Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dioddefwyr dewr trais yn erbyn menywod a merched wedi rhannu eu straeon yn y gobaith o annog eraill i gysylltu â'r heddlu a helpu i roi diwedd ar drais o'r fath.
Mae ‘Gweld Fi’, sef ymgyrch newydd gan Heddlu De Cymru, yn tynnu sylw at achosion o drais yn erbyn menywod a merched gyda goroeswyr yn rhannu eu profiadau eu hunain er mwyn annog pawb i wrthwynebu pob math o gamdriniaeth.
Mae Amara* yn rhannu cipolwg ar y blynyddoedd o gam-drin domestig a ddioddefodd dan ddwylo ei phartner ar y pryd. Roedd yn ei rheoli a gwnaeth ei cham-drin yn feddyliol ac yn gorfforol, sy'n parhau i gael effaith ar Amara hyd heddiw.
"Dechreuodd y gasleitio a'r ymddygiad cyfrwys a sinistr yn fuan ar ôl i ni symud i mewn i'n tŷ cyntaf.
"Roeddwn yn coginio swper un noson ac yn torri llysiau pan ddisgynnodd un ar y llawr. Mi wnes i ei godi a'i roi yn y dŵr berwedig ac mi wnaeth e fy nharo i ar fy mhen â melin bupur gan ddweud fy mod i'n ceisio ei wenwyno.
"Cynyddodd y digwyddiadau hyn. Pan oeddem ar wyliau, ymosododd arna i'n gorfforol. Gwnaeth fy nhaflu ar draws yr ystafell am fy mod wedi bod yn dawnsio gyda'r plant a rhieni eraill yn y disgo i blant. Mi wnes i faddau iddo'n syth.
"Roedd yn fy ngham-drin yn emosiynol ac yn fy nominyddu yn ddi-baid. Byddai'n dweud pethau fel 'pa fath o fenyw wyt ti', 'edrycha beth rwyt ti wedi gwneud i mi ei wneud' ac 'mae gen ti salwch meddwl'. Doeddwn i byth yn ddigon da.
“Byddai ei lygaid yn mynd mor dywyll, byddai'n fy sarhau, er mwyn iddo gael ei ffordd, a dywedodd wrtha i mai arna i oedd y bai am bopeth.
"Byddai'n gadael i mi fynd allan, ond drwy ddewis mynd allan byddai canlyniadau, felly roedd yn haws peidio â mynd allan o gwbl."
Roedd yn rhaid i bethau newid i Amara ac, ar ôl dioddef blynyddoedd o gamdriniaeth, penderfynodd mai digon oedd digon.
“Dywedais wrtha i fy hun, rydw i am fod y fenyw roedd ei hangen arna i ar y pryd oherwydd, bryd hynny, doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw beth am drais domestig a doedd dim llawer o bobl o'm cwmpas yn gwybod chwaith. Rydw i wedi newid erbyn hyn.
“Rwy'n helpu pobl eraill, sy'n fy helpu i hefyd. Rwy'n gwneud synnwyr o'r hyn a ddigwyddodd i fi a, gyda hynny, rwy'n helpu pobl eraill."
Mae data newydd wedi darganfod y bydd o leiaf 1 o bob 12 menyw yn dioddef troseddau sy'n gysylltiedig â thrais yn erbyn menywod a merched bob blwyddyn, a disgwylir bod yr union nifer yn llawer uwch.*
Codi ymwybyddiaeth yw nod yr ymgyrch er mwyn nodi arwyddion o gam-drin ac annog pobl i roi gwybod am achosion, gyda phwyslais ar y ffaith bod cyfrifoldeb ar bawb i herio'r ymddygiad hwn, boed yn drais domestig, yn ymddygiad rheolaethol neu orfodaethol, trais rhywiol, bygwth, stelcio ac aflonyddu, chwibanu, pornograffi dial neu gyffwrdd digroeso.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Joanna Maal:
"Mae trais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru.
“Rydym am i'r holl fenywod a merched sy'n byw, yn gweithio, yn cymdeithasu neu'n astudio yn Ne Cymru i fod yn ddiogel, ond hefyd i deimlo'n ddiogel, boed hynny mewn mannau cyhoeddus, gartref neu ar-lein.
“Dylai menywod a merched allu byw yn hyderus, heb deimlo ofn a heb i unrhyw un eu bygwth nac aflonyddu arnynt.
"Mae ein hymgyrch newydd, Gweld Fi, wedi cael ei datblygu gyda'r nod o leihau achosion o drais, aflonyddu a cham-drin yn y pen draw. Rydym wedi gweithio gyda grŵp o fenywod hynod ddewr sydd wedi rhannu eu straeon er mwyn annog dioddefwyr eraill i gysylltu neu geisio cymorth pan nad ydynt yn teimlo'n barod i roi gwybod am achos."
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools:
"Mae mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth allweddol i mi o hyd, ac er bod peth cynnydd eisoes wedi'i wneud ledled ardal Heddlu De Cymru tuag at wella ein hymateb ar y cyd, mae'n amlwg bod llawer i'w wneud o hyd.
"Mae lleisiau dioddefwyr a goroeswyr dewr sy'n rhannu eu profiadau yn hanfodol i bob un ohonom ddeall sut mae effaith pob math o drais yn erbyn menywod a merched yn cyfyngu ar ryddid ac yn difetha hunan-barch a hyder.
"Rwy'n gobeithio y bydd ymgyrch Gweld Fi yn codi ymwybyddiaeth drwy rannu profiadau ac yn cysylltu â dioddefwyr a goroeswyr eraill y mae angen ein help arnynt, gan gynnwys y rhai sydd ar gyrion cymdeithas ac sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol wrth geisio cael cymorth.
"Hoffwn ddiolch o waelod calon i'r goroeswyr hynny sydd wedi rhannu eu straeon i ddatblygu'r ymgyrch hon er mwyn codi ymwybyddiaeth ac annog eraill i geisio cymorth.
"Rwy'n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn annog ac yn cryfhau ein hymwybyddiaeth a'n hymateb ar y cyd i anghenion menywod a merched o bob cymuned pan fyddant yn ceisio cymorth ac arweiniad."
Os ydych chi wedi dioddef achos o gam-drin, neu wedi bod yn dyst iddo, gallech helpu i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched drwy roi gwybod amdano.
🗪 Sgwrs Fyw https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/
💻 Rhoi gwybod ar-lein https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio
📞 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Os nad ydych am siarad â'r heddlu, neu os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch, mae llawer o bobl a all helpu. Chi sy'n rheoli, a chi sy'n cael dewis â phwy i siarad a pha help a gewch.
Gallwch siarad â'r bobl a'r sefydliadau hyn yn breifat ac yn gyfrinachol, ac ni fyddant yn rhannu unrhyw beth â Heddlu De Cymru, oni bai eu bod yn meddwl bod rhywun mewn perygl difrifol.
Gallwch ddod o hyd i restr o sefydliadau cymorth ar dudalen ein hymgyrch: www.south-wales.police.uk/cy-GB/heddluoedd/heddlu-de-cymru/ardaloedd/campaigns/ymgyrchoedd/see-me/