Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydych wedi buddsoddi llawer o amser, egni ac arian i sefydlu eich siop. Yn anffodus, mae siopau’n denu lladron. Felly, os ydych yn berchennog siop neu’n rheolwr adran mewn siop fwy, rydym yma i gynnig cyngor i chi er mwyn eich helpu i ddiogelu eich bywoliaeth.
Gall lladron mewn siop wastad asesu pa mor hawdd yw hi i ddwyn drwy sylwi ar pa mor gyflym wedi iddynt fynd i mewn iddi y bydd aelod o staff yn siarad â nhw. Caiff ei galw’n ‘rheol tri i bump eiliad’.
Gall cyfarch cwsmeriaid wrth iddynt ddod i mewn i’ch sefydliad wneud i ladron feddwl eilwaith oherwydd mae’n rhoi’r neges eich bod chi a’ch staff yn talu sylw. Os yw lladron yn meddwl bod rhywun wedi sylwi arnynt maent yn fwy tebygol o adael.
Gweithiwch allan lle mae’r lladrata yn digwydd yn y siop. Cadwch gofnodion o’r lleoliad, dyddiadau, amseroedd a lluniau teledu cylch cyfyng o’r digwyddiadau neu’r ymddygiad amheus. Gelwir hyn yn ‘fapio troseddau’.
Edrychwch ar yr ardal hon fel petaech yn ei gweld am y tro cyntaf, yna gweithiwch allan beth allwch chi ei wneud i’w diogelu. A allwch chi wella’r system wyliadwriaeth? Er enghraifft, allwch chi ei gweld o’r til? Ceisiwch wneud yr ardal yn haws ei gweld drwy ail-leoli neu ostwng uchder stoc a silffoedd. Ystyriwch leoli mwy o staff yma neu hyd yn oed arddangos yr eitemau mewn man arall.
Tagiwch eich eitemau gyda system electronig. Mae systemau atal lladrata yn cynnwys ystod eang o ddyfeisiau a thechnolegau.
Mae terfynell atal lladrata achrededig wedi’i gosod yn gywir (a system tagio) ym mynedfa siop yn ddatganiad i ddarpar ladron bod y ‘siop hon wedi’i diogelu’. Bydd lladron yn aml yn targedu eiddo sydd heb yr offer hwn. Bydd y rhan fwyaf o siopau yn gweld gostyngiad mawr mewn dwyn unwaith y byddant yn gosod terfynell atal lladrata wrth y drws. Bydd y lladron yn mynd i rywle arall.
Bydd siop lân a thaclus, lle gellir gweld yn glir ar draws llawr y siop, yn dweud wrth leidr fod popeth yn drefnus - a bod goruchwyliaeth hefyd mwy na thebyg o’r radd flaenaf. Cadwch bethau’n addas ar gyfer diogelwch, gyda rhodfeydd clir a llydan os yn bosibl, gan ei gwneud hi’n anodd iawn i ladron ddwyn heb gael eu gweld. Gwnewch yn siŵr fod y tu allan, y tir o amgylch a’r adeilad ei hun hefyd yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda ac yn lân, er mwyn cadw’r gofod mor weladwy â phosibl.
Ni allwch ragweld pwy fydd yn dod i mewn i’ch siop na sut byddant yn ymddwyn. Gallai lladron ymateb yn ffyrnig os cânt eu herio.
Dylai cyflogwyr gynnal asesiad risg ar y cyd â’r cyfarwyddiadau Iechyd a Diogelwch. Gwrandewch ar eich greddf bob amser a herio lladron posibl os yw hi’n ddiogel i wneud hynny. Os ydych chi’n teimlo’n hyderus gyda’r sefyllfa, cadwch bellter diogel ac yna gofynnwch iddynt a ydynt angen help neu os hoffent fasged neu fag. Os ydych chi’n teimlo’n anghyfforddus, byddwch yn gwrtais, camwch i ffwrdd ac yn dawel hysbyswch eich rheolwr neu’ch tîm diogelwch.
Am cyn gymaint o’r diwrnod â phosibl, ceisiwch beidio â bod ar eich pen eich hun. Bydd lladron yn targedu siopau sydd â dim ond un aelod staff. Mae mwy o lygaid yn y siop yn golygu eich bod yn fwy tebygol i sylwi ar leidr, felly defnyddiwch nifer o aelodau staff a gwnewch yn siŵr eu bod wedi’u hyfforddi ynglŷn â sut i sylwi ar ladron. I gael rhagor o ganllawiau, gweler ein tudalen ar sut i sylwi ar leidr mewn siop.