Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ydw i'n cael defnyddio e-sgwter ar ffordd gyhoeddus? Nes i ei brynu gan fanwerthwr dibynadwy felly beth yw'r broblem?
Mae'r rhain a chwestiynau eraill wedi'u hateb isod.
A ellir defnyddio e-sgwteri ar ffyrdd cyhoeddus?
Na – dim ond ar dir preifat y gellir eu defnyddio, a hynny gyda chaniatâd perchennog y tir.
Beth am ar y palmant neu lonydd beicio?
Na. Mae'r gyfraith yn dweud na ellir eu defnyddio mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys ar ffyrdd, palmentydd, lonydd beicio neu mewn parciau.
Felly pam oeddwn i'n cael prynu un, os na allaf ei ddefnyddio mewn gwirionedd?
Gallwch brynu neu werthu e-sgwteri, a gallwch eu defnyddio ar dir preifat (gyda chaniatâd).
Pam nad ydych yn gweithio gyda manwerthwyr er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn gwybod y gyfraith cyn eu prynu?
Rydym yn gweithio gyda manwerthwyr i esbonio'r gyfraith. Ond, wrth gwrs, caniateir prynu a gwerthu e-sgwteri.
Mae e-sgwteri yn llawer mwy gwyrdd ac yn fwy effeithlon na rhai dulliau teithio eraill!
Mae hyn yn ymwneud â diogelwch defnyddwyr e-sgwteri, a phobl eraill sy'n defnyddio'r ffordd – gan gynnwys cerddwyr.
Pam mae e-sgwteri yn cael eu hystyried yn beryglus?
Nid oes gan e-sgwteri bethau fel platiau rhif, y gallu i ddangos i ba gyfeiriad y maent am fynd, na goleuadau cefn amlwg bob amser. Hefyd, yn aml nid oes gan feicwyr gyfarpar diogelwch priodol. Gall hyn beri risg i bobl eraill sy'n defnyddio'r ffordd.
Onid yw'n broblem gyda modurwyr, nid defnyddwyr e-sgwteri?
Mae gan bob defnyddiwr ffordd gyfrifoldeb i wneud hynny'n ofalus, gan ddangos parch at eraill, ac mae ein timau yn cymryd camau yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol am yrru'n anghyfreithlon bob dydd.
A yw e-sgwteri yn cael eu hystyried yn fwy peryglus na beiciau pedal?
Mae e-sgwteri a beiciau pedal wedi'u dosbarthu'n wahanol o dan y gyfraith. Fel Cerbydau a Yrrir yn Fecanyddol (MPV) neu Gerbydau Allyriadau Isel Personol (PLEV), mae'r gyfraith yn pennu na ellir defnyddio e-sgwteri ar y ffordd nac mewn unrhyw fan cyhoeddus arall.
Clywais fod sgwteri sydd ag uchafswm cyflymder o 5mya yn cael eu caniatáu.
Yr uchafswm cyflymder a ganiateir ar gyfer e-sgwteri yw 15.5mya. Nid oes dim mewn deddfwriaeth sy'n caniatáu'r defnydd o e-sgwteri sydd wedi'u cyfyngu i 5mya ar ffordd neu mewn man cyhoeddus.
Beth fydd yn digwydd os bydd yr heddlu yn fy stopio pan fyddaf yn defnyddio e-sgwter ar dir neu ffordd gyhoeddus?
Mae'n bosibl y bydd y sgwter yn cael ei atafaelu, a gallech gael eich erlyn.
Rwy'n rhiant – pe bai fy mhlentyn yn cael ei stopio wrth ddefnyddio e-sgwter, a fyddwn i'n cael fy erlyn?
Gallech gael eich erlyn am ganiatáu i blentyn ddefnyddio e-sgwter yn groes i'w drwydded, neu heb yswiriant.
Rwyf wedi gweld e-sgwteri'n cael eu defnyddio'n gyfreithlon yn rhywle arall – sut felly?
Mae treialon yn mynd rhagddynt mewn rhai ardaloedd yn Lloegr lle mae'r defnydd o e-sgwteri yn cael ei ganiatáu (ond ei reoleiddio) ar dir a ffyrdd cyhoeddus. Nid oes unrhyw dreialon o'r fath yn mynd rhagddynt yng Nghymru: https://www.gov.uk/guidance/e-scooter-trials-guidance-for-users
A yw defnyddwyr e-sgwteri yn torri unrhyw gyfreithiau eraill?
Mae nifer o droseddau posibl y gellid eu herlyn, gan gynnwys defnyddio cerbyd heb yswiriant; defnyddio e-sgwter yn ddiofal neu'n beryglus; anwybyddu arwyddion traffig; neu ddefnyddio e-sgwter dan ddylanwad alcohol/cyffuriau.
