Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Anhunanoldeb, ymroddiad, dewrder ac arloesedd – dim ond rhai o'r priodweddau a ddathlwyd neithiwr yw'r rhain pan gynhaliwyd Gwobrau #TîmHDC 2024.
Mae'r gwobrau blynyddol, a gynhaliwyd yn Neuadd y Brangwyn, Abertawe eleni yn rhoi sylw i weithredoedd a gwaith swyddogion, staff, gwirfoddolwyr a'n partneriaid sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Clywodd y rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad, a oedd yn cynnwys anwyliaid y rhai a enwebwyd a'n noddwyr, straeon eithriadol ac ysbrydoledig am bobl sydd wedi rhagori yn eu maes, neu sydd wedi mynd ymhellach na'r disgwyl ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Yr enillwyr eleni a ddewiswyd gan y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Emma Wools, yw:
Gwobr Dewrder: Y Rhingyll Holly Price a'r Cwnstabl Jordan Rockey, a beryglodd eu diogelwch eu hunain i achub dyn a wnaeth arllwys petrol dros ei hun a rhoi ei hun ar dân.
Ditectif Gwnstabl Steven Davies
Gwobr Gymunedol: Y Ditectif Gwnstabl Steven Davies sydd wedi rhoi o'i amser i wella nifer y diffibrilwyr sydd ar gael a chodi dros £50,000 i gynnal y cyfarpar achub bywyd ar ôl iddo achub bywyd aelod o'r cyhoedd gan ddefnyddio diffibriliwr.
Rhingyll Alison Robinson
Gwobr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant: Y Rhingyll Alison Robinson, a sefydlodd grŵp cefnogi cymheiriaid ar gyfer colli babanod, gan gyfrannu'n uniongyrchol at Gynllun Cyflawni'r Prif Gwnstabl i flaenoriaethu iechyd a llesiant, gan ddangos arweinyddiaeth gefnogol, a blaenoriaethu cynwysoldeb.
Y Rhingyll Gwirfoddol Benjamin Johns
Gwobr y Filltir Ychwanegol i Wirfoddolwyr: Y Rhingyll Gwirfoddol Benjamin Johns, a ymunodd â'r Gwnstabliaeth Wirfoddol yn 2015 ac sydd wedi bod yn aelod allweddol o'r tîm, ac yn fentor agos atoch ac ysbrydoledig i eraill byth ers hynny. Yn 2023 yn unig, rhoddodd 1,107 o oriau o'i amser i gymunedau De Cymru.
Cwnstabl Jonathan Abel
Gwobr Argraff: Cwnstabl Jonathan Abel, a gafodd ei ddisgrifio fel “unigolyn arloesol” yn ei ymdrechion i darfu ar grŵp o bobl ifanc a oedd yn achosi diflastod yn y gymuned leol, gan sicrhau chwe Gorchymyn Ymddygiad Troseddol a chan weithio gyda phartneriaid i sicrhau ymyriad pellach.
Uned Ymchwiliadau i Wrthdrawiadau DifrifolDitectif Gwnstabl Eleanor Dallas
Gwobr Ymchwiliad y Flwyddyn: Cyd-enillwyr – yr Uned Ymchwiliadau i Wrthdrawiadau Difrifol (SCIU) a'r Ditectif Gwnstabl Eleanor Dallas. Gwobrwywyd SCIU am ei gwaith diflino yn dod â gyrrwr a fethodd â stopio ar ôl taro beiciwr, gan achosi i'r dioddefwr golli ei goes, o flaen ei well. Hefyd, enwyd DC Dallas yn gyd-enillydd am ei gwaith yn sicrhau dedfryd o 30 mlynedd o garchar i droseddwr cam-drin plant a oedd wedi cam-drin nifer o ddioddefwyr am bron i hanner canrif.
Ditectif Brif Arolygydd Andrew Bartholomew
Gwobr Arweinyddiaeth: Y Ditectif Brif Arolygydd Andrew Bartholomew, a arweiniodd yr ymchwiliad cymhleth a phellgyrhaeddol i gyn gwnstabl yr heddlu Lewis Edwards, a wnaeth gam-drin cannoedd o blant ar-lein. Yn ogystal â sicrhau bod y treial yn cael ei ohirio er mwyn sicrhau y gallai'r nifer uchaf posibl o ddioddefwyr gael eu cydnabod yn y cyhuddiadau, mae'r tîm hefyd wedi estyn allan at lwyfannau amrywiol y cyfryngau cymdeithasol i'w herio i blismona eu cynnwys yn well.
Gwobr Cyflawniad Oes Swyddogion yr Heddlu: Gwnaeth cyn gwnstabl yr heddlu, Paul Union, “heddwas stryd o'r iawn ryw” ymddeol ym mis Mehefin ar ôl 28 o flynyddoedd ar y rheng flaen yn gweithio gyda chymunedau Grangetown.
Gwobr Cyflawniad Oes Staff yr Heddlu: Colin Probert, Arbenigwr Rhwydweithiau TGCh, sydd wedi bod yn allweddol wrth gyflawni sawl prosiect cymhleth sydd wedi gwella galluoedd cyfathrebu yn ein sefydliad ac i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Tîm Ymgyrch Wormit
Gwobr Ymgyrch y Flwyddyn: Gwelodd Ymgyrch Wormit Grŵp Troseddau Cyfundrefnol yn cael eu gwneud yn gyfrifol am gludo gwerth £1.4m o eitemau gwaharddedig i mewn i garchardai'r DU drwy ddrôn, tarfu arnynt a'u dwyn gerbron y Llysoedd.
Gwobr Datrys Problemau mewn Partneriaeth: Y Rhingyll Jacob Rollnick a Mandy Flood o Safonau Masnach, a arweiniodd eu timau priodol i ymchwilio i grŵp a oedd yn defnyddio sawl siop yng Nghaerdydd, Y Barri a Phen-y-bont ar Ogwr i werthu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon a/neu sylweddau seicoweithredol a chwalu'r grŵp hwnnw. Gwnaeth y grŵp wyngalchu £1.8 miliwn – credir mai dyma un o'r achosion mwyaf o smyglo tybaco anghyfreithlon yng Nghymru.
Darllenwch ragor o fanylion am ein henillwyr a'r bobl eraill yn y rownd derfynol yma.