Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gallwch gwblhau'r ymarferion ar unrhyw declyn sydd â'r rhyngrwyd gyda chamera (gliniadur, llechen neu ffôn), ond er mwyn sicrhau cydnawsedd llawn gyda'r llwyfan ar-lein, dylai'r canlynol gael ei osod:
Byddai’n ddoeth cwblhau’r broses ymgeisio gyfan ar yr un ddyfais gan y bydd y cyfeiriadau IP yn gwrthdaro os ydych chi’n penderfynu newid dyfeisiau ar ôl i chi ddechrau a gallai hyn eich atal rhag parhau â’ch cais. Felly, fe’ch cynghorir i beidio â chwblhau eich cais yn y gwaith.
Fe’ch cynghorir i beidio â defnyddio dyfeisiau symudol, megis llechi neu ffonau symudol, gan nad ydynt yn gydnaws â’r profion ar-lein y mae’n rhaid eu cwblhau. Gallwn ond ailosod profion unwaith i bob ymgeisydd.
Cynghorir ymgeiswyr hefyd i gadw llygad ar eu blwch post “sothach” am negeseuon e-bost yn rhoi’r newyddion diweddaraf gan y system.
Y cam cyntaf fydd proses ymgeisio ar-lein sy'n cynnwys rhai cwestiynau ‘pennu tynged’ i gadarnhau cymhwystra. Os byddwch yn pasio'r cam hwn, bydd gofyn i chi gwblhau cyfres o brofion ar-lein yn ogystal â ffurflen gais.
Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd gwblhau sifft genedlaethol a fydd yn cynnwys dau brawf y bydd yn rhaid i bob ymgeisydd ei gwblhau (p'un a oes gennych gymwysterau ai peidio). Y ddau brawf yw'r Prawf Barn Sefyllfaol a'r Holiadur Arddulliau Ymddygiadol. Bydd yn rhaid pasio'r ddau er mwyn mynd ymlaen gyda'r broses ymgeisio.
Noder y gallwch ond cwblhau'r prawf hwn unwaith bob tri mis neu ddwywaith mewn cyfnod o 12 mis.
Mae Prawf Barn Sefyllfaol yr Heddlu yn asesu eich sgiliau i lunio barn a gwneud penderfyniadau mewn perthynas â sefyllfaoedd sy'n ymwneud â'r swydd. Yn y prawf, cyflwynir cyfres o senarios i chi a fydd yn adlewyrchu sefyllfaoedd heriol y gallech eu hwynebu wrth weithio fel Heddwas. Cyflwynir pedwar cam posibl ar gyfer pob senario i chi. Gofynnir i chi raddio pob un o'r pedwar cam o ran ei heffeithiolrwydd i fynd i'r afael â'r senario. Dangosir y raddfa y dylid ei
defnyddio i raddio'r camau isod.
Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol arnoch i gwblhau'r prawf. Dylai eich ymatebion fod yn gwbl seiliedig ar y wybodaeth a gyflwynir ym mhob senario.
Bydd gofyn i chi lanlwytho ac atodi eich Tystysgrif Gradd neu Lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol cyn i chi gyflwyno'ch cais. Os nad oes gennych chi gopi o hwn, bydd angen i chi gael gafael ar un gan y sefydliad addysgol priodol.
Os cyflawnwyd eich Gradd (neu'ch cymhwyster Lefel 3) y tu allan i'r DU, rhaid i chi sicrhau cadarnhad gan Sefydliad Addysg Uwch yn y DU fel tystiolaeth y caiff eich cymhwyster ei gydnabod fel un o safon Gradd (neu safon lefel 3).
Os nad oes gennych gymhwyster Lefel 3 neu uwch, mae’n rhaid i chi hefyd lwyddo mewn prawf rhesymu a chyfrifo mathemateg llafar. Bydd hyn yn profi eich gallu academaidd hyd at Lefel 3. Os byddwch yn llwyddo yn y profion uchod, ond yn methu mewn rhan arall o’r broses recriwtio, ni fydd yn ofynnol i chi ailsefyll y profion hyn eto os byddwch am wneud cais eto ymhen chwe mis.
