'n grŵp?’. Felly nawr rwy'n aelod o'r grŵp! Mae pawb yn y grŵp mor hyfryd a doniol. Weithiau rydym yn mynd ar deithiau i'r Iseldiroedd i ddiolch iddynt am bopeth maent yn ei wneud i helpu Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, gan gynnwys Guy Gibson. Mae'r mynwentydd yno mor daclus - maent yn ddiolchgar i bobl Prydain am Ymgyrch Manna, cenhadaeth ddyngarol i ddarparu bwyd yn ystod y rhyfel, a'u rhyddhau yn y pen draw. Mae'r grŵp yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth y cyhoedd, ar gofio ac adrodd stori'r Dambusters. Er mwyn atgoffa pawb mai pobl ifanc yn eu harddegau a'u hugeiniau oedd y rhain yn mynd allan. Guy Gibson arweiniodd y cyrch – dim ond 26 oed ydoedd pan fu farw. Yn yr un modd, rwyf innau ar y pwyllgor sy'n trefnu Gorymdaith y Cofio drwy Benarth bob blwyddyn - credwn ei fod yn bwysig iawn - ac rwy'n arweinydd ar y tîm sy'n trefnu ymgyrch casglu arian pabi'r Lleng Brydeinig Frenhinol bob blwyddyn. Rwy'n trefnu'r rota ar gyfer hwnnw a'r cyflenwadau, ac mae gennym lawer o wirfoddolwyr – mae'n hyfryd. Mae'r bobl mor barod i roi o'u hamser ac mae pawb mor garedig yn prynu pabïau, fel eu bod nhw wirioneddol yn ei fwynhau. Maent yn dychwelyd bob blwyddyn, yn enwedig i werthu'r pabïau. Enillais wobr y llynedd yn seremoni Gwobrwyau Cyn-filwyr Cymru am fy ngwaith cymunedol gyda Woody's a Group 617. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn metel trwm ac roedd y noson wobrwyo ar yr un noson â chyngerdd Rammstein yng Nghaerdydd, ac roedd gen i docyn iddo. Ni feddyliais y byddwn i'n ennill, ond roedd yn rhaid i mi fod yno gan fy mod i wedi cael fy enwebu. Pan gyhoeddwyd fy mod i wedi ennill, es i ar y llwyfan a dweud y dylwn i fod yng nghyngerdd Rammstein – roedd pawb yn chwerthin. Ond doeddwn i ddim yn disgwyl ennill o gwbl. - PC Kath Fisher, Swyddog Cefnogaeth Awyr, sydd ar secondiad ar hyn o bryd i Wasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS)
|
Rwy'n dioddef o arthritis gwynegol, sy'n glefyd llidiol ac awto-imiwn. Yn syml, mae'n golygu bod fy system imiwnedd yn ymosod ar gelloedd iach yn fy nghorff drwy gamgymeriad, gan achosi i'r rhannau o'r corff yr effeithir arnynt i chwyddo'n boenus. Ar y cymalau mae arthritis gwynegol yn ymosod yn bennaf, a sawl cymal ar yr un pryd fel arfer. Dechreuais gael symptomau pan oeddwn yn 46 oed, ond roeddwn yn meddwl eu bod yn deillio o bethau eraill: roedd yn bur debyg bod fy hormonau a fy emosiynau yn wyllt; roeddwn i angen mwy o goffi neu gwsg a gwneud mwy o ymarfer corff;roedd angen i mi golli pwysau. Wedi i mi gael diagnosis flwyddyn yn ddiweddarach, ar ôl cael nifer o brofion, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd ei dderbyn ac nid oeddwn yn deall y clefyd mewn gwirionedd. Pam na allwn i frwydro drwy'r boen a'r blinder? Meddyliais, ‘dim ond arthritis yw e’, ‘rwy'n rhy ifanc iddo fod yn rhywbeth difrifol’, a ‘rwy'n edrych yn berffaith iach’. Ond mewn gwirionedd, roeddwn i bellach yn byw gyda chlefyd awto-imiwn a oedd yn gwneud pethau y tu mewn i mi nad oedd yn bosibl i mi eu hanwybyddu. Penderfynais frwydro yn erbyn fy ngelyn newydd. Roedd angen help gan arbenigwr arna i, yn ogystal â meddyginiaethau addasu clefydau a rhagor o wybodaeth. Un o'r ffyrdd gorau i frwydro, wedi'r cyfan, yw drwy'r hyn a ddysgwn. Addysgu fy hun, ac addysgu'r bobl o fy amgylch. Ar ôl darllen popeth posibl ar-lein, gweithio gyda Versus Arthritis a cheisio cymaint o wybodaeth â phosibl gan fy meddyg, dechreuais deimlo'n gyfforddus wrth esbonio beth yw arthritis gwynegol i fy nheulu a ffrindiau. Rwyf am i bobl ddeall mai clefyd awto-imiwn yw arthritis gwynegol a'i fod yn gyflwr cronig nad oes posibl gwella ohono. Mae system imiwnedd iach yn amddiffyn y corff drwy frwydro yn erbyn ymyrwyr estron, fel firysau a bacteria. Mewn clefyd awto-imiwn, mae'r system imiwnedd yn credu mai ymyrwyr estron yw meinweoedd yr unigolyn. Yn achos arthritis gwynegol, synofiwm yw'r meinwe sy'n amgylchynu'r cymalau. Mae hyn yn annog proses llidiol sy'n achosi symptomau amlwg arthritis gwynegol, sef chwyddo a phoen, a all arwain at namau corfforol ac anableddau. Gan fod arthritis gwynegol yn glefyd systemig, gall y llid hwn effeithio ar y corff cyfan - y croen, llygaid, yr ysgyfaint, y galon, yr arennau, y chwarennau poer, meinwe'r nerfau, mêr esgyrn a'r pibellau gwaed, ymhlith eraill. Nid poen yn y cymalau yw'r unig symptom. Mae poen, chwyddo, blinder, anhwylder, twymyn, anhawster gwybyddol, problemau cofio, meddwl pŵl, colli/magu pwysau ac iselder yn symptomau cyffredin neu sgileffeithiau arthritis gwynegol nad ydynt yn gysylltiedig â'r cymalau. Mae'n rhaid i ni hefyd ddelio â chydafiacheddau – er enghraifft, clefyd y galon neu'r ysgyfaint – sy'n gwaethygu ein symptomau. Nid poen yw'r symptom mwyaf cyson nac yr un sy'n effeithio arnom fwyaf chwaith. Fel arfer, blinder a meddwl pŵl yw'r symptomau rwy'n eu profi fwyaf. Mae'r rhain wedi effeithio ar fy mywyd gwaith ac rwyf wedi gorfod gweithio'n rhan amser o ganlyniad i hynny. Rwyf hefyd yn brwydro â fy mhwysau gan fod y clefyd yn effeithio ar fy symudedd. Rwyf am i bobl ddeall bod arthritis gwynegol yn wahanol i osteoarthritis. Er bod y ddau glefyd yn debyg mewn sawl ffordd, maent hefyd yn wahanol. Osteoarthritis yw'r clefyd mwyaf cyffredin ac adnabyddus o'r ddau ac yn cynnwys colli cartilag rhwng cymalau yn sgil oedran, traul neu anaf. Gall achosi poen ac anabledd difrifol. Dydw i ddim yn ceisio lleihau difrifolwch y clefyd mewn unrhyw ffordd, ond nid yw osteoarthritis yn glefyd awto-imiwn, felly mae'r driniaeth a chwrs datblygiad y clefyd yn wahanol iawn i'r rhai ar gyfer arthritis gwynegol. Hyd yn oed nawr, wrth geisio esbonio fy salwch wrth rywun, mae nifer fawr o bobl yn ymateb drwy ddweud “O, mae fy Mam-gu yn dioddef o'r clefyd” neu “Rwy'n credu fy mod i'n dioddef o'r clefyd yn fy mhen-glin”. Yn anffodus, mae osteoarthritis yn arthritis eilaidd y mae cleifion arthritis gwynegol yn ei ddioddef hefyd. Rwy'n dioddef o osteoarthritis yn fy mhengliniau ac mewn un cymal yn fy nghlun ac rwyf wedi cael pigiadau cortison yn ddiweddar er mwyn helpu i leddfu'r boen. Mae meddyginiaethau cyfansawdd ar gael. Cafodd methotrexate ei ragnodi i mi gan fy meddyg, sef meddyginiaeth gyffredin a'r gyntaf a ddefnyddir i drin arthritis gwynegol. Nid yw'r meddyginiaethau a ddefnyddir i drin arthritis gwynegol heddiw yn trin poen a chwyddo yn unig. Mae cyffuriau addasu clefydau gwrthriwmatig, neu DMARD, yn addasu'r system imiwnedd er mwyn helpu i atal y llid.Cyn i mi gael y diagnosis o arthritis gwynegol, nid oeddwn yn gwybod y gallai cemotherapi drin unrhyw glefyd arall ar wahân i ganser. Ond, roedd methotrexate yn cael ei ddefnyddio'n wreiddiol fel math o gemotherapi. Yna, gwnaeth ymchwilwyr ganfod y gellir hefyd ei ddefnyddio — mewn dosiau llawer iawn llai — i drin mathau penodol o arthritis llidiol. Nid yw methotrexate ar gyfer arthritis gwynegol yn achosi'r un graddau o sgileffeithiau ag y mae dosiau o gemotherapi, ond gall achosi sgileffeithiau yr un fath, gan gynnwys cyfog, problemau GI, colli gwallt neu'r gwallt yn teneuo. Roedd yn rhaid i mi gael profion ar fy iau yn fisol ac nid oeddwn yn gallu yfed alcohol wrth gymryd y cyffur. Mae'n ddigwyddiad prin lle na fydd claf arthritis gwynegol yn gorfod treialu a methu er mwyn dod o hyd i'r feddyginiaeth gywir, neu gymysgedd o feddyginiaeth, a fydd yn gweithio iddynt. Rwyf wedi treialu 11 o feddyginiaethau gwahanol hyd yma, gan gynnwys methotrexate, hydroxychloroquine, sulfasalazine, prednisolone, leflunomide ac Imraldi. Rwyf bellach ar feddyginiaeth fiolegol o'r enw Humira y mae'n rhaid i mi ei chwistrellu i mewn i fy stumog neu'r forddwyd bob pythefnos. Mae meddyginiaethau biolegol yn gyffuriau addasu clefydau newydd sy'n rhan o gategori a gaiff ei dargedu'n fwy. Rwy'n chwistrellu'r feddyginiaeth hon ac yn cymryd pedair tabled gwrthlidiol ac un tabled i amddiffyn y stumog. Rwyf hefyd yn cael pigiad Fitamin B12 bob 12 wythnos gan fy mod yn anemig, sydd yn gydafiachedd cyffredin arall ochr yn ochr ag arthritis gwynegol. Mae arthritis gwynegol, a rhai o'r meddyginiaethau a ddefnyddir i'w drin, yn effeithio ar y system imiwnedd, sy'n arwain at fwy o heintiau. Gall arthritis gwynegol gynyddu'r risg o rydwelïau yn caledu neu'n cau, yn ogystal â llid ar y sach sy'n amgylchynu eich calon. Mae'r rhai sy'n dioddef o arthritis gwynegol yn wynebu risg uwch o lid ar feinweoedd yr ysgyfaint neu greithiau. Rydym yn wynebu risg uwch o gael lymffoma, diabetes, clefyd y galon, gordewdra a chlefyd yr ysgyfaint. Dim ond dechrau'r rhestr o gydafiacheddau yw'r rhain. Gan fy mod yn cael fy ystyried fel rhywun sy'n wynebu risg uchel a gyda system imiwnedd gwan, rwyf wedi cael wyth brechiad COVID-19 hyd yma. Er hynny, rwyf wedi cael COVID-19 ddwywaith a arweiniodd at niwmonia. Rwy'n ceisio peidio â gorfeddwl am y canlyniadau hirdymor o ddioddef o arthritis gwynegol a dal ati. Rwy'n cael fy ystyried yn anabl ac mae gennyf Fathodyn Glas ar gyfer fy nghar. Ni allaf gyfrif y niferoedd o achosion rwyf wedi clywed sylwadau fel “does dim byd yn bod arni hi” a “bathodyn Mam-gu”. Gwnaeth gwraig oedrannus weiddi arnaf hyd yn oed gan ddweud, ochr yn ochr â pheth rhegfeydd, na ddylwn fod wedi parcio yno gan nad oedd unrhyw beth yn bod arna i. Dyna bleserau dioddef o salwch cudd! Yr unig beth rwy'n dymuno yw cael fy nhrin â charedigrwydd a thosturi. Os gallaf helpu rhywun i ddeall y cyfyngiadau sy'n deillio o'r clefyd hwn, yna byddaf wedi gwneud ychydig o wahaniaeth. Nid ydym yn anghofus nac yn annibynadwy, er enghraifft, ond yn hytrach mae'n un o sgileffeithiau ein clefyd. Dim ond ffrind sydd ei angen arnom weithiau, a throeon eraill mae angen help emosiynol neu gorfforol arnom. Gall ychydig o gefnogaeth feddwl y byd i ni, mewn ffyrdd na all meddyginiaeth na gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ein helpu. Ac yn ffodus, mae gen i ŵr, teulu a ffrindiau arbennig sy'n deall. - Sam Spiteri, Swyddog Ymholiadau'r Orsaf gyda #TîmHDC. |
Rwyf wedi bod yn gwirfoddoli gyda'r Samariaid ers tua phum mlynedd. Gofynnodd fy chwaer, a oedd yn gyfarwyddwr y gangen ar y pryd, a fyddwn yn hoffi bod yn ymddiriedolwr ac yn wirfoddolwr cymorth er mwyn ymgymryd â rôl ysgrifennydd y gangen. Roedd hi'n gwybod fy mod yn dda am drefnu, gwneud gwaith gweinyddol ac ati, felly gofynnodd a fyddwn yn ystyried y peth. Bu'n rhaid i mi feddwl am y peth, er dim ond am ychydig, am fy mod eisoes yn gwneud cryn dipyn: gwirfoddoli gyda'r Geidiau, gweithio swydd llawn amser a rhan-amser, ac ymrwymiadau teuluol wrth gwrs. Rwy'n credu mai'r peth mwyaf a effeithiodd ar fy mhenderfyniad i gefnogi'r Samariaid oedd hanes ein teulu a'n ffrind, y pethau roeddem wedi bod drwyddynt, yn enwedig y rheini a gymerodd eu bywydau eu hunain. Roeddwn yn ymwybodol iawn o sefydliad y Samariaid ond roeddwn yn gobeithio na fyddwn byth yn teimlo bod angen i mi ddefnyddio'r gwasanaeth. Fodd bynnag, cafodd cais fy chwaer gryn effaith arnaf. Roedd hi wedi bod ‘wrandäwr’ ers blynyddoedd lawer cyn dod yn rheolwr y gangen, ac roedd fy merch hefyd wedi bod yn wrandäwr am gyfnod cyn dilyn gyrfa ym maes cwnsela. Roeddwn yn teimlo mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud, yr angen i roi rhywbeth yn ôl, parhau i roi i bobl eraill, gwneud pethau da a rhoi help llaw. Meddyliais am adegau pan oedd pethau wedi digwydd yn ein bywydau a byddwn wedi gwerthfawrogi gallu siarad â rhywun. Mae gan y Samariaid system cylchdroi rolau ar ôl tair blynedd. Rwyf wedi cwblhau fy nghyfnod i ac rwyf bellach yn gydlynydd codi arian. Fel popeth arall, does dim byd yn digwydd gydag un person yn unig – mae angen ymdrech tîm. Felly rydym yn gweithio ar ddigwyddiadau gwahanol a ffyrdd o godi arian yn gyson. Mae'r Samariaid yn dibynnu ar wirfoddolwyr a chaiff y sefydliad ei ariannu gan roddion caredig felly, i gadw'r llinellau ffôn ar agor, mae angen arian i gadw'r gangen ar agor er mwyn i'r gwrandawyr aros ar y ffôn. Mewn rhai ffyrdd, mae'n debyg i fy rôl yma gyda'r heddlu – y swyddogion y mae pawb yn eu gweld, ond mae'n rhaid cael llawer o bobl eraill yn y rolau cefnogol hynny er mwyn parhau i ddarparu'r gwasanaeth. Mae'r gwrandawyr yn anhygoel, ond mae dros 100 o wirfoddolwyr eraill ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n codi arian, yn codi ymwybyddiaeth, yn trefnu rotâu i sicrhau bod y llinellau ffôn ar agor, ac yn gwneud yn siŵr bod digon o de a bisgedi hyd yn oed. Pan fydd pobl yn gwirfoddoli, mae'r pethau bach hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr. Fel pob elusen, aeth y Samariaid drwy gyfnod anodd iawn yn ystod pandemig COVID-19, ond llwyddodd i aros ar agor drwy'r rhan fwyaf o'r sifftiau oherwydd ymroddiad llwyr y gwirfoddolwyr. Eleni, bydd Samariaid Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu eu hanner canmlwyddiant a 70 mlynedd ers dechrau'r sefydliad ei hun, felly rydym yn brysur yn trefnu dathliadau a digwyddiadau ar gyfer hynny. Mae Samariaid Pen-y-bont ar Ogwr newydd gwblhau taith gerdded 6.5 milltir gyda'r dyn tywydd, Chris Jones, yn Llanilltud ac o gwmpas Southerndown ac Aberogwr. Cawsom gwmni'r hanesydd Graham Loveluck-Edwards hefyd, a fu'n sôn am hanes yr ardaloedd ble roeddem yn cerdded. Roedd yn ddiwrnod hyfryd gyda digon o hwyl a'r cyfan ar gyfer achos pwysig iawn. Roeddem yn gwisgo ein crysau-T gwyrdd llachar ac roedd fan y Samariaid o gwmpas yn codi ymwybyddiaeth. Mae bob amser angen gwirfoddolwyr i helpu unrhyw elusen i barhau i