Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fis hwn, rydym wedi ailgychwyn Ymgyrch Adriatic, sef ymgyrch flynyddol ar lan y môr yn yr haf i frwydro yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae Heddlu De Cymru yn gweithio'n agos ar y cyd â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) ac asiantaethau eraill er mwyn gwneud glan y môr yn lle pleserus y gall pawb ei fwynhau.
Bydd swyddogion yn gweithio o adeilad yr RNLI ar lan môr Aberafan drwy'r haf a byddant i'w gweld ar y traeth a'r promenâd.
Dywedodd yr Arolygydd Jared Easton:
“Fel rhan o'r ymgyrch flynyddol hon, a gynhelir yn ystod misoedd yr haf, bydd swyddogion yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gaiff ei gysylltu'n nodweddiadol â glan y môr, fel meddwdod, defnydd anystyriol o farbeciws, cŵn yn baeddu, cerddoriaeth uchel a pharcio, ymhlith materion eraill.
“Bydd y swyddogion wrthi'n rhyngweithio ag ymwelwyr â'r traeth, yn cynnig cymorth, yn darparu gwybodaeth ac yn creu awyrgylch croesawgar, gan hyrwyddo diogelwch a sicrhau bod y traeth yn lle y gall pawb ei fwynhau.”
Dywedodd Clive Morris, Rheolwr Gweithrediadau Badau Achub RNLI Port Talbot:
“Rydym yn falch iawn o ymuno â Heddlu De Cymru ac asiantaethau lleol eraill unwaith eto i wneud Traeth Aberafan yn gyrchfan mwy diogel a mwy croesawgar.
“Mae ein partneriaeth yn ein galluogi i weithio'n fwy effeithlon wrth ymateb i ddigwyddiadau a sicrhau llesiant ymwelwyr â'r traeth. Drwy gydweithio, gallwn greu profiad cadarnhaol i bawb.”
Dywedodd llefarydd ar ran Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel:
“Mae Partneriaeth Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel yn falch o gefnogi Ymgyrch Adriatic unwaith eto eleni.
“Dros fisoedd yr haf, byddwch yn gweld ein timau yn yr ardal leol, yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr yn yr Heddlu, er mwyn ymgysylltu â phreswylwyr lleol a'r rhai sy'n ymweld â'r traeth i roi gwybodaeth a chyngor ar atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Bydd hyn yn cynnwys digwyddiadau penodol y byddwch yn eu gweld wedi'u hysbysebu ar ein cyfryngau cymdeithasol: www.facebook.com/Saferneathpt