Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu De Cymru yn defnyddio technoleg adnabod wynebau byw i gefnogi plismona cyngerdd cerdd Kendrick Lamar yn Stadiwm Principality, yng nghanol dinas Caerdydd ar 19 Gorffennaf 2025.
Bydd y dechnoleg adnabod wynebau byw yn cael ei defnyddio yn yr ardal mewn glas, LFR ACTIVE AREA yn y map isod:
Y diben penodol ar gyfer defnyddio Technoleg Adnabod Wynebau Byw yw:
Cefnogi Plismona yn y gwaith o adnabod unigolion y mae'r heddlu yn chwilio amdanynt am droseddau blaenoriaeth uchel, cefnogi'r broses o orfodi'r gyfraith gan gynnwys gweinyddu cyfiawnder (drwy arestio unigolion sy'n destun gwarant neu sy'n rhydd yn anghyfreithlon/wedi'i adalw i'r carchar), ac i sicrhau a hyrwyddo diogelu plant a phobl agored i niwed sy'n wynebu risg.
Mae'r lleoliadau lle y defnyddir Technoleg Adnabod Wynebau wedi'u marcio'n glir gydag arwyddion.
Cliciwch i weld canlyniadau pob defnydd Technoleg Adnabod Wynebau Byw.
Defnyddir Technoleg Adnabod Wynebau Byw fel tacteg effeithlon ac effeithiol o atal a chanfod troseddau, a diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Rydym fel rheol yn defnyddio'r dechnoleg mewn digwyddiadau cyhoeddus ac mewn mannau cyhoeddus prysur, ac mae'n cael ei gosod i helpu gweithrediadau plismona lle mae gennym y wybodaeth sy'n cefnogi'r defnydd ohoni.
Yn ystod prawf ym mis Mawrth 2022, llwyddwyd i adnabod tri unigolyn yn gywir a chafodd dau ohonynt eu harestio.
Ni fyddwn byth yn storio eich data biometrig os nad ydych chi ar restr wylio. Cânt eu dileu'n awtomatig ar unwaith. Yn ogystal, bydd Heddlu De Cymru yn dileu pob rhybudd ar unwaith ar ôl eu defnyddio neu o fewn 24 awr. Caiff y deunydd o fideo CCTV gan y dechnoleg ei gofnodi a'i gadw am hyd at 31 diwrnod.
Rhestr wylio yw hon sy'n cynnwys manylion y bobl y mae'r heddlu yn chwilio amdanynt am droseddau, sy'n destun gorchmynion llys neu sy'n peri risg i'r cyhoedd. Ni allwch gael eich paru oni bai eich bod ar y rhestr wylio. Ni fu un camarestiad o ganlyniad i'r defnydd o dechnoleg adnabod wynebau gan Heddlu De Cymru. Pan fydd y dechnoleg yn canfod cyfatebiad posibl, caiff rhybudd ei greu.
Caiff unrhyw rybuddion eu cadarnhau gan weithredwr cyn y bydd swyddogion yn ymyrryd ar lawr gwlad. Bydd y system ond yn ceisio cyfateb yr unigolion sydd wedi cael eu rhoi ar y rhestr wylio. Mae pob rhestr wylio yn unigryw i'r digwyddiad hwnnw lle caiff y dechnoleg ei dosbarthu.
Mae hyn yn ymwneud â data biometrig pobl nad ydynt yn achosi rhybudd. Caiff y data biometrig eu dileu'n awtomatig ac ar unwaith. O ran y delweddau hynny sy'n achosi rhybudd, caiff y rhain eu dileu o fewn 24 awr.
Hawliau preifatrwydd a chyfreithlondeb ar gyfer defnyddio technoleg Adnabod Wynebau Byw
Mae defnydd Heddlu De Cymru o dechnoleg adnabod wynebau byw wedi'i gynllunio i fod yn gyfrifol, yn gymesur ac yn deg. Ei nod yw cadw'r cyhoedd yn ddiogel, adnabod troseddwyr difrifol ac amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed. Mae Heddlu De Cymru yn arfer tryloywder sy'n dangos effeithiolrwydd, cymesuredd a chydymffurfiaeth â deddfwriaeth a chanllawiau wrth ddefnyddio technoleg adnabod wynebau byw.
Dim ond pobl mae'r heddlu'n chwilio amdanynt neu sydd dan amheuaeth a fydd ar restr wylio wedi'i hawdurdodi, ac ni allant optio allan. Os ydych yn awyddus i gael eich eithrio o'r defnydd o'r dechnoleg, nid yw hyn ar ei ben ei hun yn sail i ni ryngweithio â chi. Byddwn bob amser yn cyhoeddi'r dyddiadau a'r lleoliadau lle defnyddir y dechnoleg sawl diwrnod ymlaen llaw, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol iawn.
Caiff delweddau/data biometrig o bobl nad ydynt yn achosi rhybudd eu dileu yn awtomatig ac ar unwaith. Caiff delweddau sy'n cynhyrchu rhybudd eu dileu'n syth ar ôl eu defnyddio neu cyn pen 24 awr. Caiff deunydd CCTV a ddefnyddir gan y dechnoleg adnabod wynebau byw ei recordio a'i gadw am 31 diwrnod.
Yn hanesyddol, bu trafferthion gyda Thechnoleg Adnabod Wynebau a rhagfarn bosibl ar sail rhywedd ac ethnigrwydd. Mae'r rhagfarn hon wedi lleihau'n sylweddol dros amser wrth i'r dechnoleg ddatblygu.
Ar ôl gweithio gyda'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol, mae adroddiad wedi cael ei lunio sy'n rhoi dadansoddiad diduedd i ni sy'n seiliedig ar dystiolaeth wyddonol o berfformiad yr algorithm adnabod wynebau a ddefnyddir ar hyn o bryd gan Wasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd a Heddlu De Cymru. Mae'n dweud wrthym:
Ni fyddwn fyth yn trosglwyddo data biometrig i unrhyw asiantaethau trydydd parti.
Caiff yr holl ddeunydd CCTV a gaiff ei recordio gan CCTV symudol ei ddileu o fewn 31 diwrnod yn yr enghreifftiau isod, pan gaiff ei gadw:
Gall y ganran hon amrywio a chaiff ei heffeithio gan sawl ffactor gan gynnwys cwmpas y rhestr wylio a faint o bobl sy'n mynd drwy barth adnabod y camera.
Canlyniadau a data pob defnydd Technoleg Adnabod Wynebau Byw.
Mae'r holl ddogfennau sy'n ymwneud â defnydd Technoleg Adnabod Wynebau Byw ar gael yn nogfennau Technoleg Adnabod Wynebau Byw.
Mae Heddlu De Cymru wedi profi ei Dechnoleg Adnabod Wynebau ar y cyd â Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd a'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol i ganfod cywirdeb y dechnoleg, er mwyn profi a oes rhagfarn tuag at unrhyw grŵp is-ddemograffig ar sail Oedran, Ethnigrwydd neu Ryw, ac i ganfod yr amodau gorau lle gall y dechnoleg weithredu heb unrhyw ragfarn y gellir ei nodi tuag at unrhyw grŵp is-ddemograffig, gan gyflawni'r canlyniadau gorau posibl er mwyn gorfodi'r gyfraith.
Mae canfyddiadau'r prawf hwn i'w gweld ar wefan allanol - gwyddoniaeth a thechnoleg ym maes plismona.