Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gan Heddlu De Cymru hanes cryf gyda BikeSafe ac mae gennym dîm angerddol iawn o feicwyr modur o'n tîm Diogelwch ar y Ffyrdd yn ogystal ag Uned Plismona'r Ffyrdd.
Rydym hefyd yn cael cymorth gan Wirfoddolwyr Cefnogi'r Heddlu (PSVs) sy'n meddu ar gymhwyster beicio modur uwch ac sydd wedi cwblhau hyfforddiant ac asesiadau gan ein cydgysylltwyr lleol.

Mae gan ein beicwyr modur gyfoeth o brofiad a gwybodaeth am feicio mewn nifer o feysydd gan gynnwys Roadcraft a beicio i system, hebrwng cerbydau, ymchwilio i wrthdrawiadau a hebrwng aelodau o'r teulu brenhinol a phobl bwysig. Caiff y sesiwn ystafell ddosbarth ei harwain gan y cydgysylltwyr sydd hefyd yn meddu ar gymwysterau a phrofiad o addysgu ac sydd wedi cwblhau hyfforddiant beic modur ar bob lefel.
Mae pob aelod o'n tîm yn feiciwr angerddol, ac rydym yn gwneud ein gweithdai mor bleserus â phosibl ac yn rhoi'r cyfle gorau i feicwyr wella eu sgiliau a chael y gorau o'u beiciau, gan gadw'n ddiogel ar y pryd.
Er mwyn bod yn Arsylwr BikeSafe gwirfoddol, rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol:
Meddu ar Drwydded Beic Modur heb fwy na 6 phwynt cosb.
Bod yn berchen ar feic modur sy'n gyfreithlon ar y ffyrdd
Meddu ar gymhwyster beicio modur uwch cyfredol gyda naill ai RoSPA neu IAM.
Bod yn diwtor cyfredol gyda RoSPA/IAM neu'n hyfforddwr cyfredol gyda DVSA neu ERS.
Os ydych yn meddu ar y cymwysterau perthnasol ac yn awyddus i wirfoddoli gyda'n Tîm BikeSafe, cysylltwch â [email protected]
Neu i gofrestru eich diddordeb [email protected]