Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Plismona yn y Gymdogaeth wrth wraidd ein dull o gadw De Cymru'n ddiogel. Mae ein PCSOs a'n swyddogion yn falch o fod yn rhan annatod o'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Rydym am sicrhau bod ein rhaglen plismona yn y gymdogaeth mor effeithlon ac effeithiol â phosibl, a'n nod yw bod y gorau yn y wlad am ddeall ac ymateb i anghenion a blaenoriaethau pob cymuned unigol. Mae eich tîm plismona yn y gymdogaeth lleol yn cynnwys swyddogion a PCSOs wedi'u lleoli yn eich ardal sy'n weladwy ac yn hygyrch.
Mae ymgysylltu â'n cymunedau yn rhan hanfodol o'n model plismona yn y gymdogaeth: cysylltu ag unigolion, sefydliadau, busnesau, ysgolion, gweithleoedd ac eraill; gweithio i ddeall eich pryderon a'ch blaenoriaethau, ymateb iddynt a mynd i'r afael â nhw; a rhoi mesurau ar waith i atal problemau rhag gwaethygu – neu ddigwydd yn y lle cyntaf.
Drwy gydweithio a chanolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar, atal a datrys problemau, gallwn ddod o hyd i atebion hirdymor i broblemau lleol.
Mae PCSOs yn ganolog i blismona yn y gymdogaeth. Eu prif rôl yw cyfathrebu – gwrando ar y gymuned, rhoi gwybodaeth i'r gymuned, ymgysylltu â phobl a dod â phobl ynghyd i ddatrys problemau lleol. Mae galluogi a grymuso pobl yn y gymuned leol i gydweithio i fynd i'r afael â materion lleol hefyd yn hanfodol.
Oherwydd yr ymddiriedaeth rhwng cymuned a'i PCSOs, mae plismona yn y gymdogaeth hefyd yn chwarae rôl hanfodol wrth gasglu a datblygu cudd-wybodaeth gymunedol. Gall hyn gynnwys gwybodaeth am droseddau cyfundrefnol difrifol a'r achosion o drais a chamfanteisio sy'n digwydd o ganlyniad i hynny.
Mae plismona yn y gymdogaeth wedi bod wrth wraidd Cynllun yr Heddlu a Throseddu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Mae'r cynllun yn nodi: "Byddwn yn gostwng ac yn atal troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn cadw pobl yn ddiogel ac yn hyderus yn eu cartrefi a'u cymunedau.
"Byddwn yn llym gyda phobl sy'n troseddu ac achosion troseddu, gan fynd i'r afael ag achosion sylfaenol drwy ymyrryd yn gynnar a chymryd camau prydlon a chadarnhaol, gweithio mewn partneriaeth a gwerthuso 'yr hyn sy'n gweithio'."
De Cymru Yn GwrandoWrth i ni barhau i wella ein gwasanaeth i chi, rydym wedi cyflwyno De Cymru yn Gwrando – gwasanaeth negeseua am ddim gan Heddlu De Cymru, sy'n eich galluogi i roi gwybod i'r tîm lleol beth sy'n eich poeni, beth rydych am ei weld yn newid, ac i awgrymu ffyrdd y gallwn weithio gyda chi i wneud eich cymuned yn well. Bydd hefyd yn eich galluogi i ofyn am wybodaeth, boed hynny am gyngor ar atal troseddau, y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau parhaus, neu ddysgu mwy am yr hyn y mae eich tîm plismona lleol yn ei wneud – chi fydd yn dewis. Mae De Cymru yn Gwrando yn eich gwahodd i gofrestru a rhoi gwybod i ni am yr hyn sy'n peri pryder i chi yn eich cymuned leol. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi am ddigwyddiadau ymgysylltu lleol, yn rhannu cyngor ar atal troseddau, ac yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau plismona sylweddol yn eich ardal o bryd i'w gilydd. Mae De Cymru yn Gwrando yn eich galluogi i anfon negeseuon yn uniongyrchol at eich PCSOs lleol a'ch tîm plismona yn y gymdogaeth. Byddwn yn gwrando ar yr hyn sydd gennych i'w ddweud ac yna byddwn yn rhannu'r camau gweithredu rydym wedi'u cymryd i fynd i'r afael â'ch pryderon â chi. Edrychwn ymlaen at glywed gennych. |