Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae asiantaethau gorfodi'r gyfraith wedi rhybuddio ynghylch cynnydd sylweddol yn nifer yr adroddiadau o ‘flacmel rhywiol’ fel y'i gelwir – pan fydd pobl yn cael eu gorfodi i dalu arian neu fodloni gofynion ariannol eraill ar ôl i droseddwr fygwth rhannu ffotograffau noeth neu hanner noeth ohonynt.
Yr wythnos hon, rhannodd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol rybudd â channoedd o filoedd o athrawon yn y DU yn dilyn cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion byd-eang o flacmel rhywiol, neu flacmel rhywiol sydd â chymhelliant ariannol.
Gallai'r delweddau a ddefnyddir fel blacmel ar-lein fod yn ffotograffau neu fideos go iawn a gymerwyd gan y dioddefwr, neu'n ddelweddau ffug a grëwyd ohono gan y troseddwr.
Mae'n rhoi cyngor ar adnabod yr arwyddion, cefnogi pobl ifanc a'u hannog i geisio cymorth. Mae'n cynnwys canllawiau i rieni a gofalwyr ar sut i siarad â'u plentyn am flacmel rhywiol, a sut i'w gefnogi os caiff ei dargedu – i gael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â'r pwnc a thynnu'r pŵer oddi wrth y troseddwyr.
Cyngor i rieni a gofalwyr os bydd eu plentyn yn dweud bod rhywun yn ceisio ei dwyllo, ei fygwth neu ei flacmelio ar-lein:
Gall oedolion hefyd helpu pobl ifanc i dynnu eu delweddau i lawr gan ddefnyddio adnodd Report Remove Childline a Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd, adnodd Take It Down y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Plant Coll ac wedi'u Hecsbloetio, a rhoi gwybod i'r llwyfan neu'r ap a ddefnyddiwyd i'w rhannu. Ceir rhagor o wybodaeth i rieni a gofalwyr am sut y gallant helpu eu plentyn yn erthygl CEOP Education ar flacmel ar-lein. |
Yn 2023, roedd nifer yr achosion o flacmel rhywiol byd-eang a gafodd eu hadrodd i Ganolfan Genedlaethol yr UD ar gyfer Plant Coll ac wedi'u Hecsbloetio (NCMEC) wedi mwy na dyblu i 26,718.
Caiff pob grŵp oedran a rhywedd ei dargedu, ond mae cyfran fawr o'r achosion yn cynnwys dioddefwyr gwrywaidd rhwng 14 a 18 oed. Dynion oedd naw o bob 10 o'r dioddefwyr mewn achosion o flacmel rhywiol yn y DU yr aeth Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd i'r afael â nhw yn 2023.
Gwneud arian yn gyflym, yn hytrach na boddhad rhywiol, yw cymhelliant y grwpiau troseddu cyfundrefnol sydd wedi'u lleoli dramor ac sydd fel arfer yn cyflawni sgamiau blacmel rhywiol. Mewn rhai achosion, maent wedi mynd o gysylltu â'u dioddefwr am y tro cyntaf i'w flacmelio o fewn awr.
Nodwyd bod dioddefwyr sy'n blant:
Dywedodd James Babbage o'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol:
“Nid yw troseddwyr yn poeni am y dioddefwyr na'r bywydau y gallant eu dinistrio. Elwa'n ariannol yw eu hunig gymhelliant.
“Rydym yn gofyn i weithwyr addysg proffesiynol ein helpu i godi ymwybyddiaeth o'r math hwn o drosedd, sy'n cynyddu ledled y byd yn anffodus. Nod y rhybudd hwn yw eu helpu i gefnogi pobl ifanc a all gael eu targedu.
“Mae blacmel rhywiol yn achosi straen a phryder eithriadol ac, yn anffodus, gwyddom am oedolion a phobl ifanc sydd wedi lladd eu hunain o ganlyniad i hyn.
“Mae llawer o'r dioddefwyr yn teimlo'n gyfrifol, ond mae angen iddynt wybod nad yw hynny'n wir o gwbl; nid chi sydd ar fai, ac mae help a chymorth ar gael. Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth gyda'r rhybudd hwn, rydym am annog pobl ifanc i roi gwybod am ddigwyddiadau i oedolyn y maent yn ymddiried ynddo, yr heddlu neu Ganolfan Ddiogelwch CEOP.”
Dywedodd Tom Tugendhat, Gweinidog Diogelwch Llywodraeth y DU:
“Byddwn yn annog rhieni i siarad â'u plant am eu defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol. Gall hyd yn oed safleoedd y tybir eu bod yn ddiogel beri risg.”
Dywedodd Susie Hargreaves, Prif Weithredwr Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd:
“Mae'r rhybudd hwn i ysgolion yn ymyrraeth cwbl hanfodol i atal yr epidemig hwn sydd eisoes wedi dinistrio cymaint o fywydau ifanc. Mae'r troseddwyr hyn yn gwbl ddi-dostur, ac nid oes ots ganddynt pan fydd y cywilydd a'r ofn a berir ganddynt yn gwneud i rai plant ladd eu hunain.
“Ond rydym am i blant wybod nad ydynt ar eu pen eu hunain, ac ni waeth pa mor unig y byddant yn teimlo, mae ateb, a ffordd o gymryd rheolaeth a brwydro'n ôl. Mae adnodd Report Remove rydym yn ei redeg gyda Childline yn chwyldroadol ac mae'n eich galluogi i atal delweddau rhywiol rhag cael eu rhannu a mynd yn feirol ar-lein.
“Os ydych yn cael eich targedu fel hyn, cysylltwch â ni. Nid yw'n sefyllfa anobeithiol, ac rydym yma i'ch helpu."
Dywedodd Richard Collard o'r NSPCC:
“Mae plant sy'n cysylltu â Childline am eu bod yn cael eu blacmelio'n rhywiol yn aml yn llawn gofid ac yn methu gweld ffordd allan o'u sefyllfa.
“Pan fyddant yn cael eu targedu gan y drosedd hon, yn aml byddant yn teimlo gormod o ofn neu gywilydd i roi gwybod amdani. Mae'n bwysig bod plant yn gwybod nad nhw sydd ar fai am yr hyn sydd wedi digwydd, a byddem yn annog unrhyw berson ifanc i siarad ag oedolyn y gall ymddiried ynddo er mwyn cael help a chymorth.”