Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ffoniwch 999 nawr mewn sefyllfaoedd brys fel y rhain:
Yn yr adran hon:
1. Beth yw ffugiad dwfn |
2. Beth gallwch chi ei wneud: riportio'r peth i ni |
3. Riportio i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol os digwyddodd y peth ar-lein |
4. Help a chymorth |
Gallwch riportio i ni yn gyntaf, ac os digwyddodd y peth ar-lein gallwch hefyd riportio i'r cwmni cyfryngau cymdeithasol ar ôl hynny. Yn gyntaf, byddwn ni’n dweud wrthoch chi sut y gallwch chi riportio’r peth i ni.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr unigolyn ag anfonodd y ffugiad dwfn ichi neu ble welsoch chi'r ffugiad dwfn, gall gwybodaeth fel hyn fod yn ddefnyddiol i ni:
Os oeddech chi all-lein:
Gallwch riportio ffugiadau dwfn anghyfreithlon ar-lein.
Bydd eich adroddiad yn cael ei anfon yn uniongyrchol i'n hystafell reoli lle bydd yn cael ei adolygu gan yr un tîm ag sy'n ateb ein galwadau.
Gallwch riportio twyll i Action Fraud, canolfan genedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer riportio twyll a seiberdroseddu.
Os dewch chi ar draws cynnwys rydych chi'n credu ei fod yn derfysgol ei natur, riportiwch hyn yn ddienw yn www.gov.uk/report-terrorism neu drwy lawrlwytho'r ap iREPORTit ar siop apiau Apple neu Android.
Os hoffech chi siarad â swyddog yn bersonol, gallwn ddarparu amgylchedd diogel a chyffyrddus yn unrhyw un o'n gorsafoedd heddlu.
Os oes arnoch chi angen cyfieithydd, gallwn ddarparu rhywun dros y ffôn i ddechrau ac yn bersonol yn nes ymlaen.
Ar ôl inni gael eich adroddiad byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad â chi ac yn rhoi gwybod ichi beth fydd yn digwydd nesaf.
Gallwch chi riportio'n ddienw drwy wefan Crimestoppers neu drwy eu ffonio nhw ar 0800 555 111.
Mae unrhyw fanylion y gallwch eu rhoi i Crimestoppers yn hynod o werthfawr i'n helpu i ddarganfod mwy am bwy sy'n cyflawni'r mathau yma o droseddau.