Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gêm bêl-droed, gŵyl, carnifal stryd, ffair, gorymdaith, protest neu farathon: dyma sut y gallwch gadw eich bywoliaeth yn saff a diogel rhag pobl sy’n ceisio manteisio ar ddigwyddiadau cyhoeddus mawr.
Yn ystod y dyddiau cyn y digwyddiad, gwnewch yn siŵr bod yr holl weithwyr wedi’u briffio’n llawn.
Dylai eich sefydliad gael presenoldeb gweledol cryf gan reolwyr a ddylai ddweud pwy ydynt wrth yr heddlu rhag ofn y bydd unrhyw dresmaswyr neu ddifrod.
Dylai swyddogion diogelwch, lle bo hynny’n bosibl, fod yn weladwy iawn.
Dylai’r holl staff fod yn wyliadwrus ac adrodd am unrhyw weithgaredd amheus wrth y swyddogion diogelwch a/neu yr heddlu.
Gwnewch yn siŵr bod yr holl aelodau staff yn gwbl ymwybodol o unrhyw weithdrefnau argyfwng neu wagio.
Cadwch nifer y mannau mynediad i’ch sefydliad i’r isaf posibl.
Gwnewch yn siŵr bod yr ardaloedd tu allan yn glir o sbwriel, biniau, ysgolion neu offer.
Gwiriwch fod eich offer argyfwng, bagiau hwylus, cyflenwadau cymorth cyntaf a setiau radio symudol yn eu lle, yn hawdd cael gafael arnynt ac yn gweithio’n iawn. Cynghorir chi i’w profi ymlaen llaw.
Gwiriwch a phrofwch ddiogelwch yr adeilad a’r systemau argyfwng.
Gwnewch yn siŵr bod yr offer teledu cylch cyfyng ar waith ac y gall roi’r recordiadau gyda’r eglurder gorau posibl.
Os oes sgaffaldau wedi’u gosod ar eich adeilad neu gerllaw, rhowch wybod i’r staff diogelwch.