weithredu. Bydd rhai pobl yn gwirfoddoli am gyfnod ond efallai'n rhoi'r gorau iddi oherwydd amgylchiadau neu ymrwymiadau gwahanol, neu efallai y byddant am gymryd cam yn ôl o'r rôl wrando, felly mae carfanau newydd o wirfoddolwyr yn cael eu hyfforddi bob amser. Bydd pobl bob amser yn siarad yn falch am ba mor dda yw'r hyfforddiant am baratoi a chefnogi gwirfoddolwyr. Os oes diddordeb gan rywun, byddwn yn ei annog i ymchwilio i'r peth a chysylltu â ni. Gallwch wneud cais drwy'r wefan lle mae digon o wybodaeth ar gael. Hyd yn oed os nad ydych yn awyddus i wirfoddoli, byddwn yn annog unrhyw un i edrych ar-lein er mwyn deall mwy a gweld y cymorth ar-lein sydd ar gael. Mae gwybodaeth ddiddorol am natur a nifer y galwadau y mae'r Samariaid yn eu cael, sy'n llawer mwy nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli a dweud y gwir. Mae gennym wrandawyr o bob math; cymysgedd go iawn o oedrannau, personoliaethau a chefndiroedd, felly gall pobl ddod â llawer o brofiad ac agweddau ar eu bywydau eu hunain i'r rôl. Er mwyn bod yn wrandäwr, bydd angen i chi gwblhau chwe wythnos o hyfforddiant trylwyr ac yna ddechrau gweithio sifftiau gyda mentor cyn gwneud hyd yn oed mwy o hyfforddiant am chwe mis arall. Mae mentoriaid yn rhannu'r galwadau ac yn gwrando arnynt unwaith y byddwch wedi cwblhau'r hyfforddiant cychwynnol nes eich bod yn barod i roi cynnig arni ar eich pen eich hun fel gwrandäwr ar gyfnod prawf. Ond ni fyddwch ar eich pen eich hun go iawn oherwydd byddwch bob amser ar sifft gyda gwirfoddolwr arall a bydd arweinydd sifft ar gael cyn, yn ystod ac ar ôl pob sifft hefyd. Bydd gwrandawyr yn cael sgwrs â'r arweinydd ar ddiwedd eu sifftiau am ei bod yn bwysig eu bod yn cael cyfle i siarad am unrhyw beth a oedd yn arbennig o heriol i ymdrin ag ef, yn anodd i'w glywed, neu a gafodd effaith arbennig arnynt cyn iddynt fynd adref, gan fod unrhyw beth y bydd person yn ei ddweud wrth un o wrandawyr y Samariaid yn ystod galwad yn gyfrinachol. Mae gwirfoddolwyr yn gofalu am ei gilydd er mwyn sicrhau bod eu hiechyd a'u llesiant personol yn dda. Mae gwrandawyr yno i wrando, gan roi amser a chyfle i'r rheini sy'n ffonio rannu eu teimladau sut bynnag y maen nhw'n dymuno. Maen nhw'n rhoi'r cyfle hwnnw i bobl, cyfle i siarad am sut maen nhw'n teimlo a meddwl am eu sefyllfa. Weithiau mae'n haws siarad â rhywun dieithr nad yw'n gwybod unrhyw beth amdanoch chi ac, am fod y gwasanaeth ar gael 24/7, mae gwrandawyr yno pan fydd pobl yn aml yn teimlo na allant droi at unrhyw un nac unrhyw le arall. I mi yn bersonol, nid wyf yn teimlo y gallwn aros yn ddigynnwrf ar y ffôn wrth siarad â galwyr, felly rwy'n gwybod na fyddai ateb galwadau yn gwneud unrhyw les i'r galwyr na fi. Fel ein swyddogion derbyn galwadau yma yn HDC, mae angen math penodol o berson i wneud y rôl honno. Rwy'n gweithio yn unol â'm cryfderau ac rwy'n hapus mewn rôl gefnogol, gan helpu pethau i redeg yn esmwyth. Mae'n bwysig iawn bod y bobl hyn yno i sicrhau bod modd ateb y ffonau, felly mae angen ymdrech tîm ac amrywiaeth o rolau sy'n addas i bawb. Bûm yn gwirfoddoli gydag Ambiwlans Sant Ioan pan oeddwn yn iau, a bûm yn gwirfoddoli gyda'r Geidiau am dros 22 o flynyddoedd, gan roi'r gorau iddi er mwyn gallu treulio mwy o amser gyda fy wyrion a'm hwyresau. Roedd fy merched i gyd hefyd wedi gwirfoddoli mewn rhyw ffordd ac fe wirfoddolodd fy merch ganol gyda'r Samariaid am gyfnod cyn mynd i'r brifysgol ac ymlaen i fod yn uwch-gwnselydd. Mae'r ddwy ferch arall yn feddygon. Mae'n rhaid bod rhywbeth yn ein genynnau felly, mae gan bob un ohonom y natur ofalgar honno ac am roi rhywbeth yn ôl. Pan oedd fy merch yn bump oed cafodd ddiagnosis o Ddiabetes Math 1, a doedden ni'n gwybod dim amdano. Darllenais bob llyfr y gallwn gael gafael arno a chasglu cymaint o wybodaeth â phosibl o'r ysbytai, ond nid oedd gennym y math o wybodaeth na phobl i siarad â nhw fel sydd ar gael nawr. Mae’r pethau hyn wedi gwneud i mi feddwl ‘pe bai dim ond rhywun wedi bod yno i mi’. Roedd pethau'n wahanol bryd hynny, roedd yn heriol iawn ac yn sefyllfa eithaf unig hefyd. Yn ffodus, mae pethau wedi newid erbyn hyn, a gwnaethom gymryd rhan mewn sesiynau cefnogi cymheiriaid i Diabetes Cymru er mwyn helpu teuluoedd eraill a oedd newydd gael diagnosis. Gallwch ddarllen yr holl lyfrau a siarad â'r gweithwyr meddygol proffesiynol, ond wrth fyw gyda'r cyflwr o ddydd i ddydd a'r pethau bach sy'n codi rydych yn sylweddoli ‘Byddai'n dda gallu siarad â rhywun sydd wedi bod drwy hyn’. Weithiau mae dim ond siarad â rhywun am rywbeth yn bwysig iawn am ei fod yn rhoi mwy o bersbectif i chi. Nid oes rhaid iddynt fod yn mynd drwy'r un peth â chi, ond mae'n rhoi'r amser hwnnw i chi anadlu, rhannu pethau sydd ar eich meddwl a'i glywed yn uchel yn hytrach nag yn eich meddyliau eich hun, ac weithiau mae hynny'n ddigon i wneud i chi sylweddoli ‘doedd hynny ddim cynddrwg ag yr oeddwn i wedi'i feddwl’. Y cyfan sydd ei angen arnom weithiau yw rhywun i gydymdeimlo. Mae wastad rhywun yn rhywle i wrando. Ac rwy'n meddwl mai dyna'r peth hollbwysig – mae siarad mor bwysig. Er bod y Samariaid yn elusen adnabyddus, nid yw'n golygu ei bod yn hawdd sicrhau bod arian yn dod i mewn. Yr hyn nad yw pobl yn ei sylweddoli yw bod mwy na dim ond y llinellau ffôn. Maen nhw'n mynd i'r carchar lleol ac yn hyfforddi carcharorion i fod yn wrandawyr, fel estyniad o'r Samariaid. Yn ystod pandemig COVID-19, sefydlodd y Samariaid linell ar gyfer y GIG hefyd fel y gallai gweithwyr meddygol proffesiynol siarad â gwrandawyr a oedd wedi cael hyfforddiant ychwanegol drwy ddefnyddio rhif uniongyrchol. Mae Samariaid Pen-y-bont ar Ogwr yn adnabyddus ledled Samaritans UK am eu gwaith allgymorth ‘Feet on the Street’, lle maen nhw'n mynd â'r fan i ganol y dref ar nos Wener neu nos Sadwrn i gynnig lle diogel i bobl fynd os byddant yn teimlo'n fregus neu am siarad â rhywun. Mae gan Samariaid Cymru linell Gymraeg hefyd y gall siaradwyr Cymraeg ei ffonio er mwyn siarad yn eu mamiaith. Gan eich bod yn ffonio rhif cenedlaethol am ddim, mae'n debyg y byddwch yn siarad â gwrandäwr gwahanol bob tro, ond mae pob un yn cael yr un hyfforddiant a byddant yn eich cefnogi ar yr alwad. Nid yw gwrandawyr byth yn gwybod beth yw canlyniad galwad, neu a yw'r alwad wedi gwneud gwahaniaeth, ond pan fyddaf yn siarad â'r gwrandawyr gallant gael ymdeimlad yn aml eu bod wedi helpu i newid ffordd rhywun o feddwl, ac achub bywyd rhywun o bosibl oherwydd gallant glywed y gwahaniaeth yn eu llais erbyn iddynt orffen yr alwad. Mae'n beth anhygoel i'w wneud. Mae wir yn wasanaeth gwerth chweil – yn enwedig gyda chynifer o bobl yn dioddef a'r argyfwng iechyd meddwl y dyddiau hyn – bydd pobl yn aml yn teimlo eu bod ar eu pen eu hunain ac mae'n rhywle y gallant droi ato. Rhywun i siarad ag ef. Rwy'n siŵr y byddaf yn gwneud hyn am gryn amser eto – sut mae troi cefn ar rywbeth felly? Melanie Thalayasingam, Cynorthwyydd Cyfathrebu a Threftadaeth gyda #TîmHDC |
Roedd sawl aelod o’r teulu wedi bod yn sâl – bu farw fy modryb o ganser y fron yn yr 80au pan oedd pobl yn marw o ganlyniad i lawer o glefydau o'r fath, ac rwyf bob amser yn cofio fy nhad yn dweud ei bod hi wedi marw am nad oedden nhw wedi gallu rhoi digon o waed iddi. Arhosodd hynny gyda mi ac ar ddiwrnod fy mhen-blwydd yn 18 oed, es i Ganolfan Hamdden Llantrisant er mwyn rhoi gwaed am y tro cyntaf. Tra roeddwn i yno, gofynnon nhw i mi ymuno â'r gofrestr mêr esgyrn. Gwnaethon nhw dynnu ffiol fach o'r fraich arall, a feddyliais i ddim rhagor am y peth. Rwyf wedi bod yn rhoddwr gwaed rheolaidd byth ers hynny – ac wedi rhoi 179 o weithiau erbyn hyn – ac yna, tua deufis yn ôl, rhyw 26 mlynedd yn ddiweddarach, cefais alwad ffôn i ddweud fy mod yn gyfatebiad posibl. Roeddwn i'n cymryd fy mod i'n un o lawer o bobl a oedd yn gyfatebiad posibl, a gofynnon nhw i mi fynd i gael rhagor o brofion gwaed i gadarnhau. Felly, es i Wasanaeth Gwaed Cymru yn Nhonysguboriau, a rhoddais ychydig o samplau. Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, gwnaethon nhw gadarnhau fy mod yn gyfatebiad sicr. A dyna 'ny. Roeddwn i am fod mor iach â phosibl ar gyfer y driniaeth, felly y diwrnod hwnnw, rhoddais y gorau i fwyta bara, siwgr, losin, y danteithion i gyd. Bywyd rhywun arall oedd yr unig gymhelliant yr oedd ei angen arna i. Yn y cyfamser, cadwais mewn cysylltiad rheolaidd â nyrsys, meddygon ymgynghorol, ac aelodau eraill y tîm, pob un ohonyn nhw'n gwneud yn siŵr fy mod yn iawn, ac ati. Gyda phob tegwch, allen nhw ddim gwneud digon. Yna cefais wybod mai fi nid yn unig oedd y cyfatebiad agosaf ar gyfer y person hwn, ond yr unig gyfatebiad. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae rhai pobl yn fwy ffodus nag eraill ac yn fwy tebygol o ran geneteg o gael mwy nag un opsiwn. Ond doeddwn i ddim yn teimlo dan bwysau gan y tîm i wneud dim – roedd llawer o frwdfrydedd a llawer o anogaeth, ond dim pwysau. Roedden nhw bob amser yn ystyried fy lles, bob cam o'r ffordd. Wrth i'r dyddiad agosáu, es i am y sgwrs fawr yn Nhonysguboriau er mwyn gwneud yn siŵr fy mod yn gwbl hapus i roi, a sicrhau fy mod yn deall y broses, y goblygiadau ac ati. Ar ôl i mi ymrwymo wedyn, dechreuodd y claf gael cemotherapi a radiotherapi am yr wythnosau a oedd yn weddill. Roedd hyn yn golygu y byddai ei gyfrif gwaed yn cael ei ddileu i sero fel ei fod yn barod i dderbyn fy un i. Mae'n debyg mai ar y pwynt hwnnw y daeth y cyfan yn real iawn – gan wybod mai fi oedd yr unig gyfatebiad, a'r hyn y byddai'n rhaid iddo fynd drwyddo yn y cyfamser. Yna bant â mi i Landochau i gael y prawf meddygol, a dyna pryd y cefais wybod ychydig mwy am y person. Cefais wybod ei fod yn byw dramor, ac ychydig o fanylion eraill na fyddai'n briodol i mi eu rhannu. Ac yn amlwg, dim ond ychydig bach iawn o fanylion y mae hawl gen i eu gwybod. Ond roedd gwybod mai fi oedd yr unig gyfatebiad i ddyn a oedd yn byw mewn gwlad arall yn syfrdanol – efallai fyddwn i ddim hyd yn oed yn gyfatebiad i fy mhlant fy hun – dyna'r ffaith fwyaf rhyfedd. Dim ond i'r unigolyn hwn y galla i roi nawr, os bydd angen rhagor o roddion arno, neu, o bosibl, i fy mhlant. Fyddan nhw ddim yn fy ystyried i ar gyfer neb arall yn y byd mwyach, gan mai fi yw unig gyfle'r unigolyn hwn yn y bôn, felly fi yw ei dap nawr! Wythnos cyn y driniaeth, daeth nyrs i'r tŷ i roi pigiad i mi â chyffur o'r enw GSCF, sy'n gwneud i'ch esgyrn ryddhau bôn-gelloedd i mewn i'ch gwaed. Felly, mae eich cymalau i gyd, eich cefn, eich coesau, yn brifo – rydych chi'n teimlo fel eich bod wedi cael eich curo. Nid yw'n boen fel petai, ond yn boenau cyson, ac rydych chi wedi blino'n lân. Allwn i ddim sefyll am fwy o 20 eiliad ar y tro. Ar ddiwrnod y driniaeth, daeth fy ngwraig gyda mi i Ganolfan Ganser Felindre. Aethon ni yno erbyn 7am ac rydych chi'n cerdded i mewn ac mae pawb o'ch amgylch yn sâl ac yn glaf. Roedd yn agoriad llygad ac yn brofiad emosiynol iawn. Roedd yn deimlad rhyfedd cerdded i mewn fel rhywun iach, ond roeddwn i'n gwybod fy mod yno i geisio helpu rhywun a oedd yn yr un sefyllfa â nhw. Mae dwy ffordd wahanol o roi mêr esgyrn – un lle rydych chi'n cael triniaeth o dan anesthetig ac yn treulio noson yn yr ysbyty, heb fawr ddim sgil-effeithiau. Rydych chi'n cael pigiadau o asgwrn eich pelfis, felly rydych chi’n teimlo ychydig o boen cefn am ychydig wythnosau wedyn. Y ffordd arall yw'r broses afferesis, sef yr hyn a gefais i. Mae'n debyg i beiriant dialysis a dweud y gwir – maen nhw'n ei dynnu o un ochr, yn ei hidlo ac yna’n ei ddychwelyd drwy’r fraich arall. Roeddwn i’n sownd wrth y peiriant am oriau maith, heb allu bwydo fy hun na gwneud dim, ond mae pawb yn y tîm yn wych; allan nhw ddim gwneud digon i chi. Gwnaethon nhw gymryd rhai samplau yn y bore a dywedon nhw wrtha i, “os yw’r feddyginiaeth wedi gwneud ei gwaith, rydyn ni’n gobeithio casglu 40 o rannau fesul triliwn yn y ffiol hon’. Pan ddaeth y sampl yn ôl tua chanol dydd dywedon nhw fod popeth wedi mynd yn dda iawn a’u bod wedi casglu 123 o rannau fesul triliwn. Ar ddiwedd y dydd, tua 5pm, dywedon nhw wrtha i fod y rhodd gyfan wedi cael ei chludo i Donysguboriau a’i chyfrif a bod mwy na 700 o rannau fesul triliwn, a bod angen 413 ar y claf, felly roeddwn i wrth fy modd. Rwy’n gwybod bod y claf wedi cael y trawsblaniad, a’i fod wedi bod yn llwyddiannus. Mae gan y wlad lle mae'n byw reolau llym iawn o ran diogelu data, felly fydda i ddim yn cael unrhyw fanylion am y person, ond rwy’n gwybod mân bethau amdano. Ddwy flynedd ar ôl y driniaeth, mae hawl ganddo i wybod pwy ydw i, ac mae hawl gen i wybod pwy yw e’, os bydd yn cytuno i hynny. Byddwn i wrth fy modd yn cwrdd ag ef. Bydda i’n mynd ar wyliau cyn bo hir – gallwn i fod yn cerdded o amgylch archfarchnad, a gallai e’ fod yn sefyll wrth fy ymyl a byddwn i byth yn gwybod. Efallai ei fod wedi gwneud rhywbeth gwych gyda'i fywyd, ac yn bwysig, efallai ei fod nawr yn gallu ei wneud o hyd, ac mae hynny’n syniad braf. Cafodd tad fy ngwraig aren yn rhodd, a bu’n byw gyda honno, heb ddialysis, am ryw ugain mlynedd. Rwy’n gwybod sut mae marwolaeth a rhoi wedi effeithio arna i, ac os galla i wneud y gwahaniaeth hwnnw i deulu rhywun arall, does dim angen meddwl ddwywaith. Rwy’n gallu deall pam y gallai rhai pobl newid eu meddwl – mae llawer i’w ystyried a nhw sydd biau’r dewis – mae’n rhaid iddo fod yn iawn iddyn nhw. Ond i mi, roedd yn benderfyniad hawdd. Rwy’n teimlo’n gryf iawn dros roi gwaed, ac mae fy mhlant yn falch iawn o’r hyn rwyf newydd ei wneud ac yn meddwl ei fod yn wych bod rhywun wedi cael cyfle arall ar fywyd o ganlyniad i fy rhodd i. Mae wedi bod yn wers wych iddyn nhw, ond nid dyna’r unig reswm pam benderfynais i roi. Mae’r gwasanaeth gwaed eisoes wedi gofyn i mi a fyddwn i’n barod i fynd drwy’r cyfan eto, os bydd angen rhodd arall ar y person, ac rwyf wedi dweud y byddwn i, heb amheuaeth. Mae'n brofiad anodd a blinedig, ond mae wedi rhoi cynnig arall ar fywyd iddo. Os gallwn roi i fwy o bobl, byddwn i’n gwneud hynny, yn sicr. Collodd fy nhad ei ddwy chwaer i ganser; bu farw ef wedyn o ganlyniad i gyflwr ar y galon, ar ôl iddo drechu canser; ac roedd fy mam yn gwella o ganser y fron pan fu farw flwyddyn yn ôl. Dyddiad ei marwolaeth oedd diwrnod y trawsblaniad. Mae'n codi pinnau bach arna’ i wrth feddwl am y peth, ond dyna’r rheswm pam rwy’n gwybod y byddwn i’n gwneud yr un peth eto, heb feddwl ddwywaith. - Swyddog y Ddalfa, Marc Smith |
