Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.


Mae swyddogion Plismona yn y Gymdogaeth canol dinas Abertawe wedi atafaelu 29 o e-feiciau anghyfreithlon ym mis Ebrill a mis Mai 2026.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae swyddogion yn rhannu geiriau o gyngor gyda beicwyr, gyda’r nod o’u haddysgu am y gyfraith yn y lle cyntaf.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Scott Pearson: "Mae'r beiciau hyn wedi cael eu hatafaelu o dan Adran 165 o'r Ddeddf Traffig Ffyrdd gan nad oes gan y beicwyr drwydded na phrawf o yswiriant. Yn y naill achos, nid yw'r e-feiciau wedi'u cofrestru i'w defnyddio ar ffyrdd y DU.
"Ni fydd pobl sy’n cael eu gweld yn gyrru'n beryglus yn derbyn geiriau o gyngor bellach - mi fyddant yn cael eu herlyn."


Rhaid gosod Beiciau Pedal a Gynorthwyir yn Drydanol (EAPC) â phedalau sy'n gallu eu gyrru, ni ddylai'r raddfa bŵer barhaus uchaf drwy'r modur trydanol fod yn uwch na 250 wats, a rhaid i'r holl gymorth trydanol ddiffodd pan fydd y cerbyd yn cyrraedd cyflymder o 15.5mph.
Os bydd gennych unrhyw amheuaeth, cofiwch – Pedalau, Pŵer, Cyflymder. Gall unrhyw un 14+ oed reidio Beiciau Pedal a Gynorthwyir yn Drydanol, ac nid oes angen treth cerbyd, yswiriant, na thrwydded.
Caiff pob beic trydan arall ei ystyried fel beic modur neu foped. Oni chaiff ei ddefnyddio ar dir preifat (gyda chaniatâd y perchennog), rhaid i feiciau o'r fath gael eu cofrestru â'r DVLA, eu trethu, eu hyswirio a'u defnyddio gan rywun sy'n meddu ar drwydded yn y dosbarth priodol, er mwyn iddynt gael eu defnyddio'n gyfreithlon.
Oni chaiff y meini prawf uchod eu bodloni, ni ellir eu defnyddio ar dir cyhoeddus a gall yr unigolyn gael ei erlyn.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfreithlondeb e-feiciau ac e-sgwteri, gweler yma: E-sgwteri ac e-feiciau: ateb eich cwestiynau | Heddlu De Cymru