Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhagor o wybodaeth am stopio a chwilio:
Gall swyddog heddlu neu swyddog cymorth/cefnogi cymunedol yr heddlu (SCCH) mewn lifrai eich stopio. Gall swyddogion yr heddlu eich chwilio hefyd. Mae SCCH yn cael eich chwilio chi am dybaco, sigaréts, alcohol ac eitemau eraill os ydyn nhw wedi’u hawdurdodi. Nid oes yn rhaid i swyddog yr heddlu fod mewn lifrai ond rhaid iddo/iddi ddangos ei gerdyn gwarant (ID).
Bydd stopio a chwilio yn digwydd gan amlaf mewn mannau cyhoeddus. Fodd bynnag, mae rhai pwerau, megis chwilio am arfau tanio neu gyffuriau, sy’n caniatáu i’r heddlu chwilio pobl yn unrhyw le.
Os ydych mewn man cyhoeddus, efallai y bydd angen i chi dynnu eich côt neu siaced a’ch menig, oni bai eich bod wedi cael eich stopio mewn perthynas â therfysgaeth neu pan fo’r swyddog yn credu eich bod yn defnyddio dillad i guddio pwy ydych chi.
Os ydych chi'n gwisgo unrhyw beth am resymau crefyddol, a bod y swyddogion angen ichi ei dynnu, mae’n rhaid iddyn nhw fynd â chi o olwg y cyhoedd.
Rhaid i'r swyddog heddlu neu’r swyddog cymorth cymunedol egluro pam rydych chi’n cael eich stopio a pham maen nhw’n gofyn ichi roi cyfrif am eich gweithredoedd neu am eich presenoldeb mewn ardal.
Gall pob aelod o'r cyhoedd gael eu stopio, gan gynnwys grwpiau y gellid barnu eu bod nhw’n agored i niwed a'r rhai dan 18 oed. Bydd y swyddog yn ystyried lles a diogelwch y person bob amser. Bydd gofal arbennig yn cael ei roi i sicrhau eu bod nhw’n deall beth sy’n digwydd, na fyddan nhw’n ofidus, a bod eu hanghenion yn cael eu hystyried.
Rhaid i’r swyddog fod yn gwrtais a pharchus bob amser.
Rydym yn ymwybodol y gallai’r broses gymryd rhywfaint o amser ond dylid ei thrin yn gyflym ac yn broffesiynol. Efallai y bydd y swyddog heddlu yn gofyn ychydig o gwestiynau ac yna, os yw’n teimlo bod hynny’n angenrheidiol, yn eich chwilio.
Mae swyddogion yr heddlu yn defnyddio’r acronym Saesneg GOWISELY - mae pob llythyren yn sefyll am wybodaeth mae'n rhaid iddyn nhw ei rhoi ichi os cewch chi’ch stopio a'ch chwilio. Mae hyn yn cynnwys:
Bydd y swyddog heddlu yn gofyn i chi am eich:
Nid oes yn rhaid i chi roi’r wybodaeth hon os nad ydych am wneud hynny; oni bai bod y swyddog heddlu yn dweud ei fod yn eich riportio chi am drosedd.
Bydd y swyddog hefyd yn gofyn a oes gennych chi Orchmynion Lleihau Trais Difrifol (SVRO). Os oes gennych chi SVRO, mae angen ichi ddweud wrth y swyddog. Mae’n drosedd peidio â dweud.
Mae defnydd o gamerâu fideo a wisgir ar y corff yn helpu i dawelu meddwl y cyhoedd bod eu cysylltiad â’r heddlu yn cael ei recordio. Mae’r dechnoleg yn cynnig mwy o dryloywder i’r rheini sydd o flaen y camera yn ogystal â’r rheini y tu ôl iddo.
Mae croeso i’ch adborth er mwyn inni adolygu a gwella sut mae stopio a chwilio yn cael ei wneud yn y gymuned. Dwedwch wrthon ni am eich profiad chi o stopio a chwilio.