Dwi'n wreiddiol o Iwerddon. Symudais i Gymru pan oeddwn yn ddeunaw i astudio dadansoddi perfformiad chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Roeddwn i erioed wedi bod eisiau ymuno â'r heddlu, ond ar y llaw arall, roeddwn i eisiau gyrfa mewn chwaraeon. Daeth Covid, felly ni weithiodd allan i mi. Dilynais fy nghalon ac ymunais â’r heddlu fel Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, ac rwy’n ei fwynhau’n fawr. Rwy'n awyddus i ymuno fel Cwnstabl Heddlu yn y dyfodol. Mynychais fy ffair glasfyfyrwyr, ac roedden nhw’n hyrwyddo camp o’r enw Aussie Rules, a elwir hefyd yn Australian Rules Football neu AFL. Edrychai'n ddiddorol ac roeddwn yn gwybod fy mod am roi cynnig arni. Mae’n debyg i rygbi, mae’n gamp gorfforol a chyflym ac rydym yn chwarae naw bob ochr. Tri amddiffynnwr, tri canol cae a thri blaenwr. Y nod yw cicio goliau, sy'n werth chwe phwynt. Rydych yn symud y bêl drwy ei chicio neu ei dyrnu â'ch dwrn. Dechreuais chwarae i dîm y brifysgol ac wrth i mi fynd yn hŷn, ymunais â thîm dynion Panthers Caerdydd. O’r fan honno, cefais fy newis i gynrychioli Cymru, yng nghystadleuaeth Cwpan Ewro. Mae’n teimlo’n rhyfedd yn cynrychioli Cymru pan dwi’n Wyddel, ond rwyf wedi byw yma ers pum mlynedd bellach, felly roedd yn cyd-fynd â’r meini prawf preswylio. Mae gen i'n bendant Falchder o Gymru ac rwy'n teimlo ei bod yn anrhydedd mawr. Byddaf yn teithio i Kiel yn yr Almaen ym mis Gorffennaf 2023 i gystadlu yng nghystadleuaeth Cwpan Ewro. Twrnamaint undydd yw hwn, ond byddwn yn mynd allan yna am dri i bedwar diwrnod. Mae 15 tîm dynion cenedlaethol a 10 tîm merched cenedlaethol yn cystadlu. Mae Dynion Cymru yn chwarae yn erbyn yr Almaen, Sweden, Israel a Gogledd Iwerddon yn y gemau grŵp ac rydym yn gobeithio gorffen ymhlith y ddau uchaf er mwyn cael lle yn y rownd gynderfynol. Y llynedd, llwyddodd Dynion Cymru i orffen yn bumed a llwyddodd Merched Cymru i orffen yn bedwerydd. Mae'r gamp wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi. Yn fy ail flwyddyn yn y Brifysgol, cefais fy newis i gynrychioli tîm Goreuon y Prifysgolion, a oedd yn cynnwys myfyrwyr o Gymru a Lloegr. Teithion ni a chwarae yn erbyn y myfyrwyr Gwyddelig gorau. Hwn oedd fy nhwrnamaint go iawn cyntaf ac roeddwn mor gyffrous bod gyda grŵp o chwaraewyr newydd. Ar y pryd, roeddwn i'n cynrychioli Met Caerdydd, a oedd yn wych ond nawr rwy'n teimlo mwy o falchder, yn cynrychioli Cymru. Rwyf wrth fy modd gyda chwaraeon ac mae'n anhygoel i'ch iechyd meddwl, ac rwyf wedi cwrdd â chymaint o bobl. Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd, dynion a merched o bob grŵp oedran ac mae wedi rhoi cymaint o hyder i mi. Roeddwn i’n gapten y tîm y llynedd a helpodd hynny fi gyda fy swydd nawr, gan fy mod yn fwy hyderus wrth arwain. Mae’n fwy na chael cwpl o ffrindiau newydd, mae’n rhan o grŵp cymdeithasol. Gall unrhyw un ymuno â’r tîm dynion neu fenywod, mae #PanthersCaerdydd yn chwilio am aelodau newydd bob amser. Rydyn ni'n chwarae yng nghynghrair Welsh AFL ac yn chwarae yn erbyn Vale Vikings, Bristol Dockers, a Chippenham Redbacks. Byddwn yn chwarae yn erbyn ein gilydd ddwywaith ac yna cawn ddiwrnod rownd derfynol. Weithiau rydym yn mynd i dwrnameintiau yn Iwerddon, yr Alban, a Lloegr, felly rydw i'n cael teithio'n aml. Ond gall fod yn gostus gydag amser. Mae wedi bod yn anodd. Rwyf wedi colli llawer o'r hyfforddiant, gemau a thwrnameintiau oherwydd fy rôl fel PCSO. Dyna pam cefais fy synnu fy mod wedi cael fy newis i gynrychioli Cymru, gan mai dim ond cwpl o gemau y llwyddais i'w chwarae. Ond rwy'n ymroddedig. Rwyf yn gwneud llawer o hyfforddi fy hun i gadw'n heini. Byddaf yn mynychu pan gallaf, yn chwarae'n dda ac yn gwneud fy ngorau. Tom Lindsay, PCSO gyda #TimHDC |
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn marchogaeth ceffylau, ac rwy’n cystadlu dros glybiau marchogaeth Caerdydd a’r Fro mewn cystadlaethau neidio ceffylau – mae fy chwaer a minnau wrth ein bodd yn gwneud hynny. Mae'r ddwy ohonom yn agos iawn ac mae gan y ddwy ohonom geffylau, ac rydym yn cystadlu ac yn marchogaeth gyda'n gilydd. Ar 14 Gorffennaf 2021, cawsom ddiwrnod i ffwrdd o'r gwaith ac awgrymodd fy chwaer y dylem fynd i farchogaeth ar y traeth. Aethom i Ynys y Barri lle buom yn carlamu ar y traeth ac yn mwynhau gyda'r ceffylau yn y môr. Cawsom ddiwrnod gwych ac roeddwn yn teimlo'n iawn. Gwnaethom ddychwelyd i'r iard wedi hynny, ac es ati i setlo fy ngheffyl cyn gadael. Ond yna, wrth yrru adref, roeddwn yn agos at Ganolfan Arddio Gwenfô, ac yn sydyn, roedd yn teimlo fel pe bai rhywun wedi fy nharo yng nghefn fy mhen â morthwyl. Roedd fel ffrwydrad yn fy mhen. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd. Roeddwn i'n meddwl fy mod yn cael trawiad ar y galon am fod fy nghalon yn rasio ac roeddwn i'n teimlo'n gyfoglyd iawn. Collais fy ngolwg yn fy llygad dde yn syth, a dechreuais golli teimlad yn fy mraich a fy nghoes dde. Rhywsut, llwyddais i wyro ar y llain laswellt a phwyso'r botwm ailddeialu ar fy ffôn. Doeddwn i ddim yn gwybod pwy fyddai ar y pen arall, ond wrth lwc, fy chwaer oedd yno, a oedd yn dal i fod ar yr iard. Sylwodd fy mod yn siarad yn aneglur ac nad oeddwn i'n gallu siarad yn iawn. Aeth yn syth i'w char a rhuthrodd i ddod o hyd i mi. Cyn gynted ag y daeth o hyd i mi, gallai weld bod fy wyneb wedi gostwng. Ffoniodd am ambiwlans, ond fyddai ddim wedi gallu fy nghyrraedd mewn pryd, felly bu'n rhaid iddi fy ngyrru i'r ysbyty. Roedd y daith yn anodd iddi oherwydd roeddwn i’n teimlo’n sâl, roedd gen i’r cur pen mwyaf erchyll, doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd i mi, ac roeddwn i’n wir yn meddwl fy mod ar fin marw. Pan gyrhaeddon ni’r Uned Damweiniau ac Achosion Brys, ceisiodd fy chwaer fy helpu i godi ond allwn i ddim cerdded – roedd fy nghoesau wedi methu'n gyfan gwbl. Mae'r gweddill yn hen hanes. Cefais fy rhoi mewn cadair olwyn a fy nghludo’n syth i'r Uned Damweiniau ac Achosion Brys. Oherwydd COVID-19, doedd neb yn gallu bod gyda fi. Daeth i'r amlwg bod gen i rwyg yn y brif rydweli yn fy ngwddf, a oedd wedi achosi clotiau gwaed ar ochr chwith ac ochr dde'r ymennydd, a gwaedlif bach. Dywedon nhw fod siawns o un mewn miliwn o hynny'n digwydd, yn enwedig i rywun fy oedran a fy iechyd i. Roeddwn i'n 49 oed, yn ffit ac yn egnïol, a doeddwn i ddim yn smygu. Roeddwn i'n arfer rhedeg 6k yn ystod fy awr ginio, rasys hanner marathon – roeddwn i cyn iached â'r gneuen. Fodd bynnag, dywedodd fy meddyg ymgynghorol wrtha i, yn ystod ei yrfa o 20 mlynedd, nad oedd erioed wedi gweld neb yn peidio â cholli ei leferydd a’i allu i lyncu ar ôl dioddef anafiadau mor eithafol â fy rhai i. Felly, mae'n meddwl efallai fod fy lefelau ffitrwydd wedi fy achub yn hynny o beth. Pan oeddwn yn gwella, dywedodd fy ngŵr "fyddai hynny ddim wedi digwydd beth bynnag, dim siawns, fyddai neb yn gallu cau dy geg di, byddai'n cymryd mwy na hynny!’ Treuliais ychydig dros bythefnos a hanner yn yr ysbyty. Oherwydd COVID-19, roedden nhw am i mi fynd adref cyn gynted â phosibl. Bu'n rhaid i mi symud i mewn gyda fy mam am ei bod hi'n byw ar un lefel. Doeddwn i ddim yn gallu cerdded nac ymolchi fy hun. Roedd hi'n anodd, oherwydd doeddwn i ddim yn gallu prosesu'r hyn oedd wedi digwydd. Pan fyddwch chi'n cael strôc neu unrhyw anaf i'r ymennydd, mae'n rhwystredig iawn. Yn fy meddwl i, roeddwn i'n gallu gweld pobl yn cerdded, ac roeddwn i'n gwybod mai dyna roedden nhw'n ei wneud, cerdded. Ond roedd fy nghorff wedi torri a gallai ddim gwneud y pethau hynny. Fel yr eglurodd y tîm meddygol, roedd fel cymryd yr un llwybr i'r gwaith bob dydd ac rydych chi'n adnabod y llwybrau hynny fel cefn eich llaw. Yn sydyn, mae’r ffyrdd hynny wedi’u chwalu ac mae’n rhaid i chi ddarganfod llwybr newydd er mwyn i chi allu cyrraedd y gwaith. A dyna, yn y bôn, oedd yn rhaid i fy ymennydd ei wneud. Roedd hi'n anodd. Roedd y cur pen yn arswydus, a'r blinder yn annioddefol. Ond rwy'n credu bod yr elfen gystadleuol ynof wedi fy helpu'n fawr. Pan gyrhaeddais adref, es i'n syth i'r gwely a meddwl i fi fy hun 'maen nhw'n anghywir, bydda i yn cerdded eto', ac er bod hynny'n swnio'n hurt, dyna roeddwn i'n ei feddwl. Gweithiais fy ffordd i ddiwedd y gwely a sefyll i fyny, cyn syrthio'n syth i'r llawr a tharo fy mhen a fy ochr. Rhedodd fy mam a fy ngŵr i mewn a gofyn beth roeddwn i'n ei wneud, a dechreuais feichio crio. Dyna pryd sylweddolais realiti'r sefyllfa. Sylweddolais nad oeddwn i'n iach. Doedden nhw erioed wedi dweud na fyddwn i'n cerdded eto, roedd y gobaith hwnnw yno bob amser, ond roedd yn teimlo'n bell iawn i ffwrdd. Cyn i mi adael yr ysbyty, gofynnodd fy meddyg ymgynghorol wrtha i beth roeddwn i am ei gyflawni a dywedais “Rwy'n mynd i farchogaeth eto, a chystadlu dros Glwb Marchogaeth Caerdydd a’r Fro, ac rwy'n mynd i ymuno â’r heddlu”. Ei ymateb oedd, "beth?!" Dim ond dechrau cerdded eto y mae'r rhan fwyaf o gleifion am ei wneud, ond rwy'n benderfynol o wneud y cyfan. Rwy'n credu bod gosod y nodau hynny wedi bod yn help mawr, ond dyw'r daith ddim wedi bod yn un hawdd. Roedden nhw'n adegau anodd iawn, ac roedd aelodau fy nheulu yn eu dagrau yn aml; roedd yn rhaid i fy merch olchi fy ngwallt, fy helpu i eistedd i fyny yn y bath, fy ngolchi. Roedd yn ddiraddiol, a chollais fy annibyniaeth yn llwyr. Roeddwn i wedi arfer â gofalu am bawb arall; roeddwn i’n fam ifanc, ac rwyf wedi magu fy mhlant i weithio'n galed ac rwy'n falch iawn ohonyn nhw i gyd. Ond maen nhw bob amser wedi fy edmygu, felly roedd hi'n anodd gorfod dibynnu cymaint arnyn nhw. Ond roedd fy mhlant, fy nheulu, fy rhwydwaith cymorth i gyd yn anhygoel. Ac roeddwn i'n gwybod allwn i ddim eu siomi. Roedd gan fy merch fabi tair wythnos oed ar y pryd, felly roedd tipyn o faich arni - fi ddylai fod wedi bod yn ei chefnogi hi. Cefais fy nghyflwyno i fy ffisiotherapydd, James, ac yn syth, roeddwn i'n teimlo'n gwbl gyfforddus yn ei gwmni – alla i ddim ei ganmol ddigon. Roedd gennym ni gydberthynas wych, a siaradais yn helaeth ag ef am yr hyn roeddwn i am ei gyflawni. Dywedodd wrtha i pe bawn i'n addo gwneud fy ymarferion, ac ymrwymo'n llwyr iddyn nhw, y byddai'n dod o hyd i ffordd o fynd â mi i'r fferm i weld fy ngheffyl, Rio. Ac i mi, dyna ni, doedd methu ddim yn opsiwn. Roedd James yn anhygoel – canolbwyntiodd ar yr hyn roeddwn i'n mwynhau ei wneud, a'i ddefnyddio i fy helpu i wella. Wrth gwrs, roedd dyddiau pan fyddwn i'n torri i lawr wrth wneud fy ymarferion. Roeddwn i wedi blino'n lân yn gorfforol ac yn feddyliol, roedd y cur pen yn erchyll ac yn ddi-baid, ac roeddwn i'n wan. Roeddwn i hefyd yn cael trafferth gyda sain - roedd fy synhwyrau ym mhobman. Mae'r cyfan yn eich erbyn ond mae'n rhaid i chi ddyfalbarhau, a dyna'n union wnes i. O’r diwedd, daeth y diwrnod pan oeddwn i'n ddigon cryf i fynd i’r stablau i weld Rio. Esboniodd James y byddai'n defnyddio fy ngheffyl fel ffisio, rhywbeth a oedd yn gwbl newydd yn y GIG, a'i fod yn ein defnyddio fel astudiaeth achos. Doedd Rio ddim wedi cael y dechrau gorau mewn bywyd, ac roedd wedi cymryd amser i mi ennill ei ymddiriedaeth. Roeddwn i wedi rhoi hyder iddo, ac wedi dangos iddo nad yw pob person yn ddrwg, felly mae gennym ni berthynas arbennig, ac rydyn ni'n dîm gwych. Y diwrnod hwnnw, cefais fy ngwthio gan fy chwaer i mewn i’w stabl yn fy nghadair olwyn, ac roedd Rio yn ansicr iawn. Daeth draw ata i a dechrau sniffian olwynion fy nghadair, cyn rhoi ei drwyn ar fy ngliniau. Bydd ebol bob amser yn cael ei addysgu gan ei fam bod yn rhaid iddo sefyll – mae'n fater o ymladd neu ffoi er mwyn goroesi – a dechreuodd Rio daro fy ngliniau â'i drwyn er mwyn fy annog i godi. Roedd yn emosiynol iawn, roedd yn gwybod bod rhywbeth o'i le, ond yn methu â deall beth. Rhoddodd Rio ei ben ar fy nglin, a rhoddais fy mreichiau o amgylch ei ben a chrio. Roedd yn gwybod bod rhywbeth o'i le. Felly, o'r diwrnod hwnnw, bu James yn gweithio gyda mi a Rio ar fy ffisiotherapi, gan gynyddu'r ymarferion bob tro. I ddechrau, roedd ein hymarferion yn cynnwys pwyso i lawr i gyffwrdd â charnau Rio. Byddai'n sefyll yn stond, yn fy nghynnal wrth i mi geisio sefyll. Roedd Rio mor addfwyn ac amyneddgar â fi. Pan gymerais fy nghamau cyntaf, roedd Rio wrth fy ochr a chymerodd gamau bach gyda fi. Mae gen i fideo ohona i'n cerdded gyda fy ffrâm gerdded gyda Rio, ac yn ddiweddarach gyda fy ffon gerdded, ac am bob cam rwy'n ei gymryd, gallwch chi weld Rio yn cymryd cam hefyd. Roedd fel pe bai ein bod wedi achub ein gilydd. Hyd heddiw, dwi ddim wedi edrych yn ôl, na gofyn 'pam fi?'