Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae rôl gwirfoddolwr cefnogi'r heddlu yn golygu rhoi rhywfaint o'ch amser a'ch sgiliau i'n helpu i wella ansawdd y gwasanaeth rydym yn ei gynnig i'n cymunedau.
Dinasyddion lleol yw Gwirfoddolwyr Cefnogi'r Heddlu sy'n rhoi o'u hamser rhydd i helpu Heddlu De Cymru i gadw ein cymunedau'n ddiogel.
Maent yn cyflawni rolau amrywiol ac maent yn rhan sefydledig o'n teulu plismona.
Maent yn darparu adnoddau ychwanegol i ategu ymdrechion pob dydd swyddogion a staff rheolaidd a chysylltiadau ychwanegol i'n cymunedau.
Nid oes ganddynt unrhyw bwerau plismona ond maent yn cael eu fetio cyn cwblhau tasgau ar ran Heddlu De Cymru.
Mae llawer o Wirfoddolwyr Cefnogi'r Heddlu yn meddu ar wybodaeth a sgiliau defnyddiol a gafwyd o'u profiadau o'r tu allan i'r byd plismona.

Mae rolau gwirfoddolwyr cefnogi'r heddlu yn helpu ac yn gwella'r gwaith arferol y mae swyddogion a staff yr heddlu yn ei wneud o ddydd i ddydd.
Mae cyfleoedd yn amrywio o un lleoliad i'r llall, gan ddibynnu ar anghenion lleol.
Fodd bynnag, mae rolau arferol yn cynnwys:
Gofynnwn i'n gwirfoddolwyr feddu ar rai sgiliau sylfaenol
Dylai gwirfoddolwyr hefyd ddangos agwedd gadarnhaol a chyfeillgar a pharodrwydd i ddysgu.
Rydym yn chwilio am bobl 18 oed a throsodd o gefndiroedd gwahanol, sy'n meddu ar sgiliau a phrofiadau i'n cynorthwyo.
Mae gwirfoddolwyr yn dod ag amrywiaeth eang o brofiadau bywyd a sgiliau i'r timau y maent yn eu cefnogi ac yn ychwanegu gwerth at waith staff hyfforddedig. Mae gwirfoddolwyr yn aml yn meddu ar gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd a all fod o fudd i'r gymuned ehangach hefyd.
Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â ni [email protected]
Nid yw gwirfoddolwyr yn rhan o'r Gwnstabliaeth Wirfoddol. Nid oes ganddynt bwerau plismona.
Er mwyn gwirfoddoli, rhaid i chi fod 18 oed neu drosodd ac wedi bod yn byw yn y DU am o leiaf dair blynedd.
Rhaid i chi ddatgelu unrhyw euogfarnau blaenorol a chydsynio i Heddlu De Cymru gynnal archwiliad Fetio'r Heddlu Cenedlaethol (noder na fydd cofnod troseddol o reidrwydd yn eich atal rhag cael eich ystyried am rôl wirfoddol. Bydd methu â datgelu cofnod troseddol, sy'n dod i'r amlwg yn ddiweddarach, yn arwain at gael eich diswyddo o rôl wirfoddol ar unwaith).
Bydd ymgeiswyr yn ddarostyngedig i'r un meini prawf â holl aelodau'r heddlu. Efallai y bydd angen cynnal gwiriadau eraill yn dibynnu ar y rôl wirfoddol sy'n cael ei chyflawni.
Ni chaiff ymgeiswyr eu derbyn fel gwirfoddolwyr os bydd gwrthdaro buddiannau yn eu bywyd proffesiynol neu rôl wirfoddol arall.
Felly, fel rhan o'u cais, mae'n ofynnol iddynt ddatgelu natur eu cyflogaeth neu fanylion unrhyw waith gwirfoddol arall a wneir.
Mae gwirfoddoli i Heddlu De Cymru yn rhoi cyfle i'r gwirfoddolwr weithio ochr yn ochr â swyddogion a staff yr heddlu, gan feithrin sgiliau gwerthfawr ac ennill profiad mewn sefydliad proffesiynol a chyhoeddus. Mae'n cynnig y cyfle i gwrdd â phobl newydd a gweithio fel rhan o dîm, ymgysylltu a rhyngweithio â phobl o gymunedau a chefndiroedd gwahanol a gwneud cyfraniad cadarnhaol at y gymuned leol.
Rydym yn hynod ymrwymedig i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y sefydliad ac yn y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu. Ein nod yw hyrwyddo a chyflawni gweithlu cwbl gynhwysol i adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae Heddlu De Cymru yn benodol yn croesawu ceisiadau gan grwpiau wedi'u tangynrychioli.