Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae trydydd person wedi cael ei arestio yn rhan o ymchwiliad parhaus i ddigwyddiad yn ymwneud ag arfau tanio a ddigwyddodd tua 4:15pm ar Heol Clase A48, Abertawe, ddydd Gwener 6 Tachwedd.
Cafodd dyn 29 oed o Abertawe ei arestio fore Sadwrn (7 Tachwedd) ar amheuaeth o affräe a bod ag arf ymosodol yn ei feddiant. Mae'n parhau i fod yn nalfa'r heddlu.
Cafodd ei arestio wedi i'r heddlu arestio dau ddyn ymhen oriau ar ôl i'r digwyddiad gael ei riportio ddoe. Arestiwyd dyn 41 oed o Lansamlet ar amheuaeth o fod ag arf tanio yn ei feddiant gyda'r bwriad o beryglu bywyd, ac arestiwyd bachgen 16 oed o Lansamlet ar amheuaeth o affräe. Mae’r ddau yn nalfa’r heddlu ar hyn o bryd wrth i'n hymholiadau barhau.
Nid yw anafiadau'r person a aeth at yr heddlu yn gysylltiedig â'r digwyddiad yn ôl pob tebyg. Nid yw Heddlu De Cymru yn ymwybodol o unrhyw un a gafodd ei anafu mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn.
Mae ditectifs o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad. Maen nhw'n apelio ar unrhyw un a welodd yr hyn a ddigwyddodd, neu sydd â lluniau camera cerbyd, teledu cylch cyfyng neu ffôn symudol i gysylltu â nhw.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd, Stephen Jones:
"Mae ein hymchwiliad, sy'n cynnwys timau o dditectifs a staff arbenigol, yn parhau. Mae nifer sylweddol o ymholiadau wedi cael eu cynnal ers y digwyddiad nos Wener.
"Er bod ymholiadau'n mynd rhagddynt o hyd, rydym yn credu ei bod hi'n debygol bod yr unigolion yn nabod ei gilydd. Mae digwyddiadau fel hyn yn brin, ond rydym yn gwerthfawrogi eu bod yn achosi cryn bryder i gymunedau lleol. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw fygythiad ehangach i'r cyhoedd ar hyn o bryd.
"Bydd presenoldeb amlwg yr heddlu yn parhau yn yr ardal wrth i swyddogion barhau i gynnal ymholiadau a thawelu meddyliau trigolion lleol.
"Gofynnwn yn daer ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â ni."
Mae Heddlu De Cymru yn ymwybodol bod rhai pobl wedi lledaenu sïon am y digwyddiad ac yn ceisio dyfalu am yr hyn a ddigwyddodd ar y cyfryngau cymdeithasol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu gwybodaeth sydd heb ei dilysu ac, yn lle hynny, ddibynnu ar y diweddariadau gan ffynonellau swyddogol a dibynadwy.
Gofynnir i unrhyw un a welodd yr hyn a ddigwyddodd, neu sydd â gwybodaeth neu ddeunydd fideo a allai gynorthwyo'r ymchwiliad, gysylltu â Heddlu De Cymru drwy ddefnyddio'r Porth Cyhoeddus Digwyddiadau Mawr: https://mipp.police.uk/operation/62SWP26C43-PO1
Gellir hefyd roi gwybodaeth yn ddienw drwy ffonio Crimestoppers ar 0800 555 111.