Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Sŵn niwsans yw unrhyw sŵn uchel neu gyson sy’n achosi pryder parhaus i chi neu’n effeithio ar ansawdd eich bywyd. Eich cyngor lleol ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer riportio sŵn niwsans gan nad yw hwn fel arfer yn fater i’r heddlu.
Pan fo'r sŵn yn codi am fod pobl yn anystyriol mewn man cyhoeddus, mae hyn yn eithriad. Gallwch riportio hyn fel ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os yw’r un larwm yn canu’n gyson gallai hyn fod yn gyfystyr â sŵn niwsans, yn enwedig os yw’n canu am amser hir ac yn cadw pobl yn effro yn y nos.
Gall tafarndai, clybiau a lleoliadau eraill gyfrannu at sŵn niwsans drwy chwarae cerddoriaeth yn rhy uchel neu’n hwyrach nag a ganiateir yn eu trwydded. Gall hyn gael ei waethygu wrth i bobl siarad yn uchel wrth iddynt adael y lleoliad neu barhau gyda’r parti drwy droi lefel sain systemau cerddoriaeth eu cerbydau yn uwch.
Yn ôl y gyfraith rhaid i gwmnïau adeiladu a chontractwyr gymryd pob cam rhesymol i reoli sŵn a gweithio o fewn amseroedd penodol, fel arfer o 7.30am i 6pm. Os ydynt am weithio y tu hwnt i’r amseroedd hyn rhaid iddynt wneud cais am drwydded arbennig gan y cyngor lleol.
Mae gorfod goddef naill ai sŵn cyson neu achlysurol yn gallu bod yn flinedig, yn arbennig os bydd yn digwydd drwy’r nos.
Gall hefyd wneud i bobl deimlo wedi’u hynysu ac yn flinedig, gan fethu ymlacio yn eu cartrefi eu hunain.
Os oes larwm adeilad neu gar yn seinio a bod tystiolaeth glir o weithgarwch troseddol, megis ffenestr wedi torri neu rywun yn ymddwyn yn amheus gerllaw, ffoniwch 999 ar unwaith.
Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu tecstiwch ni ar 999 os ydych chi wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.
Os nad oes tystiolaeth o weithgarwch troseddol, byddem bob amser yn awgrymu ceisio siarad yn heddychlon â’r person sy’n gyfrifol am y sŵn. Efallai ei fod eisoes yn ceisio datrys y mater. Efallai bod hynny’n anodd ei gredu, ond mae’n bosibl nad yw’r unigolyn hyd yn oed yn ymwybodol o’r broblem.
Os nad yw’r unigolyn eisiau diffodd y sŵn yn llwyr, ceisiwch ddod i gyfaddawd cyfeillgar, megis dim cerddoriaeth wedi 11pm.
Os ydych yn teimlo na allwch siarad â’r bobl dan sylw, neu na fyddant yn gwrando, cysylltwch â thîm Iechyd yr Amgylchedd eich cyngor lleol; bydd yn gallu rhoi cyngor i chi.