Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:42 27/07/2022
Mae Gemau'r Gymanwlad Birmingham 2022 yn mynd rhagddynt yr wythnos hon - ac rydym yn falch o gael cefnogi dau gydweithiwr o Heddlu De Cymru a ddewiswyd ar gyfer Tîm Cymru.
Mae Ellie Coster ac Owain Dando ymhlith yr enwau a fydd yn cystadlu dros Gymru yn y digwyddiad aml-gamp, lle bydd athletwyr o fwy na 70 o wledydd yn cystadlu.
Mae'r seiclwr, Ellie, PC ymatebol sy'n gweithio yn Nhredelerch, Caerdydd, yn barod i gystadlu yn y sbrint tîm a'r treial amser 500m. Dyma'r ail dro i'r ferch 26 oed gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad ond y tro cyntaf iddi wneud fel swyddog heddlu, wedi iddi ymuno â Heddlu De Cymru yn 2019 - yr un flwyddyn ag y daeth yn bencampwraig treial amser Prydain.
![]() |
![]() |
Mae 2022 yn nodi uchafbwynt o dair blynedd eithriadol o brysur i Ellie, sydd wedi cyfuno ei gorchestion ar y trac â chymhwyso fel swyddog heddlu a derbyn gradd mewn plismona.
Yng Ngemau'r Traeth Aur bedair blynedd yn ôl, daeth Ellie a'i chyd-seiclwr, Rachel, yn agos iawn at ennill medal sbrint tîm, gan ddod yn bedwerydd. Ond mae'n edrych ymlaen at fod ar y trac eto.
Dywedodd: “Mae'r rhan fwyaf o'm teulu yn dod. Mae'n braf, oherwydd pan oeddwn i yn Awstralia dim ond fy mam oedd yn gallu dod.”
Mae Ellie wedi cymryd seibiant gyrfa ers mis Rhagfyr, er mwyn iddi ganolbwyntio ar hyfforddi.
Dywedodd: “Mae bod yn swyddog heddlu yn heriol a chorfforol iawn. Mae wedi fy helpu i gadw'n ffit ac rwyf wrth fy modd â hynny.” Rwy'n edrych ymlaen at gael dychwelyd i'r gwaith - mae'r misoedd diwethaf wedi mynd yn weddol gyflym, ond rwy'n colli fy ngwaith.”
Ac mae'n cadw'i hopsiynau ar agor ar gyfer 2026, pan fydd Gemau'r Gymanwlad yn dychwelyd i Awstralia, gan ychwanegu:
“Dydw i ddim yn dweud na. Cawn weld sut mae'n mynd. Rwyf am barhau i seiclo a gweld sut byddaf yn agosach at yr amser. Mae'r Gemau nesaf ym Melbourne sy'n ddeniadol iawn!”
![]() |
![]() |
Yn y cyfamser, bydd Owain, PCSO o Ferthyr – a ddewiswyd ar gyfer y Gemau am y tro cyntaf – yn cynrychioli ei wlad mewn dwy gystadleuaeth bowlio lawnt: yr un i dri a'r un i bedwar.
“Y rhain fydd fy Ngemau Cymanwlad cyntaf, felly bydd yn brofiad hollol newydd i mi,” dywedodd.
“Mae gennym gyfle go lew o wneud yn dda. Efallai nad ni yw'r ffefrynnau, ond mae'r amodau yn Birmingham yn debyg iawn i'r hyn rydym yn gyfarwydd â nhw, ac yn wahanol i'r amodau yn Awstralia neu rywle arall.”
Yn union fel Ellie, mae Owain yn falch bod y gemau yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr am ei fod yn golygu y gall teulu a ffrindiau ddod i wylio. Bydd hefyd yn mynychu Seremoni Agoriadol y Gemau yn Stadiwm Alexander ddydd Iau (Gorffennaf 28).
Ychwanegodd: “Mae fy nheulu i gyd yn dod - fy ngwraig a'm plant, fy rhieni. Gan fod y Gemau yn Birmingham, gallant fod yno - a chael y gefnogaeth hon, yn fy Ngemau Cymanwlad cyntaf, yn wych i mi.”
Mae Owain wedi parhau i weithio hyd at ddechrau'r gystadleuaeth, gan esbonio:
“Rwyf wedi gorfod defnyddio cryn dipyn o wyliau yn hyfforddi, ond mae Heddlu De Cymru wedi bod yn gefnogol iawn. Nid yw'n hawdd cydbwyso gwaith, ymarfer a bywyd teuluol bob amser - ond rwy'n sicr y bydd yn werth chweil.”
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
"Rwyf wrth fy modd bod Ellie ac Owain yn cynrychioli ein cenedl mewn digwyddiad mor nodedig â Gemau'r Gymanwlad.
"Roedd yn wych cael cyfle i gwrdd â'r ddau ohonynt yn gynharach y mis hwn a chael clywed nid yn unig am eu hymroddiad i'w campau, ond hefyd am y ffordd y maent wedi cyfuno'r ymroddiad hwnnw gyda'u hymrwymiad i blismona fel aelodau pwysig o #TîmHDC.
"Rwy'n gwybod y bydd eu cydweithwyr yn dilyn eu hynt yn eiddgar – ond beth bynnag ddaw, rydym yn falch iawn o'r ddau ohonynt."