Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall ein tudalen deall sut dylai stopio a chwilio ddigwydd eich helpu i ddeall a gafodd y broses ei chyflawni’n gywir ac yn barchus.
Gallwch ddweud wrthon ni os ydych chi’n credu bod swyddog heddlu wedi ymddwyn yn anghywir. Er enghraifft, os ydych chi'n credu bod swyddog:
Neu i sôn am sut gwnaeth y profiad ichi deimlo. Er enghraifft, os ydych chi'n credu bod swyddog:
Mae cwynion yn ffordd bwysig inni ddysgu ble rydyn ni’n syrthio’n brin fel gwasanaeth a chywiro pethau cyn gynted â phosibl. Mae pob cwyn yn wahanol, ond byddwn ni’n dilyn y ddeddfwriaeth a chanllawiau Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i geisio sicrhau ateb boddhaol.
I wneud cwyn ffurfiol a chael rhagor o wybodaeth am sut mae cwynion yn cael eu hymchwilio, darllenwch ein tudalennau cwynion.
Gallwch gael cyngor gan y canlynol:
Efallai eich bod yn teimlo'n anfodlon gwneud cwyn ffurfiol, ond y byddech chi’n dal yn dymuno rhannu’ch syniadau. I godi mater am rywbeth sydd wedi peri pryder ichi, neu i sôn am eich profiad, mae amryw o ffyrdd y gallwch chi gysylltu.
Mae croeso i’ch adborth er mwyn inni wneud gwelliannau a monitro’n harferion.
Fel aelod o gymuned, os hoffech chi godi pryder am y ffordd rydyn ni'n defnyddio pwerau stopio a chwilio, gallwch gwblhau cais sbardun stopio a chwilio. Mae gennych chi hawl i gysylltu â ni, hyd yn oed os nad oedd y broses yn effeithio arnoch chi’n uniongyrchol.
Gallwch hefyd roi adborth yn bersonol mewn unrhyw orsaf heddlu.
Os ydych chi wedi cael profiad cadarnhaol, neu os hoffech roi adborth cyffredinol inni, gallwch ddefnyddio'r ffurflen gysylltu ar-lein yma.
Hoffem glywed pob adborth, a all ategu'r broses adolygu. Gallwch weld ein data stopio a chwilio i weld sut mae'r pŵer i stopio a chwilio yn cael ei ddefnyddio.
Rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan i fonitro sut mae’r broses stopio a chwilio yn cael ei defnyddio yn y gymuned. Gallwch hefyd ymuno â swyddogion ar eu shifft a phrofi sut mae'n cael ei defnyddio.