. Er bod fy strôc wedi fy newid mewn cymaint o ffyrdd gwahanol, mae wedi fy newid er gwell mewn sawl ffordd hefyd’. Nawr mae gen i'r yrfa roeddwn i bob amser ei heisiau; roedd gen i swyddi da bob amser ym maes cyfrifon ac yn y GIG, ond mae hyn yn rhywbeth roeddwn i bob amser am ei wneud. Ond rydych chi'n dod yn hunanfodlon ac efallai'n chwilio am esgusodion pam nad yw'n bosibl – bod yn fam, gweithio o amgylch y plant, sefydlogrwydd ac ati. Ond mae gen i ffrindiau yn yr heddlu a ddywedodd wrtha i mai rôl yn y gymuned oedd yr un i mi, ac edrychais ar y rôl honno a meddwl, nawr yw'r amser, rwyf am fynd amdani. Roeddwn i'n bryderus oherwydd, fel sy'n wir am unrhyw anaf i’r ymennydd, mae’n rhaid i chi ailddysgu sut i brosesu gwybodaeth a’i chadw, ac ar y pryd, doedd fy nghof byrdymor ddim yn dda iawn. Mae gen i ap ymennydd ar fy ffôn, sy'n cryfhau'r ymennydd ac yn targedu ardaloedd penodol, ac rwy'n dal i'w ddefnyddio bob dydd. Pan oeddwn i'n astudio, roeddwn i'n ei chael hi'n anodd ysgrifennu a chofio'r wybodaeth honno, ac yn fuan, sylweddolais fod ailadrodd y wybodaeth drosodd a throsodd yn fy helpu i gofio popeth roeddwn i'n ei ddysgu. Felly, mae gen i lwyth o lyfrau ers pan oeddwn i'n sefyll fy arholiadau a phrofion sy'n cynnwys tudalennau ar dudalennau o'r un wybodaeth wedi'i hysgrifennu drosodd a throsodd. Mae wedi cymryd dwy flynedd i mi wella – dyw pethau ddim wedi digwydd dros nos, mae wedi bod yn broses hir. Digwyddodd y strôc ar 14 Gorffennaf 2021, a blwyddyn yn ddiweddarach, cymerais ran yn fy nghystadleuaeth gyntaf dros y clwb ar gefn Rio. Ymunais â Heddlu De Cymru fis Gorffennaf diwethaf. Dechreuais fy rôl yng Ngorsaf Heddlu Penarth ym mis Ionawr eleni. Rwy'n cofio torri i lawr ddwywaith yn ystod fy adferiad, ar ôl y diwrnod cyntaf hwnnw gartref, sef y tro cyntaf i mi fynd ar gefn Rio eto, a phan lwyddais yn fy hyfforddiant a chawson ni ein cyflwyniad. Mae'n codi cywilydd arna i, ond pan gyflwynodd y Dirprwy Brif Gwnstabl fy nhystysgrif a fy ngherdyn gwarant i mi, torrais fy nghalon oherwydd doedd neb yn gwybod pa mor galed roeddwn i wedi gweithio i gyrraedd y nod hwnnw. Roedd hi'n ddiwrnod emosiynol iawn – roedd fy nghyd-fyfyrwyr a'n hyfforddwyr yn gwybod pa mor galed roeddwn i wedi astudio, felly roedd pawb yn eu dagrau. Roedd hi'n foment wych. O fewn fy rôl, rwy'n teimlo fy mod yn gallu defnyddio llawer o'r hyn sydd wedi digwydd i mi a fy mhrofiadau mewn sefyllfaoedd, gan roi gwell dealltwriaeth. Wrth ymgysylltu â’r genhedlaeth hŷn yn arbennig, maen nhw bob amser yn teimlo eu bod yn faich pan fyddan nhw'n dod atoch chi i fynegi eu pryderon neu gael sgwrs. Rwy'n gwybod yn union sut beth yw teimlo fel eich bod yn faich, a dwi ddim am i neb deimlo fel hynny, felly rwy’n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gwybod mai dyna’n union yw diben fy rôl. Rwyf wrth fy modd yn cyflawni rôl Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, ac yn falch iawn fy mod wedi penderfynu mynd amdani. Mae llawer wedi digwydd mewn cyfnod cymharol fyr o amser – er ei fod wedi teimlo'n hir ar adegau. Roedd llawer o chwys a dagrau, ond roedd yn fater o ddyfalbarhau, ac anelu am yr hyn roeddwn i bob amser wedi bod eisiau ei wneud. Rwy'n falch iawn ohona i fy hun, rwy'n ysbrydoliaeth i fy mhlant, ac rwyf nawr yn helpu eraill hefyd. Rwyf wedi cael cais i siarad yng Nghynhadledd Strôc Cymru ym mis Mehefin, er mwyn rhannu fy stori â gweithwyr meddygol proffesiynol a goroeswyr strôc eraill. Pan fyddwch chi'n cael strôc, mae'n fater o suddo neu nofio, a doeddwn i byth yn mynd i suddo. - Leanne Williams, PCSO gyda #TîmHDC |
Felly, mae fy ngwraig Nikki, fy llys blant Esme ac Ollie a Teddy yw'r babi. Mae e'n 15 mis oed, mae Esme yn 14 oed ac Ollie'n 10 oed. Mae fel ffair yn ein cartref, fel y gallwch gredu. Yn anffodus, mae gan Esme Glefyd Leigh, math o salwch sydd eisoes yn brin o'r enw Clefyd Mitocondriaidd, cyflwr cynyddol sy'n effeithio ar ei chorff cyfan yn ogystal â'i gwybyddiaeth. Ganwyd Esme yn iach ond dechreuodd ddangos rhai arwyddion a symptomau pan oedd yn blentyn bach (cyn i mi fod yn rhan o'i bywyd) a chafodd ddiagnosis yn wyth oed. Yn y pen draw collodd y defnydd o'i choesau a chafodd ei chyfyngu i'w chadair bŵer, y mae'n gallu ei rheoli gyda phêl golff fach. Mae gan Esme broblem eilaidd fawr bellach sef scoliosis, felly mae ei chadair wedi'i mowldio i'w ffitio a rhoi cymaint o gysur â phosibl iddi. Un o ganlyniadau clefyd Leigh yw dystonia sy’n cynnwys gwingiadau yn y cyhyrau na ellir eu rheoli ac sydd, ar adegau, yn boenus. Roedd sefyllfa Esme mor ddifrifol ar un adeg, byddai ei chluniau’n symud o'u lle yn gyson, ac er mwyn mynd i’r afael â hyn cafodd lawdriniaeth fawr i'w cywiro a gosodwyd platiau i’w hatal rhag symud o'u lle. Mae llawer o ansicrwydd ynghylch sut y bydd salwch Esme yn amlygu ei hun ymhellach ac felly mae'n cael sylw gan lu o arbenigwyr ac yn cael profion rheolaidd ar ei horganau. Ond diolch i'r drefn, mae hi'n sefydlog ar y cyfan ar hyn o bryd, yn cael meddygyniaeth drwy diwb deirgwaith y dydd a ffisiotherapi wythnosol yn yr ysgol. Gwn fod y diagnosis yn ofnadwy i Nikki yn enwedig gan fod cyflwr Esme mor brin, ond mae hi wedi bod mor gryf. Mae hi'n fam arbennig i Esme ac i'r bechgyn. Er na fydd bywyd byth yn ‘normal’ i Esme – beth bynnag yw normal – mae Nikki yn ymdrechu bob dydd i’w wneud mor normal â phosibl iddi hi. Rydyn ni'n ceisio sicrhau bod pob gweithgaredd a wnawn gyda’r plant yn gynhwysol a gall Esme gymryd rhan gyda phethau fel crefft, celf, pobi a theithiau cerdded hygyrch. Rydyn ni'n ceisio cael cymaint o gydbwysedd â phosib fel nad yw Ollie yn colli allan ar weithgareddau eraill, felly mae ganddo ei ymarfer rygbi a gemau ar y penwythnos, diwrnodau chwarae ac rwy'n gwneud pwynt o fynd ag ef i'r traeth ar ddiwrnodau hyfforddiant mewn swydd, gan nad yw cadair Esme yn gweithio ar y tywod. Mae'r plant yn wych gyda'i gilydd; mae Ollie yn warchodol iawn o Esme, ac er na fydd byth yn dweud ‘Rwy’n dy garu di’ mae e wedi gwirioni gyda hi. Mae'r ddau hynaf wedi dotio ar Teddy – mae'n chwarae'n fwy garw gydag Ollie, ond rywsut yn synhwyro i fod yn fwy tyner gydag Esme, gan geisio rhannu ei ddymi gyda hi neu fwytho ei hwyneb. Mae'n dwyn ei sbectol ond does dim ots ganddi hi o gwbl. Mae Ollie ac Es yn addfwyn gydag ef. Maen nhw wrth eu boddau pan fydd Esme allan o'i chadair ac yn chwarae ar y llawr. Rwy'n dweud wrth Nik, ar y diwrnodau anodd pan mae hi'n ysu i bethau fod yn wahanol – fel pawb weithiau – bod Esme yn werth y byd i bawb. Heb ei salwch efallai na fyddai hi mor arbennig nac yn cael ei thrin felly. Ond mae hi mor ddiymhongar hefyd ac yn ysbrydoli llawer o bobl. Collodd ei Poppa, a fu farw cyn y Nadolig yn anffodus, ei goes dair blynedd yn ôl. Roedd yn 79 oed pan ddigwyddodd hyn ac roedd ganddo agwedd wych. Byddai'n dweud: ‘Rwyf wedi bod ym mhobman, wedi teithio i bobman, wedi cael bywyd bendigedig’. Pan oedd yn cael ei ffisio, gwnaethant nodi pa mor wych oedd ei agwedd, ond byddai'n dweud ei fod yn cymryd nerth oddi wrth Esme oherwydd ei natur ddiymhongar a'i bod yn eich ysbrydoli. Mae hi'n gwneud i chi feddwl, beth sydd gen i i gwyno amdano? Mae Esme yn deall ei bod hi'n arfer gallu cerdded, felly mae'n heriol iddi. Mae hi wrth ei bodd ag Ed Sheeran ac roeddwn i’n ei chael hi’n barod ar gyfer yr ysgol un diwrnod ac roedd y gân Thinking Out Loud yn chwarae, gyda’r llinell "when your legs don't work like they used to before". Dywedodd: "Dyna fi, dyw fy nghoesau i ddim yn gweithio rhagor." Diolch byth ei bod hi'n eithaf tywyll oherwydd daeth deigryn i'r llygad. Ond penderfynais fod yn ddigywilydd iawn ac ysgrifennais at reolwr Ed Sheeran yn dweud wrtho faint mae hi'n ei garu. Tua thair wythnos yn ddiweddarach, ar ôl anghofio popeth am hyn, cefais e-bost gyda fideo personol ohono yn eistedd yn ei gegin gyda chadair uchel wrth ei ymyl yn dweud “Helo Es, ro'n i'n clywed dy fod di'n gefnogwr mawr, gobeithio y cei di ddiwrnod gwych." Roedd hi wrth ei bodd. Roedd yn golygu cymaint iddi. Gyda phethau bach fel hyn, rwy'n dweud wrth Es “mae'n siŵr na fyddai hyn yn digwydd os na fyddet ti'n arbennig”, achos mae'n cael adegau lle mae hi'n dweud “hoffwn i allu cerdded” a “fydda i byth yn cerdded eto?”. Gyda phlentyn fel Es, mae’n rhaid cofio cadw'r cydbwysedd rhwng cofio ei bod hi’n blentyn ond hefyd bod yn agored ac yn onest. Gan na allwn ni wneud addewidion gwag iddi, mae'n rhaid ei hatgoffa pa mor arbennig yw hi a'r holl bethau gwych sy'n digwydd iddi. Mae ganddi ddymuniad gyda'r Make a Wish Foundation ac mae wedi'i henwebu ar gyfer Dreamflight ac os caiff ei dewis, bydd yn mynd i Orlando ac yn cymryd Disney drosodd am ddiwrnod. Mae hi'n cyffwrdd â llawer o bobl ac maen nhw'n cael eu hysbrydoli i wneud y pethau hynny drosti. Mae'n bwysig iawn i ni gofio'r pethau cadarnhaol, fel unrhyw beth mewn bywyd. Yn aml, bydda i'n ceisio rhoi fy hun yn esgidiau Esme, ac wn i ddim a fyddwn i mor hapus â hi. Mae hi mor gryf ac mor anhygoel. Pan oeddwn i'n feichiog, roeddwn i'n sâl iawn gydag SPD ac roeddwn i ar faglau. Rwy'n cofio mynd i Ddinbych-y-pysgod am y penwythnos ac roeddwn i mewn llawer o boen ac yn methu cerdded felly bu'n rhaid i ni logi sgwter symudedd. Roedd Esme wrth ei bodd – er na fyddai’n gadael i mi yrru’n gyflymach na hi – ond cefais i gipolwg bach iawn ar sut brofiad oedd peidio â chael symudedd, ac roedd yn straen ac yn rhwystredig iawn. Ar unwaith, roeddwn i'n gweld y byd mewn ffordd wahanol. Doeddwn i ddim yn gallu cerdded yn dda iawn o gwbl ond roeddwn i’n gwybod y gallwn i godi fy hun pe byddai angen, ac rwy’n cofio meddwl ‘dyma ei bywyd bob dydd’. Mae hi’n gallu cofio’n glir ei bod hi'n arfer gallu cerdded ac mae'n rhaid bod hynny'n anodd, a byddai'n gwbl ddealladwy iddi fod mewn hwyliau gwael, ond dyw hi ddim. Mae Esme wedi bod yn Ysgol y Deri ers rhyw bedair blynedd bellach ac mae hi wrth ei bodd. Mae'r gwahaniaeth ynddi yn anhygoel. Mae hi'n fwy hyderus. Yn anffodus, mae dystonia yn effeithio’n ddifrifol ar ei thafod ac felly ar ei lleferydd, ond mae ganddi ei chymorth cyfathrebu i wneud ei gwaith cartref ac i ddarllen i’r dosbarth, ac mae hi hefyd yn dysgu rhywfaint o iaith arwyddion. Mae pob un ohonom ni sy'n ei hadnabod yn dda a'i hathrawon rheolaidd yn gallu deall beth mae hi'n ei ddweud drwyddo, felly maen nhw'n gallu ei gwthio a chael y gorau ohoni. Bob dydd Mercher mae hi'n treulio'r diwrnod gyda'r nyrsys gan mai nyrs oedd Esme eisiau bod. Mae ganddi ei sgrybs ei hun ac mae'r nyrsys wedi rhoi ‘Doris y Nyrs’ a symbol bach y GIG arnyn nhw, felly mae hi’n eu gwisgo i fynd i mewn, ac maen nhw i gyd yn wych gyda hi. Mae'n cael ei thrin fel aelod go iawn o'r tîm nyrsio. Roeddwn i am dynnu sylw at Esme a'i salwch oherwydd dydych chi byth yn gwybod beth mae pobl yn delio ag ef neu'n poeni amdano. Rwyf hefyd am amlygu fy stori i bawb sydd ag unrhyw fath o gyfrifoldebau gofalu. Rwyf yn Fam yn gyntaf, ac yn swyddog heddlu yn ail agos. Mae'n bosibl cydbwyso'r ddau ac nid yw wedi fy atal rhag dilyn fy amcanion. Mae codi ymwybyddiaeth am y cyflwr ei hun a’r elusennau gwych sy’n ein helpu yn allweddol. Mae'r Lily Foundation yn ariannu ymchwil feddygol i Glefyd Mitocondriaidd ac maen nhw'n gobeithio am iachâd un diwrnod gan nad oes un ar hyn o bryd. Ond pe bydden nhw'n gallu dod o hyd i iachâd, ychydig fel clefyd Alzheimer, fyddai hynny ddim yn gwrthdroi'r hyn sydd wedi'i wneud, ond byddai'n gallu ei atal. Felly rydyn ni'n gwneud llawer i godi arian iddyn nhw ac rydyn ni'n mynd i ddiwrnodau hwyl hyfryd i'r teulu gyda nhw. Rydyn ni hefyd yn codi arian ar gyfer Tŷ Hafan gan ei bod hi hefyd yn cael gofal ganddyn nhw. Mae staff Ysgol y Deri yn angylion, maen nhw’n anhygoel ac rydyn ni mor ffodus i’w cael nhw i gyd yn ein bywydau. - Rhingyll Cheryl Irvine o #TîmHDC |
|
