Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Pan fyddwn yn dod o hyd i gorff sydd, yn ein barn ni, yn berson a oedd ar goll, byddwn yn rhoi gwybod i grwner amdano.
Mae crwner yn farnwr arbennig sy'n ymchwilio i farwolaethau lle mae achos y farwolaeth yn anhysbys, yn annaturiol neu'n dreisgar. Ei waith yw canfod pwy fu farw, sut, pryd a ble.
Mae ymchwiliad crwner yn wahanol i ymchwiliad troseddol. Nid yw crwner yn dyfarnu bod rhywun yn euog nac yn beio rhywun am rywbeth. Weithiau, efallai y bydd crwner yn penderfynu cynnal cwest, sy'n canfod y ffeithiau mewn llys gyda thystion.
Os bydd crwner yn ymchwilio i farwolaeth eich anwylyd, yna swyddogion y crwner fydd y ddolen rhyngoch chi a'r crwner. Byddant yn gofyn i chi am wybodaeth ac yn ateb eich cwestiynau am yr ymchwiliad.
Mae gan y crwner reolaeth gyfreithiol dros y corff am y cyfnod bydd yn cynnal ei ymchwiliad. Bydd yn rhyddhau’r corff i chi neu i’r perthynas agosaf cyn gynted ag y bo modd er mwyn ei gladdu neu amlosgi.
Canllaw i wasanaethau crwneriaid ar gyfer teuluoedd mewn profedigaeth
Archwiliad meddygol o gorff yw post-mortem er mwyn darganfod achos y farwolaeth.
Fel arfer mae hyn yn golygu llawdriniaeth i gynnal archwiliad mewnol ar y corff. Weithiau (ond nid bob amser), gellir gwneud sgan sydd ddim yn andwyo’r corff. Os byddai'n well gennych gael sgan, bydd angen i chi ofyn i'r crwner cyn gynted â phosibl. Efallai bydd angen i chi dalu am sgan.
Bydd y meddyg sy’n cynnal y post-mortem yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer y crwner. Gallwch ofyn i swyddfa'r crwner am gopi.
Os bydd angen profion ychwanegol i bennu achos y farwolaeth, weithiau bydd samplau o waed neu feinwe gan gynnwys organau’n cael eu cadw ar ôl rhyddhau’r corff. Cewch ddewis wedyn beth sy’n digwydd i’r feinwe a gymerwyd.
Soniwch wrth swyddogion yr heddlu neu swyddogion y crwner os oes gennych unrhyw anghenion diwylliannol neu grefyddol. Rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn parchu anghenion pobl o bob cefndir. Lle bo modd, bydd swyddogion y crwner yn ystyried anghenion crefyddol wrth weithredu’n unol â’r gyfraith.
Os credwn mai’r person yr ydych yn chwilio amdano sydd wedi marw, efallai y gofynnir i chi adnabod y corff yn ffurfiol.
Fel arfer, gallwch hefyd ofyn am gael gweld y corff, hyd yn oed os nad oes angen prawf adnabod ffurfiol.
Gallwch weld y corff mewn gwahanol lefydd. Weithiau byddwch yn edrych ar y person drwy ffenestr wydr yn hytrach na bod yn yr un ystafell.
Dylech ofyn i swyddfa'r crwner ymlaen llaw os ydych chi am gyffwrdd corff eich anwyliaid oherwydd efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl, er enghraifft, os bydd angen cymryd tystiolaeth i'w defnyddio mewn achos troseddol.
Weithiau, bydd y crwner yn awgrymu na ddylech weld y corff os yw’n teimlo y gallai hyn achosi trallod i chi. Bydd hyn yn cael ei egluro i chi mewn modd sensitif er mwyn i chi allu penderfynu a ydych chi’n sicr eich bod am weld y corff.