Stamp amser presennol: 17/07/25 07:04:44
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Ditectifs yn annog ymwybyddiaeth o flacmel rhywiol – er mwyn helpu i gael gwared ar y pŵer sydd gan droseddwyr tu ôl i'r sgam creulon

Cynnwys y prif erthygl

Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 15:33 14/06/24

Mae ditectifs yn Heddlu De Cymru yn rhoi rhybudd am sawl achos hysbys o flacmel rhywiol – lle mae dioddefwyr yn cael eu blacmelio â'r bygythiad y caiff lluniau rhywiol ohonynt eu rhannu, oni bai eu bod yn rhoi arian – yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Math o flacmel ar-lein yw hyn. Mae'r troseddwyr sy'n gysylltiedig â hyn yn defnyddio nifer o ddulliau gwahanol i geisio cael arian gan eu dioddefwyr – drwy eu darbwyllo, eu cymell neu eu twyllo i dynnu lluniau neu fideos noeth neu hanner noeth ohonyn nhw eu hunain a'u hanfon. Ar ôl i'r troseddwr gael gafael ar y rhain, mae'n bygwth eu rhyddhau i anwyliaid y dioddefwyr, oni bai eu bod yn talu.

Weithiau, mae troseddwyr yn esgus bod yn rhywun sydd â diddordeb mewn meithrin perthynas, gan greu proffil ffug ar-lein yn aml, a allai arwain at gyfnewid lluniau o natur bersonol. Ond unwaith eto, mae eu bwriad troseddol yr un fath.

Mewn rhai achosion, mae troseddwyr yn clonio neu'n dynwared cyfrifon rhywun y mae dioddefwyr yn ei adnabod, sy'n gwneud iddyn nhw gredu eu bod yn adnabod yr unigolyn y maen nhw'n siarad ag ef/hi. Unwaith eto, ar ôl i hyn ddatblygu i rannu lluniau o natur bersonol, mae'r troseddwr yn eu defnyddio i gael arian.

People with warning notification and spam message icon on mobile phone

Gall blacmel rhywiol gael ei gyflawni gan unigolion, ond mae gangiau troseddau cyfundrefnol y tu ôl iddo fel arfer. Mae troseddwyr yn aml yn targedu pobl trwy apiau detio, cyfryngau cymdeithasol, gwe-gamerâu, neu wefannau pornograffi. Os yw person rydych newydd gyfarfod ag ef/hi ar-lein yn sgwrsio â chi mewn ffordd rywiol, neu’n gofyn am ddelweddau rhywiol, gallai fod yn ymgais i gyflawni blacmel rhywiol. Dylech fod yn wyliadwrus os yw rhywun rydych wedi cwrdd â nhw ar-lein:

  • yn ceisio dechrau perthynas â chi yn gyflym iawn (efallai y byddant hyd yn oed yn anfon delwedd rywiol atoch chi yn gyntaf)
  • wedi anfon ceisiadau ffrind at lawer o bobl, nid dim ond chi
  • yn gofyn dro ar ôl tro i chi wneud pethau rhywiol nad ydych chi’n gyfforddus yn eu gwneud
  • yn dweud wrthych eu bod wedi hacio eich cyfrif neu wedi cael gafael ar eich cysylltiadau

Gall ymdrechion i gyflawni blacmel rhywiol ddigwydd yn gyflym iawn, neu gallant ddigwydd dros gyfnod hir. Ni ddylech fyth rannu delweddau rhywiol neu wybodaeth amdanoch chi’ch hun os nad ydych yn gyfforddus yn gwneud hynny.

Gall unrhyw un fod yn ddioddefwr blacmel rhywiol. Fodd bynnag, pobl ifanc rhwng 15 a 17 oed, ac oedolion o dan 30 oed sydd mewn mwyaf o berygl yn aml.

Dywedodd DS Nicola Richards, o Uned Troseddau Economaidd a Seiberdroseddau Heddlu De Cymru:

“Mae blacmel rhywiol yn drosedd greulon sy'n cael ei chyflawni gan y rhai sydd ddim yn poeni dim am ddinistrio bywyd eu dioddefwr.

“Os byddwch yn dioddef blacmel rhywiol, cofiwch nid eich bai chi yw hyn. Nid ydych wedi gwneud dim byd o'i le, felly peidiwch â phoeni – cofiwch fod help a chymorth ar gael.

“Ein cyngor ni yw y dylech roi'r gorau i gyfathrebu â'r troseddwr ar unwaith. Peidiwch â thalu, hyd yn oed os ydych wedi cael eich temtio, gan nad oes unrhyw sicrwydd y bydd hyn yn atal y bygythiadau. Gan mai cael arian yw cymhelliant y troseddwr, ar ôl i chi ddangos y gallwch dalu, efallai y bydd yn gofyn am fwy, a gall y blacmel barhau. Os byddwch wedi talu, unwaith eto, peidiwch â mynd i banig, ond peidiwch â thalu mwy.

“Dylech bob amser gadw'r dystiolaeth. Cymerwch sgrinluniau, cadwch negeseuon a lluniau, a gwnewch nodyn o enwau defnyddiwr, cyfeiriadau e-bost, rhifau ffôn a rhifau cyfrif banc. Cofiwch osgoi dileu unrhyw beth:peidiwch â dileu dim byd a allai gael ei ddefnyddio fel tystiolaeth.

“Ac, os yw'n bosibl, casglwch y dolenni URL lle mae eich lluniau neu'ch gwybodaeth yn cael eu rhannu ar-lein.

“Byddem hefyd yn annog pawb i ymgyfarwyddo â'r math hwn o drosedd. Dysgwch sut y gallwch adnabod yr arwyddion os bydd rhywun sy'n agos atoch yn cael ei dargedu, a sut y gallwch gefnogi pobl ifanc, a'u hannog i ofyn am gymorth os bydd angen.

“Mae'n hanfodol dileu pob stigma mewn perthynas â'r pwnc hwn – drwy wneud hynny, gallwn gael gwared ar y pŵer sydd gan y cyflawnwyr creulon ac ystrywgar hynny.”

Yn gynharach eleni, gwnaeth yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol roi rhybudd i gannoedd ar filoedd o athrawon yn y DU mewn ymateb i gynnydd yn nifer yr achosion o flacmel rhywiol dros y byd.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.