Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Thomas Gilheany, dyn 29 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar Heol Clase, Abertawe, ddydd Gwener 6 Tachwedd wedi cael ei gyhuddo o affräe a bod ag arf ymosodol yn ei feddiant. Bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun 9 Tachwedd.
Mae'r dyn 41 oed a'r bachgen 16 oed a arestiwyd mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Mae'r ymchwiliad i'r digwyddiad am 4:15pm ddydd Gwener yn cael ei arwain gan Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru. Mae'r ymchwiliad yn dal i fynd rhagddo ar hyn o bryd.
Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw anafiadau yn gysylltiedig â'r digwyddiad.
Mae ditectifs yn parhau i apelio am wybodaeth ac maent yn awyddus i glywed gan fodurwyr a oedd yn teithio ar hyd Heol Clase, Heol Samlet, Upper Fforest Way neu Ffordd y Cwm rhwng 4:15pm a 4:30pm, ac unrhyw un a deithiodd ar hyd Ffordd y Cwm rhwng hanner dydd a 1:30pm. Gofynnir i fodurwyr gyflwyno delweddau camera cerbyd, hyd yn oed os nad oedden nhw wedi gweld y digwyddiad neu wedi sylwi ar unrhyw beth anarferol ar y pryd, gan y gallai’r lluniau hyn gynnwys gwybodaeth am gerbydau neu symudiadau a allai gynorthwyo ein hymchwiliad.
Gellir cyflwyno lluniau camera cerbyd, teledu cylch cyfyng neu ffôn symudol drwy'r Porth Cyhoeddus Digwyddiadau Mawr: https://mipp.police.uk/operation/62SWP26C43-PO1
Gellir rhannu unrhyw wybodaeth arall yn ddienw drwy ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd, Stephen Jones:
"Mae ein hymchwiliad, sy'n cynnwys timau o dditectifs a staff arbenigol, yn parhau.
"Mae digwyddiadau fel hyn yn brin, ond rydym yn gwerthfawrogi eu bod yn achosi cryn bryder i gymunedau lleol.
"Bydd presenoldeb amlwg yr heddlu yn parhau yn yr ardal wrth i swyddogion barhau i gynnal ymholiadau a thawelu meddyliau trigolion lleol.
"Hoffwn ddiolch i aelodau o'r cyhoedd sydd wedi cynorthwyo ein hymchwiliad hyd yma."