Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymwybodol o broblem sy'n effeithio ar y chwiliwr cyfeiriadau ar rai ffurflenni. Mae hyn yn gysylltiedig â phroblem gyda gwasanaeth allanol, a allai olygu na allwch gwblhau eich adroddiad neu gais ar hyn o bryd. Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos a byddwn yn rhoi diweddariadau cyn gynted â phosibl. Rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Gorchymyn Ymddygiad Troseddol arall wedi'u sicrhau i helpu i atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.
Mae sicrhau mwy nag 20 Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn y flwyddyn ddiwethaf, yn bennaf ar gyfer troseddau manwerthu, yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi busnesau lleol.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae dau ddeg dau o bobl wedi’u gwneud yn destun Gorchymyn Ymddygiad Troseddol mewn ymdrech barhaus i leihau effaith troseddwyr cyson ar fusnesau lleol a'r gymuned ehangach.
Jay Slade, Jake Royal, a Joshua Ruck yw'r troseddwyr cyson diweddaraf i ymuno â'r rhestr ac maent wedi cael eu gorchymyn i gadw draw o rai busnesau ac ardaloedd.
Dywedodd yr Arolygydd Rya Cowan-Davies, o'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol: "Mae Heddlu De Cymru yn gweithio'n agos gyda manwerthwyr a busnesau i'w hamddiffyn rhag troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a gyflawnir gan unigolion fel y rhain.
“Gall dwyn yn gyson o siopau gael effaith ddinistriol ar weithwyr siopau a manwerthwyr.
“Mae sicrhau mwy nag 20 Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn y flwyddyn ddiwethaf, yn bennaf ar gyfer troseddau manwerthu, yn dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael â dwyn o siopau a chefnogi busnesau lleol.”