Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafwyd Gary Hayes, 61 oed o Stryd y Garth, Ffynnon Taf, yn euog o achosion o ymosod yn rhywiol ac anweddus ar bedwar plentyn o dan 13 oed, rhwng Ebrill 2002 a Medi 2016.
Cafodd ei ddedfrydu i'r canlynol.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Owain Morrison: “Yn gyntaf, mae fy nghydymdeimlad gyda'r dioddefwyr a'u teuluoedd am orfod mynd drwy brofiadau mor ddychrynllyd.
“Bu Gary Hayes yn camdrin plant a ddylai fod wedi gallu ymddiried ynddo mewn ffordd systematig, ac mae ei ddedfryd yn adlewyrchu difrifoldeb ei droseddu a'r niwed a achosodd.
“Gall yr ymchwiliadau hyn gymryd amser a hoffwn ganmol y dioddefwyr yn yr achos hwn am eu hamynedd, dewrder a gwroldeb tra roedd yr ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.
“Mae chamdrin plant yn rhywiol yn aml yn drosedd gudd, ac rydym yn gweithio'n galed i sicrhau y caiff llais y plentyn ei glywed. Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn cyfleu neges gref y byddwn yn mynd ar drywydd pob llwybr ymchwilio sydd ar gael er mwyn sicrhau ein bod yn dod â chyfiawnder i ddioddefwr ymosodiadau rhywiol ac anweddus difrifol."
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod wedi dioddef trais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu drosedd rywiol arall. Ni fyddwn yn barnu; byddwn yn eich trin â sensitifrwydd a pharch, a byddwn bob amser yn rhoi eich iechyd a'ch llesiant yn gyntaf.