Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae lleidr a ymosododd ar swyddog diogelwch a thaflu diod yn ei wyneb yn y carchar, diolch i dechnoleg adnabod wynebau.
12 Mehefin (2024), cerddodd dyn anhysbys i'r siop Sainsbury's ar Heol Eglwys Fair, Caerdydd a rhoi dwy ddiod alcoholig yn ei boced cyn ceisio cerdded allan.
Cafodd ei weld yn gwneud hyn gan swyddog diogelwch y siop a ofynnodd iddo roi'r diodydd yn eu hôl, ond gwrthododd y dyn. Gadawodd y siop ond yn fuan wedyn dychwelodd i daflu un o'i ddiodydd dros y swyddog gwarchod a'i daro.
Cafodd swyddogion lun o ddeunydd teledu cylch cyfyng o'r unigolyn dan amheuaeth yn y siop a llwyddodd Technoleg Adnabod Wynebau Ôl-weithredol i adnabod Marcus Spiteri. Mae Technoleg Adnabod Wynebau Ôl-weithredol yn cymharu lluniau llonydd o wynebau unigolion anhysbys yn erbyn llun y gronfa ddata delweddau cyfeirio er mwyn eu hadnabod.
Cafodd Spiteri, 39 oed, ei arestio, ei gyhuddo am ymosod ac am ddwyn o siop a'i garcharu am 14 wythnos o fewn wythnos i'r drosedd.
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, PC Grace Burr: "Ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o gamdriniaeth tuag at weithwyr mewn siopau. Drwy weithio'n agos gyda'r rheolwyr yn siop Sainsbury's yng Nghaerdydd, gallom ddefnyddio technoleg adnabod wynebau i adnabod y troseddwr yn gyflym a'i arestio. Roedd yn y carchar o fewn wythnos, a dyma'r math o gyfiawnder cyflym y gall technoleg adnabod wynebau helpu i'w gyflawni."
Llun o'r CCTV yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer Technoleg Adnabod Wynebau Ôl-weithredol (chwith) a llun dan glo Spiteri.