Flynyddoedd yn ôl, roeddwn i'n rhan o dîm achub bywydau ac roedd rhai ohonom yn hoffi cerdded felly fe wnaethom ni benderfynu gwneud Her y Tri Chopa a chodi ychydig o arian. Gwnaethom ni hynny ac un noson wrth i ni sgwrsio dros botel o wîn dywedodd rhywun 'Dylem ni wneud Kilimanjaro nesaf'. Ar yr adeg honno roedd un unigolyn o'r grŵp yn mynd drwy driniaeth canser ac felly roedd gwneud hyn ar gyfer Felindre yn ddewis amlwg i ni. Datblygodd o'r fan honno. Ar y pryd roeddwn i'n gweithio mewn asiantaeth deithio felly fe wnes i ymdrin â phopeth arall – y fisâu, a'r trefniadau i gyd. Nid oeddem ni am i'r arian y gwnaethom ei godi dalu tuag at ein taith felly gwnaethom godi arian am ddwy flynedd a chynilo ar ei gyfer – a hyfforddi wrth gwrs. Roedd fy nghi i wrth ei fodd â'r adeg honno oherwydd roeddwn i'n cerdded Pen y Fan yn aml. Roedd wyth ohonom ni ac fe godom ni £44,000 ar gyfer Felindre. Gwnaethom eistedd i lawr â phennaeth yr elusen a thrafod yr hyn roeddent eu hangen, a gwnaethom dalu i gael WiFi wedi'i osod drwy'r ysbyty, oherwydd nid oedd ganddynt WiFi ar y pryd, a thalu am dair blynedd o gynnal a chadw'r system hefyd. Golyga y gallai bobl fynd yno a chynnal y cyswllt â'u teulu a'r byd y tu allan, rhywbeth sy'n achubiaeth i bobl sy'n cael triniaeth. Pan roedd pobl yn cofrestru ar y WiFi ar y pryd, roedd yn dangos llun bach ohonom ni ac yn egluro o le daeth y WiFi, felly roedd hynny'n garedig iawn. Roedd hynny ddeg mlynedd yn ôl, ac felly mae'n siŵr ei fod wedi mynd erbyn heddiw, ond roeddem ni'n falch iawn o hynny. Roedd y ddringfa ei hun yn anhygoel, rydych chi'n gweld pob math o dirwedd. Ar y diwrnod cyntaf rydych yn cyrraedd 3,500 troedfedd a'r gwersyll cychwyn yw hwnnw. Rydych yn cael porthorion ac maent yn anhygoel, maent yn gwneud popeth ar eich cyfer. Byddent yn rhedeg heibio yn eu sandalau tra eich bod chi'n gwisgo gêr cerdded llawn, ac maent yn cario eich bagiau ar eich cefnau, y pebyll, yr holl fwyd a'u pethau nhw. Byddai tro'r diwrnod yn dod i'w derfyn a byddent wedi gosod gwersyll. Roedd yn anhygoel. Cawsom ein bwydo, cawsom ddŵr, roedd gennym babell toiled, roedden nhw'n gwneud popeth, dim ond canolbwyntio ar gwblhau'r ddringfa roedd yn rhaid i ni ei wneud. Roedd y diwrnod olaf yn anodd iawn. Gwnaethom gerdded am tua chwe awr, cyrraedd y gwersyll cychwyn olaf, ac maen nhw'n dweud wrthych am orffwys ond rydych chi mor agos at y diwedd fel nad ydych yn mynd i orffwys. Yna rydych yn codi ac mae'n dywyll a dyma pryd rydych yn dechrau dringo'r copa. Heblaw am fflashlampau pen mae hi'n dywyll fel y fagddu ac ni allwch weld unrhyw beth. Mae'n anodd ei ddisgrifio ond dydych chi ddim hyd yn oed yn cerdded yn syth am ei bod mor serth. Mae'n rhaid i chi gerdded igam ogam rywsut, a phan fyddwch chi'n edrych i fyny mae fel coeden Nadolig yn gwneud ei ffordd ar draws y mynydd. Mae gan y porthorion gân y maent yn ei chanu, llafargan anogol Affricanaidd, a dyma'r unig beth y gallwch chi ei glywed. Dyma'r profiad mwyaf swreal erioed. Mae'n brofiad eithaf anhygoel. Ni all llawer o bobl ddweud eu bod wedi ei gwblhau ac felly mae'n hyfryd gallu dweud fy mod i wedi gwneud hynny. Mae Hannah, un o'r merched yn y tîm yn hyfforddwraig gwobr Dug Caeredin ac un noson pan oeddem ni allan – mae gwin bob amser yn chwarae rhan yn yr heriau rydym yn eu gosod i ni ein hunain! – a dywedodd hi ei bod hi awydd cerdded Llwybr Arfordir Cymru. Unwaith eto, datblygodd hynny. Nid ydym yn codi arian, her bersonol rydym wedi ei gosod i ni ein hunain ydyw yn unig. Mae Hannah yn hanner cant fis Awst 2025 ac roedd eisiau ei wneud erbyn hynny, a fi yw'r unig un wirion i gytuno i'w wneud. Gwnaethom ddechrau fis Ebrill diwethaf ac rydym yn cerdded yr holl beth mewn adrannau. Gwnaethom ddechrau yng Nghaer – dyna oedd yr un mwyaf oherwydd mae mor bell i ffwrdd – a gwnaethom orffen yn Aberdaron. Felly roedd hynny'n daith naw diwrnod. Mae pobl yn tueddu i feddwl am y daith fel un hyfryd iawn, ond mewn gwirionedd mae'n heriol, heb i bobl sylweddoli. Roedd y rhan olaf i ni ei cherdded drwy goedwigoedd – welson ni ddim dŵr am 12 milltir – mae rhan ohoni'n mynd drwy ystadau diwydiannol, ac rydym wedi cerdded heibio sawl gwaith trin carthion. Mae rhannau ohoni'n hyfryd, mae rhywfaint o'r daith ar ben clogwyn gyda golygfeydd anhygoel, ond hefyd mae llawer o'r daith drwy gaeau yn llafurus. Byddwn i'n dweud bod tua hanner o'r daith yn un ar ben clogwyni y mae pobl yn ei ddychmygu ac mae'r gweddill yn bopeth arall y gallwch chi feddwl amdanynt. Mae wedi bod yn agoriad llygad, yn sicr. Gwnaethom barhau ym mis Tachwedd, ac rydym wedi gwneud un arall fis Ebrill yma a ddaeth â ni i Aberystwyth. Byddwn yn dychwelyd fis Gorffennaf i fynd o Aberystwyth i Aberteifi ac ar ryw bwynt bydd yn rhaid i ni fynd yn ôl a cherdded o gwmpas Ynys Môn hefyd. Rwyf wir yn ei fwynhau, ond wrth gwrs mae adegau lle mae'n anodd iawn. Y tro diwethaf y gwnaethom stopio yn Aberdyfi, sydd mor hardd, ac mae aber gyda golygfa anhygoel o'r lle rydych yn dod i ben eich taith yn y Borth. Ond ni allwch fynd ar ei draws, felly mae'n daith fewndirol 12 milltir i aros ym Machynlleth ac yna taith 12 milltir arall drannoeth. Yn y diwedd roedd yn fwy na 12 milltir, yn agosach at 16 milltir ac erbyn y diwedd roeddem wedi blino'n lân. Oherwydd rydych yn cario popeth ar eich cefn – dillad ar gyfer yr wythnos gyfan a phopeth arall. Gwnaethom weithio allan y byddem wedi gallu dringo'r Wyddfa bedair gwaith, a gwnaethom gerdded 90 milltir mewn chwe diwrnod. Yr wythnos honno oedd yr un anoddaf eto, am fod yn rhaid dringo drwy goedwigoedd yn gyson, dim golygfeydd arfordirol hardd. Mae fy ffrind yn amlwg yn defnyddio ei sgiliau Dug Caeredin ac mae ganddi'r holl fapiau, a bydd hi'n defnyddio ei theithlyfr bach y noson flaenorol i gynllunio ymlaen llaw. Ond mae ei sgiliau darllen map wedi ein gadael ni lawr ar adegau. Rydym wedi cael sawl moment lle rydym ni yng nghanol cae ac yn meddwl 'dydyn ni ddim yn y lle cywir' ac rydym wedi gorfod mynd yn ôl. Felly weithiau gall fod yn fwy o lwc na doethineb. Fis Tachwedd y llynedd cawsom ein dal mewn stormydd; roeddem allan mewn gwyntoedd 60mya. Yn bendant dyma'r daith gyflymaf rydym wedi ei cherdded. Rydym yn cario fflasg o goffi bob amser ond doeddem ni ddim yn gallu stopio ar gyfer hynny hyd yn oed. Roedd rhaid i ni fynd yn ein blaenau, roedd y tywydd yn ofnadwy. Cyrhaeddom ben y daith a meddwl 'a wnaethon ni wir gerdded yn y tywydd yna?' Fy styfnigrwydd yw'r hyn sy'n fy nghadw i fynd bob amser. Dywedodd fy ffrind hyd yn oed, 'allan o bawb roeddwn i'n gwybod mai ti y byddwn i'n dewis oherwydd rwy'n gwybod na wnei di roi'r gorau iddi, ac unwaith rwyt ti'n dechrau unrhyw beth mae'n rhaid i ti ei orffen'. A dweud y gwir, allet ti ddim stopio ta beth, beth fyddet ti'n ei wneud, dod o hyd i fws? Hanner yr amser rydych chi ynghanol nunlle felly mae'n rhaid parhau i ymlwybro. Mae gwneud hyn gyda'n gilydd yn wych, mae'n undod a chwmni ac mae'r ddwy ohonom yn dod ymlaen â phawb. Nid ydym yn bobl sy'n cwyno, ac mae'r ddwy ohonom yn gwybod bod adegau lle mae'r ddwy ohonom yn tawelu ac mae'n rhaid i ni roi ein pen i lawr a dyfalbarhau. Ar adegau eraill byddwn yn chwerthin am rywbeth hollol wirion. Rydym wedi bod yn cadw dyddiadur wrth i ni fynd yn ein blaen, ac wedi dweud y dylem fod wedi dechrau flog am wirioneddau cerdded llwybr yr arfordir oherwydd rwy'n meddwl fod gan bobl y weledigaeth ddelfrydol yn eu meddyliau ac nid felly y mae o bell ffordd. Louise Piper, Arweinydd Tîm Cymorth Busnes Gweithredol |
Dechreuais gyda'r Friendship Theatre Group rhyw 14 o flynyddoedd yn ôl. Mae gennym aelodau sydd rhwng pump ac 80 oed yn y grŵp ac mae pawb yn ei wneud yn wirfoddol. Rydym yn gwneud un sioe'r flwyddyn - pantomeim cyfeillgar i deuluoedd - sy'n para drwy fis Ionawr. Roedd fy mhartner yn ddawnsiwr gyda nhw felly pan ddaethom at ein gilydd, dechreuais fynd gyda hi, heb wybod unrhyw beth am y theatr. Ymhen cwpl o flynyddoedd, dechreuais berfformio ar y llwyfan, ond dim ond fel cymeriadau lle na fyddech yn gwybod mai fi ydoedd – felly'r cawr, y camel, yr eliffant, y wrach. Unrhyw beth gyda gwisg enfawr a lle nad oedd angen dawn actio. Roedd y wisg cawr gyntaf a gefais yn 13 troedfedd o uchder, ar stiltiau, ac roedd yn cymryd dau berson ar winsh i'w gostwng i lawr i mi ar y llwyfan. Roeddwn i wrth fy modd. Roeddwn i'n teimlo'n ddiogel nad oedd neb yn gwybod mai fi oedd ynddi, ni allai neb fy ngweld i, roedd modd i mi actio drwy guddio y tu ôl i'r wisg enfawr yma. Roedd gen i ryddid i fynd amdani. Cymerodd ein rheolwr llwyfan gam yn ôl eleni am ei fod wedi dechrau teulu ifanc yn ystod COVID-19. Felly roedd yn chwilio am rywun i gymryd drosodd a gofynnodd i mi wneud hynny, gan wybod fy mod i bob amser yno ar gyfer pob sioe yn helpu y tu cefn i'r llwyfan. Y rôl, yn ei hanfod, yw rhedeg y sioe, felly o'r funud y daw'r gynulleidfa i mewn hyd nes i'r llen gael ei gostwng ar y diwedd, fi sy'n gyfrifol am bopeth sy'n mynd yn iawn neu'n mynd o'i le. Fel arfer, rydym yn gwneud 22-23 sioe dros gyfnod o dair wythnos a hanner. Bydd y cast yn dechrau ymarfer ym mis Medi/Hydref ond i mi, rwy'n gweld y set a'r golygfeydd am y tro cyntaf pan fyddwn yn mynd i'r theatr a phan fydd y lorïau'n cyrraedd. Felly, yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr: Mae'r set yn cyrraedd nos Wener, rydym yn ei hadeiladu ddydd Sadwrn, yn cael ymarfer ddydd Sul, yna ceir ymarfer technegol ar gyfer Act 1 ddydd Llun, rydym yn plotio Act 2 ddydd Mawrth, mae ymarfer gwisgoedd ddydd Mercher ac rydym yn rhedeg y sioe o'r dechrau i'r diwedd am y tro cyntaf, ac yn agor o flaen cynulleidfa ddydd Iau. Felly, does dim pwysau o gwbl. Mae'n anhygoel. Rydym yn cyrraedd yr ymarfer gwisgoedd bob blwyddyn ac yn meddwl “mae wythnosau cyn y byddwn ni'n barod” ac yna mae dydd Iau yn dod ac mae'r gynulleidfa yno ac mae popeth yn gweithio. Mae'r tîm wir yn rhyfeddol. Mae llawer o bethau'n mynd o'i le ac rydym yn ceisio ymdrin â phopeth gorau y gallwn ni. Fel rheolwr llwyfan, rwy'n gwybod popeth sydd i'w wybod am y sioe, felly os bydd eitem o'r olygfa chwe modfedd allan o le, rwy'n gwybod ac yn dechrau mynd i banig, ond mewn gwirionedd, nid yw'r gynulleidfa'n sylwi am fod y cast yn bwrw ymlaen. Mae'r gynulleidfa yn mwynhau hyd yn oed os aiff pethau o'i le. Mae'r wythnos gyntaf honno'n un ddwys, ond mae pawb sydd ynghlwm yn angerddol iawn. Ac mae nifer y tocynnau sy'n cael eu gwerthu'n dyst i hynny. Sioe amatur ydyw felly does neb yn cael ei dalu, mae pawb yn ei wneud am eu bod wrth eu boddau. A gwnaethom gymryd £124,000 drwy'r swyddfa docynnau eleni. Ein grŵp ni oedd yr un cyntaf i lwyfannu sioe yn Theatr y Ffwrnes pan agorodd, ac mae wedi dod yn gartref i ni heb os. Ond grŵp yn ne Cymru ydym ni i bob pwrpas ac mae pobl yn teithio o bob man i weld ein sioeau. Mae ychydig o dan 450 o seddau yn y theatr ac rydym yn gwerthu'r cyfan bob tro ac mae gennym bobl ar restr aros. Mae ein helw yn mynd i elusennau lleol bob blwyddyn. Rydym wedi rhoi oddeutu £250,000 hyd yma, gyda phob ceiniog yn mynd i elusennau yn ne Cymru. Rydym yn rhoi beth bynnag allwn ni, ac fel rheol mae hynny tua £6-£10,000 bob blwyddyn. Yn ystod y cyfyngiadau symud, gwyddom fod elusennau wedi'i chael hi'n anodd felly roeddem ar dân i allu llwyfannu sioe eto eleni, ar ôl colli cwpl o flynyddoedd. Gwnaethom gynnal sioe enwog, sef Peter Pan eleni. Bu bron i'n sioe gael ei hadnabod fel Panto Denny Twp – fe yw'r seren leol ac mae'n un o'r aelodau a sefydlodd y grŵp a bu'n rhan o'n sioeau am flynyddoedd. Mae yn ei 80au ac wedi cael problemau iechyd, felly dyma oedd y sioe gyntaf hebddo. Heb os, fe oedd yr atyniad bob amser, felly roeddwn yn teimlo dan bwysau anferthol. Ond torchodd bawb eu llewys, ac fe ddaeth i weld y sioe ambell dro ac roedd ar ben ei ddigon – mae'n rhaid bod hynny wedi bod yn anodd iddo oherwydd byddai wedi bod ar dân i fynd ar y llwyfan gyda'i ffrindiau. Ond mae hynny'n dangos sut fath o grŵp sydd gennym ni. Mae'n swnio fel ystrydeb ond mae'r grŵp wir fel un teulu mawr. Does dim llawer o sefyllfaoedd lle gallwch fynd am beint neu goffi gyda 40 o'ch ffrindiau agosaf, nag oes? Roedd eleni yn agoriad llygad anferth, yn addysg go iawn i mi, yn fy mlwyddyn gyntaf fel rheolwr llwyfan, hyd yn oed ar ôl yr holl flynyddoedd o weithio y tu cefn i'r llwyfan. Mae tri o'r prif gymeriadau'n hedfan, felly roedd angen dysgu am y rigiau hedfan, yr ymarfer, gan sicrhau bod yr un bobl sydd â'r awdurdod a'r drwydded i ddefnyddio'r rigiau hedfan yno bob nos. Felly roedd angen rhedeg y sioe a hedfan pobl. Ac yna roedd lles a'r rheolau'n ymwneud â'r perfformwyr ifanc, y protocolau COVID-19 ac yn y blaen. Felly mae llawer o waith ond mae'n ymdrech tîm go iawn ac rwy'n falch dros ben o fod yn rhan ohono. Mae cynifer o uchafbwyntiau wedi bod mewn 14 o flynyddoedd i mi. O weld aelodau ein grŵp yn symud ymlaen i wneud pethau mawr yn y West End, i ymateb y gynulleidfa pan fydd pethau'n digwydd a'r adolygiadau eithriadol rydym yn eu cael. Mae gan bob blwyddyn ei huchafbwyntiau ei hun – eleni gwelsom gynnig priodas yn fyw ar y llwyfan – ac rydym hefyd wedi ennill y wobr am y pantomeim amatur gorau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon sawl gwaith. Ond y prif uchafbwynt bob amser fydd cyfareddu'r plant yn llwyr a gweld eu hwynebau hapus. Yn aml iawn, panto fydd profiad cyntaf plentyn o fyd y theatr ac mae gweld y rhai bach yn dod i'r sioe, wedi'u gwisgo fel Tinkerbell neu Jasmine neu Peter Pan a gweld eu mwynhad yn gwneud y cyfan yn werth chweil. Mae gan bob sioe un olygfa neu foment eithriadol – boed hynny'n Aladdin ar ei garped hud neu Sinderela yn hedfan ar geffyl a chart – a phan fydd hynny'n gweithio a bod pobl yn gadael heb wybod sut rydym wedi gwneud i hynny ddigwydd, rydym wedi gwneud ein gwaith. Rydym wedi creu'r hud. Rydym wedi ychwanegu rhywbeth at blentyndod rhywun, wedi rhoi'n ôl i'r gymuned ac mae hynny'n deimlad gwych. Cwnstabl Rob Green |
