Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd saith unigolyn eu harestio a daethpwyd o hyd i unigolyn coll diolch i'n technoleg Adnabod Wynebau Byw mewn pedwar gig yn ne Cymru yr haf hwn.
Defnyddiwyd y dechnoleg yng nghyngherddau Taylor Swift, P!nk, Foo Fighters ac Eric Prydz yng Nghaerdydd – ac yn ystod yr ymgyrchoedd hynny, cafodd 11 o ‘rybuddion’ eu creu mewn perthynas â phobl a oedd wedi'u cynnwys ar ein rhestrau gwylio.
Caiff rhestrau gwylio eu creu cyn i unrhyw dechnoleg gael ei defnyddio, ac maent yn cynnwys lluniau o'r troseddwyr y mae'r heddlu a'r llysoedd yn chwilio amdanynt, yn ogystal â phobl a all beri risg o niwed iddyn nhw eu hunain neu i eraill.
Mae'r camerâu yn targedu ardal, a chaiff y lluniau a grëir eu cymharu â'r rhestr wylio. Pan fydd y dechnoleg yn canfod cyfatebiad posibl, caiff rhybudd ei greu.
Yn ystod y pedwar gig yr haf hwn, cafodd saith unigolyn eu harestio o ganlyniad i'r rhybuddion hyn – am droseddau yn cynnwys ymosod a lladrata, a thrais domestig.
Ers i'r dechnoleg Adnabod Wynebau Byw gael ei hail-lansio yn 2023, rydym wedi sganio mwy na 2.5 miliwn o wynebau, ac nid oes unrhyw rybuddion ffug wedi cael eu creu.
Ni ellir adnabod pobl nad ydynt wedi'u cynnwys ar restr wylio. Rydym yn dileu lluniau â hysbysiadau yn syth ar ôl eu defnyddio, neu o fewn 24 awr. Caiff lluniau a data biometrig o'r rhai nad ydynt yn achosi rhybudd eu dileu yn awtomatig ar unwaith.
Yn y cyfamser, rydym hefyd yn defnyddio technoleg Adnabod Wynebau Ôl-weithredol, sy'n cymharu lluniau llonydd o wynebau unigolion anhysbys â chronfa ddata o ddelweddau cyfeirio er mwyn eu hadnabod.
Mae hyn wedi arwain at nifer o euogfarnau.
Gall technoleg newydd drawsnewid plismona a'r system cyfiawnder troseddol ehangach, gan ei gwneud yn fwy effeithlon ac effeithiol i swyddogion a staff, a'r cyhoedd.