Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Un o 39 o gerbydau wedi'u gyrru'n
fecanyddol a atafaelwyd
Mae rhagor o e-feiciau ac e-sgwteri anghyfreithlon wedi cael eu cymryd oddi ar y ffyrdd diolch i ymgyrch ar y cyd â Chyngor Caerdydd.
Mae mwy na 700 o gerbydau anghyfreithlon wedi cael eu hatafaelu ers yr haf y llynedd.
Gweithiodd swyddogion a staff y cyngor â'i gilydd ddydd Sadwrn (6 Mehefin) i barhau i fynd i'r afael â phryderon y gymuned ledled y ddinas am gerbydau wedi'u gyrru'n fecanyddol (MPVs), y cyfeirir atynt hefyd fel e-feiciau ac e-sgwteri anghyfreithlon.
Atafaelwyd 39 o gerbydau wedi'u gyrru'n fecanyddol yn Cathays, Trelái, Caerau, Y Tyllgoed ac ar hyd llwybr Taith Taf.
Dywedodd yr Arolygydd Tim Ursell o Heddlu De Cymru: “Mae defnyddio e-feiciau ac e-sgwteri yn anghyfreithlon ac yn peri risg ddifrifol i gerddwyr a defnyddwyr y ffordd.
“Mae'r effaith y mae reidwyr e-feiciau gwrthgymdeithasol yn ei chael ar gymunedau yn cael ei chodi fel pryder yn aml.
“Rydym yn annog y cyhoedd i ddeall y gyfraith a gwneud dewisiadau diogel a chyfreithlon.”
Ceir gwybodaeth am gyfreithlondeb e-feiciau ac e-sgwteri yma: E-sgwteri ac e-feiciau: ateb eich cwestiynau| Heddlu De Cymru