Treuliais fy mlynyddoedd cynnar yn tyfu i fyny yn y Caribî. Gallwn ddarllen ac ysgrifennu yn iawn ond pan oeddwn yn naw mlwydd oed, digwyddodd rhywbeth a fyddai'n newid fy mywyd am byth. Roedd fy ffrindiau a minnau yn arfer chwarae wrth yr afon yn Grenada pan oeddwn yn ifanc. Un diwrnod, dechreuais foddi. Roedd y profiad yn un mor drawmatig, fel na allwn ganolbwyntio mwyach a dechreuais gasáu’r ysgol. Gadewais i yn y pen draw. Wrth dyfu i fyny yn Grenada, roeddwn i bob amser am fod yn Heddwas, ond gwyddwn mai breuddwyd wag oedd am na allwn i ddarllen nac ysgrifennu. Yn lle hynny, dechreuais ymarfer Taekwondo. Doeddwn i ddim yn gwybod dim am grefftau ymladd ond wrth i amser fynd yn ei flaen, dechreuais ddod yn dda ynddo. Rhoddodd hyn gyfle i mi ymweld â'r DU i gymryd rhan mewn cystadlaethau. Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuais ddysgu fy hun i ddarllen ac ysgrifennu. Roedd hi'n anodd ond roeddwn i'n benderfynol. Symudais i Gaerdydd yn y pen draw lle dechreuodd pennod newydd yn fy mywyd. Dechreuais weithio i Gyngor Caerdydd a'm tasg oedd delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar lefel isel ac ymateb i larymau tresmaswyr. Roeddwn yn dda yn fy ngwaith ac yn aml yn gweithio ochr yn ochr â Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a Swyddogion yr Heddlu. Gwnaeth hyn aildanio fy mreuddwyd o weithio i'r heddlu ond roeddwn i o'r farn y byddai fy niffyg cymwysterau'n golygu y byddai hyn yn amhosibl. Un diwrnod, clywais gnoc ar fy nrws. PCSO oedd yno, yn holi am ddigwyddiad ar fy stryd. Dechreuais ofyn cwestiynau iddi am ei swydd a sôn fy mod i wastad wedi breuddwydio am ymuno â'r heddlu ond fy mod i wedi darbwyllo fy hun na fyddai hynny'n bosibl am nad oedd gen i unrhyw gymwysterau ac roeddwn yn cael trafferth darllen ac ysgrifennu. Rhoddodd anogaeth i mi wneud cais a dywedodd wrtha i y byddai'n cysylltu â fi pan fyddai Heddlu De Cymru yn recriwtio PCSOs. Roeddwn i eisoes wedi gwneud cais ac wedi methu, ond rhoddodd arweiniad a chymorth i mi ar gyfer y dyfodol. Roedd cynifer o bobl wedi gwneud addewidion gwag i mi yn ystod fy mywyd, ac roeddwn i o'r farn mai enghraifft arall o hynny fyddai hyn. Heb yn wybod i mi, byddai'r cyfarfyddiad hwn yn newid y dyfodol i mi. Bythefnos yn ddiweddarach, cnociodd yr un PCSO a'i chydweithiwr ar y drws a rhoi gwybod i mi fod y broses ymgeisio am PCSOs wedi ailagor. Allwn i ddim â chredu ei bod hi wedi cadw ei haddewid. Gwnaeth cefnogaeth y PCSOs a'm gwraig fy annog i roi cynnig arall arni. Bythefnos yn ddiweddarach, cefais e-bost yn fy ngwahodd am gyfweliad, a llwyddais ynddo. Roeddwn i ar ben fy nigon ac yn ddiolchgar am yr holl gefnogaeth roeddwn i wedi'i chael hyd yma. Roedd fy mreuddwyd o fod yn PCSO yn cael ei gwireddu. O'r diwedd, daeth y diwrnod mawr i mi ddechrau'r deg wythnos o hyfforddiant ac roeddwn i'n methu aros. Roeddwn i'n teimlo'n hyderus ac yn hapus. O'r diwedd, gallwn i roi'r holl rwystrau y tu cefn i mi a dechrau fy nhaith i fod yn PCSO gyda Heddlu De Cymru. Yn fy isymwybod, roeddwn i'n dal i fod yn nerfus am y ffaith fy mod i'n cael trafferth darllen ac ysgrifennu. Wrth i'r wythnosau fynd heibio, doeddwn i ddim yn gallu dal i fyny gyda'm cydweithwyr ni waeth pa mor galed roeddwn i'n ymdrechu. Sylweddolais ei bod hi'n cymryd mwy o amser i mi ysgrifennu fy nodiadau a deall yn y dosbarth, a wnaeth danseilio fy hyder a'm gallu i weithio drwy'r broses. Er yn amharod i wneud hynny, siaradais gyda'm hyfforddwr am fy mhryderon fy mod i'n ddyslecsig o bosibl, oherwydd roeddwn i'n credu y byddai mynegi hyn yn rhwystro fy nghyfle i barhau. Yn lle hynny, cefais gymaint o gefnogaeth. Arafodd yr hyfforddwyr yn y dosbarth, cefais daflenni wedi'u hargraffu ar bapur melyn a chysylltodd y Rhwydwaith Niwroamrywiaeth â fi, er mwyn i mi allu gwneud trefniadau i gwblhau prawf sgrinio dyslecsia, a ddaeth yn ôl gyda sgôr o 98%. Er fy mod i'n gwybod bod posibilrwydd cryf fy mod i'n ddyslecsig, rhoddodd y sgôr yma gryn sioc i mi. Roeddwn i'n gwenu wrth fynd i mewn i'r dosbarth bob dydd, ond teimlwn ym mêr fy esgyrn mai dyma oedd diwedd fy mreuddwyd. Penderfynais roi gwybod i'm cydweithwyr fy mod i'n ddyslecsig a chefais fy synnu pan gynigiodd pob un ohonynt gefnogaeth i mi. 'Fe ddoi di drwy'r deg wythnos Derek. Byddi di'n cwblhau'r hyfforddiant ac yn dod yn PCSO anhygoel. Rydyn ni i gyd yma i dy helpu di.' Rhoddodd ddau o'm cydweithwyr wahoddiad i mi astudio gyda nhw, ac o'r diwrnod hwnnw ymlaen, gwnaethom astudio am awr y dydd, bob dydd. Gwnaethant fy addysgu sut i astudio a'm tywys drwy'r broses gyfan. Daeth diwrnod fy ngwiriad gwybodaeth olaf, a gallaf ddweud yn hyderus fy mod i wedi llwyddo. Ar ôl yr holl flynyddoedd o freuddwydio, oriau o astudio, gwaith caled a chefnogaeth fy hyfforddwyr a chydweithwyr, gallaf ddweud o'r diwedd fy mod i wedi cyflawni fy mreuddwyd o fod yn PCSO i Heddlu De Cymru. Rydw i wedi bod trwy gryn dipyn i gyrraedd lle rydw i nawr, ac alla i ddim diolch digon i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r daith honno gyda fi. Allwn i ddim â bod wedi'i wneud heb gefnogaeth pawb. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bobl arbennig iawn Heddlu De Cymru am fy nhywys. Derek Johnson, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn #TîmHDC |
Darganfyddais fod gen i ganser y coluddyn ar ôl damwain, pan gwympais oddi ar fy meic a thorri pont fy ysgwydd. Aethpwyd â fi i'r ysbyty lle cefais feddyginiaeth am y boen, ond ar ôl gorffen y cwrs, sylweddolais nad oeddwn i'n teimlo'n iawn o hyd a bod gen i waed yn fy ngharthion. |
Ymunais i gyntaf â Heddlu De Cymru yn 1987, a gweithiais i ym maes gweinyddiaeth, ar y ddesg flaen, ac mewn troseddau mawr mewn rôl staff yno. Gwnes i ymddeol yn 2020, ond dychwelais ym mis Ionawr y llynedd yn rhan amser. Ond roedd y mwyafrif o fy ngyrfa yn rôl y ddesg flaen, yng Ngorsaf Heddlu Canol Abertawe. Oherwydd y swydd honno, siarad oedd fy mywyd i. Ond i raddau helaeth, cafodd ei gymryd oddi arnaf pan gefais ddiagnosis o ganser ar y laryncs. Roeddwn i'n arfer smygu. Datblygais beswch ond roeddwn i'n meddwl mai peswch smygwyr oedd e. Cefais fiopsi a fy ngalw nôl er mwyn cael mwy o brofion. Ond parhaodd y tiwmor dyfu, ac un diwrnod, ym mis Ebrill 2014, aeth mor wael doeddwn i ddim yn gallu anadlu. Taflais esgid at y wal i geisio dal sylw fy nhad, am nad oeddwn i'n gallu siarad yn iawn nac anadlu. Clywodd fy nhad i hynny, a gweld beth oedd yn digwydd, a galw 999. Pan es i i'r ysbyty wedyn, dywedwyd wrthyf fod gen i ganser cam pedwar. Roedd gen i'r opsiwn o gael cemotherapi a llawdriniaeth wedyn, neu dderbyn y llawdriniaeth yn syth. Es i'n syth i gael y llawdriniaeth. Roeddwn i yn yr ysbyty tan fis Gorffennaf, yna dechreuais i chwe wythnos o radiotherapi ym mis Awst. Ar ôl y llawdriniaeth, cefais falf lais wedi'i gosod, ac am y pedair neu bum wythnos gyntaf doeddwn i ddim yn gallu siarad o gwbl, ac felly roedd yn rhaid i mi ysgrifennu popeth roeddwn i am ei ddweud. Rwy'n cofio pan ddaeth fy ffrind draw â dau lyfr nodiadau – un i fi ac un iddi hi, er mwyn i ni allu cyfathrebu gyda'n gilydd. Roedd yn rhaid i mi ei hatgoffa nad oedd hyn wedi cael effaith ar fy nghlyw! Roedd fy ffrindiau i mor dda i mi, a fy rhieni. Mae'n rhaid i mi ddweud hefyd, roedd fy rheolwyr i – yn enwedig fy rheolwr llinell – mor dda gyda fi a fy nheulu. Roeddwn i'n ofalus iawn o'r falf lais, yn enwedig ar y dechrau. Mae'n golygu na alla i wneud rhai pethau – alla i ddim nofio ac mae'n rhaid i mi fod yn ofalus beth rydw i'n ei fwyta. Ond roedd yn fy nghadw i'n fwy. Gwnes i ddychwelyd i'r gwaith ym mis Mawrth 2015, a gwneud yr un swydd ar y ddesg flaen ag o'r blaen. Roedd yn rhaid dod i'r arfer â'r peth, a phobl eraill yn dod i arfer â'm llais newydd, ond byddai fy nghydweithwyr bob amser yn dod i helpu os byddwn i'n gorfod delio ag unrhyw drafferth. Roedd y trefniant yn wych hefyd – beth bynnag roeddwn i eisiau neu roedd ei angen arna i, roeddwn i'n ei gael. Roeddwn i hefyd yn cael cymorth gwych gan y timau meddygol a rhoddodd driniaeth i fi, yn enwedig y tîm Therapi Lleferydd ac Iaith. Rydw i wir eisiau codi ymwybyddiaeth o ganser y laryncs. I ryw raddau mae'n ‘israddol’ ymysg canserau, am nad oes llawer o bobl yn ymwybodol ohono. Ond cefais fy synnu pa mor gyffredin ydyw. Mae pob math o ganser yn ddrwg, wrth gwrs, ond rwyf am roi sylw i ganserau fel yr un gefais i, er mwyn codi ymwybyddiaeth a rhoi rhywfaint o obaith i'r rhai sydd efallai yn mynd drwy rywbeth tebyg i mi. Yn bersonol, allwn i ddim bod wedi gallu cael canser mewn lle gwaeth, am fod fy swydd yn ymwneud yn gyfan gwbwl â siarad â phobl. Roeddwn i'n mwynhau nofio, a chollais i hynny hefyd. Ond rydych chi'n dysgu sut i addasu. Roeddwn i'n chwarae corn tenor mewn band pres a bu'n rhaid i mi roi'r gorau i hynny – felly dysgais i'r drymiau yn lle hynny! Mae'n newid eich bywyd, wrth gwrs. Ond gallaf siarad o hyd – a gallaf weiddi o hyd! Ac rwy'n fyw. Bev Cousins, Gweinyddwr Busnes Gweithredol #TîmHDC |
Pan roedden ni'n byw yn Rhydaman es i'r Brownies a phan symudon ni i Abertawe daeth mam o hyd i'r Geidiau cyntaf yn Townhill ac es i yno hyd nes yr oedran gadael yn 16. Roedd yn wych, fe wnes i fwynhau gymaint. Mae'n dysgu sgiliau mor werthfawr i chi. Felly nid yn unig byddwch chi'n ennill bathodynnau megis gwnïo, crefftau, coginio ac ati, ond mae hefyd yn rhoi ymdeimlad o falchder i chi ym mhopeth a wnewch. Cewch eich trin yn deg ac fel aelod gwerthfawr o'r gymuned waeth o ble rydych chi'n dod a'ch cefndir. Cefais gymaint o anturiaethau yn y chwe blynedd hynny. Ond yr uchafbwynt oedd cael fy enwebu gan Geidiau Gorllewin Morgannwg ac arweinydd fy ngrŵp, i fynd i ddigwyddiad penwythnos lle roeddent yn dewis Geidiau ar gyfer gwahanol jamborïau i nodi'r mileniwm. Ni feddyliais i unrhyw beth amdano - dim ond cyfle i wneud mwy o ffrindiau a chymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau ar gyfer y penwythnos oedd hwn i mi. Dwi'n cofio cael galwad ganddyn nhw'n dweud ‘Elinor, rydyn ni wedi dy ddewis i gynrychioli Geidiau Cymru ond hefyd i fod yn rhan o dîm y DU i fynd i Seland Newydd ar gyfer jamborî. Roedd clywed hynny yn 13 oed a hanner yn anhygoel. Cefais wybod mai fi fyddai'r unig Geid o Gymru i ymuno â phedair merch arall o'r DU, dim rhieni dim ond ein harweinwyr grŵp, ac y byddem yn hedfan allan i Seland Newydd am dair wythnos a hanner ar gyfer Jamborî. Gwnaethom gyfarfod fis Hydref a dyna oedd y tro cyntaf i mi eu cyfarfod. Fi oedd yr ieuengaf, ond roedd yn braf oherwydd gwnaethant edrych ar fy ôl. Fe wnaethon ni ychydig o gaiacio a chanŵio ar y llynnoedd yn Peterborough. Yna fe wnaethon ni hedfan nos Galan. Hedfanon ni drwy LA ac yna ymlaen i Auckland yn y gogledd. Doedden ni ddim yno am gyfnod hir oherwydd hediad cysylltiol oedd nesaf i Christchurch. Roedden ni'n aros gyda theuluoedd lletyol yn Christchurch am ychydig ddyddiau, yna fel grŵp teithion ni ar hyd Ynys y De i lawr tuag at Dunedin i'r jamborî. Hwn oedd yr haf gwlypaf iddyn nhw ei gael ers sawl blwyddyn, felly does dim angen dweud eu bod wedi ein beio ni am ddod â'r glaw gyda ni. Roedd yn rhaid i ni ddewis gwahanol weithgareddau felly dewisais i rywbeth nad oeddwn i erioed wedi'i wneud o'r blaen - rafftio dŵr. Am brofiad! Roeddwn i'n gwersylla gyda merched o Awstralia, Seland Newydd, Fiji, Taiwan, pob cenedl wahanol. Roedden ni'n gwersylla yn y glaw, ac yna'n rafftio dŵr yn y glaw. Mae'n rhywbeth na fyddai fyth yn ei anghofio. Roedd wir yn brofiad oes. Cedwais mewn cysylltiad â'm gwesteiwr, Rachel, a merch o'r enw Penny ac ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach hedfanodd Penny i'r DU i gwrdd â theulu a daeth hi i aros gyda ni hefyd. Roedden ni'n gallu talu'r gymwynas yn ôl ac roedd hynny mor braf. Yn amlwg nawr, drwy'r cyfryngau cymdeithasol, rwy'n cadw mewn cysylltiad â rhai ohonyn nhw. Nid yn unig mae gen i atgofion melys ond rwy'n bendant yn meddwl ei fod wedi helpu i fy llywio i i'r person ydw i heddiw. Dysgodd i mi y gallaf gyflawni unrhyw beth rwy'n rhoi fy meddwl arno a gallaf fod yn well na'r hyn dwi'n credu yn fy meddwl weithiau. Gwnaeth bod yn y Geidiau wir fagu fy hyder. Pan rydych chi'n berson ifanc ac yn cael amrywiol drafferthion gyda'r ysgol neu fwlio, a brofais fy hun am fod gen i groen gwael iawn ar y pryd, gall fod yn anodd. Ond wedyn fe wnes i ymddwyn ychydig fel 'ta-ra bwlis, dwi'n mynd, dwi wedi cael y cyfle arbennig hwn a dwi'n mynd i fanteisio arno a gwneud y mwyaf ohono. Dydych chi ddim yn mynd i fy atal.’ Rwyf bellach yn swyddog cymdogaeth, wedi fy lleoli yn yr un gymuned â lle roeddwn i'n mynd i'r Geidiau. Mae llawer wedi newid yn yr ugain mlynedd ers i mi fod yn Geid, ond dydw i ddim yn meddwl bod y problemau roedd pobl ifanc yn eu wynebu heddiw a'r hyn roeddwn i'n eu wynebu bryd hynny yn rhy annhebyg. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn bendant wedi ei wneud yn anoddach, ond rwyf eisiau defnyddio fy mhrofiad a'r hyn dwi wedi profi i weithio gydag aelodau ieuengaf y gymuned a bod yn gyswllt iddynt, nid yn unig drwy fy rôl, ond fel bod dynol. Gofynnwyd i mi fynd yn ôl a siarad â fy hen grŵp, ac rwy'n bendant yn mynd i wneud hynny, a dwi'n gobeithio fy mod i wedi gwneud fy nghyn-arweinydd yn falch. Elinor Pearce, PCSO yn #TîmHDC |
Cyn i mi ddod yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu gyda Heddlu De Cymru, es i i'r Brifysgol i astudio cyfrifyddiaeth. Roeddwn yn credu mai dyna fyddai fy ngyrfa. Roeddwn yn hyfforddi i fod yn gyfrifydd gyda chwmni o Gyfreithwyr, ond yna daeth y cyfnod clo. Doeddwn i ddim yn teimlo'r un boddhad o beidio â bod yng nghwmni fy nghydweithwyr, gweithio gartref a gorfod cwblhau'r union dasgau dro ar ôl tro ag yr oeddwn wedi ei deimlo wrth ddechrau fy astudiaethau. Roedd hi'n anodd astudio ac roeddwn yn ei chael hi'n anodd canolbwyntio am fy mod wedi colli'r angerdd. Roeddwn yn cadw i feddwl am y cyfnod pan oeddwn yn ifanc ar hyn roeddwn i am ei wneud bryd hynny, a gofyn i mi fy hun ‘ai dyma'r llwybr gyrfa roeddwn i am fod arno?’ Cefais fy mhen-blwydd yn 30, ac roeddwn yn teimlo y gallwn fod yn ddigon ifanc i newid fy ngyrfa. Llwyddais i ennill cryn brofiad mewn cyfrifyddiaeth, felly gofynnais i mi fy hun ‘beth yw'r cam nesaf?’ Felly, fe wnes gais i ymuno â Heddlu De Cymru yn yr adran Adnoddau Dynol a llwyddais i ennill profiad helaeth yno. O'r rôl honno, llwyddais ymhen hir a hwyr i drosglwyddo i rôl Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu. Rwyf wedi cyflawni'r rôl ers tua tri mis bellach a newydd gyrraedd statws patrolio annibynnol. Mwynheais yr hyfforddiant yn fawr. Mae fy swydd yn cynnwys ymgysylltu â'r gymuned a delio â throseddau lefel isel ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Rwy'n cael boddhad o fynd o amgylch ysgolion amrywiol, cyfarfodydd PACT, Gwarchod y Gymuned ac ymgysylltu â'r gymuned, ond mae fy mryd ar ddod yn Dditectif. Mae gen i ddiddordeb mawr yn y Rhaglen Garlam i rôl Ditectif, a hoffwn, yn y pen draw, wneud cais i fynd ar y cwrs hwnnw. Rwyf wedi byw yn ardal De Cymru am y rhan fwyaf o'm bywyd. Rwy'n adnabod yr ardal yn dda ac yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau cymdeithasol. Rwy'n chwarae bowlio lawnt ac yn rhan o glwb rhedeg ac roeddwn i'n arfer chwarae dartiau hefyd, felly mae gen i gydberthynas dda â gwahanol glybiau a chymunedau yn yr ardal. Mae'n rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi ac rwyf am barhau i ddefnyddio fy mhrofiad a datblygu mewn maes rwy'n angerddol amdano i helpu ymhob ffordd. Thomas Pearson, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn #TîmHDC |