A yw'n iawn i mi ddefnyddio fy e-sgwter os oes gennyf drwydded yrru?
Yn dechnegol, mae angen hawl categori Q arnoch i ddefnyddio e-sgwter, a bydd gan unrhyw un sy'n meddu ar drwydded lawn neu dros dro yr hawl hon. Fodd bynnag, mae'r gyfraith yn pennu na allwch eu defnyddio ar dir na ffyrdd cyhoeddus. Hefyd, gellir erlyn unrhyw un heb drwydded am y drosedd honno.
Rwyf wedi gweld e-feiciau yn cael eu reidio a does neb wedi eu stopio nhw. Pam mae fy un i yn broblem?
Ceir eglurder ar y gyfraith mewn perthynas â mathau gwahanol o e-feiciau isod.
Rwyf wedi drysu, a oes mathau gwahanol o e-feiciau?
Oes. Rhaid gosod Beiciau Pedal a Gynorthwyir yn Drydanol (EAPC) â phedalau sy'n gallu eu gyrru, ni ddylai'r raddfa bŵer barhaus uchaf drwy'r modur trydanol fod yn uwch na 250 watts, a rhaid i'r holl gymorth trydanol ddiffodd pan fydd y cerbyd yn cyrraedd cyflymder o 15.5mph.
Os bydd gennych unrhyw amheuaeth, cofiwch – Pedalau, Pŵer, Cyflymder. Gall unrhyw un 14+ oed reidio Beiciau Pedal a Gynorthwyir yn Drydanol, ac nid oes angen treth cerbyd, yswiriant, na thrwydded.
Caiff pob beic trydan arall ei ystyried fel beic modur neu foped. Oni chaiff ei ddefnyddio ar dir preifat (gyda chaniatâd y perchennog), rhaid i feiciau o'r fath gael eu cofrestru â'r DVLA, eu trethu, eu hyswirio a'u defnyddio gan rywun sy'n meddu ar trwydded yn y dosbarth priodol, er mwyn iddynt gael eu defnyddio'n gyfreithlon.
Oni chaiff y meini prawf uchod eu bodloni, ni ellir eu defnyddio ar dir cyhoeddus a gall yr unigolyn gael ei erlyn.
Rhagor o wybodaeth: https://www.gov.uk/government/publications/electrically-assisted-pedal-cycles-eapcs/electrically-assisted-pedal-cycles-eapcs-in-great-britain-information-sheet
Beth am fathau eraill o gerbydau? Beth fydd yn digwydd os caf fy nal yn defnyddio cerbyd trydan yn anghyfreithlon?
Mae'r rhain ac ymholiadau eraill wedi'u hateb isod.
Beth am sgwteri symudedd neu gadeiriau olwyn modur?
Nid oes angen trwydded arnoch i yrru sgwter symudedd neu gadair olwyn fodur, ond efallai y bydd yn rhaid i chi ei gofrestru. Dim ond mathau penodol y gellir eu gyrru ar y ffordd: https://www.gov.uk/mobility-scooters-and-powered-wheelchairs-rules
Rwy'n credu y dylid newid y gyfraith.
Cofiwch mai gwleidyddion – nid yr heddlu – sy'n deddfu.
Rwyf wedi gweld e-sgwteri'n cael eu defnyddio'n gyfreithlon yn rhywle arall – sut felly?
Mae treialon yn mynd rhagddynt mewn rhai ardaloedd yn Lloegr lle mae'r defnydd o e-sgwteri yn cael ei ganiatáu (ond ei reoleiddio) ar dir a ffyrdd cyhoeddus. Nid oes unrhyw dreialon o'r fath yn mynd rhagddynt yng Nghymru: https://www.gov.uk/guidance/e-scooter-trials-guidance-for-users
Pam na all yr heddlu ganolbwyntio ar droseddau pwysicach?
Mae dyletswydd arnom i orfodi'r gyfraith. Rydym hefyd yn ymateb i bryderon y gymuned, sy'n cynnwys y niwsans a'r perygl y mae rhai defnyddwyr e-sgwteri yn eu hachosi. Gall swyddogion gymryd camau penodol lle mae sgwteri'n cael eu defnyddio mewn ffordd sy'n aflonyddu ar y cyhoedd.
Onid ffordd hawdd i'r heddlu godi rhywfaint o refeniw yw hyn?
Nid yw'r heddlu'n cael budd o atafaelu e-sgwteri na chymryd camau eraill yn erbyn eu defnyddwyr. Fodd bynnag, mae'n helpu i gadw ein ffyrdd, ein palmentydd a'n cymunedau'n ddiogel.