Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Eich rôl chi fel Ymchwilydd Lleoliadau Troseddau (CSI) fydd casglu tystiolaeth fforensig o leoliadau troseddau a fydd, yn y pen draw, yn arwain at ganfod ac erlyn troseddwyr. Byddwch yn prosesu lleoliadau troseddau gan ddefnyddio technegau arbenigol i edrych ar dystiolaeth, ei nodi a'i hadfer. Bydd CSI yn mynd at amrywiaeth o leoliadau troseddau megis bwrgleriaethau a throseddau'n ymwneud â cherbydau, i ddigwyddiadau mawrion fel llofruddiaeth a throseddau rhywiol.
Mae'r rôl hon yn rhan hanfodol o'n gwaith ymchwiliadau. Bydd angen i'r ymgeisydd delfrydol allu dangos y canlynol:
Gwybodaeth am gyflog, buddiannau a gwobrau ar gyfer Heddlu De Cymru.
Rôl CSI yw mynd i leoliadau troseddau pan ofynnir iddynt wneud. Byddwch yn dogfennu ac yn cofnodi lleoliad y drosedd yn ystod yr archwiliad i ddod o hyd i dystiolaeth, ei gwarchod a'i hadfer. Mae cyfrifoldebau nodweddiadol y swydd yn cynnwys:
Beth yw'r llwybr mynediad ar gyfer CSI?
Y llwybr mynediad ar gyfer Ymchwilydd Lleoliadau Troseddau yw trwy rôl yr Ymchwilydd Lleoliadau Troseddau Cyffredin (VCSI). Gall VCSIs archwilio troseddau cyffredin yn unig (bwrgleriaethau a throseddau cerbydau). Mae VCSIs yn mynychu cwrs hyfforddi 5 wythnos, ar ôl pasio'r cyfnodau prawf a mentora. Mae VCSIs yn archwilio lleoliadau troseddau ac yn adfer tystiolaeth gan weithio ar batrwm shifftiau gyda chydweithwyr CSI.
Beth yw hyd y broses recriwtio?
Bydd y cyfnod recriwtio ar gyfer y rôl hon yn dibynnu ar gapasiti gweithredol. Byddem yn disgwyl i'r broses gymryd rhwng 1 a 3 mis.
Oes isafswm neu uchafswm oedran ar gyfer gwneud cais?
Rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf i ddod yn Ymchwilydd Lleoliadau Troseddau. Nid oes terfyn oedran uchaf.
Pa gymwysterau fydd eu hangen arnaf?
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr fod wedi cyflawni gradd A – C o leiaf mewn TGAU mewn Mathemateg a Saesneg a bod yn barod i fynychu'r cyrsiau hyfforddiant Ymchwilio Lleoliadau Troseddau Cyffredin a drefnir gan yr heddlu a'u cwblhau'n llwyddiannus.
Beth yw'r oriau gwaith?
Mae CSIs ar ddyletswydd o 08:00 i 22:00 bob dydd, gan gynnwys yn ystod penwythnosau a gwyliau banc. Mae CSIs ar alw rhwng 22:00 ac 08:00. Bydd gwaith shifftiau a goramser achlysurol yn ofynnol yn y rôl hon.
Ble y byddaf yn cael fy lleoli?
Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu lleoli yn un o dair o swyddfeydd CSI, gan ddibynnu ar leoliad swyddi gwag ar hyn o bryd. Mae'r Adran CSI Rhanbarthol yn cyflenwi Heddlu De Cymru a Gwent. Mae'r swyddfeydd CSI wedi'u lleoli yn; Ystrad Mynach, Caerdydd (Y Tyllgoed) a Chastell-nedd.
Anfonwch unrhyw ymholiadau pellach drwy e-bost i: [email protected]
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd a fydd ar gael gyda Heddlu De Cymru yn y dyfodol, rhowch eich manylion ar ein banc talent a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd gennym swyddi gwag sy'n gweddu eich sgiliau a'ch dewisiadau. COFRESTRWCH EICH DIDDORDEB