Pan oeddwn i'n 35 oed, cefais ddiagnosis o ddyslecsia ac ADHD. Cododd cyfle yn y gwaith i wneud cais am raglen gradd. Wnes i ddim gorffen fy nghymwysterau Safon Uwch am fy mod i'n cael cymaint o anawsterau yn yr ysgol tua'r diwedd, ond gwelais y cyfle hwn a meddwl ‘dyma fy amser’. Wrth i'r rhaglen ddechrau ac i'r gwaith ddechrau llifo i mewn, roeddwn i'n edrych ar y traethodau hyn a doeddwn i ddim yn gwybod ble i ddechrau. Roeddwn i ar goll! Roedd yr holl syniadau hyn yn fy mhen am beth roeddwn i am ei ddweud, ond ni allwn ddechrau. Dechreuais gwestiynu a oeddwn i'n gallu gwneud hyn. Roeddwn i'n meddwl, efallai nad yw'n addas i mi, efallai nad ydw i i fod i gael gradd, efallai nad ydw i'n ddigon deallus. Roeddwn i wedi teimlo nad oeddwn i'n ddigon da am flynyddoedd. Oherwydd, yn yr ysgol, rydych chi'n cael eich cymharu yn ôl eich gallu i sefyll arholiadau neu ennill gradd benodol ac os nad ydych chi'n gallu cyrraedd y safonau hyn, er eich bod chi'n gweithio'n galed iawn – mor galed ag y gallwch chi – mae'n anodd ac yn gwneud i chi deimlo'n unig. Cefais sgwrs gyda'm darlithydd a dywedais wrthi fy mod i'n cael trafferth. Roedd y brifysgol yn hynod gefnogol. Mi wnaethant fy rhoi i ar y llwybr cywir a wnaethon nhw fy sefydlu gyda chefnogaeth uniongyrchol a gofynnwyd i mi gwblhau prawf sgrinio cychwynnol o'r 'Do It'. Tynnodd hyn sylw at rai materion yn ymwneud â sillafu a rhifedd yn bennaf, ac yna cefais asesiad priodol. Dywedodd y fenyw oedd yn cynnal yr asesiad fwy neu lai yn syth fod gennyf rai anawsterau, a bod y prif un yn ymwneud â dyslecsia ffonolegol. Yn sydyn roedd popeth yn gwneud synnwyr. Yn fy nghalon, roeddwn i'n gwybod hyn yn barod. Roeddwn i'n gwybod fy mod i'n ddyslecsig oherwydd fy sillafu, y ffordd y mae fy nghof gweithredol yn gweithio, y ffordd roedd yn rhaid i mi weithio'n galetach i ddal i fyny â phawb arall. Ond roedd y diagnosis o ADHD yn destun syndod i mi, rhaid cyfaddef. Roedd hynny oherwydd fy nealltwriaeth a'm camsyniadau o ran beth yw ADHD. Rydych chi bob amser yn meddwl am y ddelwedd ystrydebol honno o blentyn gorfywiog sydd methu rheoli ei hun, sy'n wahanol iawn i fi. I fi, mae'n ymwneud â'm hanallu i ganolbwyntio ar bethau os nad ydynt yn ennyn fy niddordeb, ond os rhowch chi bwnc diddorol i mi, sy'n fy nenu'n naturiol, gallaf organolbwyntio arno a gwneud tua wythnos o waith mewn ychydig oriau. Cefais fy ngrymuso gan y diagnosisau hynny. Mae wedi fy helpu i ddatgloi sut rwy'n deall fy hun, a'r hyn sydd angen i mi gyfathrebu i eraill er mwyn i mi gyflawni fy llawn botensial. Rwy'n dechrau datblygu fy mecanweithiau ymdopi presennol i'm diwrnod gwaith i wneud sut rwy'n gweithio ychydig yn haws. Sut mae fy meddwl yn gweithio a'r ffordd y gall gofynion sy'n gwrthdaro â'i gilydd fy llethu'n gyflym, felly rydw i wedi dod o hyd i ffyrdd o reoli hynny'n well. Er enghraifft, rwy'n tueddu i recordio cyfarfodydd nawr fel nad oes rhaid i mi fynd yn ôl a gofyn i unigolion ailadrodd eu hunain; gallaf wrando yn fy amser fy hun. Mae rhywbeth mor syml â hynny yn gwneud i mi deimlo'n well amdanaf fy hun ac nid yw'n effeithio ar fy ngwaith chwaith. Rydw i wedi sylweddoli nad oes rhaid bod ar ben popeth bob dydd a bod yn wych bob amser. Mae bod yn iawn yn ddigon. Dwi'n gwneud ymdrech ymwybodol i ailosod fy meddwl, oherwydd un o nodweddion cyffredin ADHD a dyslecsia yw bod gennych ddisgwyliadau afrealistig iawn ohonoch chi'ch hun. Rwy'n empatheiddio â phobl eraill ond fi yw fy beirniad anoddaf - dwi wrth fy modd yn helpu pobl i ddod o hyd i'w sbarc unigol eu hunain a dangos y gwahaniaeth go iawn maen nhw'n ei wneud i eraill. Dydw i erioed wedi gallu gweld hynny ynof fi fy hun o gwbl. Felly rydw i wedi gwneud llawer o hunanfyfyrio. Yn fwy na dim, rydw i wedi bod yn ceisio deall pwy ydw i er lles fy merch oherwydd bod cysylltiad rhwng geneteg a dyslecsia ac roeddwn i am ei ddeall yn well rhag ofn y bydd angen i mi ei chefnogi hi ar y daith honno yn y dyfodol hefyd. Felly roedd hynny'n sbardun pwysig i mi; rydw i wedi bod yn straffaglu drwy bethau am 35 o flynyddoedd heb wybod yn wahanol. Rydw i wedi cyrraedd lle rydw i, rwy'n hynod falch o'r hyn rydw i wedi'i gyflawni - rwy'n Rhingyll, rydw i wrth fy modd gyda'm rôl, rwy'n mwynhau bod yn oruchwylydd a meithrin a chefnogi fy nhîm a'r bobl o'm cwmpas. Rydw i hefyd yn dditectif achrededig ac wedi gweithio ar ymchwiliadau cymhleth i lofruddiaethau ac achosion o gam-drin plant. Mae rhywfaint o fy ngwaith gyda dioddefwyr wedi cael cydnabyddiaeth ffurfiol ac rwy'n credu'n gryf fod hyn oherwydd fy ymennydd niwroamrywiol empathetig. Dydw i ddim yn arbenigwr ar niwroamrywiaeth o gwbl, mae hyn i gyd yn newydd i mi. Ond rwy'n teimlo ei bod yn bwysig siarad am y peth oherwydd rydw i am helpu i chwalu'r syniadau hynny sydd gan bobl am ddyslecsia ac ADHD. Roeddwn i'n arfer meddwl felly hefyd. A pho fwyaf rwy'n ymchwilio i'r peth, mwyaf y mae'n fy addysgu, felly pam ddim achub ar y cyfle hwnnw i addysgu pobl eraill hefyd? Oherwydd, eto, mi fyddech chi'n synnu faint o bobl sydd wedi dod ataf ers i mi siarad am fy mhrofiadau a dweud eu bod yn cydymdeimlo â'r hyn rwy'n ei ddweud neu eu bod yn gweld y nodweddion rwy'n siarad amdanynt yn eu plentyn eu hunain a'u bod wedi bod yn cwestiynu'r peth heb wybod ble i droi. Fy nghyngor i unrhyw un sy'n cael trafferth fel roeddwn i, yw i siarad a gofyn am help bob amser. Mae mwy o sgyrsiau yn mynd rhagddynt ynghylch niwroamrywiaeth nag erioed o'r blaen, ac mae hynny'n wych. Mae gwybodaeth yn rhoi grym mewn unrhyw bwnc. Mae cyfoeth o ddeunyddiau ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol, gan elusennau, grwpiau cymorth ac mewn gweminarau am ddim. Rwy'n teimlo bod cyfrifoldeb gennyf am fy mod yn un o'r rhai ffodus a lwyddodd i gael diagnosis, er bod hynny'n hwyrach mewn bywyd, felly rwy'n teimlo y dylwn rannu fy mhrofiadau rhag ofn y gall helpu rhywun arall. Rydw i am i bobl wybod ei bod hi'n iawn bod yn unigolyn, ac os gallaf gynnig ychydig eiriau o gymorth neu gysur yna mae hynny'n fy sbarduno. Os oes plentyn bach yn eistedd yn yr ysgol yn meddwl ‘fydda i byth yn gallu gwneud unrhyw beth’ neu ‘alla i ddim cael fy swydd ddelfrydol’, rydw i am allu dweud ‘gelli!’ Bydd rhaid gweithio'n galed, yn galetach na phobl eraill mae'n debyg, ac mae'n bosibl na fydd dy lwybr yn un traddodiadol, ond mi wnei di gyrraedd yno. Rwy'n gwybod pa mor ynysig mae'n gallu bod pan nad ydych chi'n deall pam eich bod chi'n wahanol neu pam na allwch chi ddal i fyny – rwy'n cofio cwestiynu fy hun yn gyson, ‘Ydw i'n dwp neu ydw i'n ddiog?’ – felly rydw i am allu cynnig ychydig o undod a dweud ‘Rwy'n dy weld di, rwy'n dy ddeall di, rydw i wedi bod yno. Ac mae'n iawn.’ Y Rhingyll Myfanwy Beaumont, #TîmHDC |
Rwy'n ymarfer ac yn hyfforddi ar gyfer RSD sy'n gwmni campfa, dawnsio a dawnsio cheer wedi'i leoli yn Ystad Ddiwydiannol Trefforest. Rwy'n ymarfer ddwywaith yr wythnos ar ddydd Mawrth a dydd Iau ac yna'n hyfforddi ar ddydd Sul. Ennill aur ym Mhencampwriaeth y Byd y llynedd yw fy nghyflawniad mwyaf hyd yma. Cefais fy newis ar gyfer Tîm Danswio Cheer dros Cymru ym mis Medi 2021 ac roeddwn ar dîm 'a addaswyd i bob gallu', sy’n cynnwys athletwyr anabl a rhai nad ydynt yn anabl. Buom yn ymarfer unwaith yr wythnos am bedair awr o fis Medi tan fis Ebrill, yna aethom i’r bencampwriaeth yn Fflorida ac ennill. Ffilmiwyd y broses gyfan, a rhyddhawyd rhaglen ddogfen ar y BBC o'r enw Blood, Sweat and Cheer. Rwyf wrth fy modd y gallaf ailwylio ein proses. Mae’n rhoi’r un hen deimladau a gallaf fynd â hynny gyda mi am weddill fy oes. Ennill aur oedd fy uchafbwynt mwyaf, allwch chi ddim gwella ar ennill aur. Mae angen llawer o ymrwymiad ar gyfer fy ngyrfa dawnsio a cheer. Rwy'n cystadlu gyda fy nhîm lleol RSD, a hefyd yn cystadlu dros Dîm Cymru. Fy nhrefn wythnosol arferol fyddai ymarfer ar ddydd Llun am dair awr a hanner, ac eto ar ddydd Mawrth a dydd Iau am ddwy awr. Unwaith y mis byddwn yn ymarfer am saith awr, lle byddwn yn treulio tair awr yn dawnsio yna'n gyrru yn syth i'r gampfa i ymarfer am bedair awr yn y prynhawn, gan ddechrau am hanner awr wedi deg a gorffen hanner awr wedi chwech. Er bod y ddwy sesiwn hyfforddi yn wahanol maent hefyd yn ddwys. Jasmine Hughes, intern Gwasanaethau Cymorth Gweithredol ac Eiddo yn #TîmHDC |
Cefais ddiagnosis o glefyd Parkinson Cynnar yn 2020 pan oeddwn yn 38 oed. Rwyf wastad wedi bod braidd yn grynedig, yn enwedig pan fyddaf dan straen ond roedd meddygon bob amser yn dweud wrthyf mai pryder oedd hyn. Ond yna yn 2019, cafodd fy mrawd iau ddiagnosis ohono yn 32 oed, a dywedodd fy ngŵr ar y pryd ‘Rwy’n meddwl ei fod gennyt ti hefyd’. Ac roedd y cyfan yn gwneud synnwyr. Roedd llawer o straen arna'i ar y pryd – roedd fy nhad yn sâl â chanser angheuol – ac unwaith eto dywedwyd wrthyf mai pryder oedd hyn. Ond wedyn, llwyddais i gael fy atgyfeirio at ymgynghorydd. Daeth ffrind gyda mi, a chefais sganiau ac ati, ym mis Chwefror. Yn y cyfamser gadawodd fy ngŵr ac roeddwn i ar fy mhen fy hun gyda'n dau blentyn ifanc ac yn dal i aros i gael gwybod yn sicr. Yna daeth y cyfnod clo, felly roeddwn i yn y tŷ ar fy mhen fy hun pan gefais y diagnosis dros alwad Skype ym mis Ebrill. Ond yn rhyfedd ddigon, fe wnaeth i mi deimlo gangwaith yn well am fy mod wedi cael ateb. Rydw i bellach ar feddyginiaeth ac rydw i'n teimlo fel person gwahanol. Rwy’n meddwl fy mod wedi derbyn y ffaith mai Parkinson's ydoedd erbyn i mi gael y diagnosis, ac felly'n meddwl y byddwn wedi cael fy siomi mewn ffordd os na fyddai hynny'n wir, gan na fyddwn wedi cael ateb o hyd. Pe na bai fy mrawd wedi cael diagnosis fyddai gen i ddim syniad hyd yn oed, felly mewn ffordd roedd yn fendith. Cefais feddyginiaeth fwy neu lai yn syth ac fe wnaeth gymaint o wahaniaeth. O’r blaen, byddwn i'n ceisio cuddio fy symptomau, byddwn i'n crynu ac yn osgoi siarad â phobl ac ati am fy mod i'n teimlo cywilydd ac ar adegau roedd pobl hyd yn oed wedi gofyn a oeddwn ar gyffuriau. Mae gen i radd mewn cerddoriaeth, ac rwy'n perfformio mewn band pres. Straen yw’r peth gwaethaf ar gyfer Parkinson’s ac ar adegau cyn fy niagnosis byddwn i'n crynu wrth berfformio. Roeddwn i'n meddwl mai pryder oedd hyn, ond wrth i mi deimlo mwy a mwy o straen gyda phopeth oedd yn digwydd roeddwn mewn cyflwr gwael iawn. Mae Parkinson’s yn gyflwr sy’n gwaethygu’n gynyddol. Ond ar hyn o bryd, mae llawer o bobl yn dweud na fydden nhw hyd yn oed yn gwybod bod gen i'r cyflwr. Cyn i mi gael diagnosis a meddyginiaeth byddai wedi bod yn fwy amlwg. Byddwn wedi edrych fel fy mod braidd yn wyllt, yn nerfus, ac yn crynu. Wn i ddim beth mae'r feddyginiaeth yn ei wneud, efallai mai dim ond cuddio'r symptomau y mae, ond yn bendant mae wedi rhoi fy hyder yn ôl i mi. Rwy’n dal i chwarae yn y band ac rwy’n teimlo cymaint yn fwy hyderus yn gwneud hynny nawr. Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am Parkinson’s cyn i fy mrawd gael diagnosis. Nid oedd neb arall yn fy nheulu wedi ei gael ac mae hyd yn oed rhaglenni amdano yn tueddu i wneud allan ei fod yn gyflwr sy’n effeithio ar hen bobl a dynion yn bennaf. Felly gwnes i lawer o waith ymchwil, mynd ar gwrs gyda Parkinson’s DU, ac ymuno â grŵp cymorth lleol ar gyfer pobl ifanc â Parkinson’s ar Facebook. Mae gen i lawer o ffrindiau ac rwyf wedi cael llawer o gefnogaeth trwy hynny. Mae grŵp ohonom yn cyfarfod yn lleol – dechreuodd gyda phedair menyw a nawr mae chwech ohonom a fy mrawd. Rydyn ni'n gallu chwerthin ar rai agweddau, ysgafnhau sefyllfaoedd, fel neidio ciw mewn parc thema. Mae gennym ni Parkinson’s yn gyffredin felly dydw i ddim yn teimlo’n unig. Ond y rhan fwyaf o'r amser dydyn ni ddim hyd yn oed yn siarad am y cyflwr, dim ond rhywbeth a ddaeth â ni at ein gilydd yw hynny. Rwyf hefyd newydd ddechrau dosbarth ymarfer corff o’r enw PD Warriors oherwydd mae’n debyg mai ymarfer corff yw’r peth gorau ar gyfer Parkinson’s, i helpu i atal y symptomau ac rwyf hefyd yn gwneud dosbarth gydag English National Ballet. A dweud y gwir, clefyd Parkinson oedd fy mhryder lleiaf dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf – yn ogystal â’r diagnosis a'r ysgariad a cheisio bod yn fam dda i fy mechgyn, bu farw fy nhad ym mis Rhagfyr 2020 hefyd. Roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi fwrw ymlaen, a dal ati. Mae'n rhaid i chi wneud popeth a allwch i helpu eich hun ac rwy'n gwrthod eistedd yno a gadael iddo fy atal rhag byw fy mywyd. Heather Giles, Gweinyddwr Larymau yn #TîmHDC |