Mae Holiadur Arddulliau Ymddygiad yr Heddlu yn mesur eich ymddygiad a'ch dewisiadau arferol yn y gwaith. Diben yr holiadur yw asesu a oes gennych yr ymddygiadau a'r agweddau cywir i fod yn effeithiol yn eich swydd. Mae'r holiadur yn eich gwahodd i adolygu nifer o ddatganiadau a nodi pa ddatganiadau rydych yn cytuno'n llwyr/anghytuno'n llwyr â nhw ar raddfa symudol.
Yn yr holiadur, cyflwynir y datganiadau hyn am eich ymddygiad arferol yn y gwaith mewn blociau o bedwar. Bydd angen i chi ddarllen pob datganiad yn ofalus ac yna benderfynu i ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r datganiad gan ddefnyddio'r raddfa isod.
Yn dibynnu ar eich ymatebion, mae'n bosibl hefyd y gofynnir i chi raddio datganiadau penodol o ran pa mor dda y maent yn disgrifio eich ymddygiad arferol yn y gwaith. Nid oes cyfyngiad amser, ond dylai gymryd tua 15-20 munud i gwblhau'r holiadur. Nid oes angen unrhyw wybodaeth arbenigol arnoch i gwblhau'r prawf.
Gwybodaeth am Ganolfan Asesu Genedlaethol.
Os ydych wedi llwyddo yn asesiad ar-lein Heddlu De Cymru neu heddlu arall, bydd eich canlyniad llwyddo gan y Ganolfan Asesu yn ddilys am ddwy flynedd. Ar adeg gwneud cais, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o'ch canlyniad llwyddo blaenorol drwy lanlwytho'ch adroddiad adborth lle y bo angen.
Os gwnaethom lwyddo mewn asesiad gyda heddlu arall bydd hefyd yn ofynnol i chi gysylltu â'r heddlu lle y cwblhawyd eich asesiad a gofyn am i'ch canlyniad Llwyddo gael ei drosglwyddo i Heddlu De Cymru drwy'r system AIMS. Dim ond pan fydd hwn wedi dod i law y bydd eich canlyniad llwyddo mewn asesiad ar-lein blaenorol yn cael ei dderbyn.
Er y gallwch gyflwyno ceisiadau i heddluoedd eraill ar gyfer rôl Swyddog yr Heddlu a rolau plismona eraill ar yr un pryd, polisi Heddlu De Cymru yw gofyn i chi benderfynu pa heddlu rydych am iddo ystyried eich cais os byddwch yn llwyddiannus yn y ganolfan asesu genedlaethol. Rydym yn gwerthfawrogi eich cydweithrediad yn hyn o beth.
Os byddwch wedi cyflwyno cais am rôl Swyddog yr Heddlu gyda Heddlu arall, mae'n rhaid i chi nodi hyn wrth gyflwyno cais i Heddlu De Cymru, ni waeth pa gam o'r broses recriwtio rydych wedi ei gyrraedd gyda'r cais hwnnw.
Os byddwch yn gwneud cais newydd ar gyfer rôl Swyddog yr Heddlu i Heddlu arall, neu os cewch eich gwahodd i ganolfan asesu, tra bod eich cais i Heddlu De Cymru wrthi'n cael ei brosesu o hyd, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'n tîm Recriwtio.
Beth fydd yn digwydd yng nghyfweliad mewnol yr heddlu?
Cewch eich cyfweld gan banel o staff yr heddlu (dau aelod o'r staff fel arfer) a fydd yn gofyn cwestiynau i chi yn seiliedig ar fframwaith cymhwysedd a gwerthoedd plismona'r Coleg Plismona.
Bydd y cyfwelwyr yn gofyn cyfres o gwestiynau i chi.
Defnyddiwch enghreifftiau o'ch gwaith, neu'ch bywyd cymdeithasol, teuluol neu addysgol i ateb cwestiynau'r cyfweliad. Yn yr enghreifftiau hyn rydym yn chwilio am dystiolaeth benodol o ymddygiadau cymhwysedd sy'n cyd-fynd â gwerthoedd ein sefydliad.
Byddwch yn benodol: rydym am wybod beth gwnaethoch CHI ei ddweud neu ei wneud ar achlysur penodol i ddelio â'r sefyllfa. Felly, mae'n bwysig bod yr enghreifftiau y byddwch yn eu rhoi yn sôn am eich profiadau chi, a'u bod mor fanwl â phosibl.
Bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn senario fel ditectif.
Gall plismona fod yn gorfforol, felly bydd angen i chi fod yn heini i lwyddo yn y prawf ffitrwydd.
Mae'r ‘prawf blip’ yn cymryd 3 munud a 35 eiliad lle mae ymgeiswyr yn rhedeg yn ôl ac ymlaen ar hyd trac 15 metr gan gadw amser â chyfres o synau blip. Wrth i'r prawf fynd yn ei flaen, bydd y synau blip yn mynd yn gyflymach i lefel 5.4. Y syniad yw cyrraedd yr ochr arall cyn y blip nesaf.
Cewch dri chynnig i lwyddo yn eich prawf ffitrwydd ac mae'n ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus fynd drwy brawf ffitrwydd cyn penodi ychydig cyn y dyddiad penodi disgwyliedig er mwyn sicrhau eich bod wedi cynnal eich lefelau ffitrwydd. Dim ond un cynnig a gewch y tro hwn ac mae'n rhaid i chi lwyddo er mwyn i'ch cais fynd yn ei flaen.
O ganlyniad i natur gwaith plismona, mae ffitrwydd ac iechyd da yn hollbwysig. Fodd bynnag, croesawir ceisiadau gan bobl sydd ag anableddau a gwneir pob ymdrech i wneud addasiadau rhesymol yn ôl y gofyn.
Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam cyfweld, byddwch yn cael archwiliad meddygol.
Ceir anhwylderau a chyflyrau meddygol penodol y gallent gael effaith niweidiol ar eich gallu i gyflawni'r rôl mewn ffordd effeithiol; ystyrir pob achos yn ofalus fel rhan o'r broses feddygol. Gall y gofynion safonol y mae angen i chi eu bodloni ar gyfer yr asesiad meddygol amrywio yn dibynnu ar y rôl rydych yn gwneud cais amdani.
Fel rhan o'ch asesiad meddygol, gofynnir i chi gwblhau holiadur meddygol a chael llofnod gan feddyg teulu.
Asesir ystod eich pwysau yn ystod eich asesiad meddygol. Mae'r ystod pwysau iach yn seiliedig ar fesur a elwir eich mynegai màs y corff (BMI). Gellir darganfod hwn os ydych yn gwybod eich pwysau a'ch taldra. Y cyfrifiad yw eich pwysau (mewn cilogramau) wedi'i rannu gyda'ch taldra (mewn metrau sgwâr). Gellir gweld canllawiau a siartiau hawdd i'w defnyddio ynghylch sut i gyfrifo'ch BMI ar wefan GIG.
Mae GIG yn cynghori bod BMI o 18.5 i 24.9 yn awgrymu pwysau iach normal. Mae hyn yn golygu nad yw eich corf mewn perygl o ddioddef clefyd sy'n gysylltiedig â'ch pwysau.
Pennir safonau BMI ar gyfer swyddogion yr heddlu gan y Swyddfa Gartref. Mae cylchlythyr 59/2004 cyfredol y Swyddfa Gartref yn amlinellu bod hwn rhwng 18 a 30. Efallai y caiff cais ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r safon hwn ei oedi a / neu ni fyddant yn cael eu penodi.
Ni ystyrir bod ymgeiswyr i fod yn Swyddogion yr Heddlu, y mae eu BMI dros 32, yn ffit, oni bai bod canran y braster yn eu corff yn llai na 30% ar gyfer dynion neu 36% ar gyfer menywod.
Nodir pwysigrwydd gonestrwydd ac uniondeb yn glir trwy gydol ein proses ymgeisio. Mae swyddogion yn destun y Safonau Ymddygiad Proffesiynol, sy'n nodi mewn ffordd glir yr hyn y gall cymunedau ei ddisgwyl gan eu swyddogion.
Bydd angen i bawb sy'n ymuno â Heddlu De Cymru gwblhau proses fetio diogelwch. Byddai'n ddefnyddiol i chi ddechrau casglu'r canlynol gan y byddant yn ofynnol fel rhan o'r broses hon:
Casglwch fanylion eich teulu/ffrindiau/cysylltiadau, h.y.:
Casglwch fanylion unrhyw gysylltiad blaenorol â'r heddlu, e.e.:
Mae angen geirdaon i gwmpasu o leiaf 5 blynedd o hanes cyflogaeth barhaus. Os nad ydych wedi bod mewn cyflogaeth ers 5 blynedd byddwn yn ceisio cael geirdaon o fyd addysg a gan bobl sy’n eich adnabod yn bersonol.
