Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Hysbysiad cynnal a chadw gwefan: Oherwydd gwaith cynnal a chadw sydd wedi’i drefnu ar y platfform, ni ellir cyflwyno ffurflenni rhwng 11.55pm ar ddydd Mawrth, 8 Medi a 7am ar ddydd Mercher, 9 Medi. Bydd gweddill y wefan yn parhau i weithredu fel arfer. Dychwelwch ar ôl 7am ar 9 Medi os ydych am gyflwyno adroddiad ar-lein.
Treuliodd Cwnstabliaid Gwirfoddol o Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot dros 800 awr o'u hamser yn gwirfoddoli ym mis Awst er mwyn mynd i'r afael â materion lleol.
Ddydd Sadwrn 29 Awst, daethant â’u gwaith yn ystod mis Awst i ben gydag ymgyrch amlwg iawn ledled Abertawe i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chyffuriau.
Arweiniodd yr ymgyrch, a oedd yn canolbwyntio ar ardaloedd problemus fel Marina Abertawe, at arestio chwe unigolyn a stopio a chwilio pedwar person. Gwirfoddolodd y cwnstabliaid gwirfoddol gyfanswm o 85 awr.
O blith y digwyddiadau, gwnaethant ymateb i wyth galwad frys o bwysigrwydd uchel, wyth adroddiad yn ymwneud â thrais, a thri digwyddiad oedd yn gysylltiedig ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Roedd yr ymgyrch yn nodi diwedd gweithgarwch mis Awst i Gwnstabliaeth Wirfoddol Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot, ar ôl gwirfoddoli cyfanswm o 804 awr ac ymateb i 172 o ddigwyddiadau, gan gynnwys y canlynol:
Dywedodd yr Arolygydd Gwirfoddol Keiron Pike:
"Nod yr ymgyrch hon oedd darparu presenoldeb gweladwy i dawelu meddyliau yn ein cymunedau, ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd a mynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i bobl leol.
"Mae'r swyddogion hyn yn rhoi o’u hamser rhydd, ac yn cydbwyso hynny ag ymrwymiadau gwaith, teuluol a phersonol er mwyn gwasanaethu'r cymunedau maen nhw’n byw ac yn gweithio ynddynt. Mae eu hymroddiad, eu proffesiynoldeb a'u hymrwymiad i wasanaethu’r cyhoedd yn parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled ardal de Cymru.
"Rwy'n annog y cyhoedd i ddal ati i riportio pryderon wrthym ni fel y gallwn barhau i dargedu ein hymgyrchoedd a chadw'r cyhoedd yn ddiogel"
Mae Cwnstabliaid Gwirfoddol yn swyddogion heddlu gwirfoddol sy'n gweithio ochr yn ochr â swyddogion llawn amser i ddiogelu, gwasanaethu a rhoi sicrwydd i’n cymunedau. Gallwch ddysgu mwy am y rôl yma - Rôl Cwnstabl Gwirfoddol yr Heddlu (Swyddog Heddlu Gwirfoddol) | Heddlu De Cymru