A dweud y gwir, drwy hap a ddamwain yr es i i mewn iddo. Pan roeddwn i yn y brifysgol roeddwn i'n gwneud fy ngwaith maes mewn lle o'r enw Butser Ancient Farm yn Hampshire, a daeth criw o actorion ail-greu yno. Siaradais â nhw a dysgu amdanynt a gofynnon nhw i mi os oeddwn i eisiau aros noson gyda nhw. Fe wnes i, ac ers hynny dwi wedi gwirioni oherwydd mae'n fyd hollol wahanol, mae'n ddihangfa braf iawn. Arhosom mewn tŷ hir Sacsonaidd lle'r oedd tanllwyth o dân, a thu allan yn fud, roedd o'n heddychlon iawn. Roeddent yn gwneud hanes byw'r Sacsoniaid felly roedd pobl yn nyddu, pobl yn coginio, yn gwneud crochenwaith, gwaith lledr, gofaint. Roedd y gymuned fach hon wedi dod at ei gilydd ac fe wnaethom ni ymuno. Roedd hynny nôl yn 2016/17 a bellach rwy'n rhan o ddau grŵp gwahanol sy'n gwneud dau wahanol gyfnod. Rydym yn cyfarfod ar gyfer cymdeithasu ar y penwythnos, yn mynd ar deithiau i leoliadau hanesyddol, yn ymweld ag amgueddfeydd, y math hynny o bethau. Y pethau hyfryd, 'nerdy' hynny. Ond yna byddwn yn cynnal digwyddiadau, unwaith neu ddwywaith neu deirgwaith y mis os bydd yn dymor prysur iawn a byddwn yn mynd o amgylch y wlad. Os ewch chi i gastell, dyna fydd eich cartref am y penwythnos, rydych yn eistedd ac yn siarad â'r cyhoedd, gan roi brwydr fach ymlaen iddynt, sy'n dipyn o hwyl. Dwi'n rhan o'r There’s the Ragged Victorians, sy'n portreadu dosbarth gweithiol y 1850au. Felly byddwn yn mynd i leoedd fel SS Great Britain ac ardaloedd Fictoraidd eraill - mae tipyn wedi bod o amgylch Cymru megis Gwaith Haearn Blaenafon - ac yn darlunio dosbarthiadau budr, isel gweithwyr llaw Prydain yn Oes Fictoria. Mae nhw wedi fy rhoi fel y Muffin Man, felly byddai'n cerdded o gwmpas gyda swp o gramwythod a manion bethau. Pan fyddwch chi'n ymgysylltu â'r cyhoedd, mae bron fel pe baech gennych ddau wyneb. Bydd rhai pobl yn dod atoch ac yn gofyn cwestiwn am yr hanes a byddant yn awyddus i ddysgu amdano. Pan mae gennych blentyn bach yn edrych arnoch ac yn meddwl o ddifrif eich bod chi'n rhywun hen, budr o'r Oes Fictoria, rydych yn chwarae i'r rhan ac yn rhoi'r hanes iddynt yn uniongyrchol. Pan mae gennych blant ifanc sy'n ymddiddori mewn hanes, mae'n iawn dweud y ffeithiau wrthynt, ond mae gallu dangos iddynt, dod ag e'n fyw, dangos iddynt pa mor drwm yw rhywbeth, teimlo'r dillad a dangos gymaint mae'r gwlân yn cosi - mae'n rhoi deinamig hollol wahanol i hanes sydd ddim yn cael ei gyfleu mewn llyfr testun. Y grŵp arall dwi'n rhan ohono yw grŵp y Sacsoniaid. Nhw yw'r grŵp cyntaf yr ymunais â nhw ac maent yn cwmpasu Prydain Eingl-sacsonaidd cynnar. Felly, rydym yn gwneud brwydrau, nosweithiau gyda'r Sacsoniaid er mwyn i bobl allu dod draw, aros yn y tŷ, gwrando ar rai o ddarlleniadau o hen Saesneg a'r math hynny o beth. Yna mae gennych yr hanes byw o hynny, y gofaint, y pwythwyr, y gwehyddion. Gallech chi fod yn gwisgo darn o wisg a byddwch chi'n dweud ‘cafodd fy nghrys-t ei wneud ganddi hi yn y fan honno, cafodd fy nghleddyf ei wneud gan y dyn hwnnw yn y fan honno'. Mae'r cymdeithasau yn dda iawn wrth eich helpu i ymchwilio a chael y gwisgoedd, a chi sy'n berchen arnynt, ond ar y safle mae dwylo hyfryd, clyfar a chrefftus ac ni allwch chi brynu'r pethau hyn ar y silff. Felly mae gennych rywun yno'n pwytho tiwnig i chi â llaw, neu'n bwyth-gyfrif y semau ar ryffiau eich crys-t yn eich gwisg Oes Fictoria. Rwyf wedi meithrin ychydig o sgiliau ar hyd y ffordd; Rwy'n mwynhau gwneud ychydig o waith lledr, felly gallaf wneud pethau fel esgidiau ac rwy'n gwneud ychydig o waith efydd felly'n gallu gwneud rhai pethau wedi'u hail-greu o bethau y gwelwch chi mewn rhai beddau penodol. Mae fy nheulu yn dal i feddwl fy mod i ychydig yn rhyfedd. Dwi'n cofio pan roeddwn i'n arfer byw gartref ac yn dod yn ôl â lympiau a chleisiau, yn arogli o dân gwersyll, a byddent yn meddwl ‘pam ar y ddaear wyt ti'n gwneud yr hobi hwn’. Ond mae hi'n un o'r hobïau hynny na allwch chi ei disgrifio i rywun. Yr un ffordd o fynd i mewn iddo yw rhoi cynnig arno, ac yna byddwch yn sylweddoli beth yw'r ddihangfa. Nid oes gennych eich ffôn, yr unig bobl sydd gennych yw'r rhai o'ch cwmpas sy'n sgwrsio, ac yn cael amser da. Rydych yn cyfarfod pobl o bob cefndir ac mae pob un ohonynt wedi'u huno gan yr angen hwn i gael profiad ymarferol, gyda phobl debyg a dim byd yn tarfu ar hynny. Lewis Beck, Swyddog Treftadaeth gyda #TîmHDC |
Mae fy rôl fel dyfarnwr cynorthwyol rhyngwladol wedi mynd â fi i bedwar ban byd. Cefais fy newis ym mis Mai y llynedd i fynd i dwrnamaint dan 17 oed Ewro 2022, rwyf wedi dyfarnu tair gêm gyfeillgar ryngwladol lawn, ac rwyf hyd yn oed wedi bod i Ynysoedd Ffaro ar bedwar achlysur ar wahân! Yn gynharach yn ystod y tymor hwn, cefais brofiad o bêl-droed cam y grwpiau drwy ddyfarnu dwy gêm yn yr Europa Conference League –croesawodd Žalgiris o Lithwania Basel o'r Swistir, ac yna gwelwyd tîm Nice o Ffrainc yn erbyn Slovácko o'r weriniaeth Tsiec. Dyma'r lefel uchaf o swyddogion o Gymru rydym wedi'i gweld ers rhyw saith mlynedd fwy na thebyg. Roedd yn brofiad ardderchog. Rwyf wedi bod yn gweithio i Heddlu De Cymru ers ychydig dros flwyddyn, gan gymryd galwadau argyfwng a galwadau nad ydynt yn argyfwng gan y cyhoedd a neilltuo swyddogion i ddigwyddiadau. Gall fod tipyn o waith jyglo gan fod y gofynion ffitrwydd ar gyfer dyfarnu ar y lefel honno'n uchel, felly, yn ystod fy egwyl ginio neu ar fy egwyl yn ystod y shifft nos, am 3 neu 4 o'r gloch y bore er enghraifft, rwy'n aml yn y gampfa – weithiau does gen i ddim amser arall i'w wneud. Mae gen i deulu ifanc ac felly mae'n rhaid anelu at gael cydbwysedd – dyna'r her fwyaf un. Fel rheol, rwy'n rhan o dîm dyfarnu ochr yn ochr â Lewiss Edwards, sy'n swyddog ymateb ym Merthyr. O ganlyniad i batrwm ein shifftiau, rydym yn gweithio ar yr un tîm. Gwnaethom ddechrau dyfarnu gyda'n gilydd rhyw 12 neu 13 o flynyddoedd yn ôl – mae'r ddau ohonom yn byw yn yr un dref, gwnaethom dyfu i fyny gyda'n gilydd ac rydym yn ffrindiau gorau! O ran teithio dramor, weithiau does dim llawer o rybudd, ond mae'r gwaith wedi bod yn wych. Roeddwn wedi bod yn poeni ychydig cyn mynd i'r Pencampwriaethau Ewropeaidd dan 17 oed yn Israel, oherwydd roedd angen tair wythnos i ffwrdd arnaf – ond yn ffodus i mi, roedd fy ngoruchwyliwr a rheolwr yr ystafell yn gwbl gefnogol a rhoesant ganiatâd i mi fynd er gwaetha'r ffaith fy mod i'n gymharol newydd i'r rôl ar y pryd. Rwy'n mwynhau'r boddhad rwy'n ei gael o'm swydd fan hyn, ac mae'r un peth yn wir am ddyfarnu. Rwy'n ceisio gadael i hynny orbwyso'r agweddau negyddol, fel unrhyw driniaeth sarhaus y gallem ei dioddef. Ar y cyfan, rydych yn dysgu sut i ddelio â'r agweddau negyddol hynny, ond weithiau byddant yn eich bwrw oddi ar eich echel ac yn cael effaith sydyn arnoch, ychydig ddyddiau'n ddiweddarach efallai. Ond at ei gilydd, rwyf bob amser yn ceisio canolbwyntio ar yr agweddau cadarnhaol – rwy'n cael teithio ledled y byd yn cynrychioli fy ngwlad, rhywbeth nad oes llawer o bobl yn cael y cyfle i'w wneud. O ran fy ngwaith, mae pob galwad yn cyflwyno her wahanol. Ac yna, pan fyddaf ar y system radio fel swyddog neilltuo swyddogion, mae pob digwyddiad yn cyflwyno her wahanol. Mae rhywbeth newydd o hyd, ac rwyf wrth fy modd â'r hyn rwy'n ei wneud. Mae ochr ddyfarnu fy mywyd hefyd wedi helpu i roi gwell syniad i mi o sut y gallaf ddelio â sefyllfaoedd anodd neu lle mae angen i mi ymateb yn gyflym i rai agweddau ar y swydd. Mae fy nwy ‘swydd’ yn mynd law yn llaw â'i gilydd sy'n golygu bod y broses o bontio o un i'r llall yn eithaf llyfn ac rwy'n datblygu drwy'r amser. Ychydig flynyddoedd yn ôl, aeth Lewiss, minnau ac un arall allan i Saudi Arabia gan ymgymryd â rolau fel swyddogion gêm llawn amser ar gyfer rhyw 15 o gemau yn eu cynghrair uchaf. Roeddwn yn methu â chredu fy lwc yn cael profiad o hynny – roeddwn yn byw'r freuddwyd. Ond fel swyddog rhan-amser, rwy'n parhau i gael byw'r freuddwyd i raddau. Ac rwyf wir wrth fy modd â'm swydd yn yr heddlu – mae'n rhoi safbwynt newydd ar fywyd i mi. John Bryant, Swyddog Risg a Datrys Digwyddiadau |
Fe wnes i osgoi mynd at y meddyg am gyfnod hir iawn ac, yn y pen draw, fy ngwraig wnaeth fy ngorfodi i fynd. Mynd am reswm arall wnes i mewn gwirionedd, sef pwysedd gwaed uchel, gan ddefnyddio hynny fel esgus i ddatgelu i'r meddyg bod gen i anesmwythdra. Roedd yn sioc enbyd. Roeddwn i'n gweddïo ac yn gobeithio mai trawma oedd yr anesmwythdra – cefais fy nharo gan bêl tenis sawl mis cyn hynny – ac roeddwn yn credu mai dyna oedd gwraidd y broblem. Roeddwn i'n gweddïo mai dyna oedd wrth wraidd popeth. Ond ar ôl i mi fagu plwc a mynd at y meddyg, roedd gen i syniad gan ei fod wedi bod yno ers cymaint o amser. Allwn i gicio fy hun am beidio â mynd yn gynt a gwthio fy nghywilydd a phopeth arall o'r neilltu. Roedd clywed y geiriau, ‘ry'n ni'n credu bod gen ti ganser’, yn ddychrynllyd. Roeddwn i mewn sioc lwyr, oherwydd rydych chi'n canolbwyntio ar yr un gair hwnnw a dydych chi ddim yn clywed dim byd arall ar ôl hynny. Dim ond sŵn cefndir yw popeth arall – y cyngor meddygol mae'n nhw'n ei roi i chi – allwch chi ddim peidio ag ofni'r gwaethaf. Ac roedd hynny'n wir iawn yn fy achos i, wrth i mi fynd ati i gynllunio fy angladd fy hun, y caneuon roeddwn i eu heisiau, gwneud yn siŵr bod y teulu yn iawn, dweud wrth fy ngwraig ble roedd y papurau yswiriant, a'r math hynny o beth. Pethau doedden nhw ddim am eu clywed. Yn enwedig yn ystod y cyfnod cynnar hwnnw pan doedden ni ddim yn gwybod yn iawn beth oedd y prognosis. Ac, wyddech chi, mae gan ganser y ceilliau gyfradd oroesi uchel iawn y tu hwnt bum mlynedd; 98%, cyn belled â'i fod yn cael ei ganfod yn ddigon cynnar. Ond roeddwn i bob amser yn amau fy mod wedi gadael pethau'n rhy hir. Yn sicr, roedd gen i ganser eilaidd, o bosibl am fy mod wedi aros yn rhy hir cyn mynd at y meddyg. Yr aros heb wybod oedd y peth gwaethaf – dyna a achosodd y gofid a'r straen; roedd fy emosiynau ar chwâl. Fe wnes i osgoi troi at Dr Google i ymchwilio gan fy mod yn dipyn o besimist – rwy'n gefnogwr Lerpwl a rygbi Cymru ers blynyddoedd, felly rwy'n gallu bod yn besimist. Felly, ceisiais osgoi gwneud hynny cymaint â phosibl a gadael y cyfan i'r gweithwyr proffesiynol ac ymddiried yn eu cyngor a'u harweiniad nhw. Ond, unwaith roeddwn i'n gwybod yn union beth oedd i ddod, roedd yn haws canolbwyntio. Mae'r cyfraddau goroesi, yr ystadegau, yn gadarnhaol iawn. Ond roeddwn i'n rhan o garfan ystadegol fach; 1, Roeddwn i'n 46 oed ar y pryd, felly roedd hynny'n dipyn o anomaledd am ei fod yn cael ei ystyried yn ganser dynion ifanc a 2, roeddwn i ymhlith y 10% neu lai y mae angen triniaeth bellach arnyn nhw, ac roedd angen y cemotherapi arna i. Ac yn ystod fy adolygiad blynyddol yn Felindre, gwnaethon nhw ganfod fod gen i nodiwl para-aortig yr ystyriwyd ei fod yn ganseraidd, felly bu'n rhaid i mi gael rhagor o gemotherapi a radiotherapi. Ond roeddwn i'n gwybod y byddwn i'n gallu ymdopi â'r cyfan. Pan oeddwn i'n mynd yn ôl ac ymlaen i Felindre, byddwn i yno am 40 munud ar gyfer fy nghemotherapi, a byddai pobl eraill yno am 6/7 awr, ac roedd hynny'n agoriad llygad. Ac roedden nhw'n mynd yno am sawl dos hefyd, a wyddech chi, roedd hynny'n anodd. Byddwn i'n eistedd yno, yn heddwas mawr a chydnerth, yn edrych o gwmpas yn meddwl, ‘Dwi'n lwcus a dwi'n gweddïo dros bawb yma’. Felly, roeddwn i'n teimlo'n ddiolchgar o gael mynd yno. Rwy'n cyfrif fy mendithion pan fydd pobl yn holi nawr, ond ar hyn o bryd, er bod fy nhaith wedi dechrau ers tair blynedd, oherwydd y cemotherapi eilaidd, maen debyg eu bod nhw ond yn ystyried fy mod yn glir ers dwy flynedd ar hyn o bryd, ac rwyf yn y cyfnod pum mlynedd hwnnw lle mae'r risg yn dal i fod ychydig yn uwch. Felly, rwy'n credu mai pum mlynedd yw'r ffigur hudol rwy'n anelu ato. Rwy'n dal i gael fy ngoruchwylio, ac mae gwybod bod Felindre yno yn gofalu amdana i yn rhoi tawelwch meddwl mawr. Drwy hyn i gyd, rwy'n teimlo'n ffodus tu hwnt. Rwyf wedi cael cefnogaeth fy nheulu cariadus o'm cwmpas. Roedd yn gyfnod rhyfedd iawn yn ystod COVID-19, ond wrth edrych yn ôl, roedd yn adeg hyfryd i ni fel teulu oherwydd roedden ni gyda'n gilydd, a rhoddodd hynny'r nerth i mi frwydro ymlaen. Steve Jones, Prif Uwch-arolygydd gyda #TimHDC |
Mae fy anhwylder gwaed, Niwtropenia, yn enetig ac mae'n golygu bod diffyg celloedd gwyn yn y gwaed i ymladd heintiau, a achosir gan fêr yr esgyrn. Mae un o bob miliwn o bobl yn cael ei eni â'r cyflwr. Nid wyf yn gwybod am unrhyw un arall sydd â'r cyflwr am ei fod mor brin. Fel unrhyw salwch cronig, ar ôl amser rydych yn dysgu am y ffyrdd gorau o'i reoli. Mae wedi fy newid fel person ac roeddwn bob amser yn gwybod fy mod eisiau gweithio mewn rôl sy'n helpu pobl, ac yn fy amser rhydd rwy'n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ymuno â'r gofrestr mêr esgyrn. Pe bawn i'n cael plant mae posibilrwydd y byddai ganddyn nhw Niwtropenia hefyd. Rwyf wedi ystyried hynny, ac rwyf wedi siarad â fy nghariad amdano, ac mae e' bob amser yn dweud ‘os byddai ganddyn nhw Niwtropenia, byddai ganddyn nhw'r athrawes orau i ddelio ag ef’. Ac rwy'n credu ei fod yn iawn mewn ffordd. Yr holl bethau rwyf wedi eu dysgu ar hyd y ffordd – wyddoch chi, pan oeddwn i'n iau, bob tro roeddwn yn ymchwilio i'r cyflwr ar Google, byddai'r gair canser yn ymddangos ac, er nad oes gen i ganser, roedd yn codi ofn arnaf. Ond mae'r triniaethau yn gwella o hyd ac mae'r GIG wrthi'n datblygu mwy. Yn fy arddegau, roedd yn rhaid i mi gymysgu fy mhigiadau fy hun gan ddefnyddio'r meddyginiaethau rhagnodedig, ond nawr maen nhw'n dod mewn chwistrell fach, ac rwy'n ei defnyddio, yna'i gwaredu. Felly, os byddwch chi'n ystyried faint mae hynny wedi datblygu mewn 15 mlynedd, dim ond parhau i wella fydd y triniaethau. Jen Collins, Uwch Swyddog Cyfathrebu yn #TîmHDC |