Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth yw priodas dan orfod? |
2. Sut i riportio priodas dan orfod |
3. Sefydliadau cymorth priodas dan orfod |
A oes rhywun mewn perygl ar hyn o bryd? A oes trosedd yn cael ei chyflawni neu a oes un newydd ddigwydd? Os felly, ffoniwch 999 nawr a gofynnwch am yr heddlu. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu tecstiwch ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.
Os ydych yn cael eich gorfodi i briodi, neu wedi cael eich gorfodi i briodi, rydyn ni yma i wrando arnoch chi a'ch cefnogi unrhyw ffordd y gallwn.
Os ydych chi'n poeni am rywun arall ac yn meddwl y gallen nhw ddioddef priodas dan orfod, rydyn ni eisiau clywed gennych chi.
Os hoffech chi riportio ar-lein, gallwch ddefnyddio’n gwasanaeth riportio troseddau ar-lein sy’n ddiogel ac yn gyfrinachol.
Os ydych chi'n poeni am berson sydd ar goll a’ch bod yn credu y gallai fod wedi dioddef priodas dan orfod, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i riportio person sydd ar goll.
Os hoffech chi siarad â rhywun, mae’n rhif ffôn cenedlaethol pan nad oes argyfwng yn cael ei staffio 24/7. Ffoniwch ni ar 101 a riportiwch yr hyn a ddigwyddodd neu gofynnwch am gyngor.
Os hoffech chi siarad â rhywun yn bersonol, gallwch alw heibio i unrhyw un o'n gorsafoedd heddlu.
Gallwch riportio’n ddienw drwy gysylltu â Crimestoppers naill ai drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0800 555 111.
Gallwch gysylltu â'r Uned Priodasau dan Orfod (FMU) os ydych yn ceisio atal priodas dan orfod neu os oes arnoch chi angen help i adael priodas rydych chi wedi cael eich gorfodi i mewn iddi.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler canllawiau priodas dan orfod.
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod yn cael eich gorfodi i briodi allan o'r wlad, cysylltwch â'r FMU a all helpu i atal hyn rhag digwydd.
Os ydych chi dros y môr yn barod, cysylltwch â'r FMU, sy’n gallu’ch helpu i ddychwelyd yn ddiogel. Gallwch hefyd gysylltu â Llysgenhadaeth Prydain yn y wlad rydych chi ynddi.
Os ydych chi yn y maes awyr yn barod, siaradwch â swyddogion diogelwch neu'r heddlu a fydd yn gallu eich helpu.
Mae gennych chi hawl i ddweud na os ydych chi’n cael eich gorfodi i briodi rhywun nad ydych chi eisiau eu priodi.