Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Felly, sut ydych chi’n meddwl byddai lleidr mewn siop yn edrych? Y gwirionedd yw, dydyn nhw ddim yn union yr hyn fyddech chi’n ei ddisgwyl. Maent yn dda iawn am gymysgu’n naturiol gyda siopwyr ac fe fyddech yn cael trafferth i adnabod un mewn torf, ond efallai y byddech yn gallu adnabod lleidr mewn siop ar sail ei ymddygiad. Dyma ychydig arwyddion i gadw llygad amdanynt.
Bydd llawer o ladron mewn siop yn gwisgo’n drwsiadus a byddant yn aml yn siarad, yn rhannu jôc ac yn ymgysylltu â chi. Nid ydynt bob amser yn gweithio ar eu pen eu hunain a gallant geisio gwneud i chi deimlo’n gyfforddus a thynnu eich sylw tra bod eu cyd-leidr yn dwyn. Maent yn dda am dynnu sylw, yn enwedig pan fyddwch wedi datgloi cwpwrdd. Peidiwch â syrthio i’r fagl, Gofynnwch i un o’ch cynorthwywyr eich helpu.
Ffordd allweddol o ddelio â lladron mewn siop yw cael diogelwch cryf megis aelodau o staff wrth ddrysau; drwy adnabod eich math o gwsmeriaid; drwy annog staff i gadw’n wyliadwrus; a thrwy ddefnydd deallus o ddyfeisiau diogelwch.
Mae nifer o arwyddion sy’n nodweddiadol o leidr mewn siop. Ond cofiwch, er nad yw’r canlynol o reidrwydd yn golygu bod y person yn euog - a byddwch yn ymwybodol mai chi sy’n gyfrifol am eich ymddygiad, yn gyfreithiol a masnachol - rydym yn argymell eich bod yn cadw llygad ar siopwyr sydd:
Os byddwch yn eu gweld yn cymryd rhywbeth gofynnwch iddynt yn gwrtais i roi’r eitem yn ôl ond byddwch yn ofalus i gadw tôn eich llais yn niwtral a chamwch yn ôl os byddwch yn teimlo dan fygythiad. Gwnewch yn siŵr bob amser eu bod wedi cymryd rhywbeth cyn eich bod yn siarad â nhw – a gwneud hynny dim ond os ydych chi’n teimlo ei bod yn ddiogel i wneud hynny.
Unwaith eich bod yn siŵr fod y person yn lleidr, ffoniwch 999.