Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os yw person ar goll yn dod yn ôl yn weddol sydyn neu ar ôl cyfnod hir, gall y profiad fod yn drawmatig i ffrindiau, i’r teulu ac i’r person coll ei hun.
Efallai y byddwch yn llawn rhyddhad a hapusrwydd pan ddaw rhywun adref, ond mae hefyd yn normal i brofi teimladau anodd neu amwys. Efallai nad yw’r rhesymau pam yr aeth y person ar goll wedi cael eu datrys. Efallai fod perygl y bydd yn mynd ar goll eto.
Pan fydd rhywun rydych chi wedi riportio fel person ar goll yn cael ei ganfod neu’n dod adref, rhaid i chi ddweud wrth yr heddlu. Gallwch ffonio 101 neu fynd i orsaf heddlu.
Bydd angen i ni gadarnhau ei fod yn ddiogel ac yn iach. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai bydd yr heddlu am siarad â’r unigolyn yn bersonol.
Rhowch wybod i bobl eraill hefyd, yn enwedig unrhyw elusennau, ffrindiau neu wirfoddolwyr sydd wedi helpu i chwilio. Gwnewch yn siŵr fod posteri yn cael eu tynnu i lawr a a chofiwch roi’r gorau i ledaenu cyhoeddusrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol os gallwch chi.
Fel arfer, nid yw pobl yn mynd ar goll heb reswm.
Ar ôl dod o hyd i’r person neu ar ôl iddo ddychwelyd adref, mae’n bwysig ei fod yn cael cyfle i esbonio pam ei fod wedi mynd ar goll. Rhaid ceisio mynd i’r afael â’r problemau hyn fel nad yw’r person yn mynd ar goll eto.
Os nad yw’r person am siarad â chi, beth am ofyn i ffrind neu rywun arall fel yr elusen Missing People.
Mae’n golygu mwy na beth mae pobl yn ei ddweud. Fe allech chi ddysgu rhywbeth ynghylch a yw rhywun a aeth ar goll yn iawn neu beidio o bethau fel y rhain:
Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arno gan weithwyr proffesiynol, er enghraifft meddyg teulu neu wasanaethau iechyd meddwl. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y bydd yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol neu sefydliad arall am siarad â’r unigolyn hefyd.
Gwasanaethau iechyd meddwl y GIG
Peidiwch ag anwybyddu eich teimladau a’ch lles eich hun. Efallai eich bod yn poeni am y person sydd ar goll ac am yr hyn a allai fod wedi digwydd iddo tra oedd i ffwrdd. Efallai y byddwch yn teimlo’n lletchwith yn siarad â phobl eraill am y diflaniad.
Mae’r elusen Missing People yn helpu teuluoedd ar bob cam, gan gynnwys ar ôl i rywun ddod yn ôl.
Weithiau mae oedolion sydd ar goll yn cael eu canfod, ond dydyn nhw ddim eisiau mynd yn ôl na dweud wrth bobl lle maen nhw.
Gall hyn fod yn anodd iawn i ffrindiau a theulu, ond dyma eu hawl ac ni allwn ddweud wrthych le maen nhw. Ond rydyn ni’n cael dweud wrthych chi fod y person wedi’i ganfod.