Gofynnir i chi gael prawf cyffuriau a darparu gwybodaeth am unrhyw feddyginiaeth yr ydych yn ei chymryd hefyd. Cyflwynwyd deddfwriaeth sy'n mynnu bod ymgeiswyr yn dilyn proses fetio biometrig.
Os byddwch yn methu'r prawf cyffuriau, ni chynigir swydd i chi gyda Heddlu De Cymru. Tynnir yn ôl y cynnig a roddwyd i ymgeiswyr mewnol sy'n methu prawf cyffuriau a gellir defnyddio'r canlyniadau o'r prawf cyffuriau yn unol â Pholisi Disgyblu Staff Heddlu De Cymru a Chod Ymddygiad Staff yr Heddlu.
Ar y dydd, byddwn yn gofyn i chi lofnodi ffurflen caniatâd er mwyn casglu eich olion bysedd a sampl o'ch DNA at ddibenion archwiliad tybiannol a bod eich olion bysedd a'ch proffil DNA yn cael eu cadw yng Nghronfa Ddata Diddymu yr Heddlu (PEDb).
Diben sicrhau olion bysedd a samplau DNA yw er mwyn gallu cynnal archwiliad tybiannol yn erbyn y cronfeydd lleol a chenedlaethol cyn i chi gael eich penodi i'r heddlu. Diben hyn yw sicrhau nad ydych wedi bod yn destun sylw niweidiol yr heddlu yn flaenorol, nad ydych wedi ein hysbysu ohono, a hefyd, nad oes unrhyw gyswllt rhyngoch chi ac unrhyw safleoedd trosedd heb eu datrys.
Bydd chwe mis cyntaf hyfforddiant yr heddlu mewn ystafell ddosbarth. Bydd hyfforddwyr swyddogion yr heddlu a staff yr heddlu yn darparu'r cwrs mewn sefydliad hyfforddi'r heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Cwrs di-breswyl yw hwn a gynlluniwyd i helpu i fanteisio i'r eithaf ar botensial dysgu yn academaidd ac yn ymarferol, gan ddechrau datblygu sgiliau plismona gweithredol. Mae'r maes llafur yn y dosbarth yn seiliedig ar y cwricwlwm a ddatblygwyd gan y Coleg Plismona, sy'n cynnwys yr holl feysydd sy'n ofynnol ar gyfer rôl Cwnstabl yr Heddlu. Cynhelir pecynnau E-ddysgu amrywiol hefyd, law yn llaw â hyfforddiant ffitrwydd, cymorth cyntaf a diogelwch personol.
Ar adegau amrywiol yn ystod y cwrs, bydd angen i gwnstabliaid fyfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth a'u gwybodaeth trwy gyfrwng prosesau asesu anffurfiol a ffurfiol. Bydd hyn yn cynnwys arholiadau aml-ddewis, aseiniadau ac asesiadau ymarferol. Disgwylir i gwnstabliaid ddangos yr ymddygiad a'r agwedd briodol bob amser yn ystod eu hyfforddiant, yn unol â Chod Moeseg y gwasanaeth heddlu.
Ar ôl cwblhau hyfforddiant cychwynnol yr heddlu yn llwyddiannus, bydd swyddogion yn dechrau cyfnod o diwtora mewn gorsaf heddlu weithredol gyda thiwtor cymwysedig. Ar ôl cwblhau'r cyfnod o dan diwtor yn llwyddiannus bydd modd i gwnstabliaid dan hyfforddiant fynd ar batrôl annibynnol.
Bydd gofyn i'r rhai a gaiff eu recriwtio o'r ddwy raglen gwblhau portffolio cymhwysedd galwedigaethol yn ystod eu cyfnod prawf, a bydd gofyn iddynt gwblhau lefel o astudio preifat, y tu allan i oriau gwaith.
Byddwch yn ymwybodol ar eich penodiad ac yn ystod eich gwasanaeth y gallech gael eich anfon i unrhyw leoliad yn Ne Cymru yn seiliedig ar angen gweithredol.
Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol hefyd, er y bydd ganddynt yr hawl i gael amser astudio gwarchodedig yn ystod eu cyfnod astudio, ei bod yn debygol hefyd y bydd angen i'r rhai dan hyfforddiant astudio'n breifat, y tu allan i oriau gwaith.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau'ch hyfforddiant cychwynnol gyda'r heddlu byddwch yn dechrau rhoi prawf ar yr hyn a ddysgwyd gennych, gan weithio ochr yn ochr â'n swyddogion cymwysedig. Mae patrwm sifftiau ein swyddogion yn amrywio, yn dibynnu ar eu rôl ac anghenion gweithredol. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o swyddogion yn gweithio 6 diwrnod yn olynol sy'n cynnwys diwrnodau, sifftiau hwyr a sifftiau gyda'r nos, ac yna'n cael 4 diwrnod i ffwrdd.
Mae'r patrwm sifftiau fel arfer yn cynnwys yr isod:
Ble fyddaf yn astudio?
Cyflawnir yr holl ddarpariaeth wyneb yn wyneb ar safle yr heddlu yn ardal Heddlu De Cymru. Cyflawnir gwaith hunan-astudio a dysgu ar-lein o bell.
A fyddaf yn cael costau teithio neu gynhaliaeth yn ystod yr hyfforddiant?
Na fyddwch – chi fydd yn gyfrifol am dalu unrhyw gostau teithio a fydd yn codi.
A fydd yn rhaid i mi dalu am unrhyw ddeunyddiau cwrs y bydd engen i mi eu prynu?
Llyfrau ac ati. Bydd Heddlu De Cymru a'r Brifysgol bartner yn rhoi deunyddiau dysgu i fyfyrwyr heb yr angen i dalu unrhyw gost.
A ganiateir gwyliau blynyddol yn ystod y cyfnod hyfforddi?
Mae ein cyrsiau PCDA a DHEP newydd cyffrous, a'r gyfundrefn academaidd y tu ôl iddynt, yn golygu y caiff gwyliau blynyddol ei gyfyngu yn ystod 6 mis cyntaf eich cyfnod prawf.
Os ydych chi wedi trefnu gwyliau neu os na fyddwch yn gallu mynychu hyfforddiant am unrhyw reswm ar ddiwrnodau y tu allan i gyfnodau gwyliau a bennwyd ymlaen llaw, dylech fod yn ymwybodol o'r ffaith ei bod yn debygol iawn na fyddwch yn gallu ymuno. Ni ellir caniatáu cyfnodau estynedig o wyliau blynyddol yn ystod y cyfnod hwn.
Ar ôl i chi gael eich penodi, byddwch yn cael 3 wythnos ddynodedig i ffwrdd yn ystod eich 6 mis o hyfforddiant cychwynnol. Yn anffodus, oherwydd gofynion y llu sy'n newid yn gyson, ni allwn ddarparu dyddiadau gwyliau/derbyn ymlaen llaw.
A fyddaf yn cael amser i gwblhau elfennau academaidd y cymhwyster?
Byddwch. Mae'r Llu a HEI wedi cyfrifo'r amser y bydd ei angen arnoch er mwyn cwblhau holl elfennau'r cymhwyster, a chaiff hyn ei ystyried wrth lunio amserlen eich patrwm sifftiau.
Rydym yn annog unigolion o grwpiau a chymunedau sydd wedi'u tangynrychioli i fanteisio ar ein cyfleoedd recriwtio a datblygu. Fel y caniateir yn neddfwriaeth cydraddoldeb cyflogaeth y DU, rydym yn falch o ddilyn polisi Gweithredu Cadarnhaol i'n helpu i gyflawni hyn.
Os hoffech siarad â rhywun am ymgyrchoedd recriwtio sydd i ddod, cyfleoedd a'r cymorth sydd ar gael i chi, cysylltwch â'n tîm Gweithredu Cadarnhaol yn [email protected].
Anfonwch unrhyw ymholiadau pellach drwy e-bost i: [email protected]
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd a fydd ar gael gyda Heddlu De Cymru yn y dyfodol, rhowch eich manylion ar ein banc talent a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd gennym swyddi gwag sy'n gweddu eich sgiliau a'ch dewisiadau. COFRESTRWCH EICH